Tag Archives: ymgysylltiad cyhoeddus

Sut mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu helpu aelodau etholedig i gyfathrebu â’u cymuned

Sut all cynghorwyr defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel rhan o’u gwaith? Siaradodd Dyfrig Williams gyda’r Cynghorydd Giles Davies, Maer Torfaen.

Edrychodd y gynhadledd #PSDigital ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac roedd yna lot i feddwl amdano yn sgil y gynhadledd. Siaradodd Ben Black am ei safle hyperlleol ar gyfer Cwmbrân, ac fe wnes i gael y cyfle i siarad ag ef am y ffordd mae’r Cynghorydd Giles Davies, Maer Torfaen, yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â chymuned Abersychan. Os ydych chi am weld beth sy’n digwydd yn yr ardal, edrychwch ar y hashnod #AbersychanWard, a gafodd ei ddechrau gan y Cynghorydd.

Lleol v Cenedlaethol

Cyng. Giles DaviesRoedd y Cynghorydd Davies yn ddigon caredig i drafod ei ddull gyda mi, ac un o’i bwyntiau cyntaf oedd bod gan bobl ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd ar eu stepen drws yn hytrach na materion blaid genedlaethol a gwleidyddol. Mae’r Cynghorydd Davies wedi bod yn llwyddiannus yn ei gyfathrebu trwy ffocysu yn uniongyrchol ar faterion Abersychan.

Achos mae’n cymryd ymdrech i reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, mae’r Cynghorydd Davies wedi penderfynu canolbwyntio ar ddefnyddio Facebook a Twitter. Mae pobl rhwng 16 a 85 oed wedi cysylltu ag ef trwy Facebook, ac mae Twitter wedi bod yn ddefnyddiol achos mae’n llwytho’n gyflymach. Mae’r wasg leol yn ei ddilyn hefyd felly maent yn rhannu ei weithgareddau drwy eu sianeli nhw.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn galluogi’r Cynghorydd Davies i ymateb yn gyflym i beth sy’n digwydd yn ei ardal. Os oes ffordd ar gau, mae’n gallu rhannu ble sydd wedi cael ei effeithio yn gyflym gan fod ei ffôn yn ei boced trwy’r amser. Mae’r dulliau yma hefyd yn galluogi iddo fod ar gael ar gyfer sgwrs ar unwaith, sy’n lot fwy cyfleus i aelodau’r gymuned.

Ar-lein v All-lein

Ers dechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol, dyw’r Cynghorydd Davies ddim yn rhedeg cymorthfeydd traddodiadol, gan does yna ddim galw amdanynt. Wedi dweud hyn, dyw hyn ddim wedi stopio ei ymgysylltu all-lein. Mae ef nawr yn cerdded drwy’r fwrdeistref ac yn cyfarfod trigolion i drafod y materion sydd ganddynt. Mae’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddweud wrth bobl pryd a ble mae fe ar gael, a hefyd mae’n defnyddio WiFi busnesau lleol i ryngweithio, sy’n golygu mae’n rhoi cyhoeddusrwydd iddynt wrth iddo gyfarfod ag aelodau o’r cyhoedd yno. Wrth gwrdd â phobl mewn caffis, mae’n tynnu sylw at ei gefnogaeth ar gyfer siopa lleol a chymunedau bywiog.

Mae defnydd y Cynghorydd Davies o gyfryngau cymdeithasol yn ei helpu i gyfathrebu beth mae ei gwaith yn cynnwys, ac i ddangos bod nhw’n mynd ati i ymateb i bryderon pobl. Pan mae pobl yn cysylltu â fe am fater, mae’r Cynghorydd Davies yn rhannu ei e-bostiau i’r cyngor ar Facebook fel y gall pobl weld ei fod wedi ymateb i beth maen nhw wedi dweud.

Mae’r Cynghorydd Davies hefyd yn gallu arddangos y gwahaniaeth mae’n gwneud i’r gymuned drwy rannu ei waith codi sbwriel pan mae fe allan yn cerdded. Trwy ymateb i sylwadau ar yr erthygl, mae fe hefyd yn gallu helpu pobl i ddelio â materion rheoli gwastraff.

Tryloywder

Mae tryloywder y Cynghorydd Davies yn ei alluogi i adeiladu ymddiriedaeth y gymuned ynddo. Mae hyn wedi cynnwys cyhoeddi ei dreuliau ar-lein, a wnaeth cael ymateb cefnogol. Mae’n gallu cael adborth ar syniadau ar helpu’r gymuned, fel Siambr Fasnach, a hyd yn oed gwahodd pobl i wirio ei fersiwn drafft o’i Adroddiad Blynyddol. Mae’n werth darllen y sylwadau o dan yr erthygl i weld sut mae’r gymuned yn teimlo amdano.

Ar y cyfan roeddwn i’n meddwl roedd y ffordd mae’r Cynghorydd Davies yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn arbennig. Fel rhywun sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol fy hun, rydw i wedi gweld eu potensial i newid sut mae aelodau etholedig yn rhyngweithio â phobl yn eu cymuned. Mae’n wych gweld sut mae’r Cynghorydd Davies wedi gwneud y gorau o’r cyfleoedd mae cyfryngau cymdeithasol yn rhoi iddo er mwyn cyfathrebu’n well â phobl Abersychan.

Reykjavik Gwell a chymuned gryfach: Y manteision o dorfoli ac e-ddemocratiaeth

Pam roedd pawb eisiau dweud eu dweud yng Ngwlad yr Iâ mewn cyfnod o ymddiriedaeth isel? Fe wnaeth Dyfrig Williams cymryd rhan mewn sgwrs gwe gyda Kevin Davies a Dean George o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a Gunnar Grímsson o’r Sefydliad Dinasyddion i ddysgu mwy am Reykjavik Gwell.

Roedd 2008 yn adeg anodd yng Ngwlad yr Iâ. Aeth tri phrif fanc sector preifat y wlad i’r wal, a dechreuodd hyn argyfwng ariannol a wnaeth hyd yn oed effeithio ar awdurdodau lleol yng Nghymru.

Pa mor llwyddiannus oedd y gwefan?

Lansiwyd gwefan Reykjavik Gwell cyn yr etholiadau trefol, ac fe ddaeth y wefan yn hwb ar gyfer cyfranogiad ar-lein.Reykjavik Gwell

  • Fe wnaeth dros 70,000 o bobl cymryd rhan allan o boblogaeth o 120,000
  • Mae 12,000 o ddefnyddwyr cofrestredig wedi cyflwyno dros 3,300 o syniadau a 5,500 o bwyntiau o blaid ac yn erbyn
  • Mae 257 o syniadau wedi cael eu hadolygu’n ffurfiol, ac mae 165 ohonynt wedi cael eu derbyn yn ffurfiol ers 2011

Gan fod Reykjavik Gwell yn wefan allanol nid-er-elw, doedd y wefan ddim yn cael ei weld fel rhan o’r strwythurau gwleidyddol a wnaeth achosi’r argyfwng. Roedd e felly yn haws i gynnwys pobl yn y broses.

Aelodau etholedig

Yn y cyfnod cyn yr etholiadau, fe wnaeth y person a oedd yn mynd i fod yn Faer, Jón Gnarr, crybwyll y wefan ar bob cyfle. Roedd y ffaith bod ffigwr amlwg eisiau manteisio ar y platfform yn hollbwysig, achos wnaeth e hysbysebu’r safle i ddinasyddion a dangos bod e eisiau gwneud y fwyaf o fewnbwn pobl.

Sut mae’n gweithio?

Mae’r wefan yn galluogi pobl i gael llais uniongyrchol yn y broses ddemocrataidd. Mae’n rhoi’r cyfle i bobl gynnig, trafod a graddio ffyrdd gall eu cymuned gwella. Mae rhaid i’r cyngor trafod y 10-15 syniad sy’n cael y radd uchaf ar y wefan.

Mae pawb sydd wedi cyflwyno sylwadau ar bwnc neu sydd wedi graddio sylw yn cael adborth ar ganlyniad y drafodaeth. Fel mae’r Aelod Seneddol Birgitta Jonsdottir yn dweud yn y fideo uchod, “un o’r ffyrdd gorau i gael pobl i gymryd rhan fel dinasyddion yw i gael nhw i weld canlyniadau.”

Wrth i aelodau etholedig datblygu eu defnydd o’r system, mae ansawdd eu hymatebion i’r cyhoedd wedi gwella. Cafodd unrhyw atebion gwan eu gwrthod gan y gymuned ar-lein, ac fe wnaeth y terfyn cyfyng ar gyfer ymatebion sicrhau bod nhw’n glir ac yn gryno.

Ar-lein neu all-lein?

Gofynnais Gunnar ynghylch pryderon allgau digidol, ac fe wnaeth hyn troi i mewn i sgwrs amdano eithrio ar sail ehangach. Fe wnaeth Gunnar y pwynt bod “Pob math o gyfarfod yn eithrio pobl. Mae cyfarfod yn Reykjavik yn eithrio pobl achos dyw pobl tu allan i’r ardal ddim yn cymryd rhan. Os na fyddwn yn defnyddio’r sianel nawr, ni fyddwn ni mewn sefyllfa dda i’w ddefnyddio pan fydd pawb yn ei ddefnyddio yn neng mlynedd.” Wedi dweud hyn maen nhw hefyd yn edrych i gynnwys pobl mewn gwaith all-lein, achos fel dywedodd un cyfranogwr, “Dydych chi ddim yn gallu ysgwyd llaw trwy ffacs.”

Beth sy’n digwydd yng Nghymru?

Dydyn ni ddim wedi gweld datblygiadau i’r un raddfa â Reykjavik Gwell, ond mae’n ddiddorol gweld sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn defnyddio Loomio fel rhan o ymchwiliad ar gamddefnyddio alcohol a sylweddau. Maen nhw wedi defnyddio’r dull rhwng cyfarfodydd er mwyn dod â phobl at ei gilydd i edrych ar faterion yn fanwl. Roedd hyn yn golygu bod nhw’n gallu cael gafael ar lot o wybodaeth gyfoethog gan gyfranogwyr, a chanolbwyntio ar y pynciau mwyaf dybryd yng nghyfarfodydd dilynol gydag Aelodau’r Cynulliad.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Thîm Iechyd Swyddfa Archwilio Cymru i gynnal gweminar ar sut all profiad defnyddwyr gwella cyfeiriad strategol a gwasanaethau. Bydd ffigyrau allweddol o wasanaethau cyhoeddus Cymreig yn dod at ei gilydd i rannu eu dulliau a dysgu o’i gilydd.

Fe fydd yna gyfleoedd i bostio cwestiynau drwy gydol y sesiwn, a byddwn yn rhannu’r gweminar ar ôl iddo gael ei chynnal. Os ydych chi’n brysur ar 15 Gorffennaf, gallwch chi nodi eich cwestiynau isod. Un o’r pethau mwyaf pwysig rydw i wedi dysgu o fy ngwaith i yw bod ni’n cael canlyniadau lot yn well os ydyn ni’n cyfuno ein harbenigedd.

Beth sy’n debyg am ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymgysylltu â staff?

Staff Ideas Webinar / Gweminar Syniadau Staff

Ar 12 Mai, cynhaliodd y Gyfnewidfa Arfer Da gweminar gydag ideasUK, y Weinyddiaeth Amddiffyn, a Chymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan ar Syniadau Staff. Yn y blog yma, mae Dyfrig Williams yn edrych ar y negeseuon allweddol ar gynnwys staff a’r cyhoedd.

Pan oeddwn i’n gweithio i Gyfranogaeth Cymru, sylwais i bod y mudiadau sy’n ymgysylltu â’r cyhoedd yn effeithiol yn dueddu i ymgysylltu â staff yn dda hefyd.

Dyw e ddim yn syndod felly bod e’n werth ystyried rhai o’r themâu o gweminar Syniadau Staff wrth gynnwys y cyhoedd. Mae rhai o’r materion allweddol o’r trosolwg fideo o’r seminar isod yn cyd-fynd yn dda â’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru a greuwyd gan Gyfranogaeth Cymru.

Rheoli disgwyliadau

O ran cynnwys cyhoedd a staff, mae pobl, wrth reswm, yn cael eu siomi pan dyw’r newidiadau maen nhw wedi bod yn gobeithio amdanynt ddim yn cael eu rhoi ar waith. Mae’n bwysig bod ni’n rhoi gwybod i bobl beth sydd ar gael – beth all ddigwydd a beth sy’n amhosib, a hefyd pryd gall newidiadau cymryd lle. Falle dyw e ddim yn bosib gweithredu newidiadau cymhleth am sbel. Os ‘dy chi’n amlinellu beth all ddigwydd ar ddechrau’r ymarfer, rydych chi mewn gwell sefyllfa i sicrhau bod y broses yn grymuso pobl, a’u bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu gwneud gwahaniaeth.

Tryloywder

Dywedodd Zufi Yousaf o Ideas UK bod tryloywder yn bwysig, fel bod pobl yn gallu gweld os yw eu syniadau’n cael eu hystyried a sut maen nhw’n cael eu rhoi ar waith. Os yw pobl yn gallu gweld sut mae’r system yn gweithredu a sut bydd eu cyfraniad yn cael ei ystyried, maen nhw’n fwy tebygol o ymddiried yn y broses, gan eu bod nhw’n gallu gweld dyw cymryd rhan ddim yn wastraff o’u hamser.

Adborth

Pan ofynnais i bobl pam ddoedden nhw ddim yn bwydo’u barn nhw i mewn i wasanaethau cyhoeddus, yr ymateb bron bob amser oedd doedd mudiadau ddim yn gwneud unrhyw beth o ganlyniad. Rydw i’n gallu cydymdeimlo â hynny achos wnes i byth clywed yn ôl o unrhyw fudiad am effaith fy ymateb pan ymatebais i ymgynghoriadau. Os ydyn ni eisiau i bobl ddweud wrthym sut gallwn ni wella gwasanaethau, mae’n rhaid i ni gydnabod eu hymdrechion a rhoi gwybod iddyn nhw am beth fydd yn cael ei wneud.

Wedi colli’r weminar?

Os wnaethoch chi fethu’r weminar y tro cyntaf, neu os hoffech chi wylio fe eto, mae fe ar gael ar sianel Vimeo Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r Storify yn cynnwys y rhyngweithio ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod y sesiwn. Mae’n cynnwys lot o syniadau defnyddiol sy’n werth cofio os ydych chi eisiau gwybod beth yw barn y cyhoedd am eich gwaith, neu os ydych chi eisiau clywed o staff am sut gallwch wella eich gwasanaeth.

Sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn mynd ati i graffu

Craffu

Y tro cyntaf imi ddod yn ymwybodol o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â chynnwys y cyhoedd mewn gwaith craffu oedd yn ystod y gynhadledd Graffu a gynhaliwyd yn 2013. Gan fy mod wedi gweithio ym maes cyfranogiad y cyhoedd am ychydig flynyddoedd cyn ymuno â Swyddfa Archwilio Cymru, fe wnaeth ei ddulliau gweithredu ddenu fy sylw. Gwnaeth natur ymarferol ei becyn cymorth ar gyfer ymgysylltiad cyhoeddus gryn argraff arnaf, ac wrth imi glywed rhagor am ei waith, roeddwn yn fwy awyddus i ddysgu.

O glywed am ei ddefnydd o Google Hangouts mewn sgwrs am graffu ar Twitter, i drafod democratiaeth ar-lein ar GovCamp Cymru, roedd yn amlwg ei fod yn gwneud llawer o waith diddorol. Roedd yn wych derbyn gwahoddiad i ymweld â’r Cynulliad a chlywed mwy am yr hyn y maent yn ei wneud.

Yr hyn a grëodd argraff wirioneddol arnaf oedd y ffocws ar y ffordd orau o gynnwys pobl. Yn hytrach na dechrau gyda’r dull y byddai’n hoffi ei ddefnyddio, mae’r Cynulliad yn dechrau drwy ystyried sut y byddai pobl eisiau cyfrannu. Yn ddiweddar cynhaliodd ei Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad i sut roedd Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ei gynllun cyflawni ar gyfer canser, lle bu’n gweithio gyda MacMillan cyn penderfynu cynnal sesiynau allgymorth ledled Cymru, gyda chynrychiolydd o bob sesiwn yn mynychu cyfarfod Cymru gyfan.

Nid yw’r ffocws ar sut yr hoffai pobl gyfrannu yn gorffen yn y fan honno ychwaith, gan ei fod yn rhoi adborth i gyfranogwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn dibynnu ar sut mae pobl wedi cyfrannu at y broses. Gan fy mod wedi bod yn rhan o sawl ymgynghoriad lle nad oeddwn yn clywed mwy am y peth, roedd yn braf gweld ymdrech y Cynulliad wrth ganolbwyntio ar yr agwedd hon. Roedd ei ddefnydd o adborth fideo yn arbennig o drawiadol, ac mae’r enghraifft isod o’i ymchwiliad i ailgylchu yn enghraifft dda iawn.

O ran diwylliant, mae’n fater o arwain o’r brig. Gwnaed y penderfyniad i gynnwys pobl gan Aelodau’r Cynulliad, ac mae hyn wedi creu’r disgwyliad i gynnwys y cyhoedd yn ehangach yn y broses graffu. Mae’r disgwyliad hwn yn golygu bod cynnwys y cyhoedd a grwpiau sydd â diddordeb yn cael ei gynllunio fel rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf.

Mae’r Aelodau yn rhan weithgar o’r broses o gynnwys y cyhoedd hefyd, gydag Aelod o’r Cynulliad yn cymryd rhan yn y grwpiau ffocws a’r digwyddiadau a gynhelir ganddynt. Mae staff y Cynulliad yn cymryd nodiadau, ac yna mae’r Aelod yn bwydo’r sylwadau i weddill y pwyllgor yn ystod cyfarfod adborth. Mae penderfynu pa ddull ymgysylltu i’w ddefnyddio yn dibynnu ar bwy mae’r aelodau eisiau clywed ganddynt, pa ddulliau y mae’r bobl hynny’n fwyaf cartrefol yn eu defnyddio, yr adnoddau sydd ar gael ac argaeledd Aelodau’r Cynulliad. Bydd y dull gweithredu yn amrywio o un ymchwiliad i’r llall oherwydd bydd pob un ohonynt yn wahanol.

Gan fod gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, gall y broses graffu ychwanegu gwerth gwirioneddol drwy amlygu dulliau gweithredu gwahanol ar gyfer materion y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu. A thrwy gynnwys y cyhoedd yn y broses hon, gallwn hefyd sicrhau’n well bod gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithlon ac yn diwallu anghenion pobl yn well.

Dyfrig

Hawliau a Chyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yn Sir Benfro

Cafodd Cyngor Sir Penfro ei enwebu ar gyfer pob categori yng Ngwobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan, brawf o’u ffocws ar welliant. Arweiniodd hwn i’r cyngor ennill Gwobr Arbennig y Beirniaid. Yn y blog yma, mae Rose Davis yn ysgrifennu am Gyfranogiad a Hawliau Plant a Phobl Ifanc yn y sir.

Pembrokeshire County Council / Cyngor Sir PenfroYr Her

Un thema oedd yn codi ei phen dro ar ôl tro pan oedd cyrff allanol yn arolygu a chraffu ar wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Benfro yn 2011/12 oedd nad yw llais y plentyn wedi cael ei glywed bob amser gan y rhai sy’n darparu’r gwasanaethau, boed yn wasanaethau penodol ar gyfer plant, neu’n wasanaethau ehangach y mae plant a phobl ifanc yn eu defnyddio. Mewn ymateb i hyn, cafodd amrywiaeth o fentrau eu blaenoriaethu gennym er mwyn sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed.

Ein hymateb

Ein nod ehangach oedd cryfhau cydlyniad cymunedol drwy annog prosesau o ddatblygu gwell dealltwriaeth a derbyn safbwyntiau a chanfyddiadau sy’n bodoli ar draws cenedlaethau o bobl yn Sir Benfro.

Yn fwy penodol, aethom ati i sicrhau bod mwy o gyfle i lais y plentyn/person ifanc yn Sir Benfro gael ei glywed drwy ddatblygu fframwaith hawliau a chyfranogiad sydd yn ganolog i ddemocratiaeth leol.

Mae pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cyngor Sir Penfro yn craffu’n rheolaidd ar gynnydd wrth ddatblygu hawliau a chyfranogiad; mae aelodau etholedig wedi cyfarfod â nifer o fforymau ieuenctid ac mae’r bwrdd lleol diogelu plant a’r bwrdd rhianta corfforaethol wedi cyfarfod â phobl ifanc i wrando ar eu safbwyntiau.

Wrth fynd â hyn gam ymhellach, roeddem am greu cyfleoedd lle mae pobl ifanc yn cael cymorth gan oedolion i fod yn ddinasyddion gweithredol, gan annog proses o ddatblygu cymunedau cynhwysol a chydlynus. Hyd yn hyn, mae’r meysydd hyn ar gyfer gwelliant wedi’u datblygu fel a ganlyn:

  • Ymrwymiad ffurfiol Sir Benfro i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC)
  • Cynllunio adduned i holl blant a phobl ifanc Sir Benfro a’i ddosbarthu
  • Sefydlu swyddfa hawliau plant a phobl ifanc.
  • Ail-lansio Cynulliad Ieuenctid Sir Benfro a’i is-grwpiau sy’n fwy cynrychioliadol yn gyffredinol (gan gynnwys grwpiau agored i niwed e.e. Plant sy’n Derbyn Gofal, gofalwyr ifanc a theithwyr)
  • Mae pecynnau hyfforddi wedi’u datblygu er mwyn addysgu oedolion a phobl ifanc ar hawliau plant. Mae pecyn e-ddysgu hawliau plant wedi’i ddatblygu a fydd yn cael ei gwblhau’n orfodol gan staff allweddol y cyngor.
  • Mae hyfforddiant ar gyfranogiad disgyblion wedi’i ddarparu i staff uwch, athrawon cyswllt a llywodraethwyr cyswllt yr holl ysgolion uwchradd. Bydd staff gofal cymdeithasol yn cael eu hyfforddi ym maes hawliau plant fel rhan o Raglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol.

Hongian mas gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Craffu

Ers cynhadledd craffu llynedd, rydyn ni wedi bod yn cadw llygad ar beth sy’n digwydd ym maes craffu. Ym mis Rhagfyr rydyn ni’n cynnal seminar gyda’r Ganolfan Craffu Gyhoeddus a Grant Thornton ar lywodraethu da, felly mae fe wedi bod yn bwysig i ni gadw fyny gyda beth sy’n mynd ymlaen.

Mae sgyrsiau #scrusm ar Twitter wedi rhoi’r cyfle i ni glywed o fudiadau gwasanaethau cyhoeddus am beth maen nhw’n wneud. Un o’r dulliau sydd wedi cynhyrfu ni’r fwyaf yw defnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts.

National Assembly for Wales Google Hangout

Lluniau Google Hangout Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Flickr http://bit.ly/1wd3dwU

Wrth i gyfryngau cymdeithasol ddod yn fwy poblogaidd, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dechrau defnyddio nhw i ymgysylltu â’u cymunedau. Gan fod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn rhad ac am ddim, mae yna gamsyniad bod y defnydd effeithiol ohonynt yn lot haws a chepach na dulliau traddodiadol. Ond dyw bod ar-lein yn ei hun, ac anfon neges bob nawr ac yn y man, ddim yn ddigon – rhaid i ni alluogi pobl i gymryd rhan.

A dyna pam rydw i wedi fy nghynhyrfu am ddefnydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Google Hangouts. Roeddwn i fach yn amheus i ddechrau. Mae Google Plus wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi o ran gwaith (er enghraifft mae cymuned LocalGov Digital yn llawn syniadau digidol diddorol), ond sa i’n gallu dweud bod lot o bobl eraill ar y platfform.

Felly dyw Google Plus ddim cweit yn ticio’r blwch o ran mynd i bobl. Ond dyma le mae galluogi pobl i gymryd rhan yn dod mewn. Yn hytrach nag aros i bobl ddod iddyn nhw, fe wnaethon nhw weithio gyda phobl i’w helpu nhw i ddefnyddio’r dechnoleg fel bod nhw’n gallu cymryd rhan.

O ran y Hangout ar Addysg Uwch, roedd hyn yn golygu bod myfyrwyr o Gymru yn Lloegr neu’r Alban yn cael y cyfle i ddweud eu dweud am gyllid. Os doedden nhw ddim yn defnyddio Hangouts neu doedd dim cyfrif Google Plus ganddynt, roedd staff yn gweithio gyda nhw i ddod yn gyfarwydd â’r dechnoleg. Mae hyn yn wrthgyferbyniad llwyr â sut mae rhai cyrff yn anfon allan ychydig o drydar neu ddiweddariadau Facebook ac yn disgwyl i bobl dod atynt.

[gigya src=”https://abfiles.s3.amazonaws.com/swf/audioboom_default_player_v1.swf” style=”background-color:transparent; display:block; min-width:320px; max-width:700px;” flashvars=”image_option=small&imgURL=https%3A%2F%2Fd15mj6e6qmt1na.cloudfront.net%2Fi%2F6463661%2F300x300%2Fc&link_color=%2358d1eb&mp3Author=assemblycynulliad&mp3Duration=179867.0&mp3LinkURL=https%3A%2F%2Faudioboom.com%2Fboos%2F1746523-jocelyn-davies-ac-a-juliemorganlab-yn-siarad-am-we-sgwrs-gyntaf-y-pwyllgor-cyllid-ar-gyfer-yr-ymchwiliad-i-gyllido-addysguwch-jocelyn-davies-am-and-juliemorganlab-talk-about-the-first-finance-comm-web-chat-for-the-highered-funding-inquiry&mp3Time=01.30pm+21+Nov+2013&mp3Title=Jocelyn+Davies+AC+a+%40JulieMorganLAB+yn+siarad+am+we-sgwrs+gyntaf+y+Pwyllgor+Cyllid+ar+gyfer+yr+ymchwiliad+i+gyllido+%23addysguwch+%2F+Jocelyn+Davies+AM+and+%40JulieMorganLAB+talk+about+the+first+Finance+Comm+web+chat+for+the+%23highered+%23funding+inquiry&mp3URL=https%3A%2F%2Faudioboom.com%2Fboos%2F1746523-jocelyn-davies-ac-a-juliemorganlab-yn-siarad-am-we-sgwrs-gyntaf-y-pwyllgor-cyllid-ar-gyfer-yr-ymchwiliad-i-gyllido-addysguwch-jocelyn-davies-am-and-juliemorganlab-talk-about-the-first-finance-comm-web-chat-for-the-highered-funding-inquiry.mp3%3Fsource%3Dwordpress&player_theme=light&rootID=boo_player_1&show_title=true&waveimgURL=” width=”480″ height=”150″ allowFullScreen=”true” wmode=”transparent”]

Mae hwn yn lot o waith, ond mae’r wybodaeth mae’r Cynulliad yn derbyn o’r Hangout yn lot fwy cyfoethog achos hynny. Gallwch glywed Jocelyn Davies AC a Julie Morgan AC yn trafod beth maen nhw wedi dysgu o’r Hangout yn y Audioboom uchod.

Mae fe hefyd yn werth gwylio’r fideo yma o Rhun Ap Iorwerth AC a Julie James AC yn siarad am ddefnyddio Hangouts i ymgysylltu ynghylch sgiliau STEM, a sut roedd cyfranogwyr yn fwy onest ac yn rhoi adborth mwy uniongyrchol nag mewn sesiwn tystiolaeth.

Beth sydd wedi dod i’r amlwg yw bod cyfranogiad cyhoeddus ar-lein da yn cymryd yr un faint o ymdrech ag ymgysylltu all-lein, ac os ydyn ni’n rhoi ymdrech mewn i wneud e’n dda, gallai gwella ansawdd ein gwaith.

Dyfrig

Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Llawlyfr Ymgysylltu â’r Cyhoedd

Craffu

Mae’n deg dweud i Virginia a minnau dreulio llawer o amser yn trafod y ffordd y byddem yn rhedeg ein gweithdy, a gallem yn hawdd fod wedi meddwl am ddigon i lenwi diwrnod, felly roedd cyfyngu hyd y gweithdy i awr yn dipyn o her.

Penderfynwyd y dylai’r gweithdai ganolbwyntio ar yr egwyddor o gymryd rhan yn y gwaith craffu, ac ar rannu rhai o’n profiadau gyda’r gynulleidfa. Roeddem yn teimlo hefyd ei bod yn bwysig iawn i bobl gael cyfle i rannu syniadau â’i gilydd yn y gweithdy. Gwnaethom gytuno y dylai ein gweithdai gael eu gweld fel man cychwyn, ac y byddai’r blog hwn yn ffordd dda o lenwi’r bylchau, felly bant â’r cart…

Beth a wnaethom ar y dydd?

Dechreuodd Virginia a mi drwy roi’r cyd-destun i’r hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran craffu, a beth yn union yr ydym yn ei graffu. Un o brif swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol yw craffu ar waith Llywodraeth Cymru, gan graffu ar y ddeddfwriaeth a gynigir ganddi, ar y polisïau a bennir ganddi ac ar yr arian sy’n cael ei wario. Buom yn siarad am sut y mae ehangu cyfranogaeth yn y gwaith craffu yn flaenoriaeth i’r Cynulliad. Mae ‘ymgysylltu â phobl Cymru’ yn un o’n blaenoriaethau corfforaethol, ac mae ‘cynyddu’r graddau y mae pobl yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc, yn ymwneud â gwaith y Cynulliad’ hefyd yn flaenoriaeth gorfforaethol. Felly, dylai pawb sy’n gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol wybod pa mor bwysig a sylfaenol yw’r elfennau hyn yn ein gwaith bob dydd.

Aethom yn ein blaen i sôn am y ffyrdd o graffu sydd gennym, gan gynnwys sesiynau tystiolaeth ffurfiol y Pwyllgorau a dadleuon yn Siambr y Senedd. Soniasom yn fyr am ffyrdd mwy creadigol o gael pobl i gyfrannu, megis gwahodd pobl i ddefnyddio hashnodau Twitter ar gyfer cwestiynau, cynhyrchu pecynnau fideo, a chynnal digwyddiadau, gwe-sgyrsiau, ac arolygon ar-lein a’u tebyg. Ni waeth pa waith ymgynghori a wnawn o ran craffu, mae cynllunio’n elfen gyffredin, a gwnaethom rannu gyda’r gynulleidfa rai o’r prif bethau i’w hystyried ar gyfer craffu yn y Cynulliad.

National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gallwch weld y cyflwyniad a ddefnyddiwyd gennym ar y dydd yma.

Ar ôl y cyflwyniad, ffurfiwyd pum grŵp ffocws. Gofynnwyd i dri grŵp ystyried y manteision o gymryd rhan ar raddfa ehangach yn y gwaith craffu, a gofynnwyd i’r ddau arall ystyried pa bethau a allai rwystro hynny rhag digwydd. Cafwyd llawer o syniadau diddorol o’r trafodaethau hyn, a gellir eu gweld yma.

Ar y diwedd, gofynnwyd i bobl gynnig un peth y byddent yn ei wneud yn wahanol o ganlyniad i’r gweithdy hwn. Dyma rai o’r ymrwymiadau:

“Byddwn yn chwilio am ymrwymiad ehangach yn y Cyngor ac yn ‘benthyg’ adnoddau o dimau eraill yn amlach”

“Llais y bobl – mynd i’r gymuned i glywed barn pobl”

“Rhoi adborth i’r rhai sy’n cymryd rhan”

Beth nesaf? Rydym i gyd wedi rhannu arfer gorau. Rydym yn gwybod ychydig mwy am yr hyn y mae eraill yn ei wneud i annog cymryd rhan yn y broses graffu, ac mae gennym restr o fanteision, rhwystrau, syniadau am sut y gall pethau gael eu gwneud yn y dyfodol, a hyd yn oed ymrwymiadau gan bobl y byddant yn gwneud pethau’n wahanol.

Drwy ddefnyddio #scrutiny13, cefais ddau ymateb pan ofynnais beth oedd cyfranogwyr am i’r blog gynorthwyo ag ef:

  • Addasu dulliau gweithio
  • Pwy i’w gynnwys a sut i adnabod ‘cynulleidfaoedd’

Mae addasu dulliau yn rhywbeth a grybwyllwyd gennyf yn gryno yn y cyflwyniad. Rydym wedi canfod ei bod yn well gan wahanol gynulleidfaoedd ddulliau gwahanol, ac nid yw pob dull yn addas at bob pwnc. Mae teilwra eich dull o weithredu yn hanfodol. Gan nad yw’r tîm yr wyf i’n ei reoli yn gweithio gydag un math o gynulleidfa yn unig, mae’n hanfodol ein bod yn ceisio cyngor ac arweiniad gan y rhai sydd yn gweithio gydag un gynulleidfa yn unig.  Lawer gwaith, mae’r arbenigedd hwn i’w gael mewn awdurdodau lleol, neu mewn sefydliadau a grwpiau cynrychiadol. Maent yn fan cychwyn gwych ar gyfer profi eich syniadau am ddulliau ymgysylltu, a hefyd ar gyfer cynnal arolygon ac ati ar ffurf cynllun peilot, i sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir yn briodol, a bod y cwestiynau yr ydym yn eu gofyn yn berthnasol.

Mae’r trafodaethau cychwynnol hyn yn ein gwneud yn ymwybodol o faterion y mae angen eu hystyried wrth gynllunio’r gwaith hwn, fel y pethau a ganlyn:

  • Ymgysylltu â Sipsiwn a Theithwyr. Maent yn debygol o fod â lefelau isel o ran llythrennedd, felly ni ddylai’r dulliau a ddefnyddir ddibynnu ar ddarllen ymlaen llaw gan y cyfranogwyr
  • Ymgynghori ar bynciau sensitif. Golyga hyn y byddwch efallai am ddefnyddio senarios bach gyda’r grwpiau ffocws (hynny yw, creu senario a gofyn i bobl wneud sylwadau amdano yn hytrach na gofyn iddynt gyfeirio at amgylchiadau personol na fyddant yn gysurus yn eu trafod efallai).
  • Ymgysylltu â busnesau bach a chanolig eu maint; mae’n bosibl na fydd ganddynt lawer o amser, sy’n golygu ei bod yn anodd eu cael i deithio i ddigwyddiad ar adeg benodol.

Rwyf yn argymell hyn yn gryf fel rhan o’r broses gynllunio. Unwaith y byddwch wedi pennu eich amcanion a nodi pwy yr ydych am ei gynnwys yn y gwaith craffu, siaradwch â phobl sy’n gweithio gyda’r gynulleidfa bob dydd fel y gallwch ddysgu o’u profiadau ac fel y gallant eich rhoi chi ar ben ffordd.

Mae nodi eich ‘cynulleidfaoedd’ yn dibynnu’n helaeth ar bwnc eich prosiect craffu. Yng nghyd-destun y Cynulliad, rydym yn adnabod y rhai y mae polisi, gwariant neu ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt ac yn eu rhannu’n ddwy garfan: y rhai yr ydym yn disgwyl clywed ganddynt, a’r rhai nad ydym yn disgwyl clywed ganddynt. Ar yr ail garfan yr ydym ni’n canolbwyntio,  yn enwedig os ydynt yn llai abl i gysylltu â ni. Gan ddibynnu ar y grwpiau yr ydych wedi eu nodi, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau.

Y gwir amdani yw bod angen adnoddau i ddenu mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses graffu—pobl, arbenigedd a chyfleusterau—ond efallai nid cymaint ag y byddech yn ei feddwl.

Efallai y gallech ddechrau trwy edrych ar y tasgau y mae’r bobl sy’n ymwneud â’r gwaith craffu yn eich sefydliadau yn ymgymryd â hwy a’u hadolygu, gan weld a ellir rhoi tasgau eraill yn eu lle a all arwain at gynnwys y cyhoedd yn ehangach yn eich prosiect craffu.

Rwyf wedi cynnwys fersiwn PDF o’n pecyn cymorth ymgysylltu yn y blog hwn. Dyma’r tro cyntaf i ni ei gyhoeddi y tu allan i’r sefydliad—fe ddechreuodd fel adnodd ar-lein i staff, ac mae’n cael ei ddefnyddio hyd heddiw. Mae’n cael ei ddiweddaru bob wythnos (byddwn yn diweddaru’r fersiwn PDF o dro i dro yn ogystal). Mae’r dulliau yn y pecyn cymorth yn amrywio’n fawr; mae rhai yn defnyddio llawer o adnoddau, ac mae eraill yn defnyddio fawr ddim (er enghraifft, mae gwe-sgyrsiau’n costio’r nesaf peth i ddim, a gellir eu trefnu mewn byr o dro unwaith y mae’r cyfrifon wedi cael eu creu).

Mae’n bwysig nodi mai pethau sy’n gweithio i ni yw’r rhain. Efallai na fydd rhai o’r dulliau hyn yn briodol nac yn realistig ar gyfer eich sefydliad neu’ch prosiect chi, ond byddwn yn eich annog, serch hynny, i edrych drwy’r pecyn i weld beth a allai weithio i chi.