Tag Archives: gofal cymdeithasol

Pam rydyn ni’n ffocysu ar wella gwasanaethau i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau’n rheolaidd

Llun o swigen siarad a'r teitl o Ddylunio gwasanaethau effeithiol ar gyfer aml-ddefnyddwyr

Pam fod Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal seminarau sy’n canolbwyntio ar aml-ddefnyddwyr? Isod mae Dyfrig Williams yn amlinellu ein meddylfryd a pham mae gwasanaethau cyhoeddus effeithlon yn canolbwyntio ar ddinasyddion.

Mae rhaglen gwaith Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

  • Deddfwriaeth newydd a datblygiadau arwyddocaol sy’n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus
  • Gwaith a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru
  • Pynciau sy’n cael eu nodi drwy ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol

Yn achos ein seminar ar Ddylunio gwasanaethau effeithiol ar gyfer aml-ddefnyddwyr, roedd y cynllun yn gyfuniad o’r tri.

Deddfwriaeth

Os ydych chi wedi mynychu unrhyw un o’n seminarau diweddar, byddwch wedi clywed Archwilydd Cyffredinol Cymru yn siarad am sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn newid mawr ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymreig. Mae’r ddeddf yn meddwl ei fod yn ofynnol i sefydliadau i integreiddio a chydweithio; i feddwl am atal a’r tymor hir; ac i gynnwys pobl.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn atgyfnerthu hyn drwy ganolbwyntio ar bobl, lles, atal, partneriaeth ac integreiddio. Mae’r amgylchedd gwasanaeth cyhoeddus cyfredol yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion. Os ydych chi’n edrych i ailwampio eich gwasanaeth er mwyn diwallu’r ffocws hyn, yna mae’r deddfau yma’n rhoi fframwaith a sail resymegol i chi dros newid.

Gwaith archwilio

Cysylltodd ein cydweithwyr o dîm Archwilio Iechyd â ni amdano’r cynnal y seminar yma ar Ddylunio gwasanaethau effeithiol ar gyfer aml-ddefnyddwyr achos roedden nhw’n gwneud gwaith archwilio ar sut mae cyrff yn comisiynu’r Gwasanaethau Ambiwlans ar frys. Ysgrifennodd Fflur Jones blogbost gwych ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru ar weithio gyda chriw ambiwlans Cymru am nos, lle dywedodd hi:

“Roedd y galwadau’n amrywio o’r arferol i’r eithafol: o’r person a ffoniodd nad oedd angen unrhyw driniaeth frys a oedd wedi cysylltu â’r gwasanaeth am y trydydd tro’r noson honno i glaf yn dioddef o anafiadau a oedd yn newid bywyd o ganlyniad i wrthdrawiad ar y ffordd. Cefais fy sicrhau nad yw bywyd parafeddyg byth yn ddiflas.

“Nid galw ambiwlans yw’r dewis cywir bob tro a gall dewisiadau amgen eraill, megis fferyllfeydd a gwasanaethau y tu allan i oriau ganiatáu i gleifion gael eu gweld yn gynt a chaniatáu i ambiwlansys ymateb i’r achosion sydd eu hangen fwyaf. Dysgodd i mi hefyd fod yr angen i’r sector cyhoeddus weithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaethau gwell ac i ddarparu gwasanaethau i anghenion nas diwallwyd ac i lenwi bylchau yn y gwasanaeth mor bwysig ag erioed.”

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da hefyd wedi bod yn gweithio ar ein darn o waith archwilio cyntaf ar newid ymddygiad, lle rydym wedi gweithio gydag Arfer Da Cymru a sefydliadau eraill ar ddigwyddiadau ym Mangor ac Abertawe. Gall technegau Newid Ymddygiad gwella gwasanaethau cyhoeddus pan fo gofynion cynyddol arnynt drwy alluogi pobl i ddewis y gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir.

Mae adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn creu darlun llwm o’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus a ddatganolwyd. Mae’r adroddiad yn dangos bod gwasanaethau cyhoeddus wedi wynebu pwysau ariannol, galw a capasiti sylweddol a chynyddol ers yr adroddiad blaenorol yn 2011. Dyma rhai o’r prif negeseuon:

  • Mae sefydliadau mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddynt gymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n dda er mwyn diwygio gwasanaethau mewn ffordd radical i gael ateb cynaliadwy i’r pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus o ran galw ac ariannu
  • Mae yna rwystrau i ail-lunio gwasanaethau mewn ffordd radical, gan gynnwys rhwystrau gwleidyddol a diwylliannol, ac mae angen gwaith caled i’w goresgyn
  • ‘Yr hyn sy’n cael ei fesur sy’n cael ei reoli’ – tra bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn mabwysiadu mesurau ‘canlyniadau’ yn fwyfwy, mae tuedd o hyd i fesur a rheoli faint o weithgarwch sy’n digwydd a faint o amser y mae’n ei gymryd.
  • Rhaid i wasanaethau cyhoeddus gydweithio drwy’r dewisiadau anodd, pennu blaenoriaethau clir a chyson, deall yr effeithiau byrdymor a hirdymor ar y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus eraill a lliniaru’r effeithiau hynny lle y bo’n bosibl.

Felly o safbwynt economaidd mae’r achos dros newid yn glir. Bydd gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i wastraffu adnoddau gwerthfawr os nad ydynt yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaethau mae pobl wir eisiau.

Ac i mi dyma elfen graidd y mater – mae rhaid i wasanaethau fod yn addas i’w ddibenion er mwyn iddynt ddarparu beth y mae pobl wir eisiau. Ar fy niwrnod olaf o weithio i Gyfranogaeth Cymru ysgrifennais mai gweithio gyda’r Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol oedd y gwaith mwyaf boddhaol a wnes i yn fy mywyd. Roedd gweithio gyda phobl a oedd yn herio systemau achos roedden nhw’n meddwl y dylai ac y gallai pethau fod yn well yn anhygoel. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda thimau, prosiectau a mudiadau gwych ers gweithio i’r Gyfnewidfa Arfer Da, ond yn anffodus mae’r gwasanaethau hyn yn dal i fod yn eithriad yn hytrach na’r arfer.

Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol

Mae pob un o’n digwyddiadau yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda rhanddeiliaid amrywiol, ac nid yw’r digwyddiad yma yn eithriad. Fe fydd yna siaradwyr o awdurdodau lleol, byrddau iechyd, Gwasanaeth Ambiwlans, y Gwasanaeth Tân a Chomisiynydd Pobl Hŷn. Ond yn fwy na dim, bydd y digwyddiad yn edrych i rannu arfer da o brofiadau cynadleddwyr ac fe fydd yna gyfle i edrych ar y materion y mae pobl yn eu hwynebu er mwyn gwneud y fwyaf o’r arbenigedd cyfunol sydd ar gael yn y digwyddiad.

Byddwn hefyd yn sicrhau bod ffocws y digwyddiad ar yr hyn y mae pobl am ei gael o wasanaethau. Meddyliais yn syth am weithdy yn ein seminar ar Ail-lunio Gwasanaethau gyda’r Cyhoedd wrth i mi roi’r digwyddiad at ei gilydd. Rhannodd Simon Pickthall o Vanguard sut mae ymyriadau traddodiadol wedi methu achos maent yn canolbwyntio ar gynnal prosesau sefydliadol. Mae hyn yn arwain at aneffeithlonrwydd. Mae’r aneffeithlonrwydd yma’n amlwg wrth i ni feddwl am sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio – mae pobl yn ffitio i mewn i seilos mudiadau, yn hytrach na bod sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd i gwrdd ag anghenion pobl. Rhoddodd Simon drosolwg o’i weithdy am 06:37 yn y fideo isod.

Mae’r astudiaeth achos ar Stoke-on-Trent yn adroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus (p.108) yn enghraifft o’r dull y bydd Simon yn rhannu. Gan ein bod ni’n gorff archwilio, ni fyddwn yn dweud wrth bobl beth i’w wneud neu ei chyfarwyddo i ddefnyddio dulliau penodol. Nid ydym yn credu mewn dull un maint i bawb – rhaid edrych ar y gwaith da y mae sefydliadau eraill yn ei wneud a meddwl am sut y gallem addasu’r dulliau hynny i weddu anghenion pobl yn ein hardaloedd. Ac os allant wneud hynny, yna fe fydd cyrff mewn sefyllfa well i gyflwyno’r gwasanaethau gorau posibl i bobl Cymru.

Gwesty Seren: Trosglwyddo asedau yn effeithiol a dull newydd o ofal ysbaid

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n debyg fe fydd llawer o gyrff gwirfoddol a Chynghorau Tref a Chymuned yn mynd ati i drosglwyddo asedau o’r Cyngor Sir. Aeth Dyfrig Williams i Westy Seren i ddysgu am ei brofiad nhw o drosglwyddo ased a sut maen nhw’n darparu gofal ysbaid.

Rydym yn cael ein arwyddbostio ato arfer da yn aml, ond nid yw’n aml ein bod ni’n clywed am un prosiect sydd gydag arfer da i’w rhannu mewn sawl gwahanol faes.

Aethom i Westy Seren i ddysgu am sut mae ased wedi cael ei drosglwyddo i’r cymuned yn lwyddiannus. Ond roedd gen i ddiddordeb ehangach yn y gwaith gan fy mod i wedi clywed am y gwaith arloesol maent yn wneud wrth ddarparu gofal ysbaid.

Gwaith yr elusen

Llun o Westy Seren

Gwesty Seren

Cwmni ag elusen yw Seren sydd â phencadlys ym Mlaenau Ffestiniog. Prif waith yr elusen yw cynnig gofal i bobl sydd ag anawsterau dysgu. Sefydlwyd yr elusen 20 mlynedd yn ôl o dan Ofal yn y Gymuned. Bwriad yr elusen oedd cael pobl ag anawsterau dysgu allan o sefydliadau ac i fyw yn y gymuned. Mae pobl sydd yno yn creu crefft a chelf ac yn rhedeg siop a gardd farchnad. Mae hwn yn rhoi annibyniaeth i’r bobl sy’n gweithio achos nad yw pobl jyst yn dibynnu ar ffioedd o Gyngor Gwynedd neu unigolion preifat, ac mae fe hefyd yn rhoi cyfle i bobl cael blas ar waith. Mae’r meddylfryd yma wedi parhau wrth roi profiad o waith i bobl yng Ngwesty Seren.

Penderfynodd Seren gwneud mwy na chreu gwasanaeth ysbaid wrth ffurfio’r Gwesty. Roedden nhw eisiau gwell ansawdd na thŷ, felly creuwyd gwesty 3 seren sy’n ffocysu ar anabledd a phobl sydd ag anawsterau dysgu. Mae’r toiledau ac ystafelloedd wedi’u datblygu i fod yn hygyrch i bawb.

Mae’r gwesty hefyd yn galluogi teuluoedd i aros yno. Dangosodd ei ymchwil bod lot o deuluoedd wedi derbyn gofal ysbaid gwael yn y gorffennol, ac felly nid oedden nhw’n hapus i adael eu plant yng ngofal trydydd person. Mae’r gwesty yn galluogi nhw i aros gyda’u plant os maent yn dymuno, ond hefyd i gael yr ysbaid sydd angen. Mae’r gwasanaeth unigryw yma yn meddwl bod y gwesty yn darparu llefydd i bobl sy’n derbyn gwasanaethau o gynghorau cyfagos fel Conwy a Cheredigion. Mae teuluoedd yn dod o Loegr i aros yn y gwesty hefyd.

Mae llwyddiant y Gwesty yn meddwl ei bod yn gweithio gyda thri chwmni sy’n arbenigo mewn gwyliau ar gyfer pobl sydd ag anawsterau dysgu ac, yn ddiweddar, penderfynodd dau gwmni arall sydd yn arbenigo mewn gwyliau ar gyfer pobol ag anableddau corfforol ddechrau ddefnyddio’ cyfleusterau. Mae’r bobl sydd wedi aros yn aml yn dod yn ôl ac yn wneud archebion bloc.

Hanes yr adeilad

Ffotograff o ystafell yng Ngwesty Seren

Ystafell yng Ngwesty Seren

Cafodd yr adeilad ei hun ei adeiladu’n wreiddiol gan yr Arglwydd Newborough yn 1728 fel ty haf. Parhaodd fel tŷ haf nes jyst ar ol y rhyfel byd cyntaf, pryd wnaeth teulu cymryd milwyr i fewn a oedd wedi cael damwain neu sioc yn y rhyfel i cael seibiant neu ysbaid.

Yn y 1930s cafodd yr adeilad ei roi i ddau fynach Assisi. Fe wnaethon nhw wahodd pobl ddigartref i mewn, gyda’r mynach ieuengaf yn trafaelu i Lundain i wahodd pobl i aros ym Mryn Llywelyn, fel y cafodd ei alw ar y pryd. Yna cafodd yr adeilad ei werthu i Gyngor Meirionnydd, ble roedd yn nhŷ preswyl i blant, cyn cael ei droi’n gartref preswyl i henoed. Yn 2010 penderfynodd y Cyngor ei gau.

Fe wnaeth Seren cais i Gronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Loteri Fawr. Cyflwynwyd cais llawn, cyn cychwyn y gwaith yn 2013. Cwblhawyd y gwaith yn Ebrill 2014.

Trosglwyddo’r adeilad

Fel arfer mae trosglwyddo asedau o’r sector cyhoeddus yn digwydd am ddim, ond yn yr achos yma penderfynodd y cyngor gwerthu am bris llai na’r farchnad. Bu rhaid i’r cyngor mynd trwy bwyllgorau a chodi ymwybyddiaeth trwy’r wasg, felly nid oedd yn broses cyflym.

Roedd y costau rhwng prynu a phob dim yn tua £1,000,000, ac roedd gwneud ceisiadau ar gyfer grantiau ac ati yn broses llafurus. Gan fod angen swm sylweddol, aeth yr elusen ati i fenthyg o’r Banc Elusennau.

Roeddent yn ymwybodol byddai cwestiynau yn cael ei ofyn am gymorth gwladwriaethol, felly aeth yr elusen at gwmni cyfreithiol yng Nghaerdydd sy’n arbenigo yn hyn. Ysgrifennwyd adroddiad ar finimeiddio’r risg ac fe wnaeth y ddogfen dangos y rhesymeg am pam nad oedd yn torri’r rheolau. Roedd yr adroddiad yma yn cymorth mawr wrth ddelio a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Swyddogion Ewrop amdano’r gwesty.

Prif negeseuon

Felly’r prif neges o Westy Seren yw nad ydy’n broses cyflym sy’n digwydd mewn chwinciad. Ond serch hynny mae’n glîr trwy edrych ar y sylwadau ar ei dudalen TripAdvisor bod y gwaith caled wedi bod yn werth chweil. Ac os edrychwch chi ar y geirda yma o ofalwr neu’r erthygl yma mewn cylchlythyr, mae’n glîr bod y gwesty yn cynnig gofal ysbaid sy’n cael effaith mawr ar bywydau pobl, sydd wedi cyfranu at adfywio ardal Blaenau Ffestiniog gan greu 10 o swyddi llawn amser, ac wedi cyfrannu at y diwydiant twristiaeth.

Rhifyn arbennig i Gymru o’r Journal of Integrated Care – beth yw’r ots?!!!

Sut allwn integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn well? Isod mae Stewart Greenwell o ADSS (Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol) Cymru yn rhannu’r gwersi o rifyn Cymru o’r Journal of Integrated Care.

Stewart GreenwellMae’n bur debyg bod ysgrifennu am beth rydych chi’n ei wneud yn rhywbeth cyffredin mewn sawl arena broffesiynol ond, fel rheol, mae ar gyfer cynulleidfa gyfyngedig iawn – y cyflogwr, defnyddwyr gwasanaeth weithiau hyd yn oed, fel eu bod yn gallu gweld gweithiwr proffesiynol yn esbonio beth mae wedi’i weld, beth mae wedi’i wneud a beth mae’n bwriadu ei wneud. Mae ysgrifennu ar gyfer cyfnodolyn academaidd yn ddarn gwahanol o waith – mae’r gynulleidfa’n ehangach, y rheolau’n teimlo’n fwy cymhleth ac mae mwy o graffu ar yr ysgrifennu.

Rydw i wastad wedi teimlo bod ysgrifennu’n gyfrwng i fyfyrio ar beth rydw i wedi’i wneud a’r gobaith yw y bydd y rhifyn arbennig o’r Journal of Integrated Care sy’n canolbwyntio’n benodol ar Gymru’n dod â rhai o’n hymdrechion yng Nghymru i arena gyhoeddus ehangach, er mwyn i eraill – llunwyr polisïau ac ymarferwyr yng Nghymru yn arbennig – elwa.

Rydw i wastad wedi teimlo bod cydweithredu a/neu integreiddio yn ffordd naturiol o greu cynghreiriau er mwyn sicrhau nad yw pobl yn cael eu gyrru o un lle i’r llall. Yn anffodus, o ’mhrofiad i, mae’r sector cyhoeddus wedi gwneud hynny i bobl gyffredin, gan eu gadael yn wynebu tasg heriol o feistroli systemau, llefydd a phobl er mwyn ceisio cael ymateb i gyfres o amgylchiadau sy’n eu poeni nhw. Felly drwy leihau nifer y drysau y mae’n rhaid cnocio arnyn nhw, nifer y rhifau ffôn i’w ffonio a’r bobl i siarad â nhw, mae’r llwybr yn llai peryglus ac yn llai blinedig wedyn, ac yn fwy tebygol o arwain at lwyddiant i bobl gyffredin.

Daw hynny’n rhesymeg ar gyfer cydweithredu ac integreiddio – er mwyn gwella bywydau pobl a dim ond y diwedd hwnnw sy’n rhoi boddhad.

Nid oedd y bobl sydd wedi cyfrannu at rifyn Cymru wedi cael llawer o brofiad o ysgrifennu at bwrpas cyhoeddi. Roeddent i gyd wedi ysgrifennu ar gyfer eu hasiantaethau eu hunain, gan ddadlau o blaid newid arferion, dros neilltuo rhywfaint o adnoddau ychwanegol a thros y rhesymau niferus eraill sy’n gwneud i ni roi pensel ar bapur (neu fysedd ar allweddell) i’n cyflogwyr.

Mae wedi bod yn frwydr; fe gymerodd bopeth fwy na’r disgwyl, ac roedd rhyw gyfeiriad arall i edrych arno bob amser. Mewn sawl ffordd, mae’n adlewyrchu’r frwydr y mae llawer o’r awduron yn cyfeirio ati, sef credu bod yr hyn roeddent yn mynd ar ei ôl yn werth yr ymdrech, ac ymatal rhag y teimlad o ‘Mewn gwirionedd, does gen i ddim byd i’w ddweud y bydd pobl eisiau ei glywed’.

Roedd eu hymdrechion, ein hymdrechion a dweud y gwir, ers i’r peth ddechrau wrth i ni i gyd siarad am y syniad mewn ystafell mewn canolfan eglwysig yn yr Amwythig – dechrau da, gan ei fod yn ein hatgoffa bod rhaid i chi dorri’r rheolau weithiau er mwyn cyflawni rhywbeth (yn yr achos hwn, dewis cyfarfod y tu allan i Gymru!!) – yn werth y cyfan.

Mae’r erthyglau’n tynnu sylw at themâu digwyddiadau SAC ar 14eg ac 22ain Hydref, sef bod integreiddio a chydweithredu’n ymwneud llai â gwyddoniaeth a mwy â chrefft a gweithio’n galed; gwthio ffiniau’r ffordd draddodiadol o feddwl yn gyson a’n hatgoffa ein hunain nad oes byth reswm dros beidio â ‘gwneud y peth iawn’, ond yn aml mae sawl rheswm dros ddal ati i ‘wneud pethau’n iawn’. Mae’r cyntaf yn ymwneud â phobl a’r olaf yn aml ag ychydig bach mwy na glynu wrth broses.

Er hynny, roedd y broses yn egnïol ac, yn y pen draw, yn llwyddiannus. Mae’n dyst i gymeriad a chryfder arferion da, pwysigrwydd arweiniad diwyro a phenderfynol a’r mwyaf allweddol o’r cwbl, bod ffocws ar beth sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn eich tynnu chi drwodd a thu hwnt i bawb sy’n amheus ac yn ymwrthod!!

Sut gallwch chi wella’ch cynllunio ar gyfer eich Gweithlu Gofal Cymdeithasol?

Yn 2011/12 nododd arolygiadau Estyn ac AGGCC bod angen i Gyngor Sir Penfro mynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â chadw a recriwtio gweithwyr cymdeithasol. Isod, mae Anne Nicholson yn trafod sut mae’r cyngor wedi mynd ati i wneud hynny.

Pembrokeshire County Council / Cyngor Sir PenfroGwnaethom waith ymchwil sylweddol ar recriwtio a chadw, llwyth gwaith a chymorth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Daeth i’r amlwg o’r gwaith ymchwil hwnnw fod gennym nifer uchel o weithwyr cymdeithasol sy’n gwerthfawrogi’r ffaith eu bod yn byw a gweithio yn Sir Benfro ac sydd am barhau i weithio i’r Awdurdod. Wrth gwrs, mae hyn yn rhinwedd, fodd bynnag, adroddodd y rhain nad oedd y manteision o weithio a byw yn y sir yn cyfiawnhau’r ddadl dros “y gyfradd gyffredinol ar gyfer y swydd” a’r angen am lwyth achosion y gellir ei reoli. Mae gennym nifer uchel o ymarferwyr profiadol sydd â sgiliau priodol ac sydd wedi ymrwymo i weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Nododd y pwyllgor Trosolwg a Chraffu y dylid gwneud y broses o recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol yn flaenoriaeth ar gyfer Sir Benfro gan ei gwneud yn eitem barhaus ar eu hagenda, a bydd adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y gwaith hwn yn cael eu cyflwyno.

Dewiswyd y prosiect cynllunio’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol fel un o Gytundebau Canlyniadau Sir Benfro ar gyfer 2013-2016. Yn ogystal â bod yn flaenoriaeth i Gyngor Sir Penfro, dangosodd gysylltiad clir â Thema Strategol Rhaglen Lywodraethu Cymru ar gyfer Trechu Tlodi. Roeddem yn credu y byddai canlyniadau plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n bwy mewn tlodi yn gwella drwy ddarparu gwasanaeth gofal cymdeithasol proffesiynol effeithiol gan weithlu gofal cymdeithasol wedi cymhwyso a hyfforddi’n ddigonol. Dyma sut aethom ati i gyflawni hyn:

  • Datblygu model ar gyfer recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol
  • Datblygu mecanweithiau effeithiol i atgyfeirio plant a theuluoedd i’r prosiect Dechrau’n Deg er mwyn derbyn cymorth arbenigol.

Gyda’i gilydd, mae’r broses o adolygu cyflogau a graddfeydd a’r broses o ddatblygu technolegau er mwyn helpu i recriwtio wedi profi’n ffordd lwyddiannus o arwain gwelliannau yn y maes hwn. Yn sgil ategiad y farchnad a chanlyniadau’r Adolygiad o Gyflogau a Graddfeydd cafwyd cynnydd yng ngraddfeydd y cyflogau cychwynnol a’r cyflogau uwch yn Sir Benfro gan wneud Sir Benfro yn fwy cystadleuol. Mae nifer y swyddi gwag ar gyfer gweithwyr cymdeithasol wedi lleihau 88%; mae nifer y staff asiantaeth sy’n angenrheidiol wedi gostwng 60% ac mae lefel trosiant cyffredinol wedi gostwng.

Rydym wedi gostwng costau drwy symud oddi wrth ddulliau hysbysebu mwy traddodiadol ac, yn aml, mwy costus (sy’n rhan o’n strategaeth gyffredinol ar gyfer recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol) ac wedi recriwtio ymgeiswyr yn llwyddiannus drwy ddulliau hysbysebu newydd e.e. drwy YouTube, Google, Facebook a LinkedIn.

Erbyn hyn, mae gennym weithdrefn gadarn ar waith ar gyfer cyflogi gweithwyr asiantaeth ac mae’n rhaid cael swydd wag mewn tîm cyn y gellir eu cyflogi.

Gwneud integreiddio yn “fusnes craidd”

Erthygl blog gwadd gan Yr Athro David Oliver.

Mae David yn Fferyllydd Ymgynghorol yn Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Royal Berkshire; Athro Gwadd Meddygaeth i Bobl Hŷn, City University, Llundain; Cymrawd Gwadd, Cronfa’r Brenin; Darpar Lywydd, Cymdeithas Henoed Prydain; ac yn gweithio yn y Department of Health National Clinical Director for Older Peoples Services (Lloegr).

Does bosib fod y ffaith fod y boblogaeth yn heneiddio yn rheswm i ddathlu yn hytrach na’i weld fel bwgan mawr. Mae’n fuddugoliaeth i amodau cymdeithas, meddygaeth ataliol ac iechyd y cyhoedd, ynghyd â datblygiadau mewn triniaethau meddygol. Mae’n rhoi mwy o obaith i ni gyd y gallwn fyw’n hŷn. Ychydig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd bron i hanner poblogaeth y DU yn marw cyn eu bod yn cyrraedd eu 65 oed. Erbyn hyn, dim ond 14% sy’n marw cyn cyrraedd 65 oed, a phobl dros 80 oed yw’r demograffig sy’n tyfu gyflymaf. Erbyn 2030, bydd dyn 65 oed yn byw tan y bydd yn 88 oed ar gyfartaledd, a menyw 65 oed yn byw tan y bydd yn 91 oed ar gyfartaledd.

Er bod pobl hŷn yn nodi lefelau uchel o les a hapusrwydd ar y cyfan a bod llawer ohonynt yn dal i fyw’n annibynnol, nid oes modd anwybyddu’r ffaith y bydd mwy o bobl hŷn yn arwain at ganlyniadau anochel: mwy o bobl â Chyflyrau Hirdymor lluosog, syndrom eiddilwch, Dementia a rhyw fath o anabledd neu ddibyniaeth. Yn aml, mae’r unigolion hyn yn dibynnu ar wasanaethau ac ymarferwyr lluosog ac ar ofal anffurfiol gan deulu a ffrindiau.

Mae angen i’n model gwasanaeth presennol symud mwy tuag at ataliaeth a gofal cydgysylltiedig sy’n canolbwyntio ar anghenion unigolion yn hytrach na chlefydau unigol, a chydnabod bod gofal pobl hŷn o’r fath bellach yn “fusnes craidd” i systemau iechyd a gofal. Os na fyddwn yn llwyddo i ddarparu’r gofal priodol i bobl hŷn ag anghenion cymhleth, ni fyddwn yn llwyddo i wneud hynny ar gyfer unrhyw grŵp. Mae gan hyn oblygiadau radical i’r gweithlu, addysg a hyfforddiant a gwaith integredig a chydweithredol rhwng sefydliadau. Mae Cymru eisoes wedi gwneud trefniadau i helpu i gyflawni’r nodau hyn, ac mae ganddi lawer o enghreifftiau o wasanaethau da i bobl hŷn. Ond mae angen i ni rannu arferion da yn gyflym ac i’r fath raddau fel bod gweddill y gwasanaethau’n datblygu i fod cystal â’r gwasanaethau gorau, a bod yn barod i archwilio systemau iechyd eraill er mwyn gweld enghreifftiau o wasanaethau da.

Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiadau hyn a’r “gymuned arfer da” a fydd yn deillio ohonynt yn helpu i hwyluso sgwrs gyhoeddus, gwella cydweithredu ac annog rhannu syniadau da. Yn y pen draw, rydym yn gobeithio y bydd yn arwain at wasanaethau sy’n mynd y tu hwnt i “ddatganiadau cenhadaeth” ac at wasanaethau sy’n canolbwyntio ar anghenion y boblogaeth sy’n heneiddio.

Dyma cipolwg o rai o brif negeseuon adroddiad diweddar gan Yr Athro Oliver a’i gydweithwyr, ‘Making our health and care systems fit for an ageing population’.

Gadewch i ni roi’r gorau i redeg pobl o gwmpas

49. Stewart PhotoBlog gwadd gan Stewart Greenwell, ADSS Cymru

Felly pam cymaint o sylw ar integreiddio gwasanaethau, yn enwedig iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? Wel, mae’n gwneud synnwyr os yw’r sector cyhoeddus yn symud i ffwrdd oddi wrth, yn anffodus, yr hyn y mae wedi bod yn dda iawn yn gwneud, cyhyd ag y gallaf gofio a chyn belled gan fy mod wedi bod yn rhan ohono – felly nid ydw i’n ysgrifennu fel paragon o rinwedd!!

Mae’n achosi pobl redeg o gwmpas

Gofynnwch i unrhywun sy’n defnyddio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn rheolaidd a byddant yn gallu disgrifio amgylchiadau pan fyddant wedi eu pasio yn ôl ac ymlaen rhwng asiantaethau a gweithwyr proffesiynol, yn aml yn cael eu gadael i ddatrys y gwahaniaeth rhwng prosesau gwahanol asiantaethau a’u cyfrifoldebau gwahanol, heb gymorth a chefnogaeth.

Pryd i fynd at y cyngor, pryd i’r GIG, pryd i sefydliad gwirfoddol? A beth yw’r canlyniadau os ydych yn ei gael yn anghywir? Ar y gorau gall hyn olygu oedi ac, ar y gwaethaf, dim cael mynediad i’r wybodaeth a’r cyngor cywir i’ch helpu i ddod o hyd i ateb neu ymateb i’r hyn sy’n eich poeni.

Felly dyna’r rheswm pam fod integreiddio a chydweithio rhwng asiantaethau mor bwysig. Mae’n ei gwneud yn haws i bobl weithio allan eu ffordd o amgylch y system, neu fel arfer SYSTEMAU. Anaml y bydd yn teimlo fel un system.

Mae ‘Cryfhau’r Cysylltiadau’ yn ceisio pontio’r bwlch y mae pobl yn profi rhwng y GIG a llywodraeth leol, tra’n cydnabod bod yna lawer o asiantaethau eraill sy’n cynnig cymorth i bobl pan fydd angen help hefyd, felly mae angen cysylltiadau hawdd a perthynas da ar draws yr holl asiantaethau. Nid yw pobl yn byw eu bywydau yn y ffiniau cyfrifoldebau asiantaethau, felly dylai gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau ei wneud yn hawdd i rywun i weithio allan eu ffordd i gael cymorth, dim gadael pobl yn sownd mewn beth sy’n teimlo fel system gymhleth iawn. Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a’r Conffederasiwn GIG Cymru yn gweithio gyda’i gilydd ar y prosiect hwn i wneud i hyn ddigwydd, gan ddangos ei bod yn bosibl i oresgyn gwahaniaethau, os ydym yn canolbwyntio ar ein nod cyffredin, i wella’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl a’u profiadau o’r gwasanaethau hynny.

Fe dalodd Llywodraeth Cymru am y prosiect hwn fel rhan o gefnogi gweithrediad darn pwysig iawn o ddeddfwriaeth sydd ar hyn o bryd yn gwneud ei ffordd trwy bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru). Mae’r Mesur yn blaenoriaethu gwella bywydau pobl, gan roi rheolaeth i bobl dros eu bywydau a chael gwared ar rwystrau diangen a di-fudd i bobl dderbyn gwasanaethau o safon.

Mae rhai negeseuon pwysig a chyffredin sy’n dod i’r amlwg o’n gwaith a fydd yn arwain at welliannau go iawn:

Gwrando ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthych am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd ddim – gwneud mwy o’r hyn sy’n gweithio a llai o’r hyn sydd ddim. 

Datblygu dealltwriaeth o fusnes asiantaethau eraill – bydd hyn yn rhwystro chi rhag basior baich i eraill ac yn eich gwahodd i helpu pobl i weithio allan eu ffordd tuag at wasanaeth da.

 Os ydych yn gwneud rhywbeth ar eich pen eich hun, mae’n debyg eich bod yn ei wneud yn anghywir – fel gweithiwr rheng flaen, chwiliwch am y gweithwyr eraill sy’n rhan o fywyd y person ac yn cysylltu â nhw; fel rheolwr, siarad â rheolwyr o asiantaethau eraill ac ystyried beth y gallwch ei wneud gyda’n gilydd – darganfod y llawenydd o rannu cyfrifoldeb! 

Byddwch yn barod i adael i fynd o fod mewn rheolaeth o’r hyn sy’n digwydd – gall fod gan bobl eraill rhywbeth defnyddiol i’w gynnig ac yn aml y person sydd angen cymorth, pan roddir llais, yn gallu roi cliw i hyn a fydd yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau.

Mae Cryfhau’r Cysylltiadau yn golygu hynny’n union: rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o ddod a gwasanaethau at ei gilydd fel ein bod yn adeiladu yr hyn sydd gennym i’w gynnig o gwmpas bywydau pobl, yn hytrach na disgwyl i bobl ffitio i mewn i’r ffiniau artiffisial yr ydym wedi creu o gwmpas ymddygiad proffesiynol a chyfrifoldebau asiantaethau.

Fodd bynnag, nid yw’n hawdd, gan fod rhaid i ni adael fynd o sut yr ydym wedi gwneud pethau yn y gorffennol ac mae’n rhaid i ni ganiatáu i eraill i ddylanwadu ar yr hyn rydym yn ei wneud, ond …..

Mae ei wneud yn wahanol hefyd yn llawer mwy o hwyl, yn fwy heriol ac yn galw ar mwy o greadigrwydd, wrth i ni ddod o hyd i ffyrdd o symud ymlaen gyda’n gilydd a chyda’r cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu.

Cryfhau ein Cysylltiadau #integration14

Mae’r Tîm Arfer Da wedi dod o hyd i rai partneriaid newydd i helpu rannu gwybodaeth ac arfer da ym maes iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru a Sefydliad Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddwn yn rhannu rhai o’r syniadau diddorol ac arferion da sy’n dod allan o’u prosiect Cryfhau Cysylltiadau, sy’n edrych ar gydweithio ac integreiddio rhwng llywodraeth leol a GIG Cymru.

Felly, sut ddigwyddodd hyn? Cawsom ni, y Tîm Arfer Da, sgwrs gyda chydweithwyr am y themâu allweddol y dylem fod yn canolbwyntio ar y flwyddyn hon. Fe wnaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig fflachio i fyny fel maes lle y gallai rhannu rhywfaint o arfer da a ffyrdd o weithio bod yn fuddiol. Felly, dechreuom ni gynllunio rhai seminarau dysgu a rennir. Gallwch ddychmygu pa mor hapus oeddem wedyn i ddarganfod prosiect ‘Cryfhau’r Cysylltiadau’ ADSS Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru a WIHSC. Ac fel rhan o’r prosiect hwn, eu bod hyd yn oed yn cynllunio cyfres o ddigwyddiadau arddangos ar draws Cymru i arddangos rhai astudiaethau achos diddorol a syniadau. Yr ateb amlwg? I uno ein digwyddiadau a gweithio gyda’i gilydd i rannu arfer da a gwybodaeth yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

A pham ydym yn credu bod y dull hwn yn fuddiol? Wel, mae’n ddull integredig ynddo’i hun. Rydym yn cael cyfuno profiad y Tîm Arfer Da wrth rannu gwybodaeth ac arfer da gydag arbenigedd ein partneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn cael cynnwys yr astudiaethau achos diddorol a welsom ni o fewn digwyddiadau arddangos mwy o faint a gwneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd y gynulleidfa gywir. Mae hyn yn cynnwys rhai enghreifftiau ardderchog o rannu data o Sir Gaer a gofal integredig mewn cartrefi gofal o Sheffield. Rydym hefyd yn cael helpu rhannu’r gwaith gwerthfawr y mae ein partneriaid yn ei wneud eleni. Ond yn bwysicaf oll, mae gweithio gyda’n gilydd yn helpu i gydlynu’r ymdrech i ddarparu gofal integredig, a chanolbwyntio yn wirioneddol ar anghenion unigol. Mae Cronfa’r Brenin wedi cynhyrchu fideo gwych i ddod â gofal integredig i fywyd ac dangos yr hyn y mae mewn gwirionedd ei olygu i gleifion.

Nawr mae gennym rai cynlluniau am sut y gallwn helpu ein partneriaid i rannu syniadau, gwybodaeth ac arfer da sy’n datblygu allan o’u gwaith. Dros y mis nesaf, byddwch yn gweld rhai blogiau gwadd yma gan ein partneriaid ac eraill i rannu gwybodaeth yn y maes integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn rhannu dolenni i erthyglau, syniadau ac adnoddau diddorol ar ofal integredig ar Twitter – bydd yn wych i glywed gan unrhyw un ohonoch sy’n gwybod am waith da s’yn mynd ymlaen yn y maes hwn. Ac wrth gwrs, byddwn yn trydar a blogio o gwmpas y cyfres o ddigwyddiadau arddangos a gynlluniwyd ar gyfer mis Ebrill, yn gadael i chi gymryd rhan yn y sgwrs, rhannu eich syniadau eich hun a gweld yr allbynnau o’r digwyddiadau.