Tag Archives: sector cyhoeddus

Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

Mae’r ffordd ni’n dysgu a chymryd gwybodaeth i mewn yn datblygu drwy’r amser. Yn y blogbost isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar beth y dysgodd trwy gymryd rhan ym mhodlediad NatterOn.

Copi o logo Podlediad NatterOn

Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydw i wedi bod yn gwrando ar bodlediadau i ehangu fy ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y byd ac i gael dealltwriaeth well o sut allai wella fy ngwaith. Mae’r app Podcast Addict wedi bod yn ffordd dda o reoli podlediadau ddiddorol gan ei fod yn dod â sawl podlediad at ei gilydd i mewn i un ffrwd.

Dyma rai Podlediadau rydw i wedi ffeindio’n ddefnyddiol:

Fe fyddwn i’n ychwanegu podlediad NatterOn i’r rhestr hefyd. Mae’n bodlediad ddigidol a marchnata sy’n cael ei rhoi at ei gilydd gan Helen Reynolds a Ben Proctor. Mae gan y ddau ohonynt feddylfryd hynod o flaengar. Mae Helen yn deall yn well na neb sut fydd cyfryngau cymdeithasol yn newid cyfathrebu. Ac rydw i wedi dysgu cymaint am ddata o Ben. Mae ei blogbost ar Aeddfedrwydd Data mewn llywodraeth leol yn arbennig, ac mae’r erthygl wedi bod yn sail i fy meddylfryd wrth i mi fynd i’r afael a data gyda Gweithgor Data a Thechnoleg Swyddfa Archwilio Cymru.

Felly pan wnaethon nhw ofyn i mi gymryd rhan yn y podlediad, dywedais ‘ie’ yn syth achos byddai’n rhoi’r cyfle i mi wneud y fwyaf o’u harbenigedd ar wella gwasanaethau cyhoeddus am awr.

Felly beth ddysgais i?

Fi’n siwr na fydd hyn yn syndod i unrhyw un, fe ddysgais i lot. Rhannodd Helen blogbost diddorol iawn ar Rhagfarn Anymwybodol, sy’n dod a nifer o wahanol fathau o ragfarn at ei gilydd i mewn i bedwar prif broblem:

  • Rydym yn hidlo gwybodaeth yn weithredol er mwyn osgoi gormodedd o wybodaeth.
  • Mae diffyg ystyr yn ein ddrysu, felly ni’n llenwi’r bylchau i mewn.
  • Rhaid i ni weithredu’n gyflym, felly ni’n neidio i gasgliadau.
  • Rydym yn gweithio mewn amgylcheddau cymhleth felly rydym yn canolbwyntio ar y darnau pwysig. Mae ein penderfyniadau yn llywio ein modelau meddyliol o’r byd.

Felly beth mae hyn yn golygu i wasanaethau cyhoeddus? I mi, mae’n ymwneud ag ymwybyddiaeth. Os ydym yn cymryd yr amser i fyfyrio’n weithredol ar y problemau yma, gallwn fod yn fwy ymwybodol o’n rhagfarn wrth i ni ryngweithio â phobl a darparu gwasanaethau. Rydym wedi nodi hwn fel mater pwysig yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly cynhaliom ddigwyddiad mewnol i fynd i’r afael a hyn. Mae’r Storify yn cynnwys lot o adnoddau defnyddiol, gan gynnwys Prawf Cysylltiadau Ymhlyg Harvard.

Cawsom sgwrs dda iawn ar ymddiriedaeth a beth mae hyn yn ei olygu o ran Cysylltiadau Cyhoeddus a gwasanaethau yn gyffredinol ar ôl i Ben rhannu blogbost ar y rhyfel ar wirionedd. Edrychodd Helen ar y swyddi sydd ar frig Baromedr Ymddiriedaeth Edelman, sy’n dangos bod ymddiriedaeth pobl yn y llywodraeth yn dibynnu ar ba mor fodlon maen nhw â’u byd. Mae gan hyn oblygiadau mawr i sut rydym yn rhyngweithio â phobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd gwahanol.

Mae ein prosiect wedi gwneud gwaith ar bwysigrwydd ymddiriedaeth staff yng ngwasanaethau cyhoeddus. Mae’n ddiddorol i gymryd rhai o’r gwersi o’r gwaith yma a’i rhoi mewn cyd-destun ehangach o weithio a chymunedau:

  • Gallu – ydyn ni’n dangos ein bod ni’n gallu gwneud ein gwaith?
  • Haelioni – oes gennym gymhellion diniwed a phryder am eraill sydd tu hwnt i ein anghenion ein hunain?
  • Gonestrwydd – ydyn ni’n weithredu i’n egwyddorion? Ydych chi’n weithredu mewn modd deg ac onest?
  • Rhagweladwy – ydy pobl yn gwybod beth rydyn ni’n debyg o wneud?

Ac ar ôl i mi rannu blogbost ar Ddull Digidol GCHQ, dysgais hefyd bod y ddywediad am brogaod mewn dŵr berwedig yn celwydd a hanner!

Beth arall wnes i rannu?

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da hefyd yn meddwl am sut allwn ni helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu eu hymagweddau at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Felly rhannais blogbost Chris Bolton ar Gemau Efelychu a Gwneud Penderfyniadau Cynaliadwy gan ei fod wedi ysgogi mi i feddwl yn wahanol am sut rydyn ni’n helpu gwasanaethau i wella.

Rydw i hefyd wedi bod yn meddwl am rôl dysgu a datblygu yn y gweithle. Rydw i wedi bod yn gweithio i wasanaethau cyhoeddus am ddeng mlynedd neu fwy, a dim ond tri o’r cyrsiau hyfforddi sydd wedi cael effaith go iawn ar fy ngwaith. Felly ydy e’n bosib i ddolenni ein dysgu a datblygiad gyda gwelliant gwasanaethau cyhoeddus? Mae Carl Haggerty wedi ysgrifennu blogbost arbennig ar hyn.

Rhannu gwybodaeth mewn modd addas

Mae yna sleid rydym yn defnyddio yn ein digwyddiadau i ddangos y ffyrdd gwahanol rydym yn rhannu gwybodaeth – drwy ein blog, cyfryngau cymdeithasol, Treialon Coffi ar Hap, e-bost a dros y ffôn. Rydym yn cydnabod nad yw pawb eisiau derbyn gwybodaeth yn yr un modd, ac nid yw pawb yn prosesu’r wybodaeth yma yn yr un ffordd. Un o egwyddorion allweddol ein gwaith yw does yna ddim dull ‘un maint i bawb’ ar gyfer gwasanaethau gwell. Mae podlediadau yn un o sawl ffordd ddefnyddiol y gallwch dderbyn a rhannu gwybodaeth, felly mae’n werth gwrando ar y podlediad yma a phodlediadau eraill i weld os allan nhw eich helpu chi i wella’ch gwaith a beth chi’n gwneud.

GovCamp Cymru: A allwn ni newid ymddygiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus gwell?

Fe wnaeth Dyfrig Williams cynnig sesiwn yn GovCamp Cymru ar sut all damcaniaeth newid ymddygiad helpu i ymgorffori syniadau a gynhyrchwyd yn anghynadleddau mewn sefydliadau. Isod mae’n amlinellu beth ddysgodd o’r sesiwn.

Roedd GovCamp Cymru eleni yn ddigwyddiad gwych. Cynigiais i sesiwn ar newid ymddygiad pobl tu fewn i mudiad er gwella gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnes i ychydig o waith ymlaen llaw ar beth roeddwn i’n ystyried yn faterion allweddol a sut allwn eu datrys, ond roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar y syniadau a phrofiadau’r bobl a oedd yn bresennol. Felly rhaid i mi ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth ac i bawb a gyfrannodd cyn, yn ystod ac ar ôl y brif drafodaeth. Mae’r Storify yn rhoi trosolwg da o’r hyn a ddywedwyd yn ystod y dydd.

Felly o ran fy sesiwn i, dyma’r pethau allweddol a ddysgais:

Mae arweinyddiaeth yn bwysig

Efallai bod hyn yn ddatganiad gwbl amlwg, ac mewn rhai synhwyrau y mae hynny’n wir. Buom yn siarad am sut y mae ymddygiad staff yn debygol i ddilyn ymddygiad arweinwyr o fewn ein sefydliadau. Serch hynny, roedd yn galonogol i gael trafodaeth am beth yw arweinydd – nid jyst y bobl sydd ar frig trwy hierarchaeth, gallwn fod yn sôn am arweinyddiaeth trwy feddylfryd, neu efallai staff sy’n penderfynu arwain newid neu i feithrin y rôl mewn pobl eraill. Mae’n rhy hawdd i ildio cyfrifoldeb am hyn i bobl eraill achos nad oes gennym rôl benodol, felly roedd yn wych i glywed mynychwyr siarad am sut y gallan nhw fynd i’r afael â’r cyfrifoldeb. Ond hefyd trafodom sut y mae rhai sefydliadau yn gweld ‘mavericks’ fel gelynion, felly mae’n bwysig i feddwl am sut yr ydych chi’n cael eich gweld o fewn eich sefydliad.

Mae ymddygiad da arweinwyr yn dechrau gyda phethau syml iawn fel dweud “Diolch” fel bod staff yn teimlo bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi. Siaradodd Spice Caerdydd am gael agendâu agored ar gyfer cyfarfodydd, ac fe wnaethom hefyd siarad am y pwysigrwydd o gymryd risgiau. Mae lot o’r sector cyhoeddus yn amharod i gymryd risgiau, ond wnaethom edrych bach yn fanylach ar hyn er mwyn meddwl am pam mae hynny’n wir. Codwyd pwynt arbennig, sef “bod gan y bobl sy’n cynllunio newid llai i golli na’r bobl sy’n ei weithredu”, ac fe wnaeth hyn canu cloch i mi. Felly os ydym am i bobl gweithio mewn modd gwahanol, rhaid i ni sicrhau bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi os mae pethau’n mynd o le. Siaradom am ddulliau o leihau risg, yn enwedig sut all prototeipio arddangos ffyrdd newydd o weithio os mae rhywun yn meddwl bod dull newydd yn amhosib.

Mae deddfwriaeth yn gleddyf a tharian

Rwy’n caru’r dyfyniad yma, a ddaeth o drafodaeth ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Siaradom am sut allai’r ddeddf cael ei ddefnyddio fel tarian i ddiogelu staff sy’n ceisio sicrhau newid drwy ddarparu sail resymegol glir amdano, neu gleddyf i sbarduno’r newid ac i ymladd ar gyfer newid ystyrlon o fewn ein sefydliadau. Roedd pawb yn cytuno y dylid alinio dulliau o gyflawni newid, a hefyd does yna ddim dull “un maint i bawb”. Mae deddfwriaeth yn bendant yn chwarae rôl wrth newid ymddygiad, ond mae hyn hefyd yn wir amdano ddiwylliant, arweinyddiaeth, gwleidyddiaeth a’r cyhoedd rydym yn gweithio gydag ac ar eu cyfer. Mae angen dulliau a thactegau amrywiol fel ein bod ni’n defnyddio’r offer mwyaf priodol ar gyfer unrhyw sefyllfa.

160924-GCCY-187

Llun gan Nigel Bishop o GovCamp Cymru

Rydym yn dysgu trwy siarad, meddwl a gwneud

Roedd y sesiwn yn ffocysu ar newid sefydliadol, ond serch hyn doedd neb o adran Adnoddau Dynol yn cymryd rhan yn ein trafodaeth ni. Beth bynnag, y consensws oedd bod dysgu sefydliadol yn bwnc rhy bwysig i’w adael i un tîm canolog a bod rhaid i ni gyd gymryd cyfrifoldeb fel unigolion, yn enwedig gan fod cynifer o adnoddau ar-lein ar gael.

Cytunodd pawb mai un o’r ffyrdd y gall anghynhadleddau ychwanegu gwerth yw trwy dyfu rhwydweithiau a rhannu beth mae pobl eraill wedi dysgu. Ond rhaid i ni ystyried pa mor gynhwysol ydyn ni – ydyn ni’n dod â phobl eraill o fewn ein sefydliadau gyda ni ar y daith newid? Fel y soniais yn y drafodaeth, mae Carl Haggerty wedi ysgrifennu blogbost wych lle mae’n myfyrio ar sut mae e’n dysgu a sut y mae’n helpu pobl eraill. Ffordd arall o ymgorffori newid o fewn sefydliad yw cael rhywun sydd eisoes wedi gwneud y gwaith hynny i ddod i mewn i siarad am y peth ac i ddangos y gwahaniaeth. Gall y cysylltiadau o anghynhadleddau ein helpu ni i ledaenu arferion da a ffyrdd newydd o weithio.

Roedd yna hefyd drafodaeth ynghylch rolau ‘hyrwyddwr’ o fewn y sefydliad, lle mae’r baich o ledaenu’r newid yn cael ei gymryd i ffwrdd o unigolyn a’i rhannu’n ehangach. Rhoddwyd enghraifft o amgylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, lle mae’r cyfrifoldeb wedi cael ei rannu o amgylch aelodau staff i ymgorffori’r newid diwylliannol o fewn eu timau er mwyn cwrdd â gofynion y ddeddf.

A fydd GovCamp Cymru yn helpu i newid ymddygiad?

Mae’r pwyntiau a godwyd yn fy sesiwn wedi gwneud i mi feddwl eto am sut mae newid yn digwydd o fewn sefydliadau. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar brosiect ble rydym yn edrych ar sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio data a thechnoleg, y tybiaethau rydym yn cymryd yn ganiataol, a sut allwn ni cynnig atebion radical i unrhyw anawsterau wrth i ni newid ein prosesau archwilio a busnes. Os ydym yn edrych i drawsnewid ein gwaith yn y modd hwn, rhaid i ni ddod â’n cydweithwyr gyda ni ar y daith. Mae’r adborth o’r sesiwn hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth i mi ddechrau’r gwaith newydd yma, ac fe fyddwn i wrth fy modd i glywed o unrhyw un arall sydd wedi rhoi beth wnaethon nhw ddysgu o’r sesiwn ar waith o fewn eu sefydliadau fel ein bod ni’n gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol: cynhadledd am newid diwylliant

Beth oedd y negeseuon allweddol o’n digwyddiadau diweddar ar ddigidol? Isod mae Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn adlewyrchu ar y prif bwyntiau dysgu mae hi’n cymryd i ffwrdd.

Llun o swigen siarad sy'n cysylltu pobl â chymylau, lluniau a dogfennau

Ar 13 Medi mynychais ddigwyddiad a drefnwyd gan Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru o’r enw Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol. Er i mi gyfeirio ato fel cynhadledd at ddibenion cyseinedd teitl yn Saesneg, seminar ydoedd mewn gwirionedd gyda gweithdai rhyngweithiol – gyda bwyd arbennig o flasus – a gafodd ei gynnal yn Stadiwm SWALEC yng nghanol Caerdydd.

Dyma fy marn am y digwyddiad a’r chwe neges allweddol a arhosodd yn y cof, sydd, fel mae’r teitl yn ei awgrymu, â dim i’w wneud â llwyfannau digidol mewn gwirionedd…

1. Mae digidol yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl… rhaid i ni gael dealltwriaeth glir o’r hyn mae’n ei olygu i ni

Dechreuodd y digwyddiad gydag anerchiad gan yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas. Yn ei anerchiad nododd; yn gwbl gywir: “Mae digidol yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl.”

Mae hyn yn wir ac rwy’n credu bod hyn yn broblem enfawr. Pan mae’n dweud bod angen dealltwriaeth glir arnom o’r hyn y mae’n ei olygu i ‘ni’ credaf fod angen un diffiniad clir arnom y mae pawb yn ei ddeall. Dyma’r unig ffordd y gallwn gael sgyrsiau cyson a gwneud penderfyniadau cyson.

Mae Cyngor Fwrdeistref Metropolitanaidd Rotherham newydd ryddhau ei strategaeth ddigidol newydd (fel PDF) sy’n egluro bod ‘llwyfannau digidol’ yn arwain taith Rotherham i fod yn awdurdod modern. Mae’n cysylltu â strategaethau llwyfannau digidol iechyd lleol, ond ymddangos nad yw’n cysylltu â newid diwylliant ehangach na strategaeth ailgynllunio gwasanaeth. A yw digidol yn golygu’r un peth i CBF Rotherham ag y mae i SAC neu i Gyngor Sir Dyfnaint? A allwn gydweithio’n effeithiol os nad oes gennym ddiffiniad cytûn?

2. Nid ystyr llwyfannau digidol yw gwneud yr un gwaith, ond yn ddigidol

Aiff Huw Vaughan Thomas ymlaen i egluro: “Nid ystyr digidol yw gwneud yr un gwaith, ond yn ddigidol.”

Sydd yn dechrau ein symud tuag at ddiffiniad o ddigidol, ac yn awgrymu ein bod yn dechrau trafod newid diwylliant a thrawsnewid gwasanaeth, ac nid creu strategaeth ddigidol newydd.

3. Mae camgymeriadau’n anochel; rhaid i ni beidio â chilio rhag hynny

Hefyd o anerchiad Huw Vaughan Thomas. Dyma un diddorol. Petai synnwyr cyffredin yn rhywbeth go iawn mae’r datganiad hwn yn teimlo fel y byddai’n enghraifft glasurol. Wrth gwrs bod pobl yn gwneud camgymeriadau; mae’n un o’r nodweddion sy’n ein diffinio a sut rydym yn gwybod nad peiriannau ydym does bosibl? Ac eto, mae’n teimlo’n rhyfeddol o radical cael archwilydd yn sefyll i fyny ac yn dweud hyn. Mae hefyd yn teimlo’n hynod gadarnhaol a (gobeithio) yn rhyddhaol.

Rhaid i ni symud i ffwrdd oddi wrth ddiwylliant sy’n tybio y gellir ‘polisïa’ pob camgymeriadau rhag eu bod yn digwydd petawn ni ond yn llunio polisïau digon caled. Yn hytrach, rhaid i ni annog myfyrio, dysgu a chyfrifoldeb unigol. Yn ôl i newid diwylliant eto.

Ar ôl anerchiad yr Archwilydd Cyffredinol mae yna sesiwn holi ac ateb gyflym gyda’r panel. Caiff y cwestiynau cyntaf eu paratoi gan y trefnwyr, ond daw’r gweddill o blith y gynulleidfa – mae’n ddull o weithredu gwych i gael pobl i gymryd rhan ac mae’n gweithio’n dda iawn.

4. Ni allwn ‘weithredu’n ddigidol’ nes ein bod yn deall beth sydd ei angen ar ddinasyddion mewn gwirionedd

Mae fy null diseremoni o gymryd nodiadau’n golygu nad wyf wir yn gwybod pa aelod o’r panel ddwedodd hyn, ond roedd yn un ohonynt yn sicr.

Caf e-bost bob yn ail diwrnod gan gwmni datblygu meddalwedd yn dweud wrthyf sut mae eu porth cwsmer yn mynd i chwyldroi systemau swyddfa gefn ac arbed arian. Mae ganddynt hyd yn oed fideo geirda cwsmer crand sy’n cynnwys rheolwr TG awdurdod lleol yn egluro sut mae’r trawsnewid digidol hwn wedi arbed cymaint o arian iddo ac wedi tacluso ei holl systemau swyddfa gefn, a does neb byth yn crybwyll anghenion defnyddwyr.

Ni allwn roi adnoddau digidol ar waith nes ein bod yn gwybod bod eu hangen arnom a’u bod yn datrys y broblem gywir – a gallwn ond gwneud hyn os ydym yn siarad â’n dinasyddion? Yn ddiau gallwn ond gwneud hynny os ydym yn cyfleu ein diben yn glir a’n bod yn deall pam ein bod yn gwneud unrhyw beth o gwbl? Beth sydd ei angen arnom yw newid diwylliant a dull gweithredu gwahanol ar gyfer deall ein dinasyddion.

5. Nid problemau technoleg yw’r rhain… galluogydd yw llwyfan digidol. Ni fydd prynu llwyth o iPads yn newid eich diwylliant.

Dyfyniad hynod glir gan yr Athro Tom Crick yn ei weithdy Gweithlu digidol gymwys, digiol alluog. I mi mae’r sesiwn hon yn codi rhai cwestiynau gwirioneddol ddiddorol am alluoedd digidol.

  • A oes yna safon ddigidol sylfaenol y mae angen i’n gweithlu ei chyrraedd?
  • Os oes, oni ddylai fod yn rhan o’n disgrifiadau swydd?
  • A oes gennym hierarchaeth o allu digidol yn ein gweithlu gydag ‘elît’ digidol sydd â llawer o sgiliau ac sy’n gweithio mewn ffyrdd tra gwahanol i’r gweddill sydd y tu ôl iddynt?
  • Sut ydym yn gwneud yn siŵr bod staff yn dysgu sgiliau digidol newydd yn hytrach na dysgu sut i ddefnyddio darnau o feddalwedd patent ar wahân?
  • A oes gennym uwch arweinwyr sy’n gwybod digon am lwyfannau digidol i wneud y math yma o benderfyniadau?
  • A oes angen haciwr cymwynasgar ar bob sefydliad ar y prif fwrdd, sy’n meddu ar rym go iawn?

Sy’n golygu mae’n debyg bod angen i ni edrych ar newid ein diwylliant o ran hyfforddiant staff a recriwtio.

Hefyd yn y gweithdy hwn rwy’n rhannu stori am ddarn o waith a wnaethom o dan y pennawd ‘gofynnwch am faddeuant, nid caniatâd’ sy’n gwneud i geg cyfranogwr arall agor mewn sioc yn llythrennol.

6. A allwch adeiladu timau prosiect amlddisgyblaeth, hyblyg a all weithio’n rhyngweithiol?

Ar gyfer y sesiwn olaf mynychais y gweithdy Dysgu o Rwydwaith Arloeswyr Digidol a gafodd ei gynnal gan Jess Hoare ac Amy Richardson o Y Lab sy’n cynnwys malws melys a sbageti.

Mae Y Lab yn labordy arloesed ar gyfer y sector cyhoeddus a grëwyd gan Nesta ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd. Mae ganddynt rai adnoddau ymarferol, gwych – y mae’r rhan fwyaf ohonynt ar gael ar wefan Nesta.

Mae’r gweithdy yn cynnwys sesiwn ateb cwestiynau cyflym gyda rhai cwestiynau pryfoclyd fel ‘[Yn eich sefydliad] Beth yw rôl ganfyddedig TG?’ ac ‘A allwch adeiladu timau proseict amlddisgyblaeth, hyblyg a all weithio’n rhyngweithiol?’. Yna rydym yn nodi problem ddigidol a defnyddio adnoddau Nesta, a chymorth a mewnbwn gan Jess ac Amy, i ddatrys y mater.

Yn weddol gyflym rydym yn dechrau trafod cyfleu’r broblem, nodi defnyddwyr, deall anghenion a chasglu tystiolaeth. Rydym yn treulio gweddill y sesiwn yn edrych, yn ei hanfod, ar ail-ddylunio’r gwasanaeth a’r prosesau.

Y broblem gyda thrawsnewid digidol

Gwnaeth pob sgwrs a gefais yn y digwyddiad hwn a ddechreuodd gyda thrawsnewid digidol orffen gydag edrych ar newid diwylliant a thrawsnewid systemau.

Credaf fod angen i ni gael diffiniad cytûn o ystyr digidol a daeth yn amlwg yn ystod y digwyddiad hwn fod llawer o bobl – ond yn sicr nid pawb – yn deall mai galluogydd yw llwyfannau digidol ac nid y diben ynddo’i hun. Baswn i’n dweud nad oes angen strategaethau digidol arnom (sori Rotherham) ond yn hytrach mae angen strategaethau trawsnewid systemau sy’n cynnwys galluogwyr digidol arnom. Mae angen i ni ddechrau gyda diben a dechrau gyda defnyddwyr a deall beth yw ein diben a beth sydd eu hangen arnynt.

Credaf fod cyfle go iawn yma. I ddechrau sgyrsiau am drawsnewid digidol a, drwy ddigwyddiadau fel hyn, dangos sut mae’n rhaid i’r sgwrs symud i fod yn un am drawsnewid systemau.

Mae Cyfnewidfa Arfer Da SAC yn cynllunio rhagor o ddigwyddiadau yn y gyfres hon a byddai’n wych eu gweld yn herio cyfranogwyr i feddwl am y ffordd rydym yn defnyddio llwyfannau digidol fel catalydd ar gyfer newid sefydliadol gwirioneddol – ac nid dim ond prynu llwyth o iPads.

Beth nesaf?

Blogbost gwadd gan Alastair Blair o The Potent Mix, sy’n adlewyrchu ar Seminar Dysgu a Rennir Rhoi Rhinwedd i’r Rhithwir. Gallwch weld y blogbost wreiddiol yma, a gallwch weld Alastair a siaradwyr eraill yn trafod y digwyddiad yn y fideo isod.

Mewn byd trefnus, mae’r Cynghorau yng Nghymru (a Lloegr) a chyrff cyhoeddus eraill yn dysgu sut i arbed arian yn yr un ffordd ag y mae Cynghorau yn yr Alban wedi’i wneud, ac yna maent yn mabwysiadu porth sy’n debyg i tellmescotland.

Yn y byd go iawn, mae’n werth edrych ar beth sydd wedi digwydd. Hyd yn oed yn yr Alban, er bod 80% o’r Cynghorau wedi mabwysiadu rhywfaint o’r mesurau a ddysgwyd o’u hyfforddiant gan thePotentMix neu bob un ohonynt, mae nifer fach heb wneud unrhyw beth o hyd ac yn arbed dim o ganlyniad. Mae degau ar filoedd o bunnoedd i’w harbed o hyd, ar ben y cannoedd ar filoedd sydd eisoes wedi’u harbed. Yn eironig, mae’r rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol hyn wedi ymddangos ar dudalen flaen eu papur lleol o dan y pennawd ‘Rhaid i’r Cyngor arbed miloedd’, gyda dyfyniad i ddilyn gan swyddog i’r perwyl ‘rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i arbed arian’. Nac ydyn wir, ac hefyd, os nad ydyn nhw’n arbed arian yn y maes bach hwn y mae gennyf ddealltwriaeth ohono, ym mha feysydd eraill maen nhw’n gwneud hynny?

Mae’r mwyafrif helaeth o’r Cynghorau yn yr Alban bellach yn defnyddio www.tellmescotland.gov.uk ac mae nifer gynyddol o gyrff cyhoeddus eraill yn yr Alban yn gwneud hynny hefyd. Fodd bynnag, mae lleiafrif bach wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl i ymgyfarwyddo â’r porth a chael hyfforddiant i’w ddefnyddio. Mae’n bwynt gwerthu unigryw – sef y ffaith ei fod yn hysbysu dinasyddion beth sy’n mynd ymlaen, yn ei gwneud yn llawer gwell nag unrhyw system arall sy’n bodoli, lle y mae angen i’r cyhoedd geisio gwybodaeth am hysbysiadau cyhoeddus, naill ai ar wefan Cyngor neu drwy hysbyseb neu boster ar bolyn lamp. Yn ogystal, nid yw’n anodd ei ddefnyddio: yn Glasgow, y Cyngor mwyaf yn yr Alban, mae’r adran gynllunio yn llwyddo i lanlwytho pob un o’i hysbysiadau i tellme mewn cyn lleied â deg munud yr wythnos.

Mae’r Gwasanaeth Gwella yn yr Alban wedi ceisio mynd â’r neges i’r llywodraeth i’r de o’r ffin, fel rwyf innau hefyd wedi ceisio ei wneud. Mae’r ymateb wedi bod yn dawel iawn ar y cyfan (ar wahân i ambell eithriad). Mae’r cynnig yn un syml – gwnewch hyn ac mi fyddwch yn arbed arian, yn gwella cyfathrebu, yn ticio’r blwch ‘newid cyfrwng‘ hollbwysig hwnnw ac yn diogelu eich system hysbysebu hysbysiadau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth mor hawdd i’w gyflawni, ac eto, mae gormod o bobl, ar bobl lefel (ac rwyf i wedi cyfathrebu/siarad â Chyfarwyddwyr, Cadeiryddion, pobl mewn adrannau cyfathrebu, caffael ac ati, mewn nifer o gyrff cyhoeddus mawr – hyd yn oed y DCLG) mor amharod i wneud hynny.

Fodd bynnag, i’r diwydiant papurau newydd, mae anfodlonrwydd rhai yn y sector cyhoeddus i newid yn rhoi gobaith y bydd yr arian yn parhau i lifo i mewn am gryn amser i ddod. Maen nhw’n iawn i obeithio hynny. O’m profiad helaeth i yn delio â’r sector cyhoeddus ledled y DU, mae gormod o unigolion nad ydynt am newid, ac o ganlyniad, mae newid yn araf ac yn ysbeidiol. Ond ar adeg pan fo’n rhaid i’r sector cyhoeddus arbed arian, gwella gwasanaethau a’u diogelu ar gyfer y dyfodol, mae hyn yn anfaddeuol ac mae’n cael ei weld yn gynyddol fel hyn.

Yn baradocsaidd, i rywun sydd â chefndir yn y sector preifat (fel swyddog gweithredol yn y diwydiant papurau newydd), mae’r amharodrwydd hwn i newid yn anodd iawn ei ddirnad. Yn wir, y sylw mwyaf cyffredin gan ffrindiau yn y sector preifat yw y byddai angen i’r pechadur ateb cwestiynau lletchwith iawn petai ei gwmni’n colli’r diddordeb hwn mewn mabwysiadu proses gadarn o arbed arian.

Fodd bynnag, mae llygedyn o obaith ar y gorwel, i Gymru o leiaf. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, yr ymddengys yn aml fod ganddi gylch gwaith blaengar a rhagweithiol, wedi clywed am waith y Gwasanaeth Gwella a’i bartneriaid yn y sector preifat yn yr Alban ac mae’n cymryd camau i gyflwyno hyn yng Nghymru. Mae cynllun peilot yn Wrecsam ar y trywydd iawn i arbed y Cyngor tua 40% o’i gostau hysbysebu blaenorol. Mae cyfarfodydd pellach wedi’u cynllunio ar draws y wlad a’r gobaith yw y bydd y cyhoeddwyr yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus yno hefyd i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr. O ystyried, yn breifat, ar lefel uchel iawn, bod cyhoeddwyr yn derbyn y bydd refeniw hysbysebu hysbysiadau cyhoeddus, un diwrnod, yn darfod, yr hyn sy’n bwysig yw’r hyn sy’n digwydd yn y cyfamser. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd.

Alastair Blair
The Potent Mix

Rôl Graffu y Cynghorydd Rhwydwaith

CraffuTuag at ddiwedd blwyddyn ddiwethaf mi wnes i redeg un neu ddau o sesiynau Rhwydwaith Cynghorydd mewn cynhadledd Craffu wych a gafodd ei drefnu’n dda yng Nghymru. Un o’r pethau sy’n creu argraff arnaf i pan rwy’n ymweld â Chymru yw’r ymrwymiad gwirioneddol tuag at ddysgu amdano a ffeindio arfer da o fewn llywodraeth genedlaethol a lleol. Un o’r ffyrdd mae’r gynhadledd hon yn gwneud hyn yw trwy ofyn i bob un o’r hwyluswyr i gyfrannu blogbost dilynol. Dyma, yn hwyr braidd, fy ymdrech i.

Yn fy marn i o leiaf, y peth cyntaf i nodi yw’r cyswllt cryf sydd rhwng y meddylfryd y tu ôl i’r Cynghorydd Rhwydwaith a’r cyfleoedd mae’r swyddogaeth graffu yn cynnig i ffeindio ffyrdd o wneud pethau’n wahanol. Mae hyn yn hyd yn oed yn fwy gwir yng Nghymru, lle mae Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi agor i fyny sut gallwch gyrchu’r swyddogaeth craffu o fewn llywodraeth leol. Fel canlyniad, mae llawer o waith yn cael ei wneud yng Nghymru i archwilio ffyrdd y gallwn gynnwys y cyhoedd yn well yn y broses o atebolrwydd.

Yr hyn rwy’n gwerthfawrogi am y gynhadledd – ac sydd wedi aros gyda mi – oedd y pwyslais ar yr angen i greu diwylliant o atebolrwydd. Un o’r sesiynau mwyaf pwerus i mi oedd Ymchwiliad Cyhoeddus Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ganol Swydd Stafford, gan fod cymaint o’r methiannau yn dod lawr i ymddygiad sefydliadol yn hytrach na jyst y broses neu ddata.

Bwriad y Cynghorydd Rhwydwaith yw ffeindio ffyrdd o newid ymddygiad a rhoi safbwyntiau ymarferol i gyfranogwyr. Man cychwyn y rhaglen yw’r angen am gynrychiolwyr sy’n rhwydweithiol, agored, cyd-gynhyrchiol ac sy’n frodorol yn ddigidol. Mae’r rhain yn cael ei gyflwyno yn bwrpasol fel ymddygiadau yn hytrach na rhestr wirio o sgiliau technegol. Os ydyn ni’n rhoi’r un agweddau diwylliannol i’r broses ddemocrataidd, yna mae’n amlwg bod rhain yn ffitio’n dda gyda’r cyfle yma i gynnig ymgysylltiad trwy’r broses o graffu i’r cyhoedd. Dychmygwch broses graffu sy’n wirioneddol agored, sy’n bodoli fel rhan o rwydwaith o sgyrsiau a chyfranogiad, ac sy’n gwneud synnwyr i gymdeithas sy’n fwyfwy digidol a rhwydweithiol.

Mae Cymru eisoes yn rhwydweithio’n dda iawn, ac er fydd adroddiad Williams a’r ad-drefniad sy’n dilyn yn amharu ar natur y rhwydweithiau hynny, nid yw’n mynd i newid y ffaith yma. Oherwydd hyn rwyn credu ei fod yn le ddelfrydol i ni ystyried beth all digwydd os ydyn ni’n cael màs critigol o gynghorwyr rhwydwaith, a lle gallwn ddechrau gofyn cwestiynau am beth gall democratiaeth rwydwaith edrych fel. Mae Cymru’n arbrofi gyda’r ffordd mae’n gwneud penderfyniadau, y ffordd mae llywodraeth yn gweithio gyda’r cyhoedd, ac mewn ffordd real iawn y ffordd y mae’n trefnu isadeiledd llywodraeth – beth am feddwl am sut y gallem gynllunio system ddemocrataidd ar gyfer y gymdeithas rhwydwaith?

Byrddau Cytbwys

Seminar Dysgu a Rennir Ynglŷn ag Ymddiriedolwyr

Fe wnaeth weithdy Norma Jarboe ar Fyrddau Cytbwys yn ein Seminarau Dysgu a Rennir diweddar ar gyfer Ymddiriedolwyr arwain ato sawl enghraifft o arfer da. Rhannodd Norma syniadau amdano’r pwysigrwydd o gael bwrdd cytbwys, a hefyd ystadegau gwnaeth atgyfnerthu rhai o’i negeseuon allweddol, a gallwch gweld Norma’n trafod rhai o’r rhain isod.

Yn ystod y gweithdy fe wnaeth rhai mynychwyr rhannu rhai o’u dulliau gyda phawb arall oedd yn y gweithdy. Fe wnes i dal fyny gyda rhai o’r rhain ar ôl y gweithdy er mwyn casglu eu sylwadau.

Hoffwn ddiolch i Bernadette Fuge, Cadeirydd Age Cymru, Ray Singh, Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a Joanne Moore, sy’n Rheolwr Adnoddau Dynol a Llywodraethu ar gyfer Anabledd Dysgu Cymru, gan fod nhw wedi rhoi o’u hamser fel ein bod ni’n gallu rhannu eu gwybodaeth mor eang â phosibl.

Bernadette Fuge

Rhannodd Bernadette Fuge sut wnaeth Age Cymru cael bwrdd sydd gyda’r sgiliau angenrheidiol i adlewyrchu’r cyfeiriad mae’r mudiad yn mynd, ac fe wnaeth Ray Singh rhannu dull Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Felindre hefyd. Mae Joanne Moore o Anabledd Dysgu Cymru wedi rhannu’r newidiadau maen nhw wedi gwneud i ehangu amrywiaeth eu bwrdd, yn benodol sut maen nhw wedi recriwtio ymddiriedolwyr newydd a’r math gwahanol o gyfryngau maen nhw’n defnyddio i gyrchu grwpiau nas clywir yn aml. Ar y pwynt ‘ma’n y gweithdy roedd sawl person yn brysur yn ysgrifennu rhai o awgrymiadau Joanne i lawr. Mae sylwadau hi ar gael yn y podlediad yma.

Roedd e’n ymddangos bod cyfethol ymddiriedolwyr yn ffordd boblogaidd o bontio rhai bylchau sgiliau penodol.

Ray Singh of Velindre NHS Trust / Ray Singh o Ymddiriedolaeth GIG Velindre

Roedd rhai mynychwyr yn cael trafferth ‘da’r cyfyngiadau amser o ran y cyfnodau roedd aelodau yn gallu treulio ar fyrddau, gyda rhai pobl yn rhannu sefyllfaoedd ble roedd aelodau’r bwrdd wedi bod yna am fwy na 17 mlynedd . Rhannodd Ray Singh, Aelod Annibynnol o Fwrdd Ymddiriedolaeth GIG Felindre, eu hagwedd nhw ato hwn, ac fe wnaeth Bernadette Fuge rhannu dulliau Age Cymru hefyd.

Mae Age Cymru wedi rhoi dull diddorol iawn ar waith, ble maen nhw wedi dechrau cynnal gwerthusiadau blynyddol ar gyfer yr ymddiriedolwyr ar ei fwrdd. Mae Bernadette wedi rhoi manylion bellach yn y podlediad yma.

Mynegodd sawl person yn y gweithdy eu rhwystredigaeth am eu hanallu i gyrchu rhai grwpiau nas clywir yn aml. Rhannodd Joanne Moore rhai o ddulliau Anabledd Dysgu Cymru. Os nad oeddech chi yn y gweithdy ‘ma, dyma beth oedd ganddi i’w ddweud.

Learning Disability Wales / Anabledd Dysgu Cymru

Gobeithio bod y blog ‘ma wedi rhoi ychydig o flas i chi am y wybodaeth ddefnyddiol rhannwyd yn y gweithdy Byrddau Cytbwys. Mae ‘da ni mwy o wybodaeth i rannu ‘da chi yn dilyn ein seminar yng Ngogledd Cymru, felly cadwch lygaid arno’r blog ‘ma!

Ena

Jyst Gweithdai WordPress / Just WordPress Workshops

Bydd Tanwen Grover a Dyfrig Williams o dîm y Gyfnewidfa Arfer Dda yn cynnal sesiwn ar blogio yn y 3ydd sector a’r sector cyhoeddus yn ddigwyddiad nesaf Defnyddwyr WordPress Cymru, sef Jyst Gweithdai WordPress. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Tanwen Grover and Dyfrig Williams from the Good Practice Exchange Wales are holding a session on blogging in the public and third sectors at the nest WordPress Users Wales Event – Just WordPress Workshops. Click here for further information.