Tag Archives: ymddiriedaeth

Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

Mae’r ffordd ni’n dysgu a chymryd gwybodaeth i mewn yn datblygu drwy’r amser. Yn y blogbost isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar beth y dysgodd trwy gymryd rhan ym mhodlediad NatterOn.

Copi o logo Podlediad NatterOn

Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydw i wedi bod yn gwrando ar bodlediadau i ehangu fy ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y byd ac i gael dealltwriaeth well o sut allai wella fy ngwaith. Mae’r app Podcast Addict wedi bod yn ffordd dda o reoli podlediadau ddiddorol gan ei fod yn dod â sawl podlediad at ei gilydd i mewn i un ffrwd.

Dyma rai Podlediadau rydw i wedi ffeindio’n ddefnyddiol:

Fe fyddwn i’n ychwanegu podlediad NatterOn i’r rhestr hefyd. Mae’n bodlediad ddigidol a marchnata sy’n cael ei rhoi at ei gilydd gan Helen Reynolds a Ben Proctor. Mae gan y ddau ohonynt feddylfryd hynod o flaengar. Mae Helen yn deall yn well na neb sut fydd cyfryngau cymdeithasol yn newid cyfathrebu. Ac rydw i wedi dysgu cymaint am ddata o Ben. Mae ei blogbost ar Aeddfedrwydd Data mewn llywodraeth leol yn arbennig, ac mae’r erthygl wedi bod yn sail i fy meddylfryd wrth i mi fynd i’r afael a data gyda Gweithgor Data a Thechnoleg Swyddfa Archwilio Cymru.

Felly pan wnaethon nhw ofyn i mi gymryd rhan yn y podlediad, dywedais ‘ie’ yn syth achos byddai’n rhoi’r cyfle i mi wneud y fwyaf o’u harbenigedd ar wella gwasanaethau cyhoeddus am awr.

Felly beth ddysgais i?

Fi’n siwr na fydd hyn yn syndod i unrhyw un, fe ddysgais i lot. Rhannodd Helen blogbost diddorol iawn ar Rhagfarn Anymwybodol, sy’n dod a nifer o wahanol fathau o ragfarn at ei gilydd i mewn i bedwar prif broblem:

  • Rydym yn hidlo gwybodaeth yn weithredol er mwyn osgoi gormodedd o wybodaeth.
  • Mae diffyg ystyr yn ein ddrysu, felly ni’n llenwi’r bylchau i mewn.
  • Rhaid i ni weithredu’n gyflym, felly ni’n neidio i gasgliadau.
  • Rydym yn gweithio mewn amgylcheddau cymhleth felly rydym yn canolbwyntio ar y darnau pwysig. Mae ein penderfyniadau yn llywio ein modelau meddyliol o’r byd.

Felly beth mae hyn yn golygu i wasanaethau cyhoeddus? I mi, mae’n ymwneud ag ymwybyddiaeth. Os ydym yn cymryd yr amser i fyfyrio’n weithredol ar y problemau yma, gallwn fod yn fwy ymwybodol o’n rhagfarn wrth i ni ryngweithio â phobl a darparu gwasanaethau. Rydym wedi nodi hwn fel mater pwysig yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly cynhaliom ddigwyddiad mewnol i fynd i’r afael a hyn. Mae’r Storify yn cynnwys lot o adnoddau defnyddiol, gan gynnwys Prawf Cysylltiadau Ymhlyg Harvard.

Cawsom sgwrs dda iawn ar ymddiriedaeth a beth mae hyn yn ei olygu o ran Cysylltiadau Cyhoeddus a gwasanaethau yn gyffredinol ar ôl i Ben rhannu blogbost ar y rhyfel ar wirionedd. Edrychodd Helen ar y swyddi sydd ar frig Baromedr Ymddiriedaeth Edelman, sy’n dangos bod ymddiriedaeth pobl yn y llywodraeth yn dibynnu ar ba mor fodlon maen nhw â’u byd. Mae gan hyn oblygiadau mawr i sut rydym yn rhyngweithio â phobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd gwahanol.

Mae ein prosiect wedi gwneud gwaith ar bwysigrwydd ymddiriedaeth staff yng ngwasanaethau cyhoeddus. Mae’n ddiddorol i gymryd rhai o’r gwersi o’r gwaith yma a’i rhoi mewn cyd-destun ehangach o weithio a chymunedau:

  • Gallu – ydyn ni’n dangos ein bod ni’n gallu gwneud ein gwaith?
  • Haelioni – oes gennym gymhellion diniwed a phryder am eraill sydd tu hwnt i ein anghenion ein hunain?
  • Gonestrwydd – ydyn ni’n weithredu i’n egwyddorion? Ydych chi’n weithredu mewn modd deg ac onest?
  • Rhagweladwy – ydy pobl yn gwybod beth rydyn ni’n debyg o wneud?

Ac ar ôl i mi rannu blogbost ar Ddull Digidol GCHQ, dysgais hefyd bod y ddywediad am brogaod mewn dŵr berwedig yn celwydd a hanner!

Beth arall wnes i rannu?

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da hefyd yn meddwl am sut allwn ni helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu eu hymagweddau at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Felly rhannais blogbost Chris Bolton ar Gemau Efelychu a Gwneud Penderfyniadau Cynaliadwy gan ei fod wedi ysgogi mi i feddwl yn wahanol am sut rydyn ni’n helpu gwasanaethau i wella.

Rydw i hefyd wedi bod yn meddwl am rôl dysgu a datblygu yn y gweithle. Rydw i wedi bod yn gweithio i wasanaethau cyhoeddus am ddeng mlynedd neu fwy, a dim ond tri o’r cyrsiau hyfforddi sydd wedi cael effaith go iawn ar fy ngwaith. Felly ydy e’n bosib i ddolenni ein dysgu a datblygiad gyda gwelliant gwasanaethau cyhoeddus? Mae Carl Haggerty wedi ysgrifennu blogbost arbennig ar hyn.

Rhannu gwybodaeth mewn modd addas

Mae yna sleid rydym yn defnyddio yn ein digwyddiadau i ddangos y ffyrdd gwahanol rydym yn rhannu gwybodaeth – drwy ein blog, cyfryngau cymdeithasol, Treialon Coffi ar Hap, e-bost a dros y ffôn. Rydym yn cydnabod nad yw pawb eisiau derbyn gwybodaeth yn yr un modd, ac nid yw pawb yn prosesu’r wybodaeth yma yn yr un ffordd. Un o egwyddorion allweddol ein gwaith yw does yna ddim dull ‘un maint i bawb’ ar gyfer gwasanaethau gwell. Mae podlediadau yn un o sawl ffordd ddefnyddiol y gallwch dderbyn a rhannu gwybodaeth, felly mae’n werth gwrando ar y podlediad yma a phodlediadau eraill i weld os allan nhw eich helpu chi i wella’ch gwaith a beth chi’n gwneud.

Bara Brith Camp: Pam mae ymddiriedaeth yn bwysig i wasanaethau cyhoeddus

Mynychodd Dyfrig Williams Brith Bara Camp i rannu dysgu o’n seminar ar Ymddiriedaeth. Dyma drosolwg o’i trafodaeth.

Yn ein seminar Ymddiriedaeth Staff, diffiniodd yr Athro Searle ymddiriedaeth fel “y parodrwydd i fod yn agored i weithredoedd parti arall, yn seiliedig ar ddisgwyliadau cadarnhaol y byddant yn gweithredu’n fuddiol, neu o leiaf beidio achosi niwed, heb ystyried unrhyw fonitro neu fecanwaith rheoli.” Ffeindiais i’r agweddau yma o ymddiriedaeth yn arbennig o ddefnyddiol:

  • Gallu – ydyn nhw’n dangos eu bod nhw’n gallu gwneud eu gwaith?
  • Haelioni – oes ganddynt gymhellion diniwed a phryder am eraill sydd tu hwnt i’w hanghenion eu hunain?
  • Gonestrwydd – ydyn nhw’n egwyddorol? Ydyn nhw’n deg ac yn onest?
  • Rhagweladwy – ydych chi’n gwybod beth maen nhw’n debygol o wneud?

Bara Brith Camp

Pam fod gan Swyddfa Archwilio Cymru diddordeb mewn ymddiriedaeth?

Mae ymddiriedaeth yn bwysig iawn yn ein bywydau personol, ac yr un mor bwysig wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Yn ôl adroddiad CIPD, mae 37% o foddhad swydd yn dod o ymddiriedaeth, ac mewn sefydliadau sydd gydag ymddiriedaeth uchel, mae staff yn debygol o roi mwy o ymdrech a chydweithio, recriwtio a pherfformio’n well.

Mae’n glir felly pam mae gan Swyddfa Archwilio Cymru cymaint o ddiddordeb yn y pwnc. Hefyd, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi siarad dro ar ôl tro am yr angen i gymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n effeithiol i wella gwasanaethau cyhoeddus, ac fel ysgrifennais i yn fy mlogbost diwethaf ar Ddadfentora gyda Kelly Doonan o Gyngor Sir Ddyfnaint, ni all hynny ddigwydd heb ymddiriedaeth.

Mae ymddygiad negyddol bwriadol fel lladrad a thwyll yn cymryd lle pan mae pobl yn gweithredu ar eu diffyg ymddiriedaeth. Mae hefyd rhaid i wasanaethau cyhoeddus ymddiried yn ei gilydd i ddarparu gwasanaethau sy’n cwrdd ag amcanion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd angen i sefydliadau gydweithio i ddarparu gwasanaethau effeithiol, a bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn datblygu ein harchwilio yn unol â hynny.

Trafododd yr Athro Searle sut rydyn ni’n aml yn ymddiried mewn pobl sy’n debyg i ni. Gall hyn fod yn rhwystr i gydweithio gan fod y sector gwirfoddol, llywodraeth leol a’r GIG i gyd yn gyrff gwahanol iawn. Mae yna sawl astudiaeth ar sut mae meddylfrydau amrywiol yn arwain at benderfyniadau gwell, ac mae angen i ni osgoi “group think”, lle mae pobl yn amharod i fynd yn groes i’r graen.

Ymddiriedaeth mewn sefydliadau mawr

Yn aml mae gan sefydliadau mawr lefelau is o ymddiriedaeth a rhaid gweithio’n galetach i adeiladu a chadw ymddiriedaeth. Fel arfer mae ganddynt fwy o lefelau, sy’n gallu gwanhau effaith camau cadarnhaol y bobl sydd ar frig y mudiad a’r polisïau ehangach.

Mae angen i reolwyr i benderfynu ar y lefelau monitro sydd angen, gan fod lefelau uchel yn gwneud i weithwyr teimlo dyw eu cyflogwyr ddim yn ymddiried ynddynt. Mae’n werth edrych ar sut mae Phillipa Jones yn annog staff Bromford Tai i dorri rheolau os mae o fudd i gwsmeriaid ac yn unol â gwerthoedd y sefydliad.

Gwneud y gorau o adnoddau

Awgrymodd Athro Searle i fudiadau creu cronfa ymddiriedaeth sy’n gallu cael ei ddefnyddio ar adegau anodd. Gall diffyg ymddiriedaeth fod yn ddrud os mae amser pobl yn cael ei ffocysu ar weithgareddau sydd ddim yn gynhyrchiol, fel dyletswyddau monitro ychwanegol i reolwyr, ac ymddygiad gwaith gwrthgynhyrchiol gan staff.

Mae gweithlu sy’n barod i ymddiried yn ei arweinwyr yn fantais mewn oes o lymder – gall sefydliadau wneud y gorau o’u hadnoddau er mwyn arloesi a datblygu eu gwasanaethau a chadw cwsmeriaid.

Beth rydym yn ei wneud?

Fel y Dadfentora rydw i wedi gwneud gyda LocalGovDigital, rydym yn cynnal Treialon Coffi Ar Hap gyda phobl sy’n dod i’n seminarau. Maen nhw’n rhoi cyfle i rannu profiadau, cefnogi ein gilydd ac i adeiladu ymddiriedaeth rhwng pobl o wahanol sefydliadau. Dyw hyn ddim yn gam mawr – mae galwad ffôn 30 munud dim ond yn rhan fach o’r wythnos gwaith, ond mae’n gallu cael effaith mawr. Mae Chris Bolton wedi blogio am Lygod Trojan, sydd yn brosiectau peilot bach sy’n ddiogel i’w fethu. Does dim rhaid i bob gweithrediad fod ar raddfa fawr, mae yna bethau bach y gallwn ni i gyd trio yn ein gwaith a all wneud gwahaniaeth mawr. Ac os ydych chi’n rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o ddatblygu ymddiriedaeth yn eich sefydliad, byddai fe’n grêt i glywed o chi.