Tag Archives: y gronfa loteri fawr

Dyfodol parciau a’u heffaith gadarnhaol ar les

Sut allwn ni wneud parciau’n gynaliadwy a rhoi hwb i les y bobl rydym yn gwasanaethu fel gwasanaethu cyhoeddus Cymreig? Isod mae Bethan Smith yn adlewyrchu ar y gwersi a ddysgwyd o’n seminar Parciau llynedd.

Mewn adroddiad diweddar yn dwyn y teitl The State of UK Public Parks 2016 (Saesneg yn unig), mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn nodi bod rheolwyr parciau yn disgwyl toriadau pellach a cholli nifer fawr o staff medrus dros y tair blynedd nesaf.

Yng Nghymru, roedd 80% o gynghorau yn rhagweld toriadau o 10% neu fwy yn y gyllideb dros y tair blynedd nesaf, a disgwylir y bydd 70% o barciau yn dirywio yn ystod yr un cyfnod, sef y ffigur uchaf ar draws y DU gyfan. [1]

Pan ddarllenais yr adroddiad, cefais fy synnu gan y ffigurau. Mae parciau’n chwarae rhan fawr ym mywydau’r rhan fwyaf o gymunedau, maent yn lle i blant i chwarae, yn lle i fynd â’r ci am dro neu’n lle i ddim ond eistedd i lawr ac ymlacio. Mae’r rhan fwyaf ohonom ar ryw bwynt yn ein bywydau wedi defnyddio parciau, a gallant chwarae rôl amlwg wrth wella ein llesiant.

Roedd yr adroddiad yn fy atgoffa o’n digwyddiad y llynedd, ‘Dyfodol parciau a’u heffaith gadarnhaol ar lesiant’. Yn y digwyddiad hwn, gwnaethom arddangos nifer o enghreifftiau o sefydliadau sydd wedi defnyddio ffyrdd newydd o weithio i wneud y defnydd mwyaf posibl o barciau a helpu i wella llesiant.

Go to the Park

Un o’r enghreifftiau hynny oedd ‘Go to the Park’. Wedi’i leoli ym Mharc Towneley (parc treftadaeth mwyaf Burnley, sy’n 200 hectar o ran maint) ac sy’n ymestyn dros bum parc treftadaeth arall, datblygodd ‘Go to the Park’ fodel amgen ar gyfer rheoli parciau a mannau gwyrdd sy’n rheoli ardaloedd parciau a mannu gwyrdd mawr yn gynaliadwy drwy dechnegau ecolegol a pharamaethu. Mae’r prosiect wedi profi’r cyfleoedd i arbed arian drwy fabwysiadu technegau ecolegol a pharamaethu i reoli parciau treftadaeth, ennill arian drwy gnydau blodau gwyllt, gwenyn a thanwydd coed, ymgysylltu â phobl drwy ei raglen ‘Gwirfoddoli mewn Parciau’ a chynyddu gwerth bywyd gwyllt ein mannau gwyrdd.

Fy hoff ran o’r fenter hon oedd datblygu cawell cwch gwenyn trefol cynta’r byd sy’n diogelu gwenyn mêl. Wedi’i ariannu gan raglen ‘Ailfeddwl Parciau’ Nesta, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Loteri Fawr, nod y fenter yw gwella cynefinoedd ar gyfer gwenyn a pheillwyr eraill fel gloÿnnod byw ym mharciau a mannau gwyrdd Burnley.

beekeeping-image

Ceir rhagor o wybodaeth am y fenter hon ar wefan Nesta ac mae’n werth darllen blog Simon Goff ar yr effaith a gafodd y prosiect.

Technolegau rhoi’n ddigidol

Creodd Cyngor Bwrdeistref Bournemouth ymddiriedolaeth ar gyfer parciau ledled yr awdurdod fel bod hoffter pobl o’u parciau a’u gerddi yn cael ei drosi’n rhoddion. Ymchwiliodd y tîm i sut y gall technolegau rhoi’n ddigidol newydd ei gwneud yn hawdd i bobl roi tuag at y parciau mewn amser real. Gwnaeth hefyd brofi a oedd y cyfle i bobl adael cymynrodd yn opsiwn dichonadwy er mwyn cynnal eu parciau a’u gerddi. Mae’r dull hwn o weithredu yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd gan fodelau sy’n bodoli’n barod yn yr Unol Daleithiau, megis yn Seattle.

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn ar flog Nesta.

Coed Actif Cymru

Mae Coed Actif Cymru yn brosiect sy’n helpu pobl i wella eu hiechyd a’u llesiant drwy eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn coetiroedd. Caiff ei redeg gan dîm bach, rhan-amser yn Coed Lleol, sef cangen Cymru o’r Gymdeithas Coedwigoedd Bychain, mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a sector cyhoeddus a nifer o ddarparwyr gweithgareddau annibynnol mewn pum ardal yng Nghymru.

img_1240

Dechreuodd y prosiect yn 2010 ac mae wedi gwneud cryn gynnydd ers hynny. Ysgrifennodd Dr Kate Hamilton, a roddodd gyflwyniad yn ystod ein digwyddiadau, flog gwych i ni y llynedd sy’n rhoi rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect. At hynny, ysgrifennodd Kate hefyd flog a rannodd eu prosesau gwerthuso yn Coed Actif Cymru.

Mae rhaglen Ailfeddwl Parciau wedi arwain at nifer o fentrau gwych lle mae sefydliadau yn defnyddio gwahanol ffyrdd o ddefnyddio parciau. Mae’r adroddiad Learning to Rethink Parks (Saesneg yn unig) yn werth ei ddarllen.

Mae parciau’n asedau pwysig i’n cymunedau ac mae angen gweledigaethau newydd arnom ar gyfer y ffordd y gellir rheoli parciau yn wahanol, sut y gallant rymuso cymunedau a bod yn gynaliadwy

[1] http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-37288115

Effaith Cyfathrebu MAWR y Gronfa Loteri Fawr

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn gyfrifol am rannu 40% o’r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol. Yma, mae’r Swyddog Cyfathrebu, Rosie Dent yn trafod sut y cafodd un ymgyrch gyfathrebu effaith ystyrlon, fesuradwy.

Llun o Rosie Dent, a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer ei hunanlun Loteri

#LotterySelfie Rosie Dent

Yng Nghymru, rydym yn rhoi tua £100,000 y dydd i brosiectau sydd â’r nod o wella bywydau pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf. Y llynedd, gwnaethom lansio ein fframwaith strategol ar gyfer 2015-21 sy’n nodi beth y gall pobl ei ddisgwyl gennym fel ariannwr dros y chwe blynedd nesaf. Ein gweledigaeth yw y dylai pobl arwain y ffordd wrth wella eu bywydau a’u cymunedau.

Fel Tîm Cyfathrebu, rydym o’r farn mai un o’r ffyrdd gorau y gallwn gael pobl i arwain yw drwy roi’r ffocws arnynt hwy a rhoi’r adnoddau iddynt allu hyrwyddo’r gwaith gwych maent yn ei wneud, waeth pa mor fawr neu fach yw hynny. Y ffordd hon o feddwl a arweiniodd at lansio ein hymgyrch #LotterySelfie.

Mae dwy elfen i’r ymgyrch, un ohonynt yw annog prosiectau i rannu delweddau gyda ni drwy ddefnyddio’r hashnod #LotterySelfie. Y nod, wrth i ninnau rannu’r delweddau hyn, yw y gall prosiectau o bosib gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae’r elfen hon o’r ymgyrch wedi bod yn rhedeg ers mis Ionawr 2016 ac mae hyd at 600,000 o argraffiadau bob wythnos ar Twitter.

Ail elfen yr ymgyrch yw ‘Llythyr Syrpreis y Loteri’. Bob blwyddyn mae ein staff yn asesu miloedd o geisiadau ac yn anfon miloedd o lythyrau sy’n rhoi gwybod i ymgeisydd bod ei gais am grant wedi bod yn llwyddiannus. Gyda chynifer o lythyrau, mae’n hawdd anghofio sut y gall arian Loteri newid bywydau cymunedau yng Nghymru. Gwnaeth hyn i ni feddwl, beth am i fwy o staff ymweld â phrosiectau a gwneud i’r prosiectau deimlo’n arbennig drwy ddosbarthu rhai o’r llythyrau cynnig grant â llaw?

Y sefydliad a gafodd syrpreis gyntaf gyda Llythyr Syrpreis y Loteri oedd NuHi Cyf. yng Nghaerdydd sy’n cynnig ymwybyddiaeth, addysg a hyfforddiant ym maes camddefnyddio sylweddau i’r gymuned ehangach. Bydd yn defnyddio’r grant o £4,775 i greu ystafell TG a gwefan fel y gall pobl sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau gael gwybodaeth a chefnogaeth. Holly, gwirfoddolwraig, a orffennodd ei thriniaeth adsefydlu yr union ddiwrnod hwnnw, a gafodd y syrpreis. Gwnaethom gadw’r syrpreis yn syml. Yr oll oedd gennym oedd llechen, llythyr cynnig ac wrth gwrs siec enfawr (oherwydd pwy sydd ddim yn breuddwydio am gael siec enfawr?), gan ei gwneud yn ymgyrch hynod o rad, sy’n costio dim heblaw am amser staff.

 

Beth oedd y canlyniad i NuHi?

Pan ofynnwyd sut roedd hi’n teimlo ynglŷn â’r syrpreis, dywedodd y Sefydlydd Yaina: “Mae’r gwirfoddolwyr yn dal i fod yn wên o glust i glust”. Roedd Yaina yn teimlo bod morâl staff wedi cynyddu ers y syrpreis.

O fewn pythefnos i’r syrpreis, roedd y sylw ar gyfryngau cymdeithasol wedi arwain yn uniongyrchol at sefydliadau eraill yn cysylltu â nhw ynglŷn â gweithio mewn partneriaeth a gwahoddiad i fod yn siaradwr gwadd mewn digwyddiad entrepreneuraidd.

Gwnaeth y sylw hefyd arwain at roddion cyhoeddus ac, o ganlyniad, rhoddodd NuHi fotwm rhoddion ar ei wefan. Credwn fod hyn yn ganlyniad hynod gadarnhaol i NuHi gan y gallai rhoddion gynyddu cynaliadwyedd y sefydliad. Roedd hefyd wedi arwain at dri ymholiad newydd am gymorth gan bobl sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau.

Llun o bobl sy'n ymwneud â NuHi Cyf.

NuHi Cyf.

A fu effaith ar staff y Gronfa Loteri Fawr?

Dywedodd Liz Hertogs a fu’n asesu’r cais ac a ffilmiodd y syrpreis wrthym, “Dyma oedd fy ymweliad prosiect cyntaf, felly roedd yn wych cael cwrdd ag un o’n deiliaid grant, ac roeddem yn gallu rhoi ein pecyn cynnig iddo a thrafod beth sy’n digwydd nesaf ar yr un pryd. Roedd bod yno pan wnaeth ddysgu ei fod yn cael ei ariannu gennym yn brofiad arbennig iawn.”

Cawsom lawer o sylwadau cadarnhaol ynglŷn â’r fideo gan staff ac aelodau’r pwyllgorau. Nid ydym erioed wedi gweld staff wedi cyffroi cymaint am gynnyrch cyfathrebu o’r blaen! Roeddech yn gallu clywed staff yn sôn amdano o amgylch y swyddfa am ddyddiau, roedd wir yn teimlo fel ei fod wedi creu cyffro yn ein swyddfeydd, yng Nghaerdydd a’r Drenewydd. Roedd y cyffro hwnnw’n heintus, cawsom sylwadau gan dimau’r Gronfa Loteri Fawr yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Camelot a thîm Achosion Da y Loteri Genedlaethol.

Pa sylw a gafodd y fideo?

O fewn diwrnodau roedd 8,800 o bobl wedi gweld y fideo ar Facebook, gan ei wneud yn un o’r pethau mwyaf poblogaidd i ni ei bostio ar y llwyfan. Cafodd cynnwys cyfryngau cymdeithasol ei rannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Achosion Da y Loteri a We Are Cardiff, i enwi dim ond rhai.

Cafodd fideo a stori Holly, y wirfoddolwraig, eu cynnwys ar Wales Online, a chafodd yr erthygl ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol dros 340 o weithiau.

Myfyrio

Fel mae timau Cyfathrebu eraill yn ei ganfod mae’n siŵr, gall fod yn anodd casglu tystiolaeth am ganlyniadau eich gwaith, yn enwedig canlyniadau cadarn. Fodd bynnag, mae effaith yr ymgyrch hon wedi bod yn anhygoel ac wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Roedd llawer o’r canlyniadau, fel rhoddion cyhoeddus ac ymholiadau am gymorth gan y prosiect, yn annisgwyl ac maent yn dangos sut y gall cyfathrebu, gan gynnwys cyfryngau digidol, ychwanegu gwerth a chael effaith ystyrlon ar sefydliadau a chymunedau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Loteri Fawr Cymru, ewch i’n gwefan, dilynwch @LoteriFawrCymru ar Twitter neu hoffwch Cronfa Loteri Fawr Cymru ar Facebook.

Gwesty Seren: Trosglwyddo asedau yn effeithiol a dull newydd o ofal ysbaid

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n debyg fe fydd llawer o gyrff gwirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned yn mynd ati i drosglwyddo asedau o’r Cyngor Sir. Aeth Dyfrig Williams i Westy Seren i ddysgu am ei brofiad nhw o drosglwyddo ased a sut maen nhw’n darparu gofal ysbaid.

Rydym yn cael ein arwyddbostio ato arfer da yn aml, ond nid yw’n aml ein bod ni’n clywed am un prosiect sydd gydag arfer da i’w rhannu mewn sawl gwahanol faes.

Aethom i Westy Seren i ddysgu am sut mae ased wedi cael ei drosglwyddo i’r cymuned yn lwyddiannus. Ond roedd gen i ddiddordeb ehangach yn y gwaith gan fy mod i wedi clywed am y gwaith arloesol maent yn wneud wrth ddarparu gofal ysbaid.

Gwaith yr elusen

Llun o Westy Seren

Gwesty Seren

Cwmni ag elusen yw Seren sydd â phencadlys ym Mlaenau Ffestiniog. Prif waith yr elusen yw cynnig gofal i bobl sydd ag anawsterau dysgu. Sefydlwyd yr elusen 20 mlynedd yn ôl o dan Ofal yn y Gymuned. Bwriad yr elusen oedd cael pobl ag anawsterau dysgu allan o sefydliadau ac i fyw yn y gymuned. Mae pobl sydd yno yn creu crefft a chelf ac yn rhedeg siop a gardd farchnad. Mae hwn yn rhoi annibyniaeth i’r bobl sy’n gweithio achos nad yw pobl jyst yn dibynnu ar ffioedd o Gyngor Gwynedd neu unigolion preifat, ac mae fe hefyd yn rhoi cyfle i bobl cael blas ar waith. Mae’r meddylfryd yma wedi parhau wrth roi profiad o waith i bobl yng Ngwesty Seren.

Penderfynodd Seren gwneud mwy na chreu gwasanaeth ysbaid wrth ffurfio’r Gwesty. Roedden nhw eisiau gwell ansawdd na thŷ, felly creuwyd gwesty 3 seren sy’n ffocysu ar anabledd a phobl sydd ag anawsterau dysgu. Mae’r toiledau ac ystafelloedd wedi’u datblygu i fod yn hygyrch i bawb.

Mae’r gwesty hefyd yn galluogi teuluoedd i aros yno. Dangosodd ei ymchwil bod lot o deuluoedd wedi derbyn gofal ysbaid gwael yn y gorffennol, ac felly nid oedden nhw’n hapus i adael eu plant yng ngofal trydydd person. Mae’r gwesty yn galluogi nhw i aros gyda’u plant os maent yn dymuno, ond hefyd i gael yr ysbaid sydd angen. Mae’r gwasanaeth unigryw yma yn meddwl bod y gwesty yn darparu llefydd i bobl sy’n derbyn gwasanaethau o gynghorau cyfagos fel Conwy a Cheredigion. Mae teuluoedd yn dod o Loegr i aros yn y gwesty hefyd.

Mae llwyddiant y Gwesty yn meddwl ei bod yn gweithio gyda thri chwmni sy’n arbenigo mewn gwyliau ar gyfer pobl sydd ag anawsterau dysgu ac, yn ddiweddar, penderfynodd dau gwmni arall sydd yn arbenigo mewn gwyliau ar gyfer pobol ag anableddau corfforol ddechrau ddefnyddio’ cyfleusterau. Mae’r bobl sydd wedi aros yn aml yn dod yn ôl ac yn wneud archebion bloc.

Hanes yr adeilad

Ffotograff o ystafell yng Ngwesty Seren

Ystafell yng Ngwesty Seren

Cafodd yr adeilad ei hun ei adeiladu’n wreiddiol gan yr Arglwydd Newborough yn 1728 fel ty haf. Parhaodd fel tŷ haf nes jyst ar ol y rhyfel byd cyntaf, pryd wnaeth teulu cymryd milwyr i fewn a oedd wedi cael damwain neu sioc yn y rhyfel i cael seibiant neu ysbaid.

Yn y 1930s cafodd yr adeilad ei roi i ddau fynach Assisi. Fe wnaethon nhw wahodd pobl ddigartref i mewn, gyda’r mynach ieuengaf yn trafaelu i Lundain i wahodd pobl i aros ym Mryn Llywelyn, fel y cafodd ei alw ar y pryd. Yna cafodd yr adeilad ei werthu i Gyngor Meirionnydd, ble roedd yn nhŷ preswyl i blant, cyn cael ei droi’n gartref preswyl i henoed. Yn 2010 penderfynodd y Cyngor ei gau.

Fe wnaeth Seren cais i Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Loteri Fawr. Cyflwynwyd cais llawn, cyn cychwyn y gwaith yn 2013. Cwblhawyd y gwaith yn Ebrill 2014.

Trosglwyddo’r adeilad

Fel arfer mae trosglwyddo asedau o’r sector cyhoeddus yn digwydd am ddim, ond yn yr achos yma penderfynodd y cyngor gwerthu am bris llai na’r farchnad. Bu rhaid i’r cyngor mynd trwy bwyllgorau a chodi ymwybyddiaeth trwy’r wasg, felly nid oedd yn broses cyflym.

Roedd y costau rhwng prynu a phob dim yn tua £1,000,000, ac roedd gwneud ceisiadau ar gyfer grantiau ac ati yn broses llafurus. Gan fod angen swm sylweddol, aeth yr elusen ati i fenthyg o’r Banc Elusennau.

Roeddent yn ymwybodol byddai cwestiynau yn cael ei ofyn am gymorth gwladwriaethol, felly aeth yr elusen at gwmni cyfreithiol yng Nghaerdydd sy’n arbenigo yn hyn. Ysgrifennwyd adroddiad ar finimeiddio’r risg ac fe wnaeth y ddogfen dangos y rhesymeg am pam nad oedd yn torri’r rheolau. Roedd yr adroddiad yma yn cymorth mawr wrth ddelio a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Swyddogion Ewrop amdano’r gwesty.

Prif negeseuon

Felly’r prif neges o Westy Seren yw nad ydy’n broses cyflym sy’n digwydd mewn chwinciad. Ond serch hynny mae’n glîr trwy edrych ar y sylwadau ar ei dudalen TripAdvisor bod y gwaith caled wedi bod yn werth chweil. Ac os edrychwch chi ar y geirda yma o ofalwr neu’r erthygl yma mewn cylchlythyr, mae’n glîr bod y gwesty yn cynnig gofal ysbaid sy’n cael effaith mawr ar bywydau pobl, sydd wedi cyfranu at adfywio ardal Blaenau Ffestiniog gan greu 10 o swyddi llawn amser, ac wedi cyfrannu at y diwydiant twristiaeth.