Tag Archives: meddwl ar ffurf systemau

Sut allwn annog partneriaid i gefnogi dull gweithredu amlasiantaeth?

Arweiniodd Simon Pickthall o Vanguard Consulting weithdy yn ein digwyddiad ar Ddylunio gwasanaethau effeithiol ar gyfer aml-ddefnyddwyr. Isod mae Simon yn edrych ar sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i wella’r gwasanaethau y mae pobl yn eu derbyn.

Llun o Simon Pickthall o Vanguard Consulting

Simon Pickthall o Vanguard Consulting

Mae’r cwestiwn yn un cyffredin. Mae pobl wedi bod yn ceisio annog partneriaid ers blynyddoedd i gydweithio er mwyn mynd i’r afael ag anawsterau cyffredin. Fodd bynnag, yn aml mae’r ymdrechion hyn yn rhwystredig iawn, ac yn llafurus, er gwaetha’r ffaith bod y rhan fwyaf o bobl yn cydnabod ei fod yn syniad synhwyrol. Yn ogystal, nid yw datrysiadau a dulliau gweithredu sydd â llu o gefnogaeth academaidd dros nifer o flynyddoedd yn cael eu gweithredu gan sefydliadau.

Mae rheswm amlwg pam bod ceisio perswadio eraill i wneud rhywbeth gwahanol yn anodd iawn – ein tybiaeth yw bod angen i ni berswadio pobl drwy ddulliau rhesymegol.

Enghreifftiau o ddulliau rhesymegol yw adroddiadau, cyfarfodydd, sesiynau ystafell ddosbarth, sioeau sleidiau, gweithdai, sgyrsiau ac ati. Maent yn cynnwys siarad â pherson arall a cheisio ei berswadio i wneud rhywbeth, neu i roi’r gorau i wneud rhywbeth. Mae’r dulliau gweithredu hyn yn hynod o gyffredin mewn trafodaethau amlasiantaeth, lle defnyddir amserlenni cyfarfodydd i ddatblygu syniadau a chynlluniau.

Y drafferth gyda dulliau gweithredu rhesymegol yw eich bod naill ai’n pregethu i’r cadwedig – gan wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu trin yn nawddoglyd, neu’n codi gwrychyn y rhai nad ydynt yn cytuno â chi. Os bydd rhywun yn anghytuno, ni fydd unrhyw ddadl, data nac ymchwil yn newid ei feddwl. Rwy’n siŵr ein bod i gyd wedi profi hyn yn ystod ein bywydau.

Dull gweithredu amgen yw bod yn gymhellol – ‘gwnewch hyn neu cewch eich cosbi, mwy o drafferth, ac ati’. Yn yr un modd, mae ‘gwnewch hyn a chewch eich gwobrwyo’ yn ddull cymhellol.

Y drafferth gyda’r dull cymhellol yw y bydd pobl ond yn gwneud yr hyn sy’n rhaid iddynt ei wneud er mwyn osgoi’r gosb neu gael y wobr. Nid ydych wedi newid eu safbwynt nac wedi creu ymrwymiad i newid. Fel y cyfryw, gall cynnydd fod yn araf tu hwnt, heb fawr ddim momentwm.

Ffordd arall, fwy effeithiol o helpu pobl i gytuno i gydweithio, yw iddynt rannu’r hyn a elwir yn brofiad normadol. Gellir disgrifio profiad normadol fel profi rhywbeth yn uniongyrchol eich hun. Er enghraifft, rhedeg drwy gyfres o ffeiliau achos o amrywiol sefydliadau i ddangos sut brofiad ydyw i berson fynd drwy ein systemau. Mae ymweld â phobl yn eu cartrefi i ofyn iddynt am eu profiadau wrth ddefnyddio ein gwahanol systemau hefyd yn bwerus. I’r rhai sydd â diddordeb yn nharddiad y dull hwn o weithredu, mae’n werth darllen The Planning of Change.

Mantais newid normadol yw bod pobl yn dueddol o brofi ymateb emosiynol i’r hyn maent yn ei weld a’i brofi. Mae’n aros gyda nhw, ac yn creu ymrwymiad pwerus i newid. Fel y cyfryw, mae blaenoriaeth dull gweithredu amlasiantaeth yn codi, wrth i unigolion ddymuno datrys y problemau maent wedi bod yn dyst iddynt.

Felly, eir i’r afael â’r rhwystrau i ddulliau gweithredu amlasiantaeth yn gynt. Wrth gwrs, mae’n bwysig bod y rhai sydd â’r awdurdod i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn ymhob sefydliad yn ymgymryd â’r profiad normadol, a bod gennych Ddull profedig o ymgymryd â’r newidiadau sydd eu hangen unwaith y bydd pawb yn gytûn. Nid oes diben mynd â phobl ar brofiad normadol heb Ddull o ddatrys y problemau y maent yn eu canfod. Mae’r wefan isod yn fan gwych i ddechrau ystyried Dull. Yn ogystal, mae’r llyfr Responsibility and Public Services gan Richard Davis yn lasbrint clir a llawn gwybodaeth ar gyfer mynd â’r gwaith hwn yn ei flaen.

O ystyried hyn, efallai yr hoffech fyfyrio ar eich strategaeth ar gyfer annog cefnogi dull gweithredu amlasiantaeth. Efallai yr hoffech ystyried symud o geisio perswadio pobl mewn ffordd resymegol, i gynllunio profiadau normadol ar gyfer yr arweinwyr cysylltiedig. Gall hyn gael effaith ddramatig ar gyflymder y newid.

Newid Meddylfryd – Newid Bywydau

Gweithiodd Simon Pickthall yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am sawl blwyddyn cyn ffurfio Vanguard Consulting Wales yn 2007, gan weithio gyda’r Athro John Seddon, sy’n enwog am fod yn feddyliwr rheoli. Mae Simon wedi bod yn ffodus i weithio gyda llawer o arweinwyr er mwyn eu helpu i ddeall eu sefydliadau gan ddefnyddio Dull Vanguard – a’u gwella o ganlyniad i hynny. Roedd Simon yn ddigon ffodus i weithio ar Adolygiad Munro o drefniadau Gwarchod Plant, ac mae’n ymrwymedig i helpu’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Simon.pickthall@vanguardwales.co.uk
07951 481878
www.vanguard-method.com

Pam rydyn ni’n ffocysu ar wella gwasanaethau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’n rheolaidd

Llun o swigen siarad a'r teitl o Ddylunio gwasanaethau effeithiol ar gyfer aml-ddefnyddwyr

Pam fod Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal seminarau sy’n canolbwyntio ar aml-ddefnyddwyr? Isod mae Dyfrig Williams yn amlinellu ein meddylfryd a pham mae gwasanaethau cyhoeddus effeithlon yn canolbwyntio ar ddinasyddion.

Mae rhaglen gwaith Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

  • Deddfwriaeth newydd a datblygiadau arwyddocaol sy’n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus
  • Gwaith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru
  • Pynciau sy’n cael eu nodi drwy ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol

Yn achos ein seminar ar Ddylunio gwasanaethau effeithiol ar gyfer aml-ddefnyddwyr, roedd y cynllun yn gyfuniad o’r tri.

Deddfwriaeth

Os ydych chi wedi mynychu unrhyw un o’n seminarau diweddar, byddwch wedi clywed Archwilydd Cyffredinol Cymru yn siarad am sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn newid mawr ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymreig. Mae’r ddeddf yn meddwl ei fod yn ofynnol i sefydliadau i integreiddio a chydweithio; i feddwl am atal a’r tymor hir; ac i gynnwys pobl.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn atgyfnerthu hyn drwy ganolbwyntio ar bobl, lles, atal, partneriaeth ac integreiddio. Mae’r amgylchedd gwasanaeth cyhoeddus cyfredol yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion. Os ydych chi’n edrych i ailwampio eich gwasanaeth er mwyn diwallu’r ffocws hyn, yna mae’r deddfau yma’n rhoi fframwaith a sail resymegol i chi dros newid.

Gwaith archwilio

Cysylltodd ein cydweithwyr o dîm Archwilio Iechyd â ni amdano’r cynnal y seminar yma ar Ddylunio gwasanaethau effeithiol ar gyfer aml-ddefnyddwyr achos roedden nhw’n gwneud gwaith archwilio ar sut mae cyrff yn comisiynu’r Gwasanaethau Ambiwlans ar frys. Ysgrifennodd Fflur Jones blogbost gwych ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru ar weithio gyda chriw ambiwlans Cymru am nos, lle dywedodd hi:

“Roedd y galwadau’n amrywio o’r arferol i’r eithafol: o’r person a ffoniodd nad oedd angen unrhyw driniaeth frys a oedd wedi cysylltu â’r gwasanaeth am y trydydd tro’r noson honno i glaf yn dioddef o anafiadau a oedd yn newid bywyd o ganlyniad i wrthdrawiad ar y ffordd. Cefais fy sicrhau nad yw bywyd parafeddyg byth yn ddiflas.

“Nid galw ambiwlans yw’r dewis cywir bob tro a gall dewisiadau amgen eraill, megis fferyllfeydd a gwasanaethau y tu allan i oriau ganiatáu i gleifion gael eu gweld yn gynt a chaniatáu i ambiwlansys ymateb i’r achosion sydd eu hangen fwyaf. Dysgodd i mi hefyd fod yr angen i’r sector cyhoeddus weithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaethau gwell ac i ddarparu gwasanaethau i anghenion nas diwallwyd ac i lenwi bylchau yn y gwasanaeth mor bwysig ag erioed.”

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da hefyd wedi bod yn gweithio ar ein darn o waith archwilio cyntaf ar newid ymddygiad, lle rydym wedi gweithio gydag Arfer Da Cymru a sefydliadau eraill ar ddigwyddiadau ym Mangor ac Abertawe. Gall technegau Newid Ymddygiad gwella gwasanaethau cyhoeddus pan fo gofynion cynyddol arnynt drwy alluogi pobl i ddewis y gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir.

Mae adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn creu darlun llwm o’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus a ddatganolwyd. Mae’r adroddiad yn dangos bod gwasanaethau cyhoeddus wedi wynebu pwysau ariannol, galw a capasiti sylweddol a chynyddol ers yr adroddiad blaenorol yn 2011. Dyma rhai o’r prif negeseuon:

  • Mae sefydliadau mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddynt gymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n dda er mwyn diwygio gwasanaethau mewn ffordd radical i gael ateb cynaliadwy i’r pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus o ran galw ac ariannu
  • Mae yna rwystrau i ail-lunio gwasanaethau mewn ffordd radical, gan gynnwys rhwystrau gwleidyddol a diwylliannol, ac mae angen gwaith caled i’w goresgyn
  • ‘Yr hyn sy’n cael ei fesur sy’n cael ei reoli’ – tra bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn mabwysiadu mesurau ‘canlyniadau’ yn fwyfwy, mae tuedd o hyd i fesur a rheoli faint o weithgarwch sy’n digwydd a faint o amser y mae’n ei gymryd.
  • Rhaid i wasanaethau cyhoeddus gydweithio drwy’r dewisiadau anodd, pennu blaenoriaethau clir a chyson, deall yr effeithiau byrdymor a hirdymor ar y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus eraill a lliniaru’r effeithiau hynny lle y bo’n bosibl.

Felly o safbwynt economaidd mae’r achos dros newid yn glir. Bydd gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i wastraffu adnoddau gwerthfawr os nad ydynt yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaethau mae pobl wir eisiau.

Ac i mi dyma elfen graidd y mater – mae rhaid i wasanaethau fod yn addas i’w ddibenion er mwyn iddynt ddarparu beth y mae pobl wir eisiau. Ar fy niwrnod olaf o weithio i Gyfranogaeth Cymru ysgrifennais mai gweithio gyda’r Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol oedd y gwaith mwyaf boddhaol a wnes i yn fy mywyd. Roedd gweithio gyda phobl a oedd yn herio systemau achos roedden nhw’n meddwl y dylai ac y gallai pethau fod yn well yn anhygoel. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda thimau, prosiectau a mudiadau gwych ers gweithio i’r Gyfnewidfa Arfer Da, ond yn anffodus mae’r gwasanaethau hyn yn dal i fod yn eithriad yn hytrach na’r arfer.

Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol

Mae pob un o’n digwyddiadau yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda rhanddeiliaid amrywiol, ac nid yw’r digwyddiad yma yn eithriad. Fe fydd yna siaradwyr o awdurdodau lleol, byrddau iechyd, Gwasanaeth Ambiwlans, y Gwasanaeth Tân a Chomisiynydd Pobl Hŷn. Ond yn fwy na dim, bydd y digwyddiad yn edrych i rannu arfer da o brofiadau cynadleddwyr ac fe fydd yna gyfle i edrych ar y materion y mae pobl yn eu hwynebu er mwyn gwneud y fwyaf o’r arbenigedd cyfunol sydd ar gael yn y digwyddiad.

Byddwn hefyd yn sicrhau bod ffocws y digwyddiad ar yr hyn y mae pobl am ei gael o wasanaethau. Meddyliais yn syth am weithdy yn ein seminar ar Ail-lunio Gwasanaethau gyda’r Cyhoedd wrth i mi roi’r digwyddiad at ei gilydd. Rhannodd Simon Pickthall o Vanguard sut mae ymyriadau traddodiadol wedi methu achos maent yn canolbwyntio ar gynnal prosesau sefydliadol. Mae hyn yn arwain at aneffeithlonrwydd. Mae’r aneffeithlonrwydd yma’n amlwg wrth i ni feddwl am sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio – mae pobl yn ffitio i mewn i seilos mudiadau, yn hytrach na bod sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd i gwrdd ag anghenion pobl. Rhoddodd Simon drosolwg o’i weithdy am 06:37 yn y fideo isod.

Mae’r astudiaeth achos ar Stoke-on-Trent yn adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus (p.108) yn enghraifft o’r dull y bydd Simon yn rhannu. Gan ein bod ni’n gorff archwilio, ni fyddwn yn dweud wrth bobl beth i’w wneud neu ei chyfarwyddo i ddefnyddio dulliau penodol. Nid ydym yn credu mewn dull un maint i bawb – rhaid edrych ar y gwaith da y mae sefydliadau eraill yn ei wneud a meddwl am sut y gallem addasu’r dulliau hynny i weddu anghenion pobl yn ein hardaloedd. Ac os allant wneud hynny, yna fe fydd cyrff mewn sefyllfa well i gyflwyno’r gwasanaethau gorau posibl i bobl Cymru.

Sut mae Cyngor Gwynedd yn meddwl ar ffurf systemau

Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn edrych ar sut allai ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol. Siaradodd Dyfrig Williams â Dilwyn Williams, Prif Weithredwr y Cyngor i weld beth allwn ddysgu o’r gwaith yma.

Ffotograff o Dilwyn Williams

Dilwyn Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd

Cyflwynwyd dull meddwl ar ffurf systemau i Dilwyn Williams a Chyngor Gwynedd yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rai blynyddoedd yn ôl. Mae’r dull yn cael ei ddefnyddio gan sefydliadau gwasanaeth i ganolbwyntio’r meddwl sefydliadol ar beth sy’n bwysig i drigolion a sut allwn gael gwared a rhwystrau systemig sy’n atal staff (sydd yn aml yn gydwybodol) rhag cyflawni hynny. Mae’r dull hefyd yn ceisio newid meddylfryd gorchymyn a rheoli i ddull arfogi wrth ddylunio a rheoli gwaith. Penderfynwyd cynnal seminarau ar y dull i aelodau a swyddogion, ac arweiniodd hyn at wneud gwaith penodol ar ddigartrefedd a chynnal a chadw adeiladau.

Fe wnaeth y seminarau yma gofyn cwestiynau caled am y ffordd roedd Cyngor Gwynedd yn darparu gwasanaethau:

  • Ydy’r gwasanaethau’n wir ffocysu ar anghenion dinasyddion?
  • Sut ellir goresgyn rhai o’r anawsterau sy’n meddwl nad yw’r sefydliad yn gallu perfformio i’r eithaf, megis trefniadau gwaith hanesyddol a gorbwyslais ar risg a chyllidebau?

Gofynnir i staff ystyried bob tro ‘Beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd?’ a phenderfynwyd mesur hynny yn hytrach na’r canlyniadau traddodiadol. Wrth ofyn i ddefnyddwyr gwasanaethau sgorio gwasanaeth y gorffennol bu’r Cyngor yn defnyddio’r ffaith fod y cyfartaledd sgôr yn symud o 7 i 8 yn brawf o berfformiad da ond bellach tra bod y sgôr yn rhoi syniad o lefel gymharol o berfformiad, y cwestiwn pam nad yw’n 10 yw’r cwestiwn sylfaenol y gofynnir i bawb ystyried ac a yw’r rheswm hwnnw yn rhywbeth y gallwn wneud rhywbeth amdano. Mae hyn yn gorfodi newid mewn diwylliant a meddylfryd newydd, drwy symud o weld rheoli perfformiad yn llai o broses cymharu rhifau i fod yn fwy o gyfundrefn edrych am gyfleoedd gwella. Fel dywedodd Dilwyn, ‘Y pam sy’n bwysig – pam dim 10? Dyma’r cyfle i wella.’

Prosiectau peilot

Fe lwyddodd y prosiect cynnal a chadw, ac mae nawr ganddynt fesurau gwahanol nag o’r blaen. Daeth yn glir o’r gwaith paratoadol mai’r mesurau pwysig i ddefnyddwyr y gwasanaeth oedd cyflymder gwneud y gwaith a bodlonrwydd gyda’r gwaith a sut y gwnaethpwyd ef. Mae’r lefel o fodlonrwydd yn cynnig cyfle clir am welliant trwy ofyn y cwestiwn ‘Pam nad yw’n 10?’

Ar yr un pryd a gwella’r gwasanaeth, arweiniodd hyn i’r Cyngor safio arian trwy stopio anfon arolygwyr allan i edrych a nodi beth oedd angen ei wneud. Nawr dywedir wrth gontractwyr i fynd yno a thrwsio beth sydd angen ei wneud ar sail perthynas o ymddiried, ac os yw’r contractwyr yn bradychu’r ymddiriedaeth yna, yna’n amlwg mae yna oblygiadau i hynny.

Ni wnaeth y prosiect digartrefedd gweithio cystal efallai, ond nid oherwydd ymdrechion y timau fu’n ymwneud ag ef ond yn fwy efallai oherwydd methiant arweinyddiaeth. Ond fe ddysgodd y Cyngor lot mwy o beth wnaeth ddim gweithio drwy hynny ac amlygwyd pwysigrwydd arweinyddiaeth dda.

Sut rhoddwyd y dysgu ar waith

Deilliodd Strategaeth Ffordd Gwynedd o’r 2 prosiect peilot, sy’n cymryd beth ddysgodd y Cyngor o brofiad Vanguard a’i roi ar waith yng nghyd-destun y diwylliant lleol. Mae Ffordd Gwynedd yn ymddangos ar agenda cyfarfod y Penaethiaid Gwasanaeth pob mis, gan fod perchnogaeth Uwch Arweinyddiaeth yn hollbwysig. Nawr pan mae ymyraethau yn cymryd lle, mae’r gwaith yn dechrau gyda’r pennaeth ac mae sesiwn briffio yn cael ei chynnal gydag arweinydd y gwaith.

Mae gwaith dwys yn cymryd lle gyda rheolwyr, gan fod nifer ohonynt wedi bod yn gweithio i’r cyngor am amser maith ac wedi eu trwytho mewn diwylliant traddodiadol a’r technegau rheoli sydd wedi dod o’r byd cynhyrchu. Efallai bod rhai wedi bod yn gweithio gyda’r un meddylfryd am 20 mlynedd y aml ar sail yr hyn a welir mewn llyfrau rheoli traddodiadol, ond mae’r byd wedi symud ymlaen. Dechreuwyd grŵp hunan-ddysgu a thrafod i edrych ar nodweddion tîm ar gyfer Ffordd Gwynedd. Yna ar gyfer y dyfodol bwriedir edrych i weld os yw timau’n dangos pob elfen ac os ydyn nhw’n glir am eu pwrpas. Defnyddir mantra meddwl ar ffurf systemau Vanguard, sef pwrpas, mesurau a dull. Rhaid mesur beth sy’n bwysig ac mae’r sefydliad yn gweithio trwyddo hyn ar y foment er mwyn creu diwylliant gwahanol.

Y bwriad yw creu “arbenigwyr” yn y diwylliant ym mhob gwasanaeth ac maent yn gofyn i wasanaethau roi rheolwr ymlaen i’w hyfforddi’n ddyfnach i arwain y gwaith o herio. Mae yna elfen o gynllunio parhad yma, sy’n rhoi’r cyfle i bobl i ennill profiad er mwyn arwain y gwaith yn y dyfodol, gan fod Rheolwyr yn gweithio 3 dydd yr wythnos ar Ffordd Gwynedd a 2 dydd yn ôl yn y gwasanaeth fel bod y profiad hynny yn bwydo i mewn iddo.

O ran staff, gofynnir iddynt ystyried beth maen nhw’n gwneud i roi pobl wrth wraidd gwasanaethau. Oes ganddynt gyfle i drafod hyn yn ei gyfarfodydd tîm? Mae rhai yn teimlo mai lle’r rheolwr efallai yw gwella gwasanaethau a’i rôl nhw yw dilyn yr hyn y mae’r rheolwr yn ei ddweud. Mae Strategaeth Ffordd Gwynedd yn pwysleisio os oes unigolyn yn gwybod am rwystr i gyflawni i bobl Gwynedd yna mae yna ddyletswydd ar bawb i wneud rhywbeth amdano. Mae’r Cyngor yn dangos bod nhw’n herio sut mae gwasanaethau yn cael ei darparu, ac wrth wneud hynny mae’n bwysig does yna ddim diwylliant o fai, gan fod angen i bobl cymryd y cyfle i newid sut maen nhw’n gweithio a rhoi’r diwylliant ar waith. Mae arbrofi gyda threfniadau newydd yn gallu golygu methiant ond dim ond drwy wneud hynny y ceir arloesedd go iawn. Law yn llaw a hyn, gellir dysgu o gwynion a’i defnyddio fel ffordd o ddysgu o fethiant.

Gwersi a ddysgwyd

Un o’r pwyntiau dysgu rhannodd Dilwyn oedd os ydych chi’n dechrau’r gwaith gyda’r meddylfryd o arbed arian, nid ydych chi’n wir yn gallu rhoi pobl yn gyntaf ac ail-ddylunio gwasanaethau er eu budd nhw. Wrth gwrs fedrwch chi ddim anwybyddu’r ochr ariannol ond drwy roi ystyried sut allwch cwrdd ag anghenion bobl yn iawn yn gyntaf a gosod ystyriaethau ariannol dros hynny wedyn, yn aml iawn gellir cwrdd ag anghenion – yn aml yn rhatach.

Hefyd dywedodd Dilwyn fod dilyn proses yn gallu bod yn saffach i unigolion yn enwedig os aiff rhywbeth o’i le gan mai dilyn proses a osodwyd gan rywun arall oeddent. Felly mae’n angenrheidiol i rymuso pobl fel bod nhw’n gallu gwneud pobl yn ganolog i wasanaethau.

Dywedodd Dilwyn fod rhaid i’r bobl ar frig y mudiad meddwl ar ffurf systemau fel bod y ffordd o feddwl yn un strategol sy’n gyson ar draws y mudiad. Mae rhai aelodau yn awyddus i symud yn gyflym achos maen nhw’n gweld canlyniadau positif o’r gwaith, ond mae’n bwysig i gofio bod y gwaith yn ceisio newid diwylliant, ac nid yw hyn yn digwydd dros nos. Hefyd rhaid cadw’r strategaeth yn syml – y mwyaf syml yw’r strategaeth, y mwyaf dealladwy yw i’r holl staff ac agos i’w realiti. Po fwyaf cymhleth yw’r strategaeth, y mwyaf anodd ydyw i’w rhoi ar waith yn y modd a fwriadwyd.

Mae Cyngor Gwynedd nawr yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gyda staff i glywed barn staff am y gwahaniaeth mae’r gwaith wedi gwneud. Sut mae eu gwaith nhw’n cymharu nawr a ble oedden nhw flwyddyn a hanner yn ôl? Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed mwy fel bod ni’n gallu rhannu’r dysgu.