Tag Archives: cyngor sir dyfnaint

Digidol: Mae’n ymwneud ag ailgynllunio, nid busnes fel arfer

Nid oedd ein seminar Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol yn ymwneud ag adnoddau digidol, ond newid mewn meddylfryd. Ond beth y mae’n ei olygu yn ymarferol? Mae Ena Lloyd yn myfyrio ar yr hyn a ddysgodd o’r digwyddiad.

Rwyf wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno seminar diweddar ar Ddigidol fel rhan o Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru. I ni fel sefydliad, mae trawsnewid digidol yn amcan strategol allweddol ac yn flaenoriaeth, yn ogystal â bod yn gyfraniad enfawr at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Fel rhan o elfen gynllunio’r seminar, gwnaethom gynnal adolygiad eang o lenyddiaeth drwy lwybrau academaidd a masnachol yn ogystal ag amrywiaeth eang o gyfryngau cymdeithasol. Buom yn siarad â phobl â llawer o wybodaeth Ddigidol arbennig yn y sector preifat, y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r byd academaidd er mwyn i ni gael dealltwriaeth dda o’r hyn yr oedd angen i ni ganolbwyntio arno yn y seminar hwn. Y seminar hwn oedd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau i gefnogi trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus. Gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon ei fod yn seminar tyngedfennol i mi. Pam? Oherwydd roeddwn i’n credu y byddai’n rhesymol disgwyl y byddai technoleg yn bwnc mynych mewn sgyrsiau yn y sesiwn llawn a’r gweithdai. Ond nid ddigwyddodd. Felly beth gododd?

Gallai fod yn ddefnyddiol gwrando ar glip fideo 90 eiliad o’r Cynghorydd Barry Parsons a Carl Haggerty o Gyngor Sir Dyfnaint. Maent yn rhannu’r negeseuon allweddol ac nid yw’r gair technoleg yn codi unwaith!

Felly, beth yw’r man cychwyn?

Daeth yn amlwg o’r seminar nad yw digideiddio gwasanaethau cyhoeddus yn golygu symud gwasanaeth ‘tebyg am ei debyg’ ar lwyfan ddigidol. Beth fyddai diben hynny? Mae angen i ni edrych ar y ffordd y gallwn wneud pethau’n well gyda defnyddwyr gwasanaethau. Mae angen i ni siarad â nhw, yn ogystal â darparwyr gwasanaeth tebyg a allai ategu ei gilydd. Credaf ei bod yn ddiogel dweud na all gwasanaethau cyhoeddus yn ariannol, fforddio darparu gwasanaethau yn eu fformat presennol. Felly mae darganfod yn gyflym pa ailgynllunio sy’n debygol o weithio yn hanfodol.

Yn ogystal â phwysigrwydd amser neu weithio’n gyflym fel y mae’n well gen i feddwl amdano, dysgais hefyd fod y canlynol yn wir pan ddaw i ailgynllunio:

  • Tlws pob peth bychan, felly dechreuwch ar raddfa fach. Hyd yn oed os nad yw’n digwydd, gallwch ddysgu gwersi. Ni allwn aros nes y bydd prosiectau anferth yn dwyn ffrwyth
  • Mae methu’n gyflym yn beth da. Rhaid i ni symud yn gyflym ar gyfer arloesedd amserol
  • Gwnewch yn siŵr fod eich prawf o gysyniad yn gadarn. Mewn geiriau eraill, diffiniwch faterion yn glir er mwyn gwneud yn siŵr ein bod wedi cael popeth yn iawn o’r dechrau’n deg; ac
  • Yn bennaf, gyda’r ailgynllunio – parhewch nes y cewch eich atal

Mae gweithdy Y Lab yn helpu i ddangos y pwyntiau hyn. Yn y gweithdy siaradodd Jess Hoare, Amy Richards a Rob Ashelford am nifer o enghreifftiau o brosiectau bach arloesol a weithiodd yn gyflym ac sydd wedi gallu dangos hyfywedd mewn cyfnod byr iawn o amser. Roeddwn yn hoffi’r enghraifft o’r hyn sy’n digwydd yng Nghyngor Caerdydd. Drwy Gronfa Arloesedd Digidol Cymru, gweithiodd Y Lab gyda phum sefydliad ar brosiectau trawsnewid amrywiol. Yng Nghyngor Caerdydd, mae’r prosiect yn treialu technoleg Rhyngrwyd Pethau (‘Internet of Things’) i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus. Caiff synwyryddion eu defnyddio mewn gwahanol safleoedd yn y ddinas i ddarparu data ar lefelau dŵr mewn ceuffosydd. Gellir defnyddio’r wybodaeth amser real hon i lywio’r gwaith o ragfynegi ac atal llifogydd yng Nghaerdydd. Drwy ddysgu o’r prosiect hwn, a’r caledwedd a’r seilwaith rhwydwaith a ddarparwyd drwy’r grant, mae iddo’r potensial i alluogi data synwyryddion i wella gwasanaethau eraill ledled y ddinas.

Mae LoRaWAN wedi’i gynllunio i ddarparu Rhwydwaith Ardal Eang Pŵer Isel gyda nodweddion sydd eu hangen yn benodol ar gyfer cynorthwyo cyfathrebu deugyfeiriadol diogel, cost isel, symudol ar gyfer cymwysiadau Rhwydwaith Popeth, peiriant i beiriant (‘machine-to-machine’), dinas glyfar a chymwysiadau diwydiannol. Caiff ei optimeiddio ar gyfer defnydd pŵer isel ac i gefnogi rhwydweithiau mawr gyda miliynau o ddyfeisiadau. Mae ganddo nifer o nodweddion arloesol, sef yn bennaf ei fodel cost isel, pŵer isel (gall hyd yn oed redeg ar dechnolegau cynhaeafu ynni) sy’n caniatáu defnyddio Rhyngrwyd Popeth yn hawdd.

Mae LoRaWAN yn dechnoleg newydd gyffrous. Ar adeg ysgrifennu, dyma fyddai’r rhwydwaith cyntaf o’i fath yng Nghymru ac ymysg dim ond llond llaw yn y DU. O’r herwydd, mae nifer o sefydliadau wedi cysylltu â’r Lab gyda diddordeb mewn cydweithio â Chyngor Caerdydd ar gymwysiadau rhwydwaith posibl.

Beth mae trawsnewid gwasanaeth yn ei olygu o safbwynt swyddfa archwilio?
Gall technoleg ac mae technoleg yn cynnig amrywiaeth o arbedion cost, cynnydd mewn effeithlonrwydd a gwelliannau o ran ansawdd gwasanaethau a gynnigir i ddefnyddwyr. Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi dweud ar sawl achlysur bod angen cymryd risgiau sydd wedi’u reoli’n dda. Mae angen i ni sicrhau bod cyfleoedd i staff fentro gyda thechnoleg newydd a dulliau newydd o weithredu . Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi nodi pwysigrwydd manteisio ar y cyfleoedd hyn ar sawl achlysur. Fel y dywed yn y fideo isod, mae’n rhaid i ni fod yn arloesol a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol.

Yn olaf, credaf y byddai’n esgeulus ohonof petawn i ddim yn gwneud y cysylltiad rhwng ailgynllunio gwasanaethau a chyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn y seminar dywedodd Huw Vaughan Thomas nad oedd meddwl yn ddigidol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn flaenoriaethau sy’n gwrthdaro. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn a gwnaeth i mi sylweddoli hyn pan siaradodd am bum ffordd y Deddf o weithio, yn benodol:

  • Sut y bydd egwyddorion integreiddio a chydweithredu yn sbarduno gwasanaethau i ystyried ym mha ffordd y gall meddwl yn ddigidol helpu gwasanaethau i gydweithio. Wrth iddi ddod yn ofynnol i sefydliadau ddod ynghyd o dan ymbarél Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus, a ddylai pob gwasanaeth fod yn defnyddio systemau anghydnaws?
  • Dylai’r egwyddorion hirdymor ac ataliol alluogi sefydliadau i ystyried ym mha ffordd y gellir ailddefnyddio a rhannu llwyfannau er mwyn osgoi ailddyfeisio’r olwyn a sicrhau gwell gwerth am arian cyhoeddus
  • A dylai’r egwyddor o gymryd rhan wneud i sefydliadau ganolbwyntio ar sut y ffordd y gallant sicrhau bod gwasanaethau yn canolbwyntio ar yr unigolyn – sut maent yn diwallu anghenion defnyddwyr………………. Ac onid hynny yw diben gwasanaethau cyhoeddus?

Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol: cynhadledd am newid diwylliant

Beth oedd y negeseuon allweddol o’n digwyddiadau diweddar ar ddigidol? Isod mae Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn adlewyrchu ar y prif bwyntiau dysgu mae hi’n cymryd i ffwrdd.

Llun o swigen siarad sy'n cysylltu pobl â chymylau, lluniau a dogfennau

Ar 13 Medi mynychais ddigwyddiad a drefnwyd gan Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru o’r enw Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol. Er i mi gyfeirio ato fel cynhadledd at ddibenion cyseinedd teitl yn Saesneg, seminar ydoedd mewn gwirionedd gyda gweithdai rhyngweithiol – gyda bwyd arbennig o flasus – a gafodd ei gynnal yn Stadiwm SWALEC yng nghanol Caerdydd.

Dyma fy marn am y digwyddiad a’r chwe neges allweddol a arhosodd yn y cof, sydd, fel mae’r teitl yn ei awgrymu, â dim i’w wneud â llwyfannau digidol mewn gwirionedd…

1. Mae digidol yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl… rhaid i ni gael dealltwriaeth glir o’r hyn mae’n ei olygu i ni

Dechreuodd y digwyddiad gydag anerchiad gan yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas. Yn ei anerchiad nododd; yn gwbl gywir: “Mae digidol yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl.”

Mae hyn yn wir ac rwy’n credu bod hyn yn broblem enfawr. Pan mae’n dweud bod angen dealltwriaeth glir arnom o’r hyn y mae’n ei olygu i ‘ni’ credaf fod angen un diffiniad clir arnom y mae pawb yn ei ddeall. Dyma’r unig ffordd y gallwn gael sgyrsiau cyson a gwneud penderfyniadau cyson.

Mae Cyngor Fwrdeistref Metropolitanaidd Rotherham newydd ryddhau ei strategaeth ddigidol newydd (fel PDF) sy’n egluro bod ‘llwyfannau digidol’ yn arwain taith Rotherham i fod yn awdurdod modern. Mae’n cysylltu â strategaethau llwyfannau digidol iechyd lleol, ond ymddangos nad yw’n cysylltu â newid diwylliant ehangach na strategaeth ailgynllunio gwasanaeth. A yw digidol yn golygu’r un peth i CBF Rotherham ag y mae i SAC neu i Gyngor Sir Dyfnaint? A allwn gydweithio’n effeithiol os nad oes gennym ddiffiniad cytûn?

2. Nid ystyr llwyfannau digidol yw gwneud yr un gwaith, ond yn ddigidol

Aiff Huw Vaughan Thomas ymlaen i egluro: “Nid ystyr digidol yw gwneud yr un gwaith, ond yn ddigidol.”

Sydd yn dechrau ein symud tuag at ddiffiniad o ddigidol, ac yn awgrymu ein bod yn dechrau trafod newid diwylliant a thrawsnewid gwasanaeth, ac nid creu strategaeth ddigidol newydd.

3. Mae camgymeriadau’n anochel; rhaid i ni beidio â chilio rhag hynny

Hefyd o anerchiad Huw Vaughan Thomas. Dyma un diddorol. Petai synnwyr cyffredin yn rhywbeth go iawn mae’r datganiad hwn yn teimlo fel y byddai’n enghraifft glasurol. Wrth gwrs bod pobl yn gwneud camgymeriadau; mae’n un o’r nodweddion sy’n ein diffinio a sut rydym yn gwybod nad peiriannau ydym does bosibl? Ac eto, mae’n teimlo’n rhyfeddol o radical cael archwilydd yn sefyll i fyny ac yn dweud hyn. Mae hefyd yn teimlo’n hynod gadarnhaol a (gobeithio) yn rhyddhaol.

Rhaid i ni symud i ffwrdd oddi wrth ddiwylliant sy’n tybio y gellir ‘polisïa’ pob camgymeriadau rhag eu bod yn digwydd petawn ni ond yn llunio polisïau digon caled. Yn hytrach, rhaid i ni annog myfyrio, dysgu a chyfrifoldeb unigol. Yn ôl i newid diwylliant eto.

Ar ôl anerchiad yr Archwilydd Cyffredinol mae yna sesiwn holi ac ateb gyflym gyda’r panel. Caiff y cwestiynau cyntaf eu paratoi gan y trefnwyr, ond daw’r gweddill o blith y gynulleidfa – mae’n ddull o weithredu gwych i gael pobl i gymryd rhan ac mae’n gweithio’n dda iawn.

4. Ni allwn ‘weithredu’n ddigidol’ nes ein bod yn deall beth sydd ei angen ar ddinasyddion mewn gwirionedd

Mae fy null diseremoni o gymryd nodiadau’n golygu nad wyf wir yn gwybod pa aelod o’r panel ddwedodd hyn, ond roedd yn un ohonynt yn sicr.

Caf e-bost bob yn ail diwrnod gan gwmni datblygu meddalwedd yn dweud wrthyf sut mae eu porth cwsmer yn mynd i chwyldroi systemau swyddfa gefn ac arbed arian. Mae ganddynt hyd yn oed fideo geirda cwsmer crand sy’n cynnwys rheolwr TG awdurdod lleol yn egluro sut mae’r trawsnewid digidol hwn wedi arbed cymaint o arian iddo ac wedi tacluso ei holl systemau swyddfa gefn, a does neb byth yn crybwyll anghenion defnyddwyr.

Ni allwn roi adnoddau digidol ar waith nes ein bod yn gwybod bod eu hangen arnom a’u bod yn datrys y broblem gywir – a gallwn ond gwneud hyn os ydym yn siarad â’n dinasyddion? Yn ddiau gallwn ond gwneud hynny os ydym yn cyfleu ein diben yn glir a’n bod yn deall pam ein bod yn gwneud unrhyw beth o gwbl? Beth sydd ei angen arnom yw newid diwylliant a dull gweithredu gwahanol ar gyfer deall ein dinasyddion.

5. Nid problemau technoleg yw’r rhain… galluogydd yw llwyfan digidol. Ni fydd prynu llwyth o iPads yn newid eich diwylliant.

Dyfyniad hynod glir gan yr Athro Tom Crick yn ei weithdy Gweithlu digidol gymwys, digiol alluog. I mi mae’r sesiwn hon yn codi rhai cwestiynau gwirioneddol ddiddorol am alluoedd digidol.

  • A oes yna safon ddigidol sylfaenol y mae angen i’n gweithlu ei chyrraedd?
  • Os oes, oni ddylai fod yn rhan o’n disgrifiadau swydd?
  • A oes gennym hierarchaeth o allu digidol yn ein gweithlu gydag ‘elît’ digidol sydd â llawer o sgiliau ac sy’n gweithio mewn ffyrdd tra gwahanol i’r gweddill sydd y tu ôl iddynt?
  • Sut ydym yn gwneud yn siŵr bod staff yn dysgu sgiliau digidol newydd yn hytrach na dysgu sut i ddefnyddio darnau o feddalwedd patent ar wahân?
  • A oes gennym uwch arweinwyr sy’n gwybod digon am lwyfannau digidol i wneud y math yma o benderfyniadau?
  • A oes angen haciwr cymwynasgar ar bob sefydliad ar y prif fwrdd, sy’n meddu ar rym go iawn?

Sy’n golygu mae’n debyg bod angen i ni edrych ar newid ein diwylliant o ran hyfforddiant staff a recriwtio.

Hefyd yn y gweithdy hwn rwy’n rhannu stori am ddarn o waith a wnaethom o dan y pennawd ‘gofynnwch am faddeuant, nid caniatâd’ sy’n gwneud i geg cyfranogwr arall agor mewn sioc yn llythrennol.

6. A allwch adeiladu timau prosiect amlddisgyblaeth, hyblyg a all weithio’n rhyngweithiol?

Ar gyfer y sesiwn olaf mynychais y gweithdy Dysgu o Rwydwaith Arloeswyr Digidol a gafodd ei gynnal gan Jess Hoare ac Amy Richardson o Y Lab sy’n cynnwys malws melys a sbageti.

Mae Y Lab yn labordy arloesed ar gyfer y sector cyhoeddus a grëwyd gan Nesta ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd. Mae ganddynt rai adnoddau ymarferol, gwych – y mae’r rhan fwyaf ohonynt ar gael ar wefan Nesta.

Mae’r gweithdy yn cynnwys sesiwn ateb cwestiynau cyflym gyda rhai cwestiynau pryfoclyd fel ‘[Yn eich sefydliad] Beth yw rôl ganfyddedig TG?’ ac ‘A allwch adeiladu timau proseict amlddisgyblaeth, hyblyg a all weithio’n rhyngweithiol?’. Yna rydym yn nodi problem ddigidol a defnyddio adnoddau Nesta, a chymorth a mewnbwn gan Jess ac Amy, i ddatrys y mater.

Yn weddol gyflym rydym yn dechrau trafod cyfleu’r broblem, nodi defnyddwyr, deall anghenion a chasglu tystiolaeth. Rydym yn treulio gweddill y sesiwn yn edrych, yn ei hanfod, ar ail-ddylunio’r gwasanaeth a’r prosesau.

Y broblem gyda thrawsnewid digidol

Gwnaeth pob sgwrs a gefais yn y digwyddiad hwn a ddechreuodd gyda thrawsnewid digidol orffen gydag edrych ar newid diwylliant a thrawsnewid systemau.

Credaf fod angen i ni gael diffiniad cytûn o ystyr digidol a daeth yn amlwg yn ystod y digwyddiad hwn fod llawer o bobl – ond yn sicr nid pawb – yn deall mai galluogydd yw llwyfannau digidol ac nid y diben ynddo’i hun. Baswn i’n dweud nad oes angen strategaethau digidol arnom (sori Rotherham) ond yn hytrach mae angen strategaethau trawsnewid systemau sy’n cynnwys galluogwyr digidol arnom. Mae angen i ni ddechrau gyda diben a dechrau gyda defnyddwyr a deall beth yw ein diben a beth sydd eu hangen arnynt.

Credaf fod cyfle go iawn yma. I ddechrau sgyrsiau am drawsnewid digidol a, drwy ddigwyddiadau fel hyn, dangos sut mae’n rhaid i’r sgwrs symud i fod yn un am drawsnewid systemau.

Mae Cyfnewidfa Arfer Da SAC yn cynllunio rhagor o ddigwyddiadau yn y gyfres hon a byddai’n wych eu gweld yn herio cyfranogwyr i feddwl am y ffordd rydym yn defnyddio llwyfannau digidol fel catalydd ar gyfer newid sefydliadol gwirioneddol – ac nid dim ond prynu llwyth o iPads.

Sut mae meddylfryd digidol yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am newid sylweddol yn y ffordd rydyn ni’n cynllunio a darparu gwasanaethau, ac mae technoleg wedi newid yr amgylchedd cymdeithasol sylfaenol rydyn ni’n gweithio ynddo. Yn y blogbost yma, mae Dyfrig Williams yn edrych ar sut all y ddeddf cefnogi meddylfryd digidol strategol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ddeddfwriaeth uchelgeisiol sy’n mynnu bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu mewn ffordd wahanol iawn i modd y gorffennol. Mae’r Ddeddf wedi bod yn thema o’n gwaith ni dros y ddwy flynedd ddiwethaf (gwaith sydd wedi yn amrywio o barciau cyhoeddus i archwilio mewnol), ac mae’n parhau i fod yn thema ar gyfer ein seminar ar Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol.

Mae diddordeb da fi mewn beth mae meddylfryd digidol yn golygu i wasanaethau cyhoeddus ers i mi redeg cyrsiau e-gyfranogaeth Cyfranogaeth Cymru yn fy swydd ddiwethaf, achos roeddwn i’n edrych ar sut all technoleg helpu’r cyhoedd i ddweud eu dweud ac i dargedu adnoddau’n effeithiol.

Cyn i mi ddechrau’r blog ‘ma yn go iawn, rhaid i mi fod yn glir am beth rwy’n golygu pan rwy’n sôn am feddylfryd digidol, sy’n blogbost yn ei hun. Yn ffodus, mae Stephen Foreshew-Cain wedi gwneud hyn yn barod, sy’n cynnwys y trydar yma gan Tom Loosemore:

Hefyd, mae Carl Haggerty (sy’n cynnal gweithdy yn ein digwyddiad gyda’r Cynghorydd Barry Parsons ar gynnwys aelodau etholedig mewn dull digidol) wedi ysgrifennu blogpost gwych lle mae’n edrych ar arweinyddiaeth a symud i ffwrdd o “awtomeiddio prosesau sydd wedi cael ei etifeddu ac sy’n deillio o hen ffyrdd o wneud pethau”.

Felly yn union fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae meddylfryd digidol yn gofyn am ffordd newydd o feddwl i’r un sydd wedi bod wrth wraidd gwasanaethau cyhoeddus yn draddodiadol. Mae gan lot o sefydliadau meddylfryd patriarchaidd – ymdeimlad mai “ni fel darparwyr sy’n gwybod orau” ac y dylai’r cyhoedd derbyn ein gwasanaethau a bod yn ddiolchgar amdanynt. Pan weithiais i â Phanel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, clywais sawl stori dorcalonnus a wnaeth pwysleisio nad yw’r meddylfryd yma yn addas ar gyfer gwasanaethau effeithiol.

Anghenion defnyddwyr

Y ffocws ar “anghenion defnyddwyr” a wnaeth rili dechrau fy niddordeb i mewn meddylfryd digidol. I fod yn onest, dydw i ddim yn ffan fawr o’r dywediad, ond rydw i yn bendant yn gefnogwr o’r gwasanaethau gwell y mae’r meddylfryd wedi ysbrydoli. Os ydych chi wedi adnewyddu eich treth car gyda’r DVLA yn ddiweddar, byddwch yn ymwybodol o sut mae proses anodd wedi trawsnewid yn gyfan gwbl i fod yn wasanaeth symlach sy’n bodloni’r person sy’n ei ddefnyddio.

Serch hyn, mae terminoleg sy’n seiliedig ar ddiffyg dal yn fy mhoeni i. Mae’n israddio pobl, staff a chymunedau sy’n allweddol ar gyfer gwasanaethau effeithiol fel “defnyddwyr”, ac mae’r term “angen” yn awgrymu mai gwasanaethau cyhoeddus sydd a’r pŵer. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu yn fwy ac yn fwy ar bobl a chymunedau i ddarparu agweddau o wasanaethau, sy’n dangos bod rhaid i ni ystyried os mae’r model yma’n cyd-fynd gydag ymagwedd sy’n seiliedig ar asedau pobl a beth allan nhw wneud. Mae’n werth edrych ar y fideo yma o Cormac Russell yn esbonio’r Ymagwedd Datblygu Gymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau a meddwl amdano rydyn ni’n gweithredu.

Ceir enghreifftiau lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn meddwl amdano sut maen nhw’n addasu i’r rôl hon. Clywais yn LocalGovCamp am sut mae Cyngor Sir Dyfnaint yn cwestiynu rôl llywodraeth leol, a hefyd cefais sgwrs Dadfentora gwych gyda Kelly Doonan ar eu meddylfryd o alluogi gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Felly sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymwneud â hyn?

Mae rhai adnoddau gwych mas ‘na ar feddylfryd digidol a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Egwyddorion Dylunio Gwasanaethau Digidol Llywodraeth y DU. Mae fe wedi fy nharo i fod rhaid pwysleisio nad yw Digidol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, ond eu bod nhw’n gweithio’n dda iawn ar y cyd. Dyma sut mae’r pum ffordd o weithio o fewn y ddeddf yn cyd-fynd â meddylfryd digidol:

  • Integreiddio a chydweithredu
    Sut all defnydd digidol helpu gwasanaethau i weithio gyda’i gilydd? Oes rhaid i ni gyd defnyddio systemau cwbl wahanol? Gallwn ni adeiladu ar yr egwyddor o weithio’n agored a rhannu gwybodaeth?
  • Dulliau ataliol a thymor hir
    Mae hyn yn cyd-fynd â’r egwyddor o wneud llai – “Os ydyn ni’n dod o hyd i ffordd o wneud rhywbeth sy’n gweithio, dylai ni sicrhau ein bod ni’n ailddefnyddio a rhannu yn hytrach na ailddyfeisio’r olwyn bob tro. Mae hyn yn golygu adeiladu llwyfannau a chofrestrau gall eraill adeiladu arno, darparu adnoddau (fel APIs) bod eraill yn gallu defnyddio, a’i chysylltu i waith eraill. Dylem ganolbwyntio ar y craidd anostyngadwy”
  • Cynhwysiad
    Dyma’r ffocws ar y defnyddiwr rydw i wedi trafod yn y blogbost yma. Gall gwasanaethau ffocysu ar y person heb eu cynnwys?

Mae hyn i gyd yn golygu bod rhaid i ni symud y tu hwnt i fodelau cyfredol o feddwl i ystyried y cyfleoedd y gall gwasanaethau digidol a’r ddeddf caniatáu, ac rydyn ni’n gobeithio y gall y digwyddiad yma helpu mynychwyr i wneud hynny. Hoffwn ni cael eich mewnbwn naill ai’n uniongyrchol yn y digwyddiad neu drwy #WAOdigital. Achos trwy ddod â’n gwybodaeth at ein gilydd a rhannu ein dulliau gweithredu digidol, gallwn ni sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaethau sy’n addas i’w diben yn yr unfed ganrif ar hugain.

LocalGovCamp: Bod y newid rydych chi am ei weld

Sut mae cynghorau ar draws y Deyrnas Unedig yn gwneud y fwyaf o ddulliau digidol ar gyfer eu gwaith? Aeth Dyfrig Williams i LocalGovCamp i ffeindio allan.

Dros y penwythnos fe wnes i fynd i Birmingham er mwyn mynd i LocalGovCamp am y tro cyntaf, sef anghynhadledd ar gyfer llywodraeth leol ar draws y Deyrnas Unedig, ble mae’r cynadleddwyr yn setio’r agenda drwy gynnig syniadau ar gyfer trafodaethau.

Beth yw diben llywodraeth leol?

Y nodiadau o sesiwn Kelly Doonan

Y nodiadau o sesiwn Kelly Doonan

I mi, dyma drafodaeth fwyaf defnyddiol yr anghynhadledd, ble wnaeth Kelly Doonan gofyn “Beth yw diben llywodraeth leol?” Mae’r cwestiwn yn ymddangos yn un syml, ond does yna ddim atebion hawdd. Y prif bwynt i mi oedd y dylai llywodraeth leol galluogi pobl i wneud eu hardal leol yn lle gwell i fyw. Beth wnaeth taro fi oedd bod hyn yn cyd-fynd â’r dull mae tîm Kelly yn rhoi ar waith. Cefais sgwrs Dadfentora wych gyda Kelly am sut mae meddylfryd o alluogi yn helpu pobl yng Nghyngor Sir Dyfnaint i ddarparu gwasanaethau gwell. Rydw i’n mynd i ddwyn doethineb Ghandhi fan hyn – mae’n enghraifft wych o “bod y newid rydych chi am ei weld”. Dydyn ni ddim yn gallu galluogi dinasyddion heb roi’r un ymagwedd ar waith gyda’n cydweithwyr.

Gemeiddio

Fe wnaeth sesiwn Glen Ocsko galluogi mi i fyfyrio ar y gwaith rydyn ni’n gwneud gydag Arfer Da Cymru a Phrifysgol Bangor ar Newid Ymddygiad, lle cynhaliom ŵyl ym Mangor i rannu dulliau rhwng gwasanaeth cyhoeddus. Yn yr ŵyl, fe edrychodd yr Athro John Parkinson ar ddylunio trwy gemeiddio, ac edrychodd yr Athro James Intrilligator ar Yfed, Gemau a Newid Ymddygiad, gan gynnwys trafodaeth ddifyr ar yr app ‘Chimp Shop’, sy’n annog pobl i yfed llai. Roedd e’n wych i gymharu a chyferbynnu’r rhain â dulliau eraill a gafodd ei gynnig yn y sesiwn. Rhannodd Nick Hill gwaith y Fun Theory, ac mae lot o enghreifftiau gwych o gemeiddio ar ei wefan.

Blockchain a llywodraeth

Cafodd y sesiwn yma ei arwain gan Ingrid Koehler. Fe wnaeth y gweithdy rhoi cyfle da i mi i fyfyrio dros beth y gallai Blockchain ei olygu ar gyfer gwaith archwilio ariannol Swyddfa Archwilio Cymru. Roedd e’n anhygoel i feddwl am sut allai’r arian cael ei dracio ar draws cyrff cyhoeddus. Siaradom hefyd am beth all prosiect bach sy’n ddiogel i fethu edrych fel (mae’n werth darllen blogbost Chris Bolton ar Lygod Trojan am fwy ar hyn), lle gellir gwylio sut mae’r arian a godir o daliadau yn cael eu gwario. Mae’n bosib felly byddai hyn yn gyfnod newydd ar gyfer tryloywder ariannol. Ond gallai hefyd fod yn rhywbeth mwy – rhannodd Benjamin Taylor dolen ddiddorol ar adeiladu contract democratiaeth ar y Blockchain, a hefyd beth fydd y prosesau agored yma yn ei olygu i ymddiriedaeth y cyhoedd? Rhannodd Ingrid adroddiad difyr am yr hyn y gallai Blockchain ei olygu i lywodraeth.

Pam ein bod ni’n casáu’r sector gwirfoddol

Rhaid i mi fod yn glir fan hyn – dydw i ddim! Ond fe wnes i fynd i’r sesiwn bryfoclyd yma gan Pauline Roche achos gweithiais i yn y sector am wyth mlynedd. Hefyd mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, wastad yn sôn am sut fydd gwasanaethau yn cael ei ddarparu gan fwy nag un sector yn y dyfodol. Roedd e’n hynod o ddiddorol i glywed am sut mae ofn diffyg rheolaeth yn cadw gwasanaethau o fewn y cyngor, a hefyd roedd e’n ddifyr i glywed am sut all grwpiau fel Snow Angels ychwanegu arbenigedd a gwerth mewn sefyllfaoedd brys.

Y darn gorau … rhwydweithio!

Ond y rhan fwyaf defnyddiol o’r dydd oedd y cyfle i rwydweithio a rhannu syniadau. Roedd e’n wych i gwrdd â phobl newydd sy’n gwneud pethau arbennig, yn ogystal â chwrdd â phobl rydw i wedi siarad gydag ar-lein (helo Albert Freeman!).

Daliais i fyny â Kelly Doonan am sgwrs ar ôl y digwyddiad, ble siaradom am y potensial i Swyddfa Archwilio Cymru i rannu arfer da mewn modd gwahanol. Soniodd Kelly am sut all gweithio mewn amgylchedd real eich helpu chi i ddeall sut y gall ymagweddau penodol cael ei roi ar waith mewn byd gwaith.

Fe wnaeth Cyngor Sir Dyfnaint ymweld â chwmni ymchwil defnyddwyr, sef Revealing Reality, i edrych ar recriwtio ymgeiswyr ar gyfer astudiaeth dyddiadur. Mae cyfranogwyr yn derbyn copi o ddyddiadur A4 a phecyn o sticeri i gynrychioli gwahanol sianeli a dyfeisiau. Dangoswyd iddynt sut i lenwi’r dyddiadur, gan gynnwys rhoi rhai manylion personol, ac yna cofnodi’r cyfryngau maen nhw’n cyrchu am wythnos drwy ysgrifennu ac ychwanegu sticeri. Roedden nhw’n gallu edrych ar y dyddiaduron a gofyn cwestiynau am y technegau a’r data.

Hefyd, ymwelodd Kelly â’r DVLA yn Abertawe er mwyn mynd i gyfarfod traws-lywodraethol Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, lle mae siaradwyr yn esbonio sut maen nhw’n gweithio. Maen nhw’n trafod y feddalwedd, offer a dulliau maen nhw’n defnyddio, ac wrth i chi mynd yn ôl i’ch swydd mae gennych y wybodaeth i addasu’r dull i gwrdd â’ch anghenion.

Felly ar y cyfan, roedd LocalGovCamp yn ddiwrnod gwych. Os oes ganddo’ch diddordeb mewn digwyddiad tebyg, mae GovCamp Cymru wedi cael ei gadarnhau ar gyfer y 24ain o fis Medi. Os oes ganddo’ch awydd i gyfarfod â phobl newydd ac i ddatblygu’ch dulliau gwaith, rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur! Welai chi yno!

Dadfentora 3: Meddylfryd digidol ac ymddiriedaeth staff

Mae Dyfrig Williams yn edrych nôl dros drafodaeth gyda Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn y blogbost diweddaraf mewn cyfres ar Ddadfentora LocalGovDigital.

Pan mae’r Archwilydd Cyffredinol Cymru yn agor ein seminarau dysgu ar y cyd, mae’n annog cymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n dda, gan na fydd gwasanaethau cyhoeddus yn gallu parhau yn eu ffurf bresennol.

Mae Phil Rumens wedi ysgrifennu blogbost grêt ar y pum cam o drawsnewid digidol. Mae hyn yn dangos y gwerth ychwanegol o feddwl am wasanaethau o ran darpariaeth ddigidol. Rydw i wedi bod yn feddwl amdano’r cysyniad yma’n ddiweddar, felly wnaeth fy nhrafodaeth Dadfentora i gyda Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint cymryd lle ar yr amser perffaith.

Agwedd digidol Dyfnaint

Mae Kelly wedi ysgrifennu blogbost gwych sy’n amlinellu pam y dylai ni cyhoeddi gwybodaeth ar-lein mewn ffordd wahanol i gyfryngau print traddodiadol. Mae hi hefyd wedi rhoi enghraifft wych o sut maen nhw wedi rhoi’r syniad yma ar waith ar ôl iddynt gael ei ofyn i greu cyfeiriadur bapur o wasanaethau lleol ar gyfer cyn-filwyr.

Penderfynodd y Tîm Cyfathrebu doedden nhw ddim yn gallu cefnogi hwn achos byddai’n dyddio bron ar unwaith. Mae fe hefyd yn anodd mesur effeithiolrwydd y cyfeiriadur, doedd dim cyllideb i’w ailargraffu neu ei chynnal a doedden nhw ddim wedi cynllunio ffordd o gael y cyfeiriadur i gyn-filwyr.

Llun o wefan arfaethedig Cyngor Sir Dyfnaint ar gyfer cyn milwyr

Llun o wefan arfaethedig Cyngor Sir Dyfnaint ar gyfer cyn milwyr

Roedd e’n braf clywed sut wnaeth y cyngor edrych ar sut allan nhw roi cymorth i’r prosiect yn hytrach na’i rhwystro. Edrychodd y tîm ar sut gallan nhw greu cynnyrch ar-lein gwell ar gyfer cyn-filwyr yn Nyfnaint (neu bobl sydd ar fin fod yn gyn-filwyr ac sy’n edrych i ddod i Ddyfnaint).

Fe wnaeth Kelly cyfarfod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda chyn-filwyr i drafod y posibiliadau, a diwygiwyd y cynllun o adborth Partneriaeth Lles y Lluoedd Arfog. Yna cynhaliwyd sesiwn gyda chyn-filwyr i ffeindio allan beth oedden nhw eisiau gwybod, sut byddan nhw’n chwilio amdano fe a sut oedden nhw eisiau’r gwefan i edrych. Fe wnaeth Kelly creu map o’r wefan a’r cynnwys, tra roedd dylunydd yn creu’r ffrâm gwifren.

Bydd fersiwn cyntaf y safle yn mynd yn fyw ar 8 Rhagfyr. Yn sydyn mae argraffiad o gyfeiriadur tymor byr wedi datblygu i fod yn gynnyrch sy’n diwallu anghenion defnyddwyr ac yn cael effaith tymor hir – gwych!

Beth wnes i rannu?

Fe wnaeth Kelly crybwyll y gwerth ychwanegol y gallai’r tîm gyfathrebu adio i waith cyfathrebu Cyngor Dyfnaint. Siaradais i am gyflwyniad yr Athro Ros Searle yn ein digwyddiad dysgu ar y cyd ar ymddiriedaeth staff. Roedd un o bwyntiau Ros ar sut all cyfathrebu mewnol da cadw ac adeiladu ymddiriedaeth o fewn gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ôl adroddiad CIPD ar ymddiriedaeth, mae uwch reolwyr yn rhy optimistaidd o ran ymddiriedaeth gweithwyr rheng flaen ynddynt, gan nad yw 34% o staff yn ymddiried yn eu huwch reolwyr. Mae’r broblem yn arbennig o ddifrifol mewn sefydliadau sy’n fwy o faint, ac yn enwedig sefydliadau hierarchaidd ble mae staff yn meddwl bod yna gofod rhwng rheolwyr a’u staff. Mae cyfathrebu mewnol yn bwysig iawn i sicrhau nad yw diffyg ymddiriedaeth yn troi’n ymddygiad gwrthgynhyrchiol fel dwyn a thwyll. Gan fod 37% o foddhad swydd yn dod o ymddiriedaeth, mae staff sy’n gweithio i sefydliad sydd gydag ymddiriedaeth uchel yn fwy tebygol o roi mwy o ymdrech, ac yn cydweithio, recriwtio a pherfformio’n well.

Mae ymddiriedaeth hefyd yn gysylltiedig ag arloesedd. I fynd yn ôl at bwynt yr Archwilydd Cyffredinol, bydd staff yn barod i gymryd risgiau sydd wedi’u reoli’n dda os dydyn nhw ddim yn meddwl bydd eu rheolwyr yn eu cefnogi? Mae ymddiriedaeth yn allweddol ar gyfer y math o arloesi sydd angen arnom mewn cyfnod ble mae adnoddau’n dirywio.

Bara Brith Camp

Byddai’n rhannu’r negeseuon allweddol o’r digwyddiad Ymddiriedaeth Staff yn Bara Brith Camp, sy’n ddigwyddiad am ddim o’r Satori Lab er mwyn rhoi lle i barhau’r sgyrsiau a ddechreuwyd yn GovCamp Cymru. Os wnaethoch chi golli’r anghynhadledd, rydym wedi cynhyrchu Storify a fideo i grynhoi’r diwrnod.

Rwy’n gobeithio gweld chi yna – rwy’n edrych ymlaen at drafod gyda mynychwyr sut y gallwn ni helpu i wella lefelau ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac i hybu lefelau o gynhyrchiant ac arloesedd yn y broses.