Tag Archives: cynaliadwyedd

Mae’r ysgrifen ar y ddesg!

Mae desgiau bwrdd gwyn Gartrefi Melin wedi hyrwyddo newid ymddygiad cadarnhaol, arbed arian ac adnoddau, a hefyd gwella’i arfer Diogelu Data! Isod mae Ena Lloyd yn blogio ar y stori y tu ôl i’w desgiau.

Galwais heibio’n ddiweddar i weld Trisha Hoddinot yn Cartrefi Melin ar ôl i Mari Arthur o Cynnal Cymru sôn am y gwaith da maent yn ei wneud ar eu Cynllun Ceir. Nid jyst arbed arian a sicrhau canlyniadau cynaliadwyedd da, roedd yna hefyd arwyddion cynnar o newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiad.

Pan gyrhaeddais ei swyddfa, sylwais fod pob un o ddesgiau’r Tîm Cynaliadwy yn wyn, ac wrth eu hastudio ymhellach, roedd llawer o negeseuon ysgrifenedig drostynt hefyd! Felly roedd yn rhaid i mi ofyn beth oedd y tu ôl i’r desgiau yma. Clywais mai desgiau bwrdd gwyn oeddynt. Byddaf yn rhannu gwybodaeth am eu cynllun ceir mewn blog diweddarach! Dyma stori Trisha am y desgiau bwrdd gwyn.

Ffoto o fwrdd desg gwyn Cartrefi Melin sydd gan ysgrifen arno

Bwrdd desg gwyn Cartrefi Melin

Ni yw’r Tîm Cynaliadwyedd a ffurfiwyd ym mis Chwefror 2016 i nodi’r hyn roedd Cartrefi Melin yn ei wneud o ran Cynaliadwyedd – i gael y gorau allan o bopeth rydym yn ei wneud. Roeddem eisiau arwain drwy esiampl a dangos bod pethau’n bosibl drwy ddangos, fel tîm, y gallem fod yn gwbl ddi-bapur. Doedd dim esgus gennym, roeddem yn dîm newydd sbon. Rydym yn dîm arloesol ond realistig. Doedden ni ddim yn disgwyl i dimau fynd yn ddi-bapur dros nos. Mae gennym ni lai o gyfyngiadau na thimau eraill o ran archwilio allanol a chadw cofnodion. Ond, petai pob tîm yn mabwysiadu rhywfaint o’r hyn rydym yn ei wneud, byddai wir yn gwneud gwahaniaeth.

Beth rydym wedi’i wneud yn wahanol

Dyma sut rydym yn annog eraill:

  1. Rydym yn enwi’r tri thîm sydd wedi cwtogi fwyaf ar eu hargraffu ar ein sgriniau teledu mewnol bob mis.
  2. Yn y dyfodol, bydd unrhyw ddesgiau newydd a gaiff eu prynu ar gyfer Cartrefi Melin yn ddesgiau bwrdd gwyn.
  3. Rydym yn gwneud i bobl feddwl. Mae gliniaduron a llechi ymhob ystafell gyfarfod fel y gall pobl fewngofnodi i wneud nodiadau, rhannu agendâu cyfarfodydd ar y sgrin a gweld dogfennau, yn hytrach na defnyddio peniau ysgrifennu a phapur.
Ffotograff o Staff Cartrefi Melin yn defnyddio'i byrddau gwyn

Staff Cartrefi Melin yn defnyddio’i byrddau gwyn

Penderfynom ddefnyddio byrddau gwyn maint A4 yn hytrach na nodiadau post-it a phapur nodiadau ar gyfer negesuon, a thryw ddamwain dyma ni’n sylweddoli bod ein desgiau yn ddesgiau bwrdd gwyn. Y gellir eu defnyddio ar gyfer rhestr ‘i’w wneud’, nodiadau pan fyddwch ar y ffôn ac ati. Nid oedd pawb yn rhannu ein cyffro i ddechrau, ond o fewn 2 i 3 diwrnod, roedd ein cydweithwyr llai brwdfrydig yn dechrau cael eu hargyhoeddi bod hyn yn syniad da ac yn gofyn am fyrddau gwyn er mwyn ymuno â’n chwyldro! Mae ein tîm cyswllt cwsmeriaid hefyd yn defnyddio byrddau gwyn, sydd nid yn unig yn arbed papur, ond hefyd mae’n helpu ni i ddiogelu data, oherwydd gellir ysgrifennu nodiadau yn ystod yr alwad, ac yna ei sychu’n lân yn syth wedyn.

Y ffordd y gwnaethon ni hyn

I ni, yr unig ffordd o wneud hyn oedd heb eithriadau, dim esgusodion, dim argraffu a dim padiau ysgrifennu. Pan fyddwn yn cwrdd ag eraill ac yn cael papurau, rydym yn ei sganio ac yn ei chadw ar system ein tîm a’i ddinistrio. Un her y gwnaethom ei goresgyn oedd sefyllfa lle byddai un o fy nghydweithwyr yn diweddaru gwybodaeth gan ein contractwyr ar gronfa ddata ac yn argraffu un ddogfen tra’n diweddaru un ar sgrin. Er mwyn datrys hyn, gwnaethom gysylltu ail fonitor.

Ffotograff o aelod o staff Cartrefi Melin yn defnyddio dau fonitor cyfrifiadur i arbed papur

Aelod o staff Cartrefi Melin yn defnyddio dau fonitor cyfrifiadur i arbed papur

Beth fu’r manteision

Yn ogystal â manteision amgylcheddol a’r arbedion ariannol ar gostau papur ac argraffu, mae yna manteision ehangach. Nid oes angen styffylwyr, peniau ysgrifennu, sisyrnau ac ati mwyach, ac mae ein desgiau yn llawer taclusach. Mantais arall yw’r cyfle i atgoffa pobl ein bod yn ddi-bapur pan fyddant yn gofyn am gael benthyg pen ysgrifennu.

Beth yw’r dysgu yr hoffech ei rannu ag eraill?

Pe bawn ni am roi cyngor i eraill ynglŷn â mynd yn ‘ddi-bapur’, y cyngor hwnnw fyddai peidiwch â rhoi disgwyliadau enfawr ar ysgwyddau bob aelod o staff. Bydd troi’r ymarfer yn rheol orfodol yn gelyniaethu pobl yn syth. Gosodwch yr her ac arweiniwch drwy esiampl.
Manteisiwch ar bob cyfle i atgyfnerthu’r hyn rydych am ei gyflawni. Pan fydd aelod o’n tîm yn mynychu cyfarfod mewnol, yn ddiau fe fydd aelod o staff yno sy’n ymddiheuro am fod ganddo bapur a phen ysgrifennu ac yn teimlo’n euog. Does dim rhaid i ni grybwyll dim byd, ond rydym bob amser yn croesawu’r cyfle i atgoffa pobl mai ni yw tîm di-bapur cyntaf Cartrefi Melin.

Mae angen i chi fod yn ymwybodol o gyfarfodydd allanol. Rwyf bob amser yn teimlo bod yn rhaid i mi egluro i eraill pam fy mod yn defnyddio ffôn neu lechen i gymryd nodiadau, rhag ofn iddynt feddwl fy mod yn ddigywilydd ac yn tecstio ffrindiau neu’n darllen y cyfryngau cymdeithasol.

Os ydych o ddifrif ynglŷn â newid, gallwch ei gyflawni. Pob lwc!

Sut wnaeth Cyngor Abertawe cynnal ymchwiliad craffu i’w diwylliant

Logo digwyddiad Dyfodol Llywodraethu: Gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn meddwl bod rhaid i fudiadau i wneud lot mwy nag newid elfennau o wasanaethau, rhaid cael newid diwylliannol ehangach. Yn y blogbost yma mae Dyfrig Williams yn edrych ar beth allwn ni ddysgu o Ymchwiliad Craffu Diwylliant Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe.

Mae diwylliant yn un o’r pynciau mawr yna sy’n anodd mynd i’r afael â. Pan mae yna broblem ddiwylliannol, does yna ddim ateb cyflym, a does ‘na ddim un newid bach sy’n arwain at newid awtomatig yng ngwaith mudiad.

Yr ochr dda o hwn yw bod mudiadau yn tueddu i fynd y tu hwnt i ymatebion sy’n ticio blychau er mwyn cael newid gwirioneddol a pharhaus. Yr ochr gwael yw bod newid diwylliannol yn gallu cael ei gweld fel rhywbeth sy’n rhy anodd, felly nad yw’r gwaith yn cael ei wneud o gwbl. Mae’r broblem yn rhy fawr.

Felly pan glywais am Ymchwiliad Craffu Dinas a Sir Abertawe i’w Diwylliant Corfforaethol, roedd gen i ddiddordeb yn syth.

Felly pam wnaethon nhw sefydlu’r ymchwiliad?

Dyma’r cymhelliant yn ôl y Cynghorydd Andrew Jones, Cynullydd y Panel Ymchwiliad Craffu ar Ddiwylliant Corfforaethol:

‘Dewiswyd y pwnc oherwydd, fel Cyngor, mae ein diwylliant corfforaethol yn sail i bopeth a wnawn, o sut rydym yn ymgysylltu â’n dinasyddion a darparu gwasanaethau i sut yr ydym yn trin ein staff a thyfu a datblygu fel sefydliad. Mae’r heriau a wynebir o ganlyniad i ostyngiadau yng nghyllidebau cynghorau yn fygythiad i’r syniad o ddiwylliant ar y cyd. Felly mae gennym ni fel Cynghorwyr, Rheolwyr a Staff, cyfrifoldeb i ymateb i’r heriau hyn trwy ddatblygu diwylliant sy’n gallu sicrhau bod dinasyddion Abertawe yn parhau i dderbyn y gwasanaethau gorau posibl o’r Cyngor.’

Sicrhau bod pethau’n iawn o’r dechrau

Felly, beth allwn ni ddysgu o’r camau rhagweithiol mae’r cyngor wedi cymryd i nodi ffyrdd o wella’u diwylliant?

Pan wnes i siarad â Michelle Roberts o Dîm Craffu Dinas a Sir Abertawe, pwysleisiodd hi’r pwysigrwydd o gael y cyfyngiadau iawn am yr ymchwiliad o’r dechrau er mwyn sicrhau eich bod chi’n canolbwyntio ar y meysydd cywir. Rhesymeg yr adolygiad oedd:

  • Bod gan y cyngor y diwylliant corfforaethol cywir i fynd i’r afael â’r heriau y mae’n wynebu
  • Bod nhw’n creu diwylliant sy’n helpu i droi’r ddinas o gwmpas
  • Bod diwylliant staff yn un sy’n grymuso ac annog cyfrifoldeb personol, arloesi a chydweithredu

Mae’n wych i weld sut mae’r cyngor wedi sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael effaith barhaus drwy ei gysylltu i waith Leanne Cutts, ei Chydlynydd Arloesi. Maen nhw wedi ffocysu ar y nodau tymor hir, fel mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn mynnu, ond hefyd wedi canfod enillion cyflym ac amcanion tymor canolig.

Mae yna rhai cynigion trawiadol sy’n canolbwyntio ar y bobl sy’n gweithio yn y sefydliad. Mae’r rhain ynghylch sut maen nhw’n ymdrin ag oes cyfan bobl yn y mudiad, o sesiynau sefydlu corfforaethol, prif ffrydio arloesi trwy arfarniadau, a datblygu sgiliau personol er mwyn osgoi’r angen i brynu arbenigedd i mewn i’r cyngor.

Methiant

Rydym wedi gwneud cryn dipyn o waith ar fethiant dros y blynyddoedd diwethaf drwy ein Rheolwr Chris Bolton. Mae’r gwaith hwn wedi bod yn sylfaen i’r wybodaeth rydym yn rhannu a’n ffocws ar welliant. Felly mae’n wych gweld bod y cyngor yn edrych ar sut y gallant symud o ddiwylliant o fwrw bai, wrth gydnabod y materion allanol sy’n ei gwneud yn anodd (rydw i wedi blogio o’r blaen ar amgylcheddau cymhleth a methu). Os ydym yn mynd i gwrdd â disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n rhaid ein bod ni’n gallu cymryd risgiau a reolir yn dda ac adeiladu ar wersi o fethiant, fel mae Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn trafod yn y fideo isod.

Ble i ddechrau?

Os ydych chi eisiau archwilio diwylliant eich mudiad, mae’n werth cael cipolwg ar Ddull Mapio Diwylliant sydd wedi cael ei ddatblygu gan Dave Gray. Mae’r Satori Lab wedi bod yn defnyddio hwn yn eu gwaith. Mae’r sbardunau diwylliant sy’n cael eu nodi (a hefyd y rhai sydd ddim) sy’n ddefnyddiol iawn o ran meddwl am beth sydd tu ôl i ymddygiad staff a gwasanaethau cyhoeddus.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio ar ein dull o archwilio fel bod e’n cwrdd ag anghenion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae gofynion y ddeddf yn golygu bod rhaid i ni a gwasanaethau cyhoeddus newid. Os bydd mudiadau yn ceisio cyflawni’r saith gôl lles trwy’r pum ffordd o weithio heb newid beth maen nhw’n wneud, maen nhw’n debygol o fethu.

Mae’r ddeddf yn rhoi cyfle i wneud pethau ychydig yn wahanol yng Nghymru. Mewn cyfnod o lymder, ni allwn gyflawni dyheadau’r ddeddf wrth addasu’r hyn rydyn ni’n gwneud ar hyn o bryd. Rhaid i ni gael newid diwylliant gyfan gwbl er mwyn i bobl Cymru cael y gwasanaethau cyhoeddus y maen nhw’n haeddu.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Newid Ymddygiad

Llun o gi yn cael ei dynnu ar dennyn

Cafodd y thema o newid ymddygiad y cyhoedd a gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol ei drafod sawl gwaith yn ein digwyddiad ar Ddyfodol Llywodraethu: gwneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Yn y blogbost yma mae Chris Bolton yn edrych ar yr heriau sydd o’n blaen ni a sut allwn ni mynd i’r afael â nhw.

“Nid creu’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol yw’r broblem go iawn, ond gadael lle rydym ni nawr…”

Dydw i ddim yn siŵr pwy ddywedodd hynny, gallai fod yn gyfuniad o sawl peth a ddarllenais ac a glywais dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac os felly, rwy’n hapus i’w arddel.

Yr allwedd i lwyddiant (a phroblem fwyaf) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw’r Pum Ffordd o Weithio (integreiddio; cydweithio; tymor hir; cynhwysiad; ac atal) a luniwyd yn ofalus iawn. Maen nhw i gyd yn disgrifio rhywbeth y byddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n awyddus i weld cymdeithas wâr yn ei chael yn anodd anghytuno â nhw. Maen nhw’n rhesymegol, yn synhwyrol a bydd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno â nhw. Efallai mai’r ffordd orau i ddechrau mudiad torfol ar gyfer newid yw dod o hyd i rywbeth y gall pawb gytuno yn ei gylch.

Mae’r broblem yn deillio o ymddygiad pobl. Yn ôl yr hyn a welaf i, mae dau beth yn fras yn gweithio yn erbyn y Ddeddf; y System a Phobl.

  • Mae’r ‘system’ gwasanaethau cyhoeddus yn fwystfil cymhleth a fydd yn ymateb mewn ffyrdd anrhagweladwy i batrymau ymddygiad y bobl sy’n gweithredu o’i mewn
  • Mae’r newidiadau ymddygiad sy’n ofynnol gan y Ddeddf yn newid seismig i lawer. Mae’r patrymau ymddygiad presennol wedi’u datblygu dros nifer o flynyddoedd ac wedi’u hatgyfnerthu gan hierarchaethau sefydliadol a statws proffesiynol.

Mae’n her enfawr (a phwnc enfawr i’w drafod mewn 1000 o eiriau) felly ceisiaf egluro fy mhwyntiau o dan dri phennawd:

  1. Nid cydberthyniad yw achosiaeth (mae’n gymhleth ac yn ddyrys),
  2. Mae bob amser wedi ymwneud ag ymddygiad,
  3. Mae angen i ni ‘Hybu nid Tynnu’.

Nid cydberthyniad yw achosiaeth

Pe dymunwn weld un newid ymddygiad mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gweld y bobl sy’n penderfynu yn cydnabod nad yw pob sefyllfa’n syml gydag atebion amlwg fyddai’r newid hwnnw. Mae yna atebion felly i rai sefyllfaoedd penodol, ond mae llawer o’r heriau a wynebwn mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gymhleth (diabetes, anweithgarwch economaidd dros sawl cenhedlaeth ac ati).

Yn aml, mae’r math o ddadansoddiad a ddefnyddir i gefnogi gwneud penderfyniadau yn disgyn i’r fagl o gamgymryd cydberthyniad am achosiaeth wrth geisio sicrhau ‘enillion cyflym’. Er enghraifft, bydd gan economi lwyddiannus gyfran o fusnesau gweithgynhyrchu sydd fel arfer yn gweithredu mewn unedau diwydiannol. Ffaith.

Nid yw’n dilyn, fodd bynnag, fod creu llawer o adeiladau ‘parod ar gyfer diwydiant’ yn golygu y bydd busnesau gweithgynhyrchu yn ymddangos yn awtomatig yn yr adeiladau hynny ac yn creu economi lwyddiannus. Ysgrifennodd fy nghydweithiwr, Mark Jeffs, erthygl ddiddorol yn dangos ‘nad achosiaeth yw cydberthyniad’, sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘cwlt cargo’.

Mae heriau cymhleth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am ymddygiad gwneud penderfyniadau sydd: yn cydnabod cymhlethdod, yn derbyn ansicrwydd, yn barod i brofi gwahanol atebion, yn methu, yn dysgu’r gwersi o fethiant (allan yn agored), yn dysgu’r gwersi ac yn symud ymlaen. Ar gyfer rhai sy’n gwneud penderfyniadau sy’n cael eu ‘gyrru i gyflawni’ a ‘chyrraedd targedau perfformiad’ gall hyn fod yn her sylweddol i ymddygiad.

Mae bob amser wedi ymwneud ag ymddygiad

Ymadrodd i chi feddwl amdano, Diystyru Hyperbolig (gallaf ddweud beth bynnag a ddymunaf yn awr, bydd y rhan fwyaf o bobl wedi mynd i gysgu).

Yn y bôn, ymddygiad dynol yw hwn lle mae pobl yn tueddu i ffafrio enillion mwy uniongyrchol yn hytrach na phethau sy’n digwydd yn nes ymlaen. Mae hyn yn digwydd i’r fath raddau fel na fyddai ein hunain yn y dyfodol wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, ar sail yr un wybodaeth. Cyfeirir at hyn hefyd fel gogwydd tuag at y foment gyfredol neu ogwydd tuag at y presennol.

Nid ymddygiad newydd gael ei ddyfeisio yw hwn i achosi problemau i’r gyntaf o Bum Ffordd o Weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sef Meddwl yn hirdymor. Mae wedi bod yn rhan o’r cyflwr dynol ers miloedd o flynyddoedd. Os ydych yn heliwr cynhanesyddol gyda hyd oes o 30 mlynedd, mae’n debyg nad yw meddwl yn hirdymor yn uchel ar eich rhestr o batrymau ymddygiad/sgiliau bywyd ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Ceir tuedd yn aml i ‘feio’ y cylch gwleidyddol o etholiadau am feddylfryd byrdymor ym maes gwasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag gallai hyn fod yn rhywbeth dyfnach mewn ymddygiad dynol, gogwydd gwybyddol tuag at y tymor byr. Gallwch ddysgu mwy am Ddiystyru Hyperbolig yn y papur gan David Laibson yn y Quarterly Journal of Economics ym 1997.

Mae angen i ni ‘Hybu nid Tynnu’

Diolch i’r Athro Dave Snowden o Ganolfan Cynefin ym Mhrifysgol Bangor am ddatblygu’r ystyriaethau ynglŷn â hyn.

Yn ei hanfod, mae llawer o Wasanaethau Cyhoeddus wedi ‘gwneud’ newid ymddygiad i ddefnyddwyr gwasanaethau dros flynyddoedd lawer. Mae pethau fel rhaglenni i leihau ysmygu, gwisgo gwregys mewn ceir neu daliadau o 5c am fagiau plastig hyd yn oed eisoes wedi cael eu cyflwyno i bobl.

Er bod llawer o’r camau cychwynnol hyn i newid ymddygiad wedi cael llwyddiant ysgubol, mae yna gyfres wahanol o faterion yn ymwneud â heriau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, er enghraifft y cynnydd mewn Diabetes Math 2. Mae angen i’r dulliau fod yn fwy cynnil ac yn fwy seiliedig ar ddeall lle mae pobl yn gogwyddo tuag at newid. Os nad yw pobl yn gogwyddo tuag at newid, gall unrhyw fenter i newid ymddygiad wynebu gwrthwynebiad llawn neu bethau fel cydymffurfio maleisus gyda chanlyniadau anfwriadol. (Ysgrifennais am hyn o’r blaen).

Er mwyn cyflawni’r newidiadau ymddygiad cynaliadwy sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol byddwn yn dadlau ei bod hi’n well hwyluso a hybu pobl mewn meysydd lle maent yn gogwyddo tuag at newid, yn hytrach na’u gwthio neu eu tynnu mewn meysydd lle nad ydynt yn gogwyddo tuag at newid.
Mae hynny hefyd yn newid ymddygiad i lawer o bobl a fydd yn rhan o’r gwaith o gyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

A yw hi ar ben arnom?

Nac ydy, yn ôl pob tebyg, ond mae angen newidiadau ymddygiad sylweddol er mwyn cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llwyddiannus ac ni ddylem fychanu’r hyn sydd ei angen.

Dyma fy 3 cyngor gorau ar gyfer unrhyw un sy’n rhan o’r broses o wneud penderfyniadau a’r llywodraethu sy’n gysylltiedig â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  1. Derbyniwch y bydd llawer o sefyllfaoedd yn gymhleth ac yn gofyn am ddull o weithredu sy’n galw am ‘ymchwilio, profi, methu, dysgu’ cyn penderfynu ar ateb.
  2. Gwnewch yn siŵr fod yna bobl o’ch cwmpas sy’n meddu ar farn wahanol ac wedi cael profiadau gwahanol, a gwrandewch arnynt. Gallai helpu i oresgyn Diystyru Hyperbolig a nifer o ogwyddion gwybyddol (edrychwch ar fy mhost ar The Ladder of Inference) am ragor ar hyn.
  3. Wrth geisio dylanwadu ar newid ymddygiad edrychwch am feysydd lle ceir ‘gogwyddo tuag at newid’ a rhowch hwb yn y fan honno yn hytrach na cheisio ‘gwthio’ neu ‘dynnu’ pobl i’r cyfeiriad y credwch chi sydd orau ar eu cyfer.

2016: Blwyddyn y Posibilrwydd

sunrise in North Wales

Gogledd Cymru

Beth mae llywodraethu effeithiol yn edrych fel yn gyd-destun Deddf Llesiant Genedlaethau’r Dyfodol? Yn y blogbost yma mae Alan Morris yn edrych ar beth mae’n ei olygu i wasanaethau cyhoeddus a sut all ein seminar helpu.

Mae Cymru’n dechrau dangos ei gallu fel cenedl i weithio gyda’r hyn sydd ganddi mewn modd llawer mwy creadigol a chynaliadwy. Mae Trefi Trawsnewid, Masnach Deg, rhoi organau a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhai enghreifftiau o hyn.  Rydym yn dechrau sylweddoli beth sy’n gweithio i ni fel cenedl, ac yn aml nid dyna rydym wedi’i wneud yn y gorffennol. Mae newid, creadigrwydd a ffyrdd newydd o weithio hefyd yn gofyn i ni adolygu ein dulliau o wneud penderfyniadau, llywodraethu a sicrwydd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod nod uchel o ran ei dyheadau uchelgeisiol ac er mwyn cyflawni’r dyheadau hynny, mae angen i bob un ohonom newid ein ffordd o gynnal busnes yn llwyr.  Bydd y Ddeddf yn trawsnewid y ffordd y byddwn yn gwneud penderfyniadau a bydd yn gofyn i ni ystyried goblygiadau’r penderfyniadau hynny ar genedlaethau’r dyfodol. Mae’n golygu ailfeddwl ein dull o lywodraethu.

Mae gan wasanaethau cyhoeddus adnoddau terfynedig.  Mae’r gair ‘adnoddau’ yn aml yn cael ei ddefnyddio i olygu arian a phan fydd pobl yn sôn am adnoddau prin neu adnoddau sy’n prinhau, yr hyn a olygant yw ‘llai o arian’. Ond mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn i ni feddwl am adnoddau yn ehangach, gan gynnwys:

  • staff, gan gynnwys eu sgiliau, profiadau a’u cymhelliant;
  • adeiladau, offer a chyfarpar;
  • gwybodaeth;
  • yr amgylchedd ac ecosystemau;
  • adnoddau cymunedol, gan gynnwys teuluoedd, gwirfoddolwyr a sefydliadau lleol;
  • ‘cyfalaf cymdeithasol’ llai amlwg fel ewyllys da ac enw da.

Ond mae gwneud y defnydd gorau o’r ffordd rydym yn gweithio gyda’r holl adnoddau hyn o fewn ein gallu. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi’r gallu i ni ddefnyddio’r adnoddau hyn mewn modd llawer mwy creadigol a chynaliadwy. Ac un o’r allweddi i ryddhau’r adnoddau hyn yw newid ymddygiad.

Os byddwn ni yn y sector cyhoeddus yn parhau i edrych ar bethau o’r un safbwynt, mae risg y byddwn yn parhau i gyflawni’r un canlyniadau. Mae’r Ddeddf yn rhoi cyfle i edrych ar bethau yn wahanol, i wneud pethau’n wahanol ac i gyflawni canlyniadau gwahanol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd, a her, ar archwilio cyhoeddus hefyd. Rhaid i ni ddeall a derbyn yr heriau a manteisio ar y cyfleodd y mae’r Ddeddf yn eu cynnig os ydym am chwarae ein rhan wrth wella gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru ar hyn o bryd yn ystyried y lefel galonogol o uchel o ymatebion gan gyrff cyhoeddus i ymgynghoriad diweddar yr Archwilydd Cyffredinol ar sut y dylai ail-lunio ei ddull archwilio mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnal digwyddiad yn yr hydref, ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, er mwyn rhannu ei farn ynglŷn â’r hyn y mae canlyniadau’r ymgynghoriad yn ei olygu i’w ddull archwilio. Bydd ACC a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd yn manteisio ar y cyfle i nodi sut y bwriadant gydweithio.  Bydd rhagor o fanylion am y digwyddiad hwnnw’n dilyn yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn y cyfamser, rydym eisoes yn dechrau gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, rydym yn cynnal seminar dysgu ar y cyd a fydd yn rhoi cyfle i gyrff cyhoeddus ystyried goblygiadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, o ran ymddygiadau gwneud penderfyniadau a llywodraethu. Bydd y seminar yn cynnwys gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol o’r 44 corff cyhoeddus sy’n dod o dan y ddeddf mewn diwrnod ymarferol iawn ar 6 Gorffennaf yng Nghaerdydd a 14 Gorffennaf yng Ngogledd Cymru. Rydym yn gweithio ar y cyd â CLlLC, Cydffederasiwn GIG Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Canolfan Craffu Cyhoeddus a Llywodraeth Cymru i gynnal digwyddiad sy’n wahanol i, ond sydd hefyd yn adeiladu ar, seminarau dysgu ar y cyd hirsefydledig a gynhelir gan Dîm Ymarfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.

Bydd y seminar yn rhoi cyfle i gyfranogwyr rannu a dysgu gan ei gilydd, mewn amgylchedd gweithdy diogel. Yn hytrach na darparu siaradwyr arbenigol neu gyflwyno astudiaethau achos, bydd y ffocws ar alluogi cyfranogwyr i rannu profiad ac arbenigedd ei gilydd.  Byddwn yn gofyn iddynt weithio drwy ba ymddygiadau gwneud penderfyniadau a allai fod o gymorth a beth fyddai’n rhwystr o bosibl, wrth iddynt geisio cyfrannu cymaint â phosibl at y nodau llesiant drwy gymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy.  Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn cofnodi syniadau, awgrymiadau ac enghreifftiau ar y dydd ac yn rhannu’r wybodaeth hon yn eang ar-lein.

Mewn blynyddoedd i ddod, oni fyddai’n wych edrych yn ôl ar 2016 fel y flwyddyn pan gymerodd Cymru gam pwysig arall ar ei thaith i fod yn wlad a oedd hyd yn oed yn fwy cynaliadwy a chydgysylltiedig. Ffactor allweddol fydd proses gwneud penderfyniadau a fydd yn ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau, drwy ystyried yr egwyddor datblygu cynaliadwy.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn uchelgeisiol ac mae’n codi disgwyliadau uchel. Fodd bynnag, mae ein tîm pêl-droed wedi dangos i ni, os cyfunwn ein talentau a gwneud ymdrech fel tîm gydag arweinyddiaeth effeithiol – gallwn berfformio y tu hwnt i ddisgwyliadau. Fel y dywedodd Chris Coleman ar ôl y gêm yn erbyn Rwsia, yn ddaearyddol rydym yn genedl fach, ond os byddwch yn ein barnu ar ein hangerdd, rwy’n credu y gallech ddweud ein bod yn gyfandir…’

Tweet

Twitter – Gareth Bale

Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i annog trafodaeth a chodi ymwybyddiaeth ymysg cymuned Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ledled Cymru, cyn y gynhadledd, yn ystod y gynhadledd ac ar ei hôl. Yr hashnod i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw drydariad a anfonir yw #LlywSAC

Bydd yna gyfres o flogiau gan bartneriaid y seminar dros yr wythnosau nesaf. Cymerwch ran a rhannwch eich syniadau a’ch barn ar ddatblygu llywodraethu effeithiol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol yng Nghymru.

Defnyddio Technoleg Gwybodaeth i alluogi gwell gwasanaethau cyhoeddus

Defnydd effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth

Ein seminar dysgu a rennir ar Ddefnydd Effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth oedd yr un cyntaf i mi wedi trefnu ers ymuno â’r Gyfnewidfa Arfer Dda yn Swyddfa Archwilio Cymru. Dysgais i siwd gymaint o ran sicrhau digwyddiadau effeithiol yn y dyfodol, ond hefyd ar y pwnc ei hun.

Pan siaradon ni i Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y seminarau, roedd e’n glir iawn am rôl Technoleg Gwybodaeth mewn galluogi ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau.

Fe wnaeth yr effaith uniongyrchol roedd Technoleg Gwybodaeth yn cael ar y ddarpariaeth o wasanaethau taro fi yn y seminar. Roeddwn i’n ddigon ffodus i hwyluso gweithdy Andrew Durant yng Ngogledd Cymru, a wnaeth edrych ar y gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Roedd e’n ddiddorol clywed sut mae staff rheng flaen gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn gallu cydlynu eu gwaith yn well gan fod nhw’n gallu cyrchu calendrau gwaith ei gilydd.

Nid dyma’r unig sesiwn a wnaeth edrych ar sut gall Technoleg Gwybodaeth hwyluso well gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnes i fynd i weithdy Wendy Xerri o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar Dechnoleg Gwybodaeth Ecogyfeillgar hefyd, ble ffocysiwyd ar anghenion myfyrwyr. Roedd myfyrwyr yn ffurfio ciwiau diddiwedd i argraffu eu traethodau yn aml, ond trwy ganolbwyntio ar brofiad y myfyrwyr, fe gafodd y system cyflwyno traethodau ei symud ar-lein. Fe wnaeth hyn symleiddio’r system er budd myfyrwyr a lleihau’r faint o bapur a gafodd ei ddefnyddio i brintio.

Gan fod yna amrywiaeth eang o gyrff gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, nid yw’n syndod bod y dulliau ac offer Technoleg Gwybodaeth yn amrywio o fudiad i fudiad. Mae’n amlwg does yna ddim ateb ‘un maint i bawb’ ar gyfer Technoleg Gwybodaeth, ond roedd yn galonogol clywed sut roedd y staff gwasanaethau cyhoeddus yn ein seminar yn edrych i wella effeithiolrwydd eu systemau.

Dyfrig