Tag Archives: gogledd Cymru

Synfyfyrio gan Blentyn Bach ar Twitter

Huw Lloyd-Jones
Cyn ein Cynhadledd Craffu sy’n dod lan ar 28 Tachwedd, mae tîm Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru wedi fy mherswadio i gyfrannu erthygl arall sydd yn gosod fy nefnydd ‘datblygiadol’ o gyfryngau cymdeithasol o fewn cyd-destun potensial ar gyfer cynghorau ac aelodau etholiadol unigol. Mae gennym weithdai yn y gynhadledd ar:

• Rôl y Cynghorydd Rhwydweithiol o fewn Craffu; a
• Ymgysylltu â’r Cyhoedd o fewn Craffu.

Mae gan Twitter rhywbeth i gynnig i’r ddau!

Toddler-with-ipad-610x300

Yn fy erthygl ddiwethaf ar y pwnc yma, roedden yn ‘Faban ar Twitter’ – wedi difyrru yn hawdd gan y byd newydd a agorodd o fy nghwmpas, gyda llawer o ‘Rieni Twitter’ yn fy helpu i ddatblygu ac osgoi trwbl. Cwpwl o fisoedd yn hwyrach, dwi nawr yn ystyried fy hun yn Blentyn Bach ar Twitter – rhaid i ni dyfu lan yn gyflym ym myd blogio! Dwi nawr yn fwy annibynnol, ond mae’r perygl yn fwy. Dwi hefyd yn debygol o golli fy nhymer nawr ac yn y man. A chofiwch fod plant bach wastad yn gweld y byd o bersbectif lle maent hwy yn gadarn yn y canol!

Felly pa fath o ymddygiadau Twitter sydd yn gwneud i mi stampio fy nhraed a gwaeddi? Dwi’n cymryd byddai’n dyfod yn fwy goddefgar wrth i fi dyfu lan, ond reit nawr:

• Mae rhai negeseuon ar Twitter, i fod yn onest, yn anhreiddiadol os nad ydych ‘o fewn y grŵp sy’n deall’! Dwi’n deall bod y cyfyngiad 140 nod yn mynnu bod yr awdur yn gryno, ond dwi’n siŵr taw’r bwriad yw ymgysylltu â’ch dilynwyr? Gall negeseuon wedi eu codio, yn llawn hashnod, fod yn ddefnyddiol mewn rhai amgylchiadau ond, yn gyffredinol, mae’r plentyn bach yma yn dylyfu gen a symud ymlaen ar ddiwrnod da a, mewn tymer gwael, yn dechrau pregowtha..!
• Ai fi yn unig sy’n credu bod rhai pobl ar Twitter yn gorwneud? Pan mae fy nghyfrif yn llawn o negeseuon o’r un ffynhonnell (weithiau yn ail-drydar beth maent wedi trydar rhai oriau ynghynt), dwi fethu helpu teimlo taw’r bwriad yw i hunan-hybu, nid ymgysylltu.
• Dwi weithiau yn teimlo’n hapus fy mod wedi creu Tweet wedi ei eirio’n ofalus sydd yn hawlio (yn foesgar) ateb gan rywun neu ryw sefydliad. Mae derbyn dim ateb felly yn fy ngwneud yn ddig, ond mae bathodyn ‘Hoff’ gan y sefydliad (heb ateb) yn gwneud pethau’n waeth! Mae’r llwybr ‘Dad-ddilyn’ wastad yn opsiwn, ond wrth gwrs dwi dal yn teimlo, yn ystod y cyfnod yma, bod hwna ychydig yn anfoesgar ac yn drastig i wneud heb o leiaf esbonio pam!

Ond nid yw popeth yn wael ac mae digon i wneud i mi wenu. Dwi dal yn dilyn cynghorau Gogledd Cymry a nifer o aelodau unigol gyda diddordeb, ac yn aml gydag edmygedd. Dechreuodd un o ‘fy’ nghynghorau rhannu lluniau ar Twitter yn ddiweddar o gŵn ar goll sydd yn cael ei gwarchod gan wardeiniaid, gyda manylion bras ar ble a phryd darganfyddwyd y ci truenus. Dyna ffordd hollol syml a rhad ac am ddim i uno mwy o gŵn gyda’u perchnogion, wrth leihau costau cadw a thâl milfeddyg! Roedd rhai eraill yn amlwg yn cynyddu’r math o ddeunydd maent yn rhannu, yn aml yn hybu digwyddiadau a gweithgareddau lleol o fewn yr ardal, ar y cyd gyda gwybodaeth fwy cyffredin (ond dal yn ddefnyddiol) am swyddi gwag. Fel fi, mae cynghorau yn cael dyddiau da a dyddiau gwael a dwi dal ddim yn sicr eu bod yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyson dda i dynnu sylw ar gyhoeddiadau allweddol ac ymgynghoriadau fel ffordd o ymgysylltu â thrigolion.

Beth am y rhifau? Mae’r plentyn bach yma wedi cael diddordeb mewn data ers oedran cynnar! Mae’r tabl isod yn diweddaru’r rhifau nes i gynnwys yn fy erthygl ddiwethaf:
Cyngor Tweets Yn dilyn Dilynwyr

Cyngor

Tweets

Yn dilyn

Dilynwyr

12/9/13

1/11/13

12/9/13

1/11/13

12/9/13

1/11/13

A

1197

1257

0

61

2735

2928

B

2046

2153

14

17

3402

3647

C

6992

7313

174

197

6597

7041

D

3156

3278

31

31

4097

4391

E

1783

2049

182

208

1646

1850

F

6586

7364

3078

3102

5273

5580

cyfanswm

21,760

23,414

3,479

3,616

23,750

25,437

Beth mae hwn yn dweud wrthym?

• Mewn llai na deufis, mae cynghorau Gogledd Cymru wedi atynnu 1,687 dilynwr ychwanegol – cynnydd o 7.1 y cant! Mae hwna’n golygu bod popeth maent yn trydar yn cyrraedd 7 y cant mwy o bobl na deufis yn ôl!
• Mae rhai newidiadau dramatig wedi bod yn y niferoedd o bobl a sefydliadau eraill bod rhai cynghorau yn dilyn. Mwy o gyfleoedd i ddysgu oddi-wrth eraill, felly.

Felly beth yw’r pwynt?

• Mae defnyddwyr Twitter yn dyfod yn fwy beirniadol wrth iddynt gael fwy o brofiad! Weithiau nid Twitter yw’r ffordd gywir o gyfleu’r neges!
• Mae cyfathrebu clir yn amod gofynnol (ond nid un digonol) ar gyfer ymgysylltu effeithiol, gan gynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd o fewn craffu.
• I ymgysylltu’n dda, mae hefyd angen i chi wybod bod cynulleidfa gyda chi ac mae’r gynulleidfa Twitter yn tyfu’n gyflym! Mae’r potensial i gynghorau ddefnyddio Twitter i hysbysebu, ymgysylltu a mesur barn yn enfawr.
• Mae llawer mwy o le i’r canol corfforaethol mewn cynghorau sicrhau bod eu timau cyfathrebu yn hybu cynlluniau, dogfennau ac adroddiadau allweddol gan ddefnyddio Twitter a chyfryngau cymdeithasol eraill.

Dwi’n edrych ‘mlan i Gynhadledd Craffu bydd yn hala fi i feddwl yn y Stadiwm SWALEC ar 28 Tachwedd. Gwnewch yn sicr eich bod yna!

Diolch @Huw711

Craffu Cymdeithasol

Scrutiny CYM

Pam, dybiech chi, fod Huw Lloyd Jones yn ystyried ysgrifennu blog sy’n canolbwyntio’n bennaf ar y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasu? Does bosib fod gan rywun sy’n prysur agosáu at ei ymddeoliad rywbeth gwell i’w wneud gyda’i amser?

Mae’n siŵr eich bod yn iawn! Rydw i wedi bod yn defnyddio Linked-In ers tro ac mae’n rhaid i mi gyfaddef, hyd yn ddiweddar, fy mod i wedi’i ddefnyddio fel fersiwn hen ddyn o lyfr llofnodion. Ofer fu fy ymdrechion i agor cyfrif Facebook, gyda thoreth o negeseuon testun yn mynegi cywilydd yn cael eu hanfon gan fy mhlant (i’w gilydd nid ata i), cyn cael fy ngwahardd yn ddi-flewyn ar dafod o Facebook gan fy ngwraig. “Ti’n siŵr o fynd i drwbwl”, oedd ei geiriau.

Huw Lloyd-Jones

Felly, pan benderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru annog ei staff i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasu, meddyliais, ‘Gwell gadael hynny i’r bobl ifanc’ (a’r bobl hŷn ffasiynol)! Pan welais i fod sesiwn hyfforddiant staff yn canolbwyntio ar Twitter, roeddwn i’n llawn amheuon. Ond penderfynais fynd, gwrando a gofyn ambell i gwestiwn. Mae’n debyg mai’r hyn a wnaeth fwyaf o argraff arna i oedd, wrth ymarfer ein sgiliau elfennol, ein bod wedi cael ymateb ar unwaith (a doniol) gan gyn Weinidog o Lywodraeth Cymru a oedd newydd ymddeol! Mae’n debyg fod hyn wedi fy argyhoeddi ar unwaith o bŵer dylanwadol y cyfryngau cymdeithasu!

I dorri stori hir yn fyr, fel hyfforddai gyda meddwl agored (hawdd ei dwyllo o bosib), ymunais â Twitter. Wrth wneud hynny, llwyddais i ddileu popeth ar fy Blackberry, ond llwyddais yn y pen draw! Does gen i ddim gronyn o ddiddordeb yn yr hyn y mae sêr yn ei fwyta i frecwast, felly penderfynais ganolbwyntio’n bennaf ar:

  • y chwe chyngor rydw i’n gweithio gyda nhw;
  • pethau addysg.

Felly, beth ydw i wedi’i ddysgu yn sgil fy ‘arbrawf’? Yn gyntaf oll, un neu ddau o bethau cyffredinol ar gyfer unrhyw un arall sy’n ystyried agor cyfrif Twitter:

  • Hyd yn oed os ydych chi ond yn dilyn nifer fechan o ddefnyddwyr Twitter eraill, mae’n hawdd treulio diwrnod cyfan yn cadw llygad ar y negeseuon sy’n llifo i mewn. Defnyddiwch rywbeth fel Hootsuite fel y gallwch chi ddidoli eich negeseuon Trydar i wahanol gategorïau. Dyw Trydar ddim fel e-bost – does dim ots os ydych chi’n colli llawer o ‘negeseuon’ gan y bydd rhywun yn eu hail-drydar os ydynt yn bwysig.
  • Does dim angen i chi anfon llawer o negeseuon Trydar. Rydw i wedi gwneud ambell i gamgymeriad mawr (ymddiheuriadau arbennig i @Snowded a @whatsthepont ac unrhyw un arall rydw i wedi’u digio). Meddyliwch yn ofalus sut bydd eich 140 o lythrennau blêr yn ymddangos i eraill cyn i chi fentro ac anfon y neges!

Beth am ‘fy’ chwe chyngor? Roedd hi’n dipyn o agoriad llygad o ran y gwahaniaethau rhyngddynt yn y ffordd maen nhw’n defnyddio Twitter. Fel archwilydd, byddech chi’n disgwyl i mi gyflwyno rhywfaint o ddata yn rhywle, felly dyma rai o’r ystadegau Twitter ‘sylfaenol’ ar gyfer y chwe chyngor wrth i mi ysgrifennu’r blog hwn:

Cyngor

Negeseuon Trydar

Yn dilyn

Dilynwyr

A

1197

0

2735

B

2046

14

3402

C

6992

174

6597

D

3156

31

4097

E

1783

182

1646

F

6586

3078

5273

Mae’n debyg fod nifer y negeseuon trydar, i ryw raddau, yn adlewyrchu ers pryd mae’r cyngor wedi bod yn defnyddio Twitter. Hefyd, mae trydar yn y ddwy iaith yn ychwanegu at y cyfanswm (ac yn denu mwy o bobl hefyd). Mae’n ddiddorol gweld bod nifer y dilynwyr yn eithaf tebyg i nifer y negeseuon trydar!

Yr hyn a ddenodd fy sylw oedd nifer y defnyddwyr Twitter eraill y mae pob cyngor yn eu dilyn. Mae dilyn llawer o bobl a sefydliadau’n golygu eich bod yn dilyn cannoedd o negeseuon trydar bob diwrnod – sy’n llafurus iawn a gwastraff amser o bosib! Ar y llaw arall, os nad ydych chi’n dilyn llawer, yr unig negeseuon trydar y byddwch yn eu derbyn yw’r rhai sydd wedi’u cyfeirio’n benodol atoch chi. Byddwch yn colli’r hyn mae’ch partneriaid yn ei wneud a’r hyn y mae’r cyfryngau ac unigolion a grwpiau dylanwadol eraill yn y gymuned yn ei ddweud.

Mae sylwi ar sut mae’r math o wybodaeth y mae cynghorau’n ei thrydar yn amrywio wedi bod yn ddiddorol hefyd. Mae rhai yn tueddu i drydar gwybodaeth am swyddi gwag a phethau fel ysgolion sy’n gorfod cau’n annisgwyl. Mae eraill yn defnyddio Twitter i rannu straeon newyddion da ac i hysbysebu digwyddiadau a gynhelir, drwy ddolenni i wefan y cyngor fel arfer. Mae’r rhai sy’n dilyn eu partneriaid yn aml yn ail-drydar gwybodaeth am eu gwaith.  Yn fy ardal i, er enghraifft, mae’r heddlu’n gwneud defnydd da o Twitter a gall y cynghorau hynny sy’n dilyn yr heddlu gynyddu’r gynulleidfa’n sylweddol ar gyfer negeseuon trydar gan yr heddlu drwy ledaenu’r neges, ynghyd ag ail-bwysleisio’r ffaith fod y cyngor a’r heddlu’n cydweithio’n agos.

Dim ond un cyngor hyd yma sydd wedi defnyddio Twitter i hysbysebu ymgynghoriad sydd ar y gweill – meddyliwch faint yn fwy o bobl a allai ddod i wybod fod yr ymgynghoriad ar waith o gymharu â’r niferoedd a allai fod wedi dod ar draws y wybodaeth ar y wefan! Mae cyngor arall wedi dechrau cynnal ‘cymorthfeydd Twitter’, gydag aelodau’r Cabinet yn ymateb i negeseuon trydar gan aelodau’r cyhoedd am eu meysydd cyfrifoldeb. Does dim ymateb brwd wedi bod hyd yma, ond am syniad da o ran ymgysylltu â’r cyhoedd mewn fforwm sydd ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb!

Anaml ac anghyson iawn y mae gwybodaeth am gyfarfodydd nesaf y pwyllgor yn cael ei thrydar. Mae ein gwaith craffu diweddar yng Nghymru wedi dod i’r casgliad bod y rhan fwyaf o gynghorau’n teimlo y byddai modd iddyn nhw ymgysylltu’n fwy effeithiol â’r cyhoedd yn y ffordd maen nhw’n dal y sawl sy’n gwneud y penderfyniadau i gyfrif. Felly, beth am fanteisio ar y cyfle i roi gwybod i’r holl ddilynwyr hynny am gyfarfodydd a fydd yn canolbwyntio ar faterion pwysig? Neu, yn well fyth, beth am ddefnyddio Twitter ymlaen llaw i alluogi pobl i fynegi eu barn ac i glywed barn y cyhoedd? Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!

Felly, i ddefnyddio ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio byth a hefyd, Beth yw’r PONT?

  • Dydych chi byth yn rhy hen i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasu, ond pwyllwch cyn Trydar!
  • Mae defnydd cynghorau o Twitter a natur yr hyn maen nhw’n ei drydar yn amrywio’n fawr.
  • Mae potensial y cyfryngau cymdeithasu fel Twitter i ymgysylltu â’r cyhoedd yn enfawr.
  • Gallai swyddogaethau craffu cynghorau’n arbennig ddefnyddio llawer mwy ar gyfryngau cymdeithasu i ymgysylltu â’r cyhoedd ac adlewyrchu eu safbwyntiau wrth ddal y sawl sy’n gwneud y penderfyniadau i gyfrif.

Huw