Tag Archives: dysgu a ddatblygiad

Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

Mae’r ffordd ni’n dysgu a chymryd gwybodaeth i mewn yn datblygu drwy’r amser. Yn y blogbost isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar beth y dysgodd trwy gymryd rhan ym mhodlediad NatterOn.

Copi o logo Podlediad NatterOn

Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydw i wedi bod yn gwrando ar bodlediadau i ehangu fy ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y byd ac i gael dealltwriaeth well o sut allai wella fy ngwaith. Mae’r app Podcast Addict wedi bod yn ffordd dda o reoli podlediadau ddiddorol gan ei fod yn dod â sawl podlediad at ei gilydd i mewn i un ffrwd.

Dyma rai Podlediadau rydw i wedi ffeindio’n ddefnyddiol:

Fe fyddwn i’n ychwanegu podlediad NatterOn i’r rhestr hefyd. Mae’n bodlediad ddigidol a marchnata sy’n cael ei rhoi at ei gilydd gan Helen Reynolds a Ben Proctor. Mae gan y ddau ohonynt feddylfryd hynod o flaengar. Mae Helen yn deall yn well na neb sut fydd cyfryngau cymdeithasol yn newid cyfathrebu. Ac rydw i wedi dysgu cymaint am ddata o Ben. Mae ei blogbost ar Aeddfedrwydd Data mewn llywodraeth leol yn arbennig, ac mae’r erthygl wedi bod yn sail i fy meddylfryd wrth i mi fynd i’r afael a data gyda Gweithgor Data a Thechnoleg Swyddfa Archwilio Cymru.

Felly pan wnaethon nhw ofyn i mi gymryd rhan yn y podlediad, dywedais ‘ie’ yn syth achos byddai’n rhoi’r cyfle i mi wneud y fwyaf o’u harbenigedd ar wella gwasanaethau cyhoeddus am awr.

Felly beth ddysgais i?

Fi’n siwr na fydd hyn yn syndod i unrhyw un, fe ddysgais i lot. Rhannodd Helen blogbost diddorol iawn ar Rhagfarn Anymwybodol, sy’n dod a nifer o wahanol fathau o ragfarn at ei gilydd i mewn i bedwar prif broblem:

  • Rydym yn hidlo gwybodaeth yn weithredol er mwyn osgoi gormodedd o wybodaeth.
  • Mae diffyg ystyr yn ein ddrysu, felly ni’n llenwi’r bylchau i mewn.
  • Rhaid i ni weithredu’n gyflym, felly ni’n neidio i gasgliadau.
  • Rydym yn gweithio mewn amgylcheddau cymhleth felly rydym yn canolbwyntio ar y darnau pwysig. Mae ein penderfyniadau yn llywio ein modelau meddyliol o’r byd.

Felly beth mae hyn yn golygu i wasanaethau cyhoeddus? I mi, mae’n ymwneud ag ymwybyddiaeth. Os ydym yn cymryd yr amser i fyfyrio’n weithredol ar y problemau yma, gallwn fod yn fwy ymwybodol o’n rhagfarn wrth i ni ryngweithio â phobl a darparu gwasanaethau. Rydym wedi nodi hwn fel mater pwysig yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly cynhaliom ddigwyddiad mewnol i fynd i’r afael a hyn. Mae’r Storify yn cynnwys lot o adnoddau defnyddiol, gan gynnwys Prawf Cysylltiadau Ymhlyg Harvard.

Cawsom sgwrs dda iawn ar ymddiriedaeth a beth mae hyn yn ei olygu o ran Cysylltiadau Cyhoeddus a gwasanaethau yn gyffredinol ar ôl i Ben rhannu blogbost ar y rhyfel ar wirionedd. Edrychodd Helen ar y swyddi sydd ar frig Baromedr Ymddiriedaeth Edelman, sy’n dangos bod ymddiriedaeth pobl yn y llywodraeth yn dibynnu ar ba mor fodlon maen nhw â’u byd. Mae gan hyn oblygiadau mawr i sut rydym yn rhyngweithio â phobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd gwahanol.

Mae ein prosiect wedi gwneud gwaith ar bwysigrwydd ymddiriedaeth staff yng ngwasanaethau cyhoeddus. Mae’n ddiddorol i gymryd rhai o’r gwersi o’r gwaith yma a’i rhoi mewn cyd-destun ehangach o weithio a chymunedau:

  • Gallu – ydyn ni’n dangos ein bod ni’n gallu gwneud ein gwaith?
  • Haelioni – oes gennym gymhellion diniwed a phryder am eraill sydd tu hwnt i ein anghenion ein hunain?
  • Gonestrwydd – ydyn ni’n weithredu i’n egwyddorion? Ydych chi’n weithredu mewn modd deg ac onest?
  • Rhagweladwy – ydy pobl yn gwybod beth rydyn ni’n debyg o wneud?

Ac ar ôl i mi rannu blogbost ar Ddull Digidol GCHQ, dysgais hefyd bod y ddywediad am brogaod mewn dŵr berwedig yn celwydd a hanner!

Beth arall wnes i rannu?

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da hefyd yn meddwl am sut allwn ni helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu eu hymagweddau at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Felly rhannais blogbost Chris Bolton ar Gemau Efelychu a Gwneud Penderfyniadau Cynaliadwy gan ei fod wedi ysgogi mi i feddwl yn wahanol am sut rydyn ni’n helpu gwasanaethau i wella.

Rydw i hefyd wedi bod yn meddwl am rôl dysgu a datblygu yn y gweithle. Rydw i wedi bod yn gweithio i wasanaethau cyhoeddus am ddeng mlynedd neu fwy, a dim ond tri o’r cyrsiau hyfforddi sydd wedi cael effaith go iawn ar fy ngwaith. Felly ydy e’n bosib i ddolenni ein dysgu a datblygiad gyda gwelliant gwasanaethau cyhoeddus? Mae Carl Haggerty wedi ysgrifennu blogbost arbennig ar hyn.

Rhannu gwybodaeth mewn modd addas

Mae yna sleid rydym yn defnyddio yn ein digwyddiadau i ddangos y ffyrdd gwahanol rydym yn rhannu gwybodaeth – drwy ein blog, cyfryngau cymdeithasol, Treialon Coffi ar Hap, e-bost a dros y ffôn. Rydym yn cydnabod nad yw pawb eisiau derbyn gwybodaeth yn yr un modd, ac nid yw pawb yn prosesu’r wybodaeth yma yn yr un ffordd. Un o egwyddorion allweddol ein gwaith yw does yna ddim dull ‘un maint i bawb’ ar gyfer gwasanaethau gwell. Mae podlediadau yn un o sawl ffordd ddefnyddiol y gallwch dderbyn a rhannu gwybodaeth, felly mae’n werth gwrando ar y podlediad yma a phodlediadau eraill i weld os allan nhw eich helpu chi i wella’ch gwaith a beth chi’n gwneud.

Treialon Coffi ar Hap: Sut maen nhw’n mynd?

All Treialon Coffi ar Hap helpu pobl o fewn eich mudiad i rwydweithio a rhannu gwybodaeth? Yn y blogbost yma, mae Bethan Davies yn arolygu defnydd y Gyfnewidfa Arfer Da o’r dull.

Efallai bod rhai ohonoch eisoes yn ymwybodol bod y Tîm Arfer Da wedi bod yn cynnal Treialon Coffi Ar Hap yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fel ffordd o annog cynadleddwyr i barhau i sgwrsio ar ôl digwyddiadau. Gwnaeth Dyfrig Williams flogio am Dreialon Coffi Ar Hap y llynedd.

Ym mis Ionawr, dyma ni’n meddwl y byddai’n syniad da gweld sut y mae’r broses yn mynd yn ei blaen, a ph’un a yw’n rhywbeth y dylem barhau ag ef, neu a oes angen i ni ddod o hyd i ddull newydd o weithredu. Gwnaethom benderfynu cynnal arolwg ymysg y rhai a fynychodd ein seminarau i geisio barn y rhai a oedd wedi cymryd rhan a’r rhai nad oeddent wedi cymryd rhan, i gael eu barn.

Cawsom 65 o ymatebion i’n harolwg, gydag ymatebion diddorol, ac ar y cyfan, roedd y rhan fwyaf yn gadarnhaol. Dyma rai o’r rhesymau pam roedd pobl yn hoffi’r Treialon Coffi Ar Hap:

  • Mae’n dda cael gwybod bod cydweithwyr yn y sector cyhoeddus yn wynebu’r un math o rwystredigaeth a heriau!
  • Mae’n gyfle da i drafod gwaith cyfredol, rhannu arfer da a dysgu oddi wrth eraill.
  • Mae’n gyfle i gael trafodaethau defnyddiol gyda phobl na fyddent byth yn dod ar eu traws fel arall yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
  • Mae’n ffordd wych o ddysgu beth mae pobl a sefydliadau eraill yn ei wneud ac yn helpu i nodi cyfleoedd posibl a all fod o fudd i waith eich sefydliad eich hun.

I’r rhai nad oedd wedi cymryd rhan yn y treialon, roedd y rhesymau’n amrywio o ddim amser gan bobl i gymryd rhan ar ben eu swyddi o ddydd i ddydd, doedd ganddynt ddim diddordeb yn y broses, neu doeddent ddim yn deall y broses, sy’n wers i ni.

Gwnaeth yr adborth i mi feddwl sut rydym yn sicrhau bod cynadleddwyr yn cael yr un cyfleoedd i ymgysylltu a pharhau i sgwrsio ar ôl ein digwyddiadau. Gall cael swydd brysur o ddydd i ddydd olygu nad yw rhai pobl eisiau gwneud ymrwymiad ychwanegol i gwrdd â rhywun newydd. Un adborth diddorol a gawsom gan gynadleddwr oedd y dylem sefydlu Treil Coffi Ar Hap yn ystod neu ar ôl ein seminar – rhywbeth tebyg i ‘speed dating’! Byddai hynny’n galluogi pawb i gymryd rhan, a gobeithio y byddai’n rhoi eglurhad pellach i’r rhai nad ydynt yn deall y broses, a galluogi’r rhai sydd eisiau parhau i wneud hynny. Rhywbeth i ni ei gadw mewn cof!

Awgrym arall oedd cael gofod ar-lein lle gall pobl rannu eu straeon a dod o hyd i bartneriaid/sefydliadau newydd a hoffai drafod yr un materion. Enghraifft ddiweddar o sefydliad sy’n gwneud rhywbeth tebyg yw Monmouthshire Made Open.

Ciplun o Monmouthshire Made Open

Mae Monmouthshire Made Open yn caniatáu i bobl osod heriau; torfoli datrysiadau; cyflwyno syniadau a gofyn am arian, gwirfoddolwyr neu ddeunyddiau ar un llwyfan unigol. Yn wahanol i gyfryngau cymdeithasol eraill mae’n caniatáu i bobl droi problemau yn gamau gweithredu mewn un lle. Mae pobl yn meithrin ac adeiladu cysylltiadau a ffurfio grwpiau, gall pobl ‘hoffi’ syniadau a helpu i lunio datrysiadau a all helpu i adeiladu consensws ac ymgyrchu dros newid.

Mae Monmouthshire Made Open yn parhau i fod yn ei gyfnod datblygiad cynnar, ond mae’n werth taro golwg drosto. Mae Cyngor Sir Fynwy yn gobeithio y daw’r llwyfan hwn yn offeryn allweddol er mwyn cynnwys pobl yn y gwaith o ddatblygu’r asesiad lles ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’u helpu i nodi datrysiadau arloesol a rennir.
Rydym am barhau gyda’r Treialon Coffi Ar Hap yn y dyfodol agos, ond os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar ein cyfer, yna cysylltwch â ni!

Gan fod pob un ohonom yn wynebu cyfnod cymhleth a heriol, nid oes gan unrhyw unigolyn neu sefydliad unigol yr atebion i gyd, felly mae’n bwysig ein bod yn annog cyfathrebu rhwng sefydliadau ac annog dysgu.