Skip to content

Tag: Llywodraeth Cymru

Gwesty Seren: Trosglwyddo asedau yn effeithiol a dull newydd o ofal ysbaid

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n debyg fe fydd llawer o gyrff gwirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned yn mynd ati i drosglwyddo asedau o’r Cyngor Sir. Aeth Dyfrig Williams i Westy Seren i ddysgu am ei brofiad nhw o drosglwyddo ased a sut maen nhw’n darparu gofal ysbaid. Rydym yn cael ein arwyddbostio ato arfer da yn aml, ond nid yw’n aml ein bod ni’n clywed am un prosiect sydd gydag arfer da i’w rhannu mewn sawl gwahanol faes. Aethom i Westy Seren i ddysgu am sut mae ased… Read more Gwesty Seren: Trosglwyddo asedau yn effeithiol a dull newydd o ofal ysbaid

Ydy Diogelu Data yn rhwystro gwelliant yng ngwasanaethau cyhoeddus?

Yn y Seminar Lles ddiweddar yn Lanrwst a Chaerdydd, fe wnaeth y pynciau o Rhannu a Diogelu Data cael eu codi fel materion allweddol i wasanaethau cyhoeddus Cymreig. Yn y blog yma, mae Dyfrig Williams yn edrych ar pam mai Diogelu Data yn cymaint o rhwystr. Yn sesiwn llawn y seminar lles, disgrifiodd Anne Marie Cunningham, sy’n meddyg teulu ac hefyd yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, y problemau mae meddygon teulu yn gwynebu os maen nhw eisiau rhannu data. Gallwch wylio’r drafodaeth ar ddechrau’r fideo isod. Nid dyma’r tro cyntaf… Read more Ydy Diogelu Data yn rhwystro gwelliant yng ngwasanaethau cyhoeddus?

#scrusm – rhannu arferion craffu ar-lein

  Cawsom adborth gwych ar Gynhadledd Goleuni ar Graffu llynedd. Cafodd y digwyddiad ei gynnal ar y cyd gyda’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llywodraeth Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd, a rhan fawr o’i lwyddiant oedd y rhwydweithio. Roedd gan y Cynghorwyr, Swyddogion a mudiadau ehangach bob cyfle i rannu materion, ond hefyd arfer da yn eu hardal. Yn anffodus, mae cael pobl at ei gilydd o bob cwr o Gymru (a thu hwnt) yn fusnes drud. Felly rydyn ni’n chwilio i barhau’r rhwydweithio a’r casglu gwybodaeth drwy… Read more #scrusm – rhannu arferion craffu ar-lein

Peidiwch â phrynu caledwedd

Ni gyd yn caru fe. Mae ‘na goleuadau sy’n fflachio ar galedwedd, llinellau cŵl, ac mae’n edrych yn hynod o dda wrth iddo fe hymian mewn raciau. Mae’n creu argraff ar ddieithriaid, ac mae’n dilysu ni fel arbenigwyr. Mae fe hefyd yn ddrud iawn ac mae’n cael ei danddefnyddio’n fodd anhygoel. Fe wnaeth Google (ie, y Google yna) darganfod yn y 2000au cynnar bod eu canolfannau data yn rhedeg ar 10% o’r uchafswm posibl. Mae lot o’r sector cyhoeddus yn y DU yn llawer gwaeth, gyda Swyddfa’r Cabinet yn awgrymu… Read more Peidiwch â phrynu caledwedd

All along the watchtower – #Scrutiny13

Blog gwadd gan Stu Hodges, Swyddog Cyfathrebu, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru     “gloywch eich tarian…gosod wyliwr, i fynegi’r hyn a wêl” -Eseia: 21 Dylan ysgrifennodd ‘All along the watchtower’ ond Hendrix a’i gwnaeth yn boblogaidd. Mae’n cynnwys y cyfeiriad Beiblaidd hwn o Eseia mewn cân sy’n galarnadu dryswch y byd yn gyffredinol, ond sydd hefyd yn cynnig penderfyniad cadarn i ddod o hyd i rolau a syniadau newydd. Efallai ein bod wedi dod o hyd i’n hanthem. Mae’r byd y mae’r broses graffu yn gweithredu ynddo yn newid ac,… Read more All along the watchtower – #Scrutiny13

Cydweithio

Ai’r gynhadledd Goleuni ar Graffu yw’r tro cyntaf i Graffu fod yn ganolbwynt y sylw? Mae’n sicr yn awgrymu bod tro ar fyd. Byddai rhai’n dweud bod dyheadau Deddf Llywodraeth Leol 2000, ar ôl yr holl waith caled i ddatblygu craffu, yn barod i gamu i’r prif lwyfan; yn barod i arwain gwelliannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus ar ran y dinesydd. Rhaid cydnabod bod sawl enghraifft eisoes o gydweithio sy’n herio ein syniadau am graffu; Consortia Addysg Rhanbarthol, prosiectau a ariennir gan Gronfeydd Cydweithio Rhanbarthol, a datblygiad parhaus Byrddau Gwasanaethau… Read more Cydweithio

%d bloggers like this: