Tag Archives: cyfryngau cymdeithasol

Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

Mae’r ffordd ni’n dysgu a chymryd gwybodaeth i mewn yn datblygu drwy’r amser. Yn y blogbost isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar beth y dysgodd trwy gymryd rhan ym mhodlediad NatterOn.

Copi o logo Podlediad NatterOn

Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydw i wedi bod yn gwrando ar bodlediadau i ehangu fy ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y byd ac i gael dealltwriaeth well o sut allai wella fy ngwaith. Mae’r app Podcast Addict wedi bod yn ffordd dda o reoli podlediadau ddiddorol gan ei fod yn dod â sawl podlediad at ei gilydd i mewn i un ffrwd.

Dyma rai Podlediadau rydw i wedi ffeindio’n ddefnyddiol:

Fe fyddwn i’n ychwanegu podlediad NatterOn i’r rhestr hefyd. Mae’n bodlediad ddigidol a marchnata sy’n cael ei rhoi at ei gilydd gan Helen Reynolds a Ben Proctor. Mae gan y ddau ohonynt feddylfryd hynod o flaengar. Mae Helen yn deall yn well na neb sut fydd cyfryngau cymdeithasol yn newid cyfathrebu. Ac rydw i wedi dysgu cymaint am ddata o Ben. Mae ei blogbost ar Aeddfedrwydd Data mewn llywodraeth leol yn arbennig, ac mae’r erthygl wedi bod yn sail i fy meddylfryd wrth i mi fynd i’r afael a data gyda Gweithgor Data a Thechnoleg Swyddfa Archwilio Cymru.

Felly pan wnaethon nhw ofyn i mi gymryd rhan yn y podlediad, dywedais ‘ie’ yn syth achos byddai’n rhoi’r cyfle i mi wneud y fwyaf o’u harbenigedd ar wella gwasanaethau cyhoeddus am awr.

Felly beth ddysgais i?

Fi’n siwr na fydd hyn yn syndod i unrhyw un, fe ddysgais i lot. Rhannodd Helen blogbost diddorol iawn ar Rhagfarn Anymwybodol, sy’n dod a nifer o wahanol fathau o ragfarn at ei gilydd i mewn i bedwar prif broblem:

  • Rydym yn hidlo gwybodaeth yn weithredol er mwyn osgoi gormodedd o wybodaeth.
  • Mae diffyg ystyr yn ein ddrysu, felly ni’n llenwi’r bylchau i mewn.
  • Rhaid i ni weithredu’n gyflym, felly ni’n neidio i gasgliadau.
  • Rydym yn gweithio mewn amgylcheddau cymhleth felly rydym yn canolbwyntio ar y darnau pwysig. Mae ein penderfyniadau yn llywio ein modelau meddyliol o’r byd.

Felly beth mae hyn yn golygu i wasanaethau cyhoeddus? I mi, mae’n ymwneud ag ymwybyddiaeth. Os ydym yn cymryd yr amser i fyfyrio’n weithredol ar y problemau yma, gallwn fod yn fwy ymwybodol o’n rhagfarn wrth i ni ryngweithio â phobl a darparu gwasanaethau. Rydym wedi nodi hwn fel mater pwysig yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly cynhaliom ddigwyddiad mewnol i fynd i’r afael a hyn. Mae’r Storify yn cynnwys lot o adnoddau defnyddiol, gan gynnwys Prawf Cysylltiadau Ymhlyg Harvard.

Cawsom sgwrs dda iawn ar ymddiriedaeth a beth mae hyn yn ei olygu o ran Cysylltiadau Cyhoeddus a gwasanaethau yn gyffredinol ar ôl i Ben rhannu blogbost ar y rhyfel ar wirionedd. Edrychodd Helen ar y swyddi sydd ar frig Baromedr Ymddiriedaeth Edelman, sy’n dangos bod ymddiriedaeth pobl yn y llywodraeth yn dibynnu ar ba mor fodlon maen nhw â’u byd. Mae gan hyn oblygiadau mawr i sut rydym yn rhyngweithio â phobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd gwahanol.

Mae ein prosiect wedi gwneud gwaith ar bwysigrwydd ymddiriedaeth staff yng ngwasanaethau cyhoeddus. Mae’n ddiddorol i gymryd rhai o’r gwersi o’r gwaith yma a’i rhoi mewn cyd-destun ehangach o weithio a chymunedau:

  • Gallu – ydyn ni’n dangos ein bod ni’n gallu gwneud ein gwaith?
  • Haelioni – oes gennym gymhellion diniwed a phryder am eraill sydd tu hwnt i ein anghenion ein hunain?
  • Gonestrwydd – ydyn ni’n weithredu i’n egwyddorion? Ydych chi’n weithredu mewn modd deg ac onest?
  • Rhagweladwy – ydy pobl yn gwybod beth rydyn ni’n debyg o wneud?

Ac ar ôl i mi rannu blogbost ar Ddull Digidol GCHQ, dysgais hefyd bod y ddywediad am brogaod mewn dŵr berwedig yn celwydd a hanner!

Beth arall wnes i rannu?

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da hefyd yn meddwl am sut allwn ni helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu eu hymagweddau at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Felly rhannais blogbost Chris Bolton ar Gemau Efelychu a Gwneud Penderfyniadau Cynaliadwy gan ei fod wedi ysgogi mi i feddwl yn wahanol am sut rydyn ni’n helpu gwasanaethau i wella.

Rydw i hefyd wedi bod yn meddwl am rôl dysgu a datblygu yn y gweithle. Rydw i wedi bod yn gweithio i wasanaethau cyhoeddus am ddeng mlynedd neu fwy, a dim ond tri o’r cyrsiau hyfforddi sydd wedi cael effaith go iawn ar fy ngwaith. Felly ydy e’n bosib i ddolenni ein dysgu a datblygiad gyda gwelliant gwasanaethau cyhoeddus? Mae Carl Haggerty wedi ysgrifennu blogbost arbennig ar hyn.

Rhannu gwybodaeth mewn modd addas

Mae yna sleid rydym yn defnyddio yn ein digwyddiadau i ddangos y ffyrdd gwahanol rydym yn rhannu gwybodaeth – drwy ein blog, cyfryngau cymdeithasol, Treialon Coffi ar Hap, e-bost a dros y ffôn. Rydym yn cydnabod nad yw pawb eisiau derbyn gwybodaeth yn yr un modd, ac nid yw pawb yn prosesu’r wybodaeth yma yn yr un ffordd. Un o egwyddorion allweddol ein gwaith yw does yna ddim dull ‘un maint i bawb’ ar gyfer gwasanaethau gwell. Mae podlediadau yn un o sawl ffordd ddefnyddiol y gallwch dderbyn a rhannu gwybodaeth, felly mae’n werth gwrando ar y podlediad yma a phodlediadau eraill i weld os allan nhw eich helpu chi i wella’ch gwaith a beth chi’n gwneud.

Effaith Cyfathrebu MAWR y Gronfa Loteri Fawr

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn gyfrifol am rannu 40% o’r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol. Yma, mae’r Swyddog Cyfathrebu, Rosie Dent yn trafod sut y cafodd un ymgyrch gyfathrebu effaith ystyrlon, fesuradwy.

Llun o Rosie Dent, a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer ei hunanlun Loteri

#LotterySelfie Rosie Dent

Yng Nghymru, rydym yn rhoi tua £100,000 y dydd i brosiectau sydd â’r nod o wella bywydau pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf. Y llynedd, gwnaethom lansio ein fframwaith strategol ar gyfer 2015-21 sy’n nodi beth y gall pobl ei ddisgwyl gennym fel ariannwr dros y chwe blynedd nesaf. Ein gweledigaeth yw y dylai pobl arwain y ffordd wrth wella eu bywydau a’u cymunedau.

Fel Tîm Cyfathrebu, rydym o’r farn mai un o’r ffyrdd gorau y gallwn gael pobl i arwain yw drwy roi’r ffocws arnynt hwy a rhoi’r adnoddau iddynt allu hyrwyddo’r gwaith gwych maent yn ei wneud, waeth pa mor fawr neu fach yw hynny. Y ffordd hon o feddwl a arweiniodd at lansio ein hymgyrch #LotterySelfie.

Mae dwy elfen i’r ymgyrch, un ohonynt yw annog prosiectau i rannu delweddau gyda ni drwy ddefnyddio’r hashnod #LotterySelfie. Y nod, wrth i ninnau rannu’r delweddau hyn, yw y gall prosiectau o bosib gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae’r elfen hon o’r ymgyrch wedi bod yn rhedeg ers mis Ionawr 2016 ac mae hyd at 600,000 o argraffiadau bob wythnos ar Twitter.

Ail elfen yr ymgyrch yw ‘Llythyr Syrpreis y Loteri’. Bob blwyddyn mae ein staff yn asesu miloedd o geisiadau ac yn anfon miloedd o lythyrau sy’n rhoi gwybod i ymgeisydd bod ei gais am grant wedi bod yn llwyddiannus. Gyda chynifer o lythyrau, mae’n hawdd anghofio sut y gall arian Loteri newid bywydau cymunedau yng Nghymru. Gwnaeth hyn i ni feddwl, beth am i fwy o staff ymweld â phrosiectau a gwneud i’r prosiectau deimlo’n arbennig drwy ddosbarthu rhai o’r llythyrau cynnig grant â llaw?

Y sefydliad a gafodd syrpreis gyntaf gyda Llythyr Syrpreis y Loteri oedd NuHi Cyf. yng Nghaerdydd sy’n cynnig ymwybyddiaeth, addysg a hyfforddiant ym maes camddefnyddio sylweddau i’r gymuned ehangach. Bydd yn defnyddio’r grant o £4,775 i greu ystafell TG a gwefan fel y gall pobl sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau gael gwybodaeth a chefnogaeth. Holly, gwirfoddolwraig, a orffennodd ei thriniaeth adsefydlu yr union ddiwrnod hwnnw, a gafodd y syrpreis. Gwnaethom gadw’r syrpreis yn syml. Yr oll oedd gennym oedd llechen, llythyr cynnig ac wrth gwrs siec enfawr (oherwydd pwy sydd ddim yn breuddwydio am gael siec enfawr?), gan ei gwneud yn ymgyrch hynod o rad, sy’n costio dim heblaw am amser staff.

 

Beth oedd y canlyniad i NuHi?

Pan ofynnwyd sut roedd hi’n teimlo ynglŷn â’r syrpreis, dywedodd y Sefydlydd Yaina: “Mae’r gwirfoddolwyr yn dal i fod yn wên o glust i glust”. Roedd Yaina yn teimlo bod morâl staff wedi cynyddu ers y syrpreis.

O fewn pythefnos i’r syrpreis, roedd y sylw ar gyfryngau cymdeithasol wedi arwain yn uniongyrchol at sefydliadau eraill yn cysylltu â nhw ynglŷn â gweithio mewn partneriaeth a gwahoddiad i fod yn siaradwr gwadd mewn digwyddiad entrepreneuraidd.

Gwnaeth y sylw hefyd arwain at roddion cyhoeddus ac, o ganlyniad, rhoddodd NuHi fotwm rhoddion ar ei wefan. Credwn fod hyn yn ganlyniad hynod gadarnhaol i NuHi gan y gallai rhoddion gynyddu cynaliadwyedd y sefydliad. Roedd hefyd wedi arwain at dri ymholiad newydd am gymorth gan bobl sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau.

Llun o bobl sy'n ymwneud â NuHi Cyf.

NuHi Cyf.

A fu effaith ar staff y Gronfa Loteri Fawr?

Dywedodd Liz Hertogs a fu’n asesu’r cais ac a ffilmiodd y syrpreis wrthym, “Dyma oedd fy ymweliad prosiect cyntaf, felly roedd yn wych cael cwrdd ag un o’n deiliaid grant, ac roeddem yn gallu rhoi ein pecyn cynnig iddo a thrafod beth sy’n digwydd nesaf ar yr un pryd. Roedd bod yno pan wnaeth ddysgu ei fod yn cael ei ariannu gennym yn brofiad arbennig iawn.”

Cawsom lawer o sylwadau cadarnhaol ynglŷn â’r fideo gan staff ac aelodau’r pwyllgorau. Nid ydym erioed wedi gweld staff wedi cyffroi cymaint am gynnyrch cyfathrebu o’r blaen! Roeddech yn gallu clywed staff yn sôn amdano o amgylch y swyddfa am ddyddiau, roedd wir yn teimlo fel ei fod wedi creu cyffro yn ein swyddfeydd, yng Nghaerdydd a’r Drenewydd. Roedd y cyffro hwnnw’n heintus, cawsom sylwadau gan dimau’r Gronfa Loteri Fawr yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Camelot a thîm Achosion Da y Loteri Genedlaethol.

Pa sylw a gafodd y fideo?

O fewn diwrnodau roedd 8,800 o bobl wedi gweld y fideo ar Facebook, gan ei wneud yn un o’r pethau mwyaf poblogaidd i ni ei bostio ar y llwyfan. Cafodd cynnwys cyfryngau cymdeithasol ei rannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Achosion Da y Loteri a We Are Cardiff, i enwi dim ond rhai.

Cafodd fideo a stori Holly, y wirfoddolwraig, eu cynnwys ar Wales Online, a chafodd yr erthygl ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol dros 340 o weithiau.

Myfyrio

Fel mae timau Cyfathrebu eraill yn ei ganfod mae’n siŵr, gall fod yn anodd casglu tystiolaeth am ganlyniadau eich gwaith, yn enwedig canlyniadau cadarn. Fodd bynnag, mae effaith yr ymgyrch hon wedi bod yn anhygoel ac wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Roedd llawer o’r canlyniadau, fel rhoddion cyhoeddus ac ymholiadau am gymorth gan y prosiect, yn annisgwyl ac maent yn dangos sut y gall cyfathrebu, gan gynnwys cyfryngau digidol, ychwanegu gwerth a chael effaith ystyrlon ar sefydliadau a chymunedau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Loteri Fawr Cymru, ewch i’n gwefan, dilynwch @LoteriFawrCymru ar Twitter neu hoffwch Cronfa Loteri Fawr Cymru ar Facebook.

Sut mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu helpu aelodau etholedig i gyfathrebu â’u cymuned

Sut all cynghorwyr defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel rhan o’u gwaith? Siaradodd Dyfrig Williams gyda’r Cynghorydd Giles Davies, Maer Torfaen.

Edrychodd y gynhadledd #PSDigital ar sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, ac roedd yna lot i feddwl amdano yn sgil y gynhadledd. Siaradodd Ben Black am ei safle hyperlleol ar gyfer Cwmbrân, ac fe wnes i gael y cyfle i siarad ag ef am y ffordd mae’r Cynghorydd Giles Davies, Maer Torfaen, yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â chymuned Abersychan. Os ydych chi am weld beth sy’n digwydd yn yr ardal, edrychwch ar y hashnod #AbersychanWard, a gafodd ei ddechrau gan y Cynghorydd.

Lleol v Cenedlaethol

Cyng. Giles DaviesRoedd y Cynghorydd Davies yn ddigon caredig i drafod ei ddull gyda mi, ac un o’i bwyntiau cyntaf oedd bod gan bobl ddiddordeb yn yr hyn sy’n digwydd ar eu stepen drws yn hytrach na materion blaid genedlaethol a gwleidyddol. Mae’r Cynghorydd Davies wedi bod yn llwyddiannus yn ei gyfathrebu trwy ffocysu yn uniongyrchol ar faterion Abersychan.

Achos mae’n cymryd ymdrech i reoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, mae’r Cynghorydd Davies wedi penderfynu canolbwyntio ar ddefnyddio Facebook a Twitter. Mae pobl rhwng 16 a 85 oed wedi cysylltu ag ef trwy Facebook, ac mae Twitter wedi bod yn ddefnyddiol achos mae’n llwytho’n gyflymach. Mae’r wasg leol yn ei ddilyn hefyd felly maent yn rhannu ei weithgareddau drwy eu sianeli nhw.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn galluogi’r Cynghorydd Davies i ymateb yn gyflym i beth sy’n digwydd yn ei ardal. Os oes ffordd ar gau, mae’n gallu rhannu ble sydd wedi cael ei effeithio yn gyflym gan fod ei ffôn yn ei boced trwy’r amser. Mae’r dulliau yma hefyd yn galluogi iddo fod ar gael ar gyfer sgwrs ar unwaith, sy’n lot fwy cyfleus i aelodau’r gymuned.

Ar-lein v All-lein

Ers dechrau defnyddio cyfryngau cymdeithasol, dyw’r Cynghorydd Davies ddim yn rhedeg cymorthfeydd traddodiadol, gan does yna ddim galw amdanynt. Wedi dweud hyn, dyw hyn ddim wedi stopio ei ymgysylltu all-lein. Mae ef nawr yn cerdded drwy’r fwrdeistref ac yn cyfarfod trigolion i drafod y materion sydd ganddynt. Mae’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddweud wrth bobl pryd a ble mae fe ar gael, a hefyd mae’n defnyddio WiFi busnesau lleol i ryngweithio, sy’n golygu mae’n rhoi cyhoeddusrwydd iddynt wrth iddo gyfarfod ag aelodau o’r cyhoedd yno. Wrth gwrdd â phobl mewn caffis, mae’n tynnu sylw at ei gefnogaeth ar gyfer siopa lleol a chymunedau bywiog.

Mae defnydd y Cynghorydd Davies o gyfryngau cymdeithasol yn ei helpu i gyfathrebu beth mae ei gwaith yn cynnwys, ac i ddangos bod nhw’n mynd ati i ymateb i bryderon pobl. Pan mae pobl yn cysylltu â fe am fater, mae’r Cynghorydd Davies yn rhannu ei e-bostiau i’r cyngor ar Facebook fel y gall pobl weld ei fod wedi ymateb i beth maen nhw wedi dweud.

Mae’r Cynghorydd Davies hefyd yn gallu arddangos y gwahaniaeth mae’n gwneud i’r gymuned drwy rannu ei waith codi sbwriel pan mae fe allan yn cerdded. Trwy ymateb i sylwadau ar yr erthygl, mae fe hefyd yn gallu helpu pobl i ddelio â materion rheoli gwastraff.

Tryloywder

Mae tryloywder y Cynghorydd Davies yn ei alluogi i adeiladu ymddiriedaeth y gymuned ynddo. Mae hyn wedi cynnwys cyhoeddi ei dreuliau ar-lein, a wnaeth cael ymateb cefnogol. Mae’n gallu cael adborth ar syniadau ar helpu’r gymuned, fel Siambr Fasnach, a hyd yn oed gwahodd pobl i wirio ei fersiwn drafft o’i Adroddiad Blynyddol. Mae’n werth darllen y sylwadau o dan yr erthygl i weld sut mae’r gymuned yn teimlo amdano.

Ar y cyfan roeddwn i’n meddwl roedd y ffordd mae’r Cynghorydd Davies yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn arbennig. Fel rhywun sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol fy hun, rydw i wedi gweld eu potensial i newid sut mae aelodau etholedig yn rhyngweithio â phobl yn eu cymuned. Mae’n wych gweld sut mae’r Cynghorydd Davies wedi gwneud y gorau o’r cyfleoedd mae cyfryngau cymdeithasol yn rhoi iddo er mwyn cyfathrebu’n well â phobl Abersychan.

5 peth i wasanaethau cyhoeddus eu hystyried wrth ddefnyddio Periscope

Sut gall gwasanaethau cyhoeddus ddefnyddio Periscope? Yn y blog gwadd yma, mae Will Barker, Swyddog Cefnogi Prosiect (Cyfryngau Cymdeithasol a Digidol), 1000 o Fywydau a Mwy, yn edrych ar sut gallwn ni ddefnyddio’r ap.

Periscope

Ap ffrydio byw newydd yw Persicope sy’n gysylltiedig â Twitter. Dim ond ychydig dros fis oed yw’r ap ac eisoes mae wedi cael ei ddatgan fel un sy’n newid y gêm o ran y ffordd y mae cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar newyddion darlledu. Honnir mai hwn yw’r llwyfan mawr nesaf i ddod i’r amlwg ar ôl Twitter.

Mae’n gweithio’n syml drwy ddewis beth rydych chi eisiau ei ddarlledu, rhoi teitl i ffrwd ddarlledu, a chlicio ar ‘darlledu’. Wedyn mae hwn yn cysylltu â’ch ffrwd Twitter ac mae eich dilynwyr ar Twitter yn gallu ymuno yn y darllediad, yn ogystal ag unrhyw un ym mhob cwr o’r byd sydd â diddordeb yn yr hyn rydych chi’n ei ddangos.

Fel gyda phob technoleg a llwyfan cymdeithasol newydd, mae’n rhaid i ni gymryd pinsiad o halen gyda’r datganiadau hyn. Roedd llawer yn meddwl mai Vine oedd yr ap i dicio’r bocs yma, ond mae wedi dilyn llwybr gwahanol i’r hyn a ddisgwylid i ddechrau. Er hynny, mae’n werth edrych ar sut gallai’r sector cyhoeddus wneud defnydd o’r ap ffrydio byw hwn a’i fanteision, yn enwedig tra bod llawer o chwilfrydedd a dirgelwch yn ei gylch o hyd.

Fforymau, digwyddiadau a chynadleddau

Gall y rhain fod yn cael eu cynnal gennych chi, neu gallech fod yn eu mynychu/mynd â stondin iddynt. Yn aml, y nod yw ‘ymuno yn y sgwrs’ gan ddefnyddio hashnod y gynhadledd. Efallai y gellid defnyddio Periscope i siapio sgyrsiau neu greu rhai newydd, y tu hwnt i anfon negeseuon trydar at eich gilydd. Eisiau trafod pynciau allweddol ac uchafbwyntiau’r dydd? Beth am sefydlu darllediad sy’n gwneud hynny, fel sesiwn panel bron? Yn 1000 o Fywydau a Mwy (@1000LivesPlus), fe wnaethon ni hyn. Mewn cynhadledd ddiweddar, cyflwynwyd uchafbwyntiau a chyfweliadau gyda’n staff drwy gyfrwng Periscope, am yr hyn roeddent wedi’i ddysgu yn y sesiynau. Rydyn ni’n meddwl ei fod yn cynnig elfen ychwanegol i’r rhai sy’n ein dilyn ni ar Twitter ac a oedd yn methu bod yno.

Hawl i Holi

Dal i gael yr un cwestiynau ar eich sianelau cyfryngau cymdeithasol? Neu ddim ond cyfle i gael rhai arbenigwyr allweddol yn eu maes yn yr un ystafell? Drwy ffrydio byw ar Periscope, mae gennych chi gyfle i ateb cwestiynau pwysig yn ddyfnach ac yn gynt. Mae’n rhaid i chi gofio, er hynny, os ydych chi’n cynnig eich hun yn agored ar gyfer sesiwn Hawl i Holi, eich bod yn agored i bob math o gwestiynau. Felly mae’n werth rhoi ambell reol yn ei lle, er enghraifft: ‘heddiw fe fyddwn ni’n trafod y pynciau penodol yma ac os ydych chi eisiau atebion i bynciau eraill, mae posib cysylltu â ni yma’.

Newyddion pwysig

Fwy a mwy, rydyn ni’n gweld pobl, sefydliadau a chanolfannau newyddion yn troi at Twitter i rannu newyddion pwysig. Beth am ddefnyddio Periscope? Bydd posib i chi reoli beth yn union rydych yn ei ddweud, ei gyfleu mewn mwy na 140 o lythrennau a dal i elwa o gyrraedd eich cynulleidfa ar-lein. Mae’n werth nodi, o ran maint cynulleidfa Periscope, a chan ei fod mor newydd, na ddylai’r math yma o gyfathrebu fod yn ynysig, gan fod mwyafrif y gynulleidfa’n debygol o’i golli.

Cyfarfodydd agored

Oes gennych chi gyfarfod cynllunio nad yw’n sensitif ac a fyddai wir yn elwa o gyfraniad o’r tu allan i’ch sefydliad? Beth am ei wneud yn agored i gael barn pobl o bob cwr o’r byd? Pwy a ŵyr? – fe allai awgrym rhywun fod yn ddechrau ar eich ateb.

Dangos y gwaith yn cael ei wneud/cael mynd y tu ôl i’r llenni

Mae tu ôl i’r llenni wedi cael llawer o ddefnydd ar Periscope eisoes. Mae’r BBC wedi dangos beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn Rowndiau Terfynol byw The Voice UK, mae sefydliadau newyddion amrywiol wedi bod yn dangos beth oedd yn digwydd y tu ôl i’r llenni wrth iddynt ddarlledu am yr etholiad, ac aeth Cyngor Caerdydd â’i wylwyr ar daith dywys o amgylch Sioe Flodau’r RHS cyn iddi agor. Mae rhoi i’ch cynulleidfa rywbeth na fyddent yn ei gael yn unrhyw le arall yn un o wir fanteision Periscope. Felly beth am feddwl sut gallai hynny fod o ddefnydd i’ch sefydliad neu eich prosiect chi?

Cofiwch beth sydd ar gael. Astudiwch y ddarpariaeth.

Efallai bod Periscope yn newydd ac yn gyffrous i lawer, ond cofiwch fod ffrydio byw wedi bodoli ers sawl blwyddyn. Mae’n werth edrych beth arall sydd ar gael, i wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio’r llwyfan priodol ar gyfer eich gofynion chi. Gyda Periscope ar gael ar ddyfeisiadau iOS yn unig (ar hyn o bryd), gan gysylltu â Twitter a darlledu ar ffurf portread, ai dyma’r llwyfan addas i gyrraedd eich cynulleidfa chi? Ynteu a fyddai cynhyrchion ffrydio byw eraill fel Bambuser yn well? Cofiwch hefyd am wrthwynebydd mawr Periscope: yr ap ffrydio byw o’r enw Meerkat, ond stori arall ydi honno.

Mae digon o ddeunydd darllen am Periscope (a Meerkat) ar gael er mwyn i chi wneud penderfyniad, felly ewch ati i ddarllen. Ac os gallwch chi, dechreuwch arbrofi gyda sut gellid ei ddefnyddio yn eich sefydliad.

Fe fyddwn i wrth fy modd yn clywed eich barn am ddefnyddio Periscope yn y sector cyhoeddus, neu sut brofiad gawsoch chi os ydych chi wedi’i ddefnyddio eisoes. Gadewch sylw isod neu anfonwch neges drydar ata’ i @willdotbarker.

WhatsApp: A fyddai’n gallu eich helpu i wneud eich cymuned yn lle gwell i fyw ynddo?

Wrth i’r byd newid, mae’n rhyfeddol gweld sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn newid hefyd. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, byddai’n anarferol iawn i sefydliad feddu ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol (fel pan grëodd Helen Reynolds dudalen MySpace ar gyfer Neuadd y Sir yn Nhrefynwy). Er bod llawer ohonom yn parhau i geisio deall sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar y ffordd y mae sefydliadau yn rhyngweithio â chymunedau, mae’n rhan hanfodol o’r ffordd ni’n cyfathrebu fel unigolion o ddydd i ddydd.

WhatsApp

Nid yw’n syndod felly, ein bod ni’n gallu dysgu lot o’r bobl yn ein cymunedau.

Wrth i gyllidebau grebachu, gofynnir i wasanaethau cyhoeddus wneud mwy gyda llai. Mae sefydliadau yn dechrau cefnu ar y rôl dadol a chwaraewyd ganddynt yn aml yn y gorffennol gan newid i rôl lle maent yn galluogi pobl i wneud y gorau o’u cyfleoedd. Disgrifiwyd sut mae’r Bromford Deal yn gwneud hynny yn ein Seminar Mabwysiadu Dulliau Ataliol y llynedd. Gallwch ddysgu mwy am y fargen yn y fideo isod.

Rydw i wedi bod yn defnyddio WhatsApp yn bersonol am gyfnod. Roeddwn i’n ceisio meddwl i fy hun am sut y gellir ei ddefnyddio i wella’r ffordd rydym yn gweithio, ond doeddwn i ddim yn gallu dychmygu sut i’w ddefnyddio am y pwrpas yma. Newidiodd hyn gyda’r Storify yma gan Will Barker ar Drafodaeth Twitter #nhssm, ble roedd yn bosibl imi weld ar unwaith sut y gallai sefydliadau ei ddefnyddio i hysbysu pobl yn well am beth maen nhw’n wneud. Mae’n rhyfeddol ystyried, yn achos yr Oxford Mail, bod nifer y bobl sy’n cael eu cyfeirio at y tudalennau drwy WhatsApp chwech neu saith gwaith yn fwy na Twitter.

Trafodaethau WhatsApp DiscussionsDrwy rannu Storify, dechreuais drafodaeth gyda Ben Black, gan bod ei stryd yn defnyddio WhatsApp mewn ffordd ddiddorol iawn. Mae’r llwyfan yn rhoi cyfle i bobl gysylltu â’i gilydd yn well (a dywedodd Ben bod lot o dynnu coes yn digwydd yn ystod y sgwrsio). Mae’n golygu bod ffordd gyflym o wirio pethau, er enghraifft os bydd y trydan yn diffodd gellir darganfod os yw wedi effeithio ar un tŷ yn unig neu’r stryd gyfan. Os bydd un o’r preswylwyr yn mynd i’r dymp, drwy anfon neges gyflym at y grŵp, gall y person hwnnw gynnig mynd â sbwriel pobl eraill ar yr un pryd. Pan wnaeth un o’r bwytai ar y stryd gais am drwydded, defnyddiwyd WhatsApp i anfon adborth o gyfarfod y cyngor.

Defnyddiwyd yr ap i amlygu materion sy’n effeithio ar y stryd, fel tyllau yn y ffordd, neu i weld os yw’n bosib i bobl fenthyca offer neu amser ei gilydd, er enghraifft drwy dorri lawntiau ei gilydd.

Roeddwn i’n ystyried WhatsApp fel dull o gyfathrebu â phobl yn unig, ond mae Ben a’i gymdogion wedi mynd â’r peth un cam (neu bum cam) ymhellach ac maen nhw’n ei ddefnyddio mewn ffordd weithredol er mwyn helpu i wneud eu stryd yn lle gwell i fyw ynddo.

Os bydden i’n gofyn i bobl sut maent yn teimlo am y gwasanaethau cyhoeddus maen nhw’n derbyn, rwy’n siwr y byddai’r mwyafrif yn gofyn “pa wasanaethau cyhoeddus?” Drwy ddefnyddio offer fel WhatsApp a Streetbank, mae pobl bellach yn darparu rhai agweddau o wasanaethau eu hunain. Os meddyliwn am eiliad ynghylch sut y byddai’n bosibl inni weithio’n wahanol a dilyn esiampl stryd Ben, credaf fod lot y gallwn wneud i wella’n gwaith ni.

Dyfrig

O Archwilio Ariannol i Gyfnewid Arfer Da

Mae Michelle Davies wedi bod yn gweithio gyda ni yn y Gyfnewidfa Arfer Da. Rydyn ni wedi dysgu lot oddi wrthi hi ei am ei gwaith ac i’r gwrthwyneb. Yn y blog yma, mae Michelle yn dweud wrthym am ei phrofiadau o weithio gyda ni.

Michelle DaviesYn ddiweddar rwyf wedi cwblhau prosiect Arfer Da lle gwnes i helpu i gyflwyno’r Webinar Wynebu Heriau Ariannol (a gallwch wylio hwn yn llawn ar Vimeo). I’r rhai ohonoch nad ydych yn fy adnabod i, fel arfer rwy’n gweithio yng Nghlwstwr Archwilio Ariannol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio ar y pethau cyffrous – Cyfrifon Llywodraeth Leol ac Iechyd!

Felly, pam oeddwn i’n awyddus i gymryd rhan

Roeddwn yn chwilfrydig ac yn anwybodus ynghylch yr hyn oedd yn digwydd gyda Thîm y Gyfnewidfa Arfer Da, beth maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw yn ei wneud, pa gylchoedd y maent yn symud ynddynt, beth yw eu nodau yn ein sefydliad? Ar ôl gweithio ym maes Archwilio Ariannol yn y Gorllewin am dros 10 mlynedd, roeddwn yn ysu am newid. Roedd mynd allan mwy, a hyd yn oed gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd yn newydd.

Dysgais lawer o sgiliau newydd, o wahanol ddulliau i ymchwilio i bynciau nad oedd gen i ond ychydig wybodaeth amdanyn nhw neu ddim o gwbl. Ac o ran y cyfryngau cymdeithasol, wel byddai’n saff dweud fy mod ychydig yn rhydlyd; roedd angen i mi symud gyda’r oes ac roedd yr addewid o gael fy nysgu sut i ‘drydar’ yn apelio. Onid ydych chi jyst wrth eich bodd pan fydd pobl yn dweud “mae’n hawdd?”

I weithio’n wahanol weithiau mae’n rhaid i chi weithio gyda phobl wahanol. Er ei fod ychydig yn frawychus ar y dechrau, byddwch yn dysgu’n fuan am bersonoliaethau a disgwyliadau. Gallwch ddysgu cymaint oddi wrth bobl eraill, mae rhyw fath o hyder mewnol yn dechrau tyfu wrth i chi drafod syniadau gyda chydweithwyr a rhannu eu profiadau a’u cyffro.

Yr hyn a ddysgais i

Ymchwilio
Yn gyntaf roedd rhaid i mi ymchwilio i’r pwnc, drwy syrffio’r we, darllen drwy’r adroddiadau cyfredol perthnasol, unrhyw gynadleddau, seminarau, nodi siaradwyr posibl a chynhyrchu dogfen gwmpasu i’w chyflwyno gyda fy nghanfyddiadau a nodi’r themâu allweddol i’w trafod.

Briffio
Gyda fy neunydd ymchwil, eisteddais a thrafodais fy nghanfyddiadau gydag Ena ac Anthony Barrett i gytuno ar deitl mwy siarp ac i ddynodi siaradwyr a oedd yn gallu trafod arfer da cyfredol, perthnasol a nodwyd o fewn y sector cyhoeddus. Dysgais pa mor bwysig yw ystyried a yw’r teitl yn dweud yr hyn y mae’n ei wneud ar y tun?

Cynhaliais fy sesiwn briffio gyntaf gyda Guy Clifton o Grant Thornton dros y ffôn. Esboniais strwythur, fformat ac amseroedd y webinar gan gymryd oddi arno faterion cadw tŷ ychwanegol i’r tîm GPX eu cadarnhau.

Cyfryngau Cymdeithasol, h.y. amserlenni trydar a thrydar byw
Cefais wers mewn trydar a gofynnwyd i mi drydar yn fyw mewn ychydig o seminarau, gan helpu’r tîm GPX pan oeddent yn brin o staff neu mewn digwyddiad mwy lle roedd nifer o weithdai yn cael eu cynnal yr un pryd. Ond doedd gwers mewn trydar, fe wnes i ddarganfod, ddim bob amser yn mynd i sicrhau fod pethau’n mynd yn esmwyth ar y diwrnod!

Hyder i wneud y gwaith
Ymmmm, beth ddylwn i ei wneud nawr, beth ddylwn i ei wneud nesaf, ydw i’n gwneud hyn yn iawn, fy holl bryderon a rhan o’r gromlin ddysgu. Byddai Ena yn gwenu arnaf ac yn dweud, be’ wyt ti’n feddwl, dyweda wrtha i be’ wyt ti’n deimlo, be’ fyddai dy ddewis greddfol? Nawr ewch a gwnewch e’!

Ymddygiadau
Mae’r tîm GPX yn defnyddio ffordd wahanol o weithio, mae angen iddynt fod yn gallu amrywiaeth fawr o bethau o fewn y tîm. Byddwch yn dysgu gweithio tuag yn ôl. Mae’r tîm yn gwybod yr hyn y maen nhw am ei gyflawni, felly sut maen nhw yn cyrraedd yno, mae eu ffocws ar effaith.

Y da, y drwg a’r hyll

Fe wna’ i’r hyll yn gyntaf – wrth helpu ar seminar allanol yn benodol i drydar yn fyw, fe gysylltais â’r WiFi, iawn. Eisteddais ym mlaen y gynulleidfa yn gwrando ar Huw Vaughan Thomas yn cyflwyno ei araith agoriadol – rydw i wedi fy nghysylltu, ond hei – dim gwe! Beth bynnag roeddwn i yn ei drio doedd o jyst ddim yn gweithio! Ar ddiwedd yr araith agoriadol llwyddais i dynnu sylw Dyfrig, ac yn wyrthiol fe gysylltodd fy mheiriant, yn lwcus iawn! I ddal i fyny fe ddechreuais gopïo a gludo o amserlen trydar – ond wnâi e ddim gweithio! Cymerodd tua 15 o ymdrechion gyda’r tymheredd yn codi cyn i mi sylweddoli fod yna ormod o nodau! Iawn – doedd yna ddim stopio arna’ i nawr … ond byddai pob llun a gymerwn o’r siaradwyr i’w lanlwytho gyda’u negeseuon allweddol yn ymddangos wyneb i waered! Dim lluniau felly!

Y drwg – wel mewn gwirionedd does gen i ddim unrhyw brofiadau gwael, hyd yn hyn maent i gyd wedi bod yn dda neu’n hyll, ac mae hyd yn oed y profiad hyll yn ddoniol nawr. Rydych yn dysgu o’ch profiadau ac rydw i wedi gwneud hynny, ac fe aeth y trydar byw yn y webinar yr wythnos ddiwethaf yn iawn – diolch byth!

Y da – Rydw i wedi mwynhau fy mhrofiadau yn fawr iawn, rwyf wedi dysgu set newydd o sgiliau ac ennill hyder mewnol ac angerdd nad oedd yno o’r blaen. Rwyf wedi bod yn ffodus i gyfarfod llawer o bobl o bob lliw a llun, gydag amrywiaeth o sgiliau a phersonoliaethau, rhai ohonynt yn drawiadol, rhai yn gwneud i chi deimlo’n ostyngedig, rhai yn ysbrydoledig, a rhai yn awyddus ac yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth unrhyw un arall sydd am gymryd rhan

Ewch ati! – Wnewch chi ddim difaru ac os oes gennych unrhyw bryderon galla’ i’ch helpu i’w goresgyn. Mae rhannu gwybodaeth fel hyn yn bwysig i ddyfodol ein sefydliad a’n gwasanaethau cyhoeddus.

Ein siwrnai ni gyda Yammer – sut rydym wedi gweithredu rhwydwaith cymdeithasol ar gyfer menter yn Swyddfa Archwilio Cymru

Rydyn ni wedi cael sawl trafodaeth ar-lein ac all-lein yn ddiweddar am sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio rhwydweithio cymdeithasol i wella cyfathrebu mewnol. Mae Mark Stuart Hamilton wedi ysgrifennu blogbost i ni am sut rydym yn ei ddefnyddio a sut rydym wedi ei roi ar waith.

The Wales Audit Office Intranet, with a Yammer feed on the right hand side / Intranet Swyddfa Archwilio Cymru, gyda ffrwd Yammer ar y dde

Mewnrwyd Swyddfa Archwilio Cymru, gyda’r ffrwd Yammer ar y dde

Rydym wedi cyflwyno Yammer yn Swyddfa Archwilio Cymru yn ddiweddar – at ddefnydd mewnol. Fel y cyfryngau cymdeithasol eraill, mae Yammer yn llwyfan ble mae pobl yn gallu anfon negeseuon i’w gilydd, cynnal sgyrsiau a rhannu gwybodaeth yn well.

Y gwahaniaeth rhwng Yammer a llawer o rwydweithiau cymdeithasol eraill yw bod Yammer wedi’i gynllunio’n benodol gyda ffocws ar fusnes.

Roeddem wedi bod yn ystyried lansio llwyfan cyfryngau cymdeithasol mewnol ers peth amser, ond roedd yn anodd dod o hyd i amser priodol. Ar ôl ailgynllunio ein mewnrwyd, edrychwyd ar y syniad eto.

Roedd gan ein hen fewnrwyd system o’r enw post-its ac roedd pobl yn gallu anfon negeseuon byr i’r dudalen flaen. Canolbwyntiodd y trafodaethau gwreiddiol ar ehangu’r system honno (fel targedu post-its at grwpiau penodol o bobl). Ond, yn fuan iawn, gwelsom fod angen ateb arall.

Ystyriwyd sawl opsiwn ac, ar ôl adolygu gofalus, cytunwyd y byddem yn dewis Yammer.

Mae gan Yammer fersiwn menter y telir amdano a fersiwn am ddim. Mae’r fersiwn menter yn cynnig mwy o adnoddau gweinyddol, ond roedd y fersiwn am ddim yn ddigon da i ni at bwrpas profi. Felly, sefydlwyd y fersiwn am ddim gennym, ynghyd â grŵp peilot bychan.

Ar y dechrau, roedd y peilot yma’n cynnwys pobl a oedd wedi gofyn am system fel Yammer yn bennaf, oherwydd byddent hwy’n fwy parod i ddechrau trafodaethau newydd a rhoi bywyd yn y system. Roeddem eisiau gweld cymaint o gynnwys â phosib ar Yammer cyn y lansiad, fel bod pobl yn meddwl am Yammer fel rhywbeth y mae eraill yn ei ddefnyddio’n ddyddiol – nid rhywbeth i ddefnyddio llawer arno am y diwrnod neu ddau cyntaf ac wedyn anghofio amdano. Yn unol â’r athroniaeth hon, cafodd y peilot ei ehangu dros amser, fel bod mwy a grwpiau a chynnwys yn cael eu creu.

Wedi dweud hynny, roeddem dal eisiau creu heip ar gyfer y prif lansiad a chyffroi pobl – i annog cymaint o staff â phosib i ymuno unwaith y byddai wedi’i lansio’n swyddogol. Mae gennym ddwy sgrin deledu yn y swyddfa yng Nghaerdydd sy’n dangos newyddion corfforaethol ar sioe sleidiau. Newidiwyd un o’r sleidiau hyn i ddarllen “Stop! Yammertime” a gosodwyd posteri gydag MC Hammer a’r un arwyddair arnynt o amgylch yr adeilad.

Ar y dechrau, ni chafodd unrhyw wybodaeth arall am Yammer ei darparu. Roeddem eisiau creu trafodaeth a rhyw deimlad o ddirgelwch. Gydag amser, datgelwyd mwy a mwy o wybodaeth, ond y bwriad drwy’r adeg oedd gwneud pobl yn gyson ymwybodol o Yammer, yn hytrach na’i gyflwyno’n gwbl annisgwyl.

Trefnwyd sesiynau hyfforddi i bobl eu mynychu ar sut mae defnyddio Yammer a chael y gorau ohono. Roedd rhai staff yn amheus o Yammer i ddechrau ac rydym wedi gweithio’n galed i ddangos sut gall Yammer fod yn fuddiol i fusnes, i rwydweithio ac ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol gyda chydweithwyr. Er hynny, mae’n werth nodi bod marchnata Yammer fel “Facebook i fusnesau” yn debygol o greu adwaith mwy anffafriol gan bobl nad ydynt yn defnyddio Facebook (neu gyfrwng cymdeithasol arall) neu ddim yn ei hoffi.

Ychydig wythnosau ar ôl hysbysebu Yammer i ennyn diddordeb, ac ar ôl cynnal y ‘sesiynau blasu’, lansiwyd ein mewnrwyd ar ei newydd wedd yn swyddogol. Roeddem eisiau integreiddio Yammer yn rhan o’r hafan er mwyn cadarnhau rôl y fewnrwyd ymhellach fel y prif lwyfan cyfathrebu. Bellach mae’r hafan yn cynnwys sgyrsiau Yammer yn y bar ochr.

Yn wreiddiol, roedd bwriad i’r fewnrwyd newydd gynnwys eicon hysbysiadau Yammer, yn dangos nifer y negeseuon Yammer heb eu darllen oedd wedi’u derbyn. Er hynny, wrth ryddhau, ni chafodd yr elfen hon ei chynnwys am resymau technegol. Bydd yn cael ei hychwanegu’n nes ymlaen*.

Hefyd, newidiwyd ein hen system ‘sylwadau’ newyddion am sgwrs Yammer wedi’i hymgorffori ‘ar wahân’. Mae sylwadau Yammer yn darparu dolen awtomatig i’r erthygl sy’n cael ei darllen, diolch i’r protocol Graff Agored.

Cyn i ni lansio Yammer, ein gobaith oedd y byddai’n dod yn iwtopia rhannu gwybodaeth. Byddai popeth bron yn cael ei anfon at grwpiau penodol wedi’u targedu a byddai’r grwpiau hynny’n cael eu gwneud yn gyhoeddus. Byddai hynny’n golygu bod pobl mewn gwahanol feysydd yn gallu cyfrannu at bethau na fyddent yn gwybod amdanynt fel arall.

Yn ymarferol, mae’n anodd dweud faint o wybodaeth sydd wedi’i rhannu, oherwydd fel rheol nid yw pobl sy’n dysgu rhywbeth yn gadael sylw i ddweud eu bod wedi dysgu rhywbeth. Hefyd, nid oeddem wedi rhagweld pa mor bwysig fyddai grwpiau preifat. Mae rhai aelodau o staff yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth beidio ag anfon eu negeseuon i’r sefydliad cyfan.

Byddwn yn gwneud ychydig o waith yn fuan i werthuso sut mae’n cael ei ddefnyddio gan staff ac i ddadansoddi’r defnydd, y cyfraddau gweithgarwch a’r gwerth i fusnes.

Ar y cyfan, rydym yn credu bod Yammer yn llwyddiant – yn seiliedig ar yr holl ryngweithio sy’n digwydd – ac rydym yn disgwyl i hynny barhau yn y dyfodol. Yn gyffredinol, mae wedi cael croeso cadarnhaol ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y math o drafodaethau sy’n digwydd.

*Ar gyfer y rhai chwilfrydig yn eich plith, mae’r eicon negeseuon heb eu darllen yn dwyllodrus o anodd ei greu. Yn gryno, mae angen creu ap Yammer, gan ddefnyddio API Yammer i wneud i’r ap ddynwared defnyddiwr drwy gael a storio ei docyn cludwr, ac wedyn cyfrif ei negeseuon heb eu darllen. Mae’r problemau’n gysylltiedig â pherfformiad a’r nod yw eu datrys drwy symud codau penodol ar ochr y cleient.