Tag Archives: treftadaeth

Dyfodol parciau a’u heffaith gadarnhaol ar les

Sut allwn ni wneud parciau’n gynaliadwy a rhoi hwb i les y bobl rydym yn gwasanaethu fel gwasanaethu cyhoeddus Cymreig? Isod mae Bethan Smith yn adlewyrchu ar y gwersi a ddysgwyd o’n seminar Parciau llynedd.

Mewn adroddiad diweddar yn dwyn y teitl The State of UK Public Parks 2016 (Saesneg yn unig), mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn nodi bod rheolwyr parciau yn disgwyl toriadau pellach a cholli nifer fawr o staff medrus dros y tair blynedd nesaf.

Yng Nghymru, roedd 80% o gynghorau yn rhagweld toriadau o 10% neu fwy yn y gyllideb dros y tair blynedd nesaf, a disgwylir y bydd 70% o barciau yn dirywio yn ystod yr un cyfnod, sef y ffigur uchaf ar draws y DU gyfan. [1]

Pan ddarllenais yr adroddiad, cefais fy synnu gan y ffigurau. Mae parciau’n chwarae rhan fawr ym mywydau’r rhan fwyaf o gymunedau, maent yn lle i blant i chwarae, yn lle i fynd â’r ci am dro neu’n lle i ddim ond eistedd i lawr ac ymlacio. Mae’r rhan fwyaf ohonom ar ryw bwynt yn ein bywydau wedi defnyddio parciau, a gallant chwarae rôl amlwg wrth wella ein llesiant.

Roedd yr adroddiad yn fy atgoffa o’n digwyddiad y llynedd, ‘Dyfodol parciau a’u heffaith gadarnhaol ar lesiant’. Yn y digwyddiad hwn, gwnaethom arddangos nifer o enghreifftiau o sefydliadau sydd wedi defnyddio ffyrdd newydd o weithio i wneud y defnydd mwyaf posibl o barciau a helpu i wella llesiant.

Go to the Park

Un o’r enghreifftiau hynny oedd ‘Go to the Park’. Wedi’i leoli ym Mharc Towneley (parc treftadaeth mwyaf Burnley, sy’n 200 hectar o ran maint) ac sy’n ymestyn dros bum parc treftadaeth arall, datblygodd ‘Go to the Park’ fodel amgen ar gyfer rheoli parciau a mannau gwyrdd sy’n rheoli ardaloedd parciau a mannu gwyrdd mawr yn gynaliadwy drwy dechnegau ecolegol a pharamaethu. Mae’r prosiect wedi profi’r cyfleoedd i arbed arian drwy fabwysiadu technegau ecolegol a pharamaethu i reoli parciau treftadaeth, ennill arian drwy gnydau blodau gwyllt, gwenyn a thanwydd coed, ymgysylltu â phobl drwy ei raglen ‘Gwirfoddoli mewn Parciau’ a chynyddu gwerth bywyd gwyllt ein mannau gwyrdd.

Fy hoff ran o’r fenter hon oedd datblygu cawell cwch gwenyn trefol cynta’r byd sy’n diogelu gwenyn mêl. Wedi’i ariannu gan raglen ‘Ailfeddwl Parciau’ Nesta, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Loteri Fawr, nod y fenter yw gwella cynefinoedd ar gyfer gwenyn a pheillwyr eraill fel gloÿnnod byw ym mharciau a mannau gwyrdd Burnley.

beekeeping-image

Ceir rhagor o wybodaeth am y fenter hon ar wefan Nesta ac mae’n werth darllen blog Simon Goff ar yr effaith a gafodd y prosiect.

Technolegau rhoi’n ddigidol

Creodd Cyngor Bwrdeistref Bournemouth ymddiriedolaeth ar gyfer parciau ledled yr awdurdod fel bod hoffter pobl o’u parciau a’u gerddi yn cael ei drosi’n rhoddion. Ymchwiliodd y tîm i sut y gall technolegau rhoi’n ddigidol newydd ei gwneud yn hawdd i bobl roi tuag at y parciau mewn amser real. Gwnaeth hefyd brofi a oedd y cyfle i bobl adael cymynrodd yn opsiwn dichonadwy er mwyn cynnal eu parciau a’u gerddi. Mae’r dull hwn o weithredu yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd gan fodelau sy’n bodoli’n barod yn yr Unol Daleithiau, megis yn Seattle.

Ceir rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn ar flog Nesta.

Coed Actif Cymru

Mae Coed Actif Cymru yn brosiect sy’n helpu pobl i wella eu hiechyd a’u llesiant drwy eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn coetiroedd. Caiff ei redeg gan dîm bach, rhan-amser yn Coed Lleol, sef cangen Cymru o’r Gymdeithas Coedwigoedd Bychain, mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a sector cyhoeddus a nifer o ddarparwyr gweithgareddau annibynnol mewn pum ardal yng Nghymru.

img_1240

Dechreuodd y prosiect yn 2010 ac mae wedi gwneud cryn gynnydd ers hynny. Ysgrifennodd Dr Kate Hamilton, a roddodd gyflwyniad yn ystod ein digwyddiadau, flog gwych i ni y llynedd sy’n rhoi rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect. At hynny, ysgrifennodd Kate hefyd flog a rannodd eu prosesau gwerthuso yn Coed Actif Cymru.

Mae rhaglen Ailfeddwl Parciau wedi arwain at nifer o fentrau gwych lle mae sefydliadau yn defnyddio gwahanol ffyrdd o ddefnyddio parciau. Mae’r adroddiad Learning to Rethink Parks (Saesneg yn unig) yn werth ei ddarllen.

Mae parciau’n asedau pwysig i’n cymunedau ac mae angen gweledigaethau newydd arnom ar gyfer y ffordd y gellir rheoli parciau yn wahanol, sut y gallant rymuso cymunedau a bod yn gynaliadwy

[1] http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-37288115

Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr: Adeilad gwell, democratiaeth gwell

Cafodd democratiaeth leol ei adfywio ar ôl i Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr symud o’i hen adeilad i’r llyfrgell yn Nhŷ Carnegie. Ymwelodd Dyfrig Williams â’r Cyngor i ffeindio allan mwy am yr adeilad newydd a sut mae’n cael ei ddefnyddio i roi hwb i gelfyddydau’r dref.

Llun o Dŷ Carnegie

Tŷ Carnegie

Roedd Cyngor Tref Pen-y-bont wedi ei leoli yn hen swyddfeydd Cyngor Dosbarth Trefol Pen-y-bont ar Ogwr yng Nglanogwr nes iddynt symud yn ddiweddar. Yn 1987 cafodd ei gyn-swyddfeydd ei droi’n unedau henoed a symudodd y Cyngor Tref i hen adeilad Adran Penseiri Cyngor Bwrdeistref Ogwr (a oedd hefyd yn Glanogwr), lle wnaethon nhw aros nes fis Ionawr 2014. Ond pan ddaeth eu cytundeb tenantiaeth i ben, roedd yr amser yn iawn i symud. Yn ffodus roedd llyfrgell Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn symud i gyfleuster arall ar yr un pryd. Manteisiodd Cyngor y Dref ar y cyfle i symud i ganol y dref a’r gymuned.

Roedd grŵp allanol hefyd yn edrych i greu canolfan gelfyddydau ar gyfer y dref ar yr un pryd. Mae gan Dŷ Carnegie lot mwy o le na’r adeilad blaenorol, felly penderfynodd y Cyngor Tref i ddatblygu’r llawr gwaelod i fod yn ganolfan gelfyddydau ac i ddefnyddio’r llawr cyntaf i gartrefi’r cyngor tref.

Sut wnaethon nhw wneud hynny?

A photo of the Town Council Chambers inside Carnegie House

Siambrau’r Cyngor Tref tu fewn i Dŷ Carnegie

Prynodd y Cyngor Tref yr adeilad ar sail rhydd-ddaliad am £1, a golygodd hyn bod y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn gallu dadlwytho adeilad doedd ddim yn cael ei ddefnyddio. Roedd hyn hefyd yn golygu bod yr adeilad yn cael ei gadw fel cyfleuster cymunedol, ac fe wnaeth y Cyngor Tref y fwyaf o’r cyfle trwy gynnal noson ymgynghori i glywed o’r gymuned beth yn union roedden nhw eisiau o’r prosiect.

Byddai fe wedi bod yn amhosib i’r Cyngor Tref i gymryd cyfrifoldeb llawn am symud swyddfeydd achos byddai fe ddim wedi gallu ymateb yn ddigon cyflym i’r gofynion. Felly cafwyd grŵp annibynnol o 6 chynghorydd ei sefydlu fel grŵp adleoli a wnaeth delio â phob agwedd o drosglwyddo’r ased.

Mae perthynas da rhwng y Cyngor Tref a’r Cyngor Sir wedi bod yn allweddol i lwyddiant y trosglwyddiad yma. Mae’r Cyngor Sir wedi bod yn help mawr yn ystod y broses drwy ddarparu cymorth drwy eu swyddogion cadwraeth, penseiri a syrfewyr. Mae’r berthynas gadarnhaol hefyd yn caniatáu i’r Cyngor Tref i gymryd drosodd yr adeilad dan drwydded yn y lle cyntaf. Mae hyn yn golygu bod yr hyn y byddan nhw wedi’i dalu mewn rhent yn cael ei ddefnyddio i wella’r adeilad yn lle. Ni fyddai’r Cyngor Tref wedi gallu fforddio gwneud y ddau, felly mae hyn yn rhoi hwb mawr i’r broses.

Mae’r cydweithrediad yma hefyd yn golygu bod y Cyngor Tref yn gallu gwneud y mwyaf o gytundebau lefel gwasanaeth y Cyngor Sir am bethau fel gwaith cynnal a chadw. Byddai fe wedi bod yn anodd i’r Cyngor Tref cael yr un gwerth o’i gytundebau oherwydd dyw e ddim gweithio ar yr un raddfa a’r Cyngor Sir. Mae hyn yn golygu bod y Cyngor Tref yn gallu cael bargeinion gwell ac mae’n gallu defnyddio systemau teleffoni a mewnrwyd y Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Treftadaeth

Ffoto o gloch Neuadd y Dref a gafodd ei roi i'r Cyngor Tref

Tŷ Carnegie

Mae Cyngor y Dref wedi gwneud ymdrech i ailwampio Tŷ Carnegie yn gydnaws â hanes yr adeilad. Maen nhw wedi mabwysiadu cynlluniau lliw Edwardaidd ac yn gweithio gyda staff Cadwraeth y Cyngor Sir i ddatblygu’r gofod. Maent hefyd wedi derbyn eitemau o’r gymuned, gan gynnwys y gloch o neuadd y dref wreiddiol yn y 18fed ganrif, ac mae yna fwrdd coffa o ysgol leol a gafodd ei roi mewn seremoni ymroddiad. Doedd dim gofod cymunedol ar gyfer digwyddiadau dinesig o’r blaen achos does dim neuadd yn y dref, ond erbyn hyn mae pobl leol yn cysylltu gyda’r cyngor i helpu nhw i warchod a chofio eu hanes.

Mae Cyngor y Dref ei hun wedi tyfu, gan fod ei leoliad yng nghanol y dref yn golygu bod llawer mwy o ymwybyddiaeth o’i waith. Mae’r adleoli wedi bod yn gatalydd i symud y Cyngor Tref ymhellach i mewn i’r parth cyhoeddus, ac yn awr mae aelodau’r cyhoedd yn gwylio cyfarfodydd y Cyngor Tref yn fwy rheolaidd. Mae’r cyfleuster newydd wedi rhoi hwb i gapasiti y sefydliad, ac felly mae’r tîm staff wedi ehangu o 1 person i 4 aelod o staff rhan-amser. Mae’r capasiti hyn yn bwysig mewn cyfnod ble mae’r Cyngor Tref yn cymryd drosodd mwy o wasanaethau anstatudol.

Yr Hwb Celfyddydau

Mae’r Cyngor Tref yn gwneud cais i Gyngor Celfyddydau Cymru am gyllid i weithio ar y llawr gwaelod. Cafodd rhaglen gweithgareddau’r flwyddyn gyntaf ei redeg rhwng Mawrth a Thachwedd 2015. Erbyn diwedd y rhaglen, roedd tua 1700 o bobl wedi mynd i ddigwyddiadau yn y neuadd, gan gynnwys nosweithiau barddoniaeth, cyngherddau a nosweithiau jazz. Roedd rhaglen llynedd yn siawns i brofi a methu, ond eleni bydd y Cyngor Tref yn adeiladu ar beth mae’n ei ddysgu drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau cerddoriaeth glasurol a jazz.

Mae lot o waith yn cael ei wneud ar yr adeilad gan ei fod yn adeilad rhestredig. Mae grant Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi cael ei roi ar gyfer y gwaith (gydag arian cyfatebol gan o’r Cynghorau Sir a Thref) gan fod y gwaith cerrig yn dadfeilio, ac mae’r hen nenfwd artiffisial yn cael ei dynnu i lawr i wella’r sŵn yn y neuadd. Mae Cyngor y Dref hefyd wedi prynu system PA, ac mae ganddynt wefan am y tro cyntaf.

Beth mae’r dyfodol yn edrych?

Felly mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i Gyngor y Dref, a bydd unrhyw arian dros ben a wneir gan y mentrau’r Celfyddydau yn cael ei ail-fuddsoddi ar gyfer offer ac yn y rhaglen. Mae’r ddarpariaeth dysgu oedolion a chymunedol yn y dref wedi dod i ben, felly mae’r Cyngor Tref yn edrych i ddatblygu dosbarthiadau annibynnol ar y celfyddydau a diwylliant (fel gwnïo, paentio a serameg) fel bod pobl leol yn cael y cyfle i wneud y fwyaf o’r adeilad.

Dysgais gymaint o fy ymweliad â Thŷ Carnegie, yn enwedig ynghylch y pwysigrwydd o fod yn hyblyg ac i feddwl tu allan i’r bocs. Mae ailwampio’r adeilad yn amlwg yn broses llafurus, ond drwy weithio ar y cyd â’r Cyngor Bwrdeistref Sirol, mae Cyngor y Dref wedi gallu gwneud y gorau o’r cyfleoedd sydd wedi dod atynt i drosglwyddo’r ased. Mewn cyfnod lle mae adnoddau mor brin, mae’n wych gweld sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod nhw’n darparu’r gwasanaethau cyhoeddus gorau posibl i bobl eu hardal.