Skip to content

Tag: llywodraethu

Gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol mewn gwlad â chyfoeth o adnoddau ond prinder arian

Mae’r Athro Tony Bovaird yn Gyfarwyddwr Governance International, sefydliad nid er elw sy’n gweithio ledled Ewrop ar bolisïau cyhoeddus seiliedig ar ganlyniadau a chyd-gynhyrchu gan ddinasyddion, ac mae’n Athro Emeritws ar Reoli a Llywodraethu Cyhoeddus ym Mhrifysgol Birmingham.  Yn ei gyfraniad at y Seminarau Dyfodol Llywodraethu ym mis Gorffennaf, rhannodd Tony ei gred gref fod angen i gyrff cyhoeddus sylweddoli sefyllfa wan cydweithredu ym meysydd comisiynu a chyflawni o fewn gwasanaeth cyhoeddus, y diffyg ymrwymiad i ganlyniadau clir a’r amrywiaeth mawr o ran ymgysylltu â’r cyhoedd wrth gyd-gomisiynu, cyd-gynllunio, cyd-gyflawni… Read more Gwella llesiant cenedlaethau’r dyfodol mewn gwlad â chyfoeth o adnoddau ond prinder arian

Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn meddwl bod rhaid i fudiadau i wneud lot mwy nag newid elfennau o wasanaethau, rhaid cael newid diwylliannol ehangach. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar beth allwn ni ddysgu o Ymchwiliad Craffu Diwylliant Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe. Mae diwylliant yn un o’r pynciau mawr yna sy’n anodd mynd i’r afael â. Pan mae yna broblem ddiwylliannol, does yna ddim ateb cyflym, a does ‘na ddim un newid bach sy’n arwain at newid awtomatig yng ngwaith mudiad. Yr ochr dda… Read more Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Newid Ymddygiad

Cafodd y thema o newid ymddygiad y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol ei drafod sawl gwaith yn ein digwyddiad ar Ddyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Yn y blogbost yma mae Chris Bolton yn edrych ar yr heriau sydd o’n blaen ni a sut allwn ni mynd i’r afael â nhw. “Nid creu’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol yw’r broblem go iawn, ond gadael lle rydym ni nawr…” Dydw i ddim yn siŵr pwy ddywedodd hynny, gallai fod yn gyfuniad o sawl… Read more Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Newid Ymddygiad

Adrodd ein Stori NI

Yn y blogbost yma mae Dr. Rachel Hughes, Pennaeth Mewnwelediad Chwaraeon Cymru, yn esbonio pam mae hi o’r farn bod adrodd ein Stori NI yn bwysig i les Cymru. Rwyf wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â rhai pobl ardderchog wrth helpu i lunio’r seminar rhannu dysgu sydd ar y gweill, sef Dyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae yna nifer ohonom yn y grŵp sydd heb weithio gyda’n gilydd o’r blaen. Daethom at ein gilydd i bwrpas a rennir,… Read more Adrodd ein Stori NI

2016: Blwyddyn y Posibilrwydd

Beth mae llywodraethu effeithiol yn edrych fel yn gyd-destun Deddf Llesiant Genedlaethau’r Dyfodol? Yn y blogbost yma mae Alan Morris yn edrych ar beth mae’n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus a sut all ein seminar helpu. Mae Cymru’n dechrau dangos ei gallu fel cenedl i weithio gyda’r hyn sydd ganddi mewn modd llawer mwy creadigol a chynaliadwy. Mae Trefi Trawsnewid, Masnach Deg, rhoi organau a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhai enghreifftiau o hyn.  Rydym yn dechrau sylweddoli beth sy’n gweithio i ni fel cenedl, ac yn aml nid dyna… Read more 2016: Blwyddyn y Posibilrwydd

National Theatre Wales: Byw’r breuddwyd …. a’u gwerthoedd

Mae gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus ym mhob sector yn awyddus i wella’u cymunedau. Ond beth allwn ni ei ddysgu o sut mae National Theatre Wales yn ychwanegu gwerth at y gymuned gelfyddydol? Ymwelodd Dyfrig Williams â Devinda De Silva i ffeindio allan. Ers i mi ddechrau gweithio yn y sector gwirfoddol, mae fe wedi bod yn amlwg i mi does dim prinder o bobl sydd â gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus. Pan wnes i hwyluso rhwydweithiau traws-sector Cyfranogaeth Cymru, roedd yn gwbl glir nad yw’r gwerthoedd yma yn cael eu cyfyngu i’r sector gwirfoddol, a… Read more National Theatre Wales: Byw’r breuddwyd …. a’u gwerthoedd

Oes ganddo’ch y bobl iawn ar eich bwrdd?

Rydyn ni wedi cael cwpl o fisoedd prysur yn nhîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Dydyn ni ddim wedi cael y cyfle i ymlacio wrth i Nadolig agosáu, gan fod ni wedi cynnal digwyddiadau ar faterion i ymddiriedolwyr ac ar lywodraethu. Rydyn ni nawr yn casglu’r holl allbynnau at ei gilydd ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n eu hanfon at fynychwyr a’u rhannu drwy gyfryngau cymdeithasol. Fel tîm rydyn ni’n ceisio sicrhau bod ein digwyddiadau yn cyrraedd cymaint o wahanol sectorau â phosib, gan ein bod ni’n credu bod… Read more Oes ganddo’ch y bobl iawn ar eich bwrdd?

%d bloggers like this: