Tag Archives: cydweithio

Sut allwn annog partneriaid i gefnogi dull gweithredu amlasiantaeth?

Arweiniodd Simon Pickthall o Vanguard Consulting weithdy yn ein digwyddiad ar Ddylunio gwasanaethau effeithiol ar gyfer aml-ddefnyddwyr. Isod mae Simon yn edrych ar sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i wella’r gwasanaethau y mae pobl yn eu derbyn.

Llun o Simon Pickthall o Vanguard Consulting

Simon Pickthall o Vanguard Consulting

Mae’r cwestiwn yn un cyffredin. Mae pobl wedi bod yn ceisio annog partneriaid ers blynyddoedd i gydweithio er mwyn mynd i’r afael ag anawsterau cyffredin. Fodd bynnag, yn aml mae’r ymdrechion hyn yn rhwystredig iawn, ac yn llafurus, er gwaetha’r ffaith bod y rhan fwyaf o bobl yn cydnabod ei fod yn syniad synhwyrol. Yn ogystal, nid yw datrysiadau a dulliau gweithredu sydd â llu o gefnogaeth academaidd dros nifer o flynyddoedd yn cael eu gweithredu gan sefydliadau.

Mae rheswm amlwg pam bod ceisio perswadio eraill i wneud rhywbeth gwahanol yn anodd iawn – ein tybiaeth yw bod angen i ni berswadio pobl drwy ddulliau rhesymegol.

Enghreifftiau o ddulliau rhesymegol yw adroddiadau, cyfarfodydd, sesiynau ystafell ddosbarth, sioeau sleidiau, gweithdai, sgyrsiau ac ati. Maent yn cynnwys siarad â pherson arall a cheisio ei berswadio i wneud rhywbeth, neu i roi’r gorau i wneud rhywbeth. Mae’r dulliau gweithredu hyn yn hynod o gyffredin mewn trafodaethau amlasiantaeth, lle defnyddir amserlenni cyfarfodydd i ddatblygu syniadau a chynlluniau.

Y drafferth gyda dulliau gweithredu rhesymegol yw eich bod naill ai’n pregethu i’r cadwedig – gan wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu trin yn nawddoglyd, neu’n codi gwrychyn y rhai nad ydynt yn cytuno â chi. Os bydd rhywun yn anghytuno, ni fydd unrhyw ddadl, data nac ymchwil yn newid ei feddwl. Rwy’n siŵr ein bod i gyd wedi profi hyn yn ystod ein bywydau.

Dull gweithredu amgen yw bod yn gymhellol – ‘gwnewch hyn neu cewch eich cosbi, mwy o drafferth, ac ati’. Yn yr un modd, mae ‘gwnewch hyn a chewch eich gwobrwyo’ yn ddull cymhellol.

Y drafferth gyda’r dull cymhellol yw y bydd pobl ond yn gwneud yr hyn sy’n rhaid iddynt ei wneud er mwyn osgoi’r gosb neu gael y wobr. Nid ydych wedi newid eu safbwynt nac wedi creu ymrwymiad i newid. Fel y cyfryw, gall cynnydd fod yn araf tu hwnt, heb fawr ddim momentwm.

Ffordd arall, fwy effeithiol o helpu pobl i gytuno i gydweithio, yw iddynt rannu’r hyn a elwir yn brofiad normadol. Gellir disgrifio profiad normadol fel profi rhywbeth yn uniongyrchol eich hun. Er enghraifft, rhedeg drwy gyfres o ffeiliau achos o amrywiol sefydliadau i ddangos sut brofiad ydyw i berson fynd drwy ein systemau. Mae ymweld â phobl yn eu cartrefi i ofyn iddynt am eu profiadau wrth ddefnyddio ein gwahanol systemau hefyd yn bwerus. I’r rhai sydd â diddordeb yn nharddiad y dull hwn o weithredu, mae’n werth darllen The Planning of Change.

Mantais newid normadol yw bod pobl yn dueddol o brofi ymateb emosiynol i’r hyn maent yn ei weld a’i brofi. Mae’n aros gyda nhw, ac yn creu ymrwymiad pwerus i newid. Fel y cyfryw, mae blaenoriaeth dull gweithredu amlasiantaeth yn codi, wrth i unigolion ddymuno datrys y problemau maent wedi bod yn dyst iddynt.

Felly, eir i’r afael â’r rhwystrau i ddulliau gweithredu amlasiantaeth yn gynt. Wrth gwrs, mae’n bwysig bod y rhai sydd â’r awdurdod i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn ymhob sefydliad yn ymgymryd â’r profiad normadol, a bod gennych Ddull profedig o ymgymryd â’r newidiadau sydd eu hangen unwaith y bydd pawb yn gytûn. Nid oes diben mynd â phobl ar brofiad normadol heb Ddull o ddatrys y problemau y maent yn eu canfod. Mae’r wefan isod yn fan gwych i ddechrau ystyried Dull. Yn ogystal, mae’r llyfr Responsibility and Public Services gan Richard Davis yn lasbrint clir a llawn gwybodaeth ar gyfer mynd â’r gwaith hwn yn ei flaen.

O ystyried hyn, efallai yr hoffech fyfyrio ar eich strategaeth ar gyfer annog cefnogi dull gweithredu amlasiantaeth. Efallai yr hoffech ystyried symud o geisio perswadio pobl mewn ffordd resymegol, i gynllunio profiadau normadol ar gyfer yr arweinwyr cysylltiedig. Gall hyn gael effaith ddramatig ar gyflymder y newid.

Newid Meddylfryd – Newid Bywydau

Gweithiodd Simon Pickthall yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am sawl blwyddyn cyn ffurfio Vanguard Consulting Wales yn 2007, gan weithio gyda’r Athro John Seddon, sy’n enwog am fod yn feddyliwr rheoli. Mae Simon wedi bod yn ffodus i weithio gyda llawer o arweinwyr er mwyn eu helpu i ddeall eu sefydliadau gan ddefnyddio Dull Vanguard – a’u gwella o ganlyniad i hynny. Roedd Simon yn ddigon ffodus i weithio ar Adolygiad Munro o drefniadau Gwarchod Plant, ac mae’n ymrwymedig i helpu’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Simon.pickthall@vanguardwales.co.uk
07951 481878
www.vanguard-method.com

Gwella Gofal Meddygon Teulu drwy Alinio Tystiolaeth, Methodoleg Gwella Ansawdd, TG a Chontractau: Model Newydd ar gyfer Cymru

Yn y blogpost diweddaraf y Gwobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan, mae Dr Alastair Roeves o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dweud wrthym sut maen nhw’n gwneud y fwyaf o’u hadnoddau i wella eu gwaith.

Aneurin Bevan University Health Board / Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin BevanMae Ffibriliad Atrïaidd yn afreoleidd-dra o ganlyniad i weithgarwch afreolaidd, trydanol ac anhrefnus yn atriwm y galon; fel arfer, mae’n gysylltiedig â ffactorau risg, fel gorbwysedd, diabetes a chlefyd ischaemig y galon. Ymddengys o’r dystiolaeth bod ei reoli’n amserol yn fanteisiol i gleifion.

Mae Llwybrau QP yn elfennau clinigol o Gontract Meddygon Teulu, a’i nod yw lleihau derbyniadau diangen i’r ysbyty a derbyniadau cleifion allanol.

Lluniwyd llwybr QP Ffibriliad Atrïaidd er mwyn galluogi Meddygon Teulu yng Ngwent i roi pecynnau gofal ar waith, gan ddefnyddio Methodoleg Gwella Ansawdd, wrth nodi cleifion, wrth roi diagnosis iddynt ac wrth eu rheoli. Roedd wedi’i ategu â chanllaw a ddatblygwyd gan Dîm Ansawdd Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r Llwybr QP yn ddewisol ac fe’i cynigiwyd i bob practis meddyg teulu yng Ngwent. Gwirfoddolodd 9 practis meddyg teulu i weithio fel practis cydweithredol a rhoi’r dull pecyn gofal ar waith mewn perthynas â Gwella Ansawdd. Roedd yn rhaid i bob practis hefyd ddefnyddio modiwl Ffibriliad Atrïaidd ar gyfer Audit+ er mwyn sicrhau y gallai Iechyd Cyhoeddus Cymru ddadansoddi’r data.

Roedd yn ofynnol i bob practis ddangos gwelliant mewn 3 o bob 5 pecyn gofal:

  • Manteisio ar y cyfle i Sgrinio Unigolion dros 65 oed
  • Asesu symptomau
  • Perfformio Sgôr CHADS2 / CHADS2VASc i asesu risg Damwain serebro-fasgwlaidd (CVA)
  • Rheoli cyfradd a churiad
  • Gwirio BP, pwls, adolygu meddyginiaeth, cynnal asesiad risg ar gyfer gwrthgeulo

Daeth pob practis ynghyd dair gwaith gan gytuno i rannu data’r practis rhyngddynt a rhannu dysgu o’r gwelliannau yr oeddent wedi’u rhoi ar waith.

Cafodd y data ei grynhoi bob bythefnos gan feddalwedd Audit+, ac fe’i dadansoddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gyflwyno ar ffurf siartiau llif.

Rhoddwyd data sylfaenol ar gyfer pob pecyn i bractisau yn y cyfarfod cydweithredu cyntaf ddiwedd Tachwedd a rhannwyd data pellach ar welliannau yn yr ail gyfarfod cydweithredu a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2014. Yn y trafodaethau rhwng y practisau, nodwyd y newidiadau yr oeddent wedi’u gwneud er mwyn gwella’r broses o gydymffurfio â’r pecyn. Mae un practis wedi cynyddu canran y boblogaeth darged sy’n cael eu sgrinio o 2% i 10% ac mae tystiolaeth bod pob practis wedi gwella’r broses o gofnodi cyfradd a churiad y pwls.

Meddalwedd Gwybodaeth Raffigol a Chydweithio

Yn ein blog diweddaraf o Wobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan 2014, dyma Kevin Williams o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn disgrifio ei Feddalwedd Gwybodaeth Raffigol a’r pwysigrwydd o gydweithio.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port TalbotMae staff ein hisadran TGCh, mewn cydweithrediad â swyddogion cyfatebol Dinas a Sir Abertawe, wedi ennill gwobr o fri yn ddiweddar gan y Gymdeithas Gwybodaeth Ddaearyddol, ac mae hon yn wobr ar gyfer sector cyhoeddus y DU gyfan.

Pan benderfynodd yr isadran TGCh gyfnewid ei Feddalwedd Gwybodaeth Raffigol ddrudfawr am ddewis amgen cost-isel, swyddogaethau medrus ffynhonnell agored, roedd nod y tîm yn syml; cynyddu’r graddau yr oedd GIS ar gael i staff a’n dinasyddion am lai o gost. O ganlyniad i’r manteision yr oedd y prosiect hwn wedi’u sicrhau, roedd awdurdodau cyfagos yn dangos llawer iawn o ddiddordeb gan gynnwys Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Arweiniodd hyn at brosiect rhanbarthol a oedd â’r dasg o nodi meysydd lle byddai cydweithredu trawsffiniol yn fanteisiol o ran nodi a chyflawni arbedion effeithlonrwydd, cynyddu’r defnydd o GIS a gwelliannau i’r gwasanaeth. Ariannwyd y prosiect hwn yn rhannol gan y rhaglen ranbarthol bresennol ac roedd yn gweithredu ac yn cael ei lywodraethu gan Fwrdd Cydwasanaethau TGCh Canol a De-orllewin Cymru.

Daeth canfyddiadau cynnar i’r casgliad bod pob awdurdod lleol yn bwrw iddi â’r un tasgau ond mewn ffyrdd ychydig yn wahanol, ac nid yw GIS yn eithriad i’r rheol hon. Pan ffurfiodd y grŵp gyntaf, daeth yn amlwg bod gan bob awdurdod atebion GIS gwahanol ond roedd gan bawb yr un broblem. Sut oedd ehangu eu systemau heb fod yn gaeth i werthwr masnachol gyda chostau cynyddol?

Ar ôl cwblhau’r prosiect, mae’n amlwg nad yw’r manteision a wireddwyd wedi’u cyfyngu i’r arbedion ar ffioedd trwyddedu a’r broses o ddiddymu cytundebau cynnal a chadw. Serch hynny, mae’r arbedion a amcangyfrifwyd yn hanner miliwn o bunnau dros gyfnod o bum mlynedd ac felly maen nhw’n sylweddol, ond drwy fabwysiadu ateb FfynhonellAgored yn ein hawdurdodau, mae’r defnydd o GIS yn ddiderfyn erbyn hyn. Gall symud cyfyngiadau ariannol rymuso unrhyw un i gael mynediad at ddata mewn dull gofodol, gan sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus yn gynt gan yn y pen draw wella gwasanaethau cwsmeriaid.

Mae cydweithredu ar y prosiect hwn wedi helpu i greu cysylltiadau gwaith newydd ac wedi helpu i chwalu’r ffiniau mwn perthynas â chreu cydwasanaethau rhwng awdurdodau lleol. Y gwaith hwn oedd wedi gwneud argraff ar y pwyllgor gwobrwyo, a arweiniodd at gydnabod arloesedd a gweithio traws-sector. Mae Kevin Williams, a fu’n arwain y prosiect ar gyfer Castell-nedd Port Talbot wedi’i wahodd, erbyn hyn, i ymuno â phanel AGI Cymru, gan gynrychioli GIS FfynhonellAgored.

Gweithio Gyda’u Gilydd: Pwyllgor Materion Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru

Enillydd gwobr Arweinyddiaeth Newid Eithriadol yn Gynhadledd Flynyddol Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan oedd y Pwyllgor Materion Cenedlaethol. Isod mae Christian Hadfield yn esbonio mwy am ei waith.

Logo Pwyllgor Materion Cenedlaethol

Mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi gwneud ymrwymiad i sicrhau bod pobl Cymru yn parhau i gael Gwasanaeth Tân ac Achub o’r radd flaenaf, gwasanaeth y gellir ymfalchïo ynddo, a gwasanaeth sy’n seiliedig ar welliant parhaus ac sy’n darparu gwasanaeth gwerth am arian. Mae’r pwysau economaidd presennol yn gosod heriau newydd i bob sefydliad a bwriad y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru yw ymateb yn uniongyrchol i’r heriau hyn. Er mwyn gwneud hyn, sefydlwyd Pwyllgor Materion Cenedlaethol, sydd newydd nodi ail flwyddyn o lwyddiannau.

Mae’r Pwyllgor Materion Cenedlaethol yn dîm arweinyddiaeth deinamig sy’n cynnwys Penaethiaid a Dirprwy Benaethiaid y Gwasanaeth Tân ac Is-Gadeiryddion y tri Awdurdod Tân ac Achub, a’u nod yw adeiladu ar y cyfleoedd i gydweithredu a manteisio i’r eithaf arnynt er mwyn sicrhau gwell gwasanaethau cynaliadwy, arbedion a manteision economaidd yn ogystal â chadw cymunedau Cymru yn ddiogel ar yr un pryd.

Mae meysydd allweddol ar gyfer cydweithredu wedi’u nodi fel cyfleoedd posibl i ymateb i’r heriau hyn. Mae arweinwyr prosiectau wedi’u henwebu i ganolbwyntio ar y meysydd allweddol hyn ac i gyflwyno adborth i’r Pwyllgor Materion Cenedlaethol ar wireddu’r cyfleoedd newydd. Bydd y blynyddoedd nesaf yn rhoi’r arweinyddiaeth ar brawf ac yn ein hannog i ystyried ffyrdd newydd o weithio, gan fanteisio ar ein cryfderau creadigol a’r gallu i addasu fel Gwasanaeth, fel rydym wedi llwyddo i’w wneud yn ystod y ddwy flynedd ers cyflwyno tîm y Pwyllgor Materion Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Materion Cenedlaethol wedi cydnabod y bydd y meysydd allweddol ar gyfer cydweithredu yn effeithio ar bawb, ac maen nhw’n archwilio pob agwedd ar ein gwaith er mwyn sicrhau bod Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn cyflawni agenda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau gwasanaethau cyhoeddus gwell, mwy effeithlon, sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion.

Gydag arweinyddiaeth arloesol gref, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru yn goresgyn yr heriau sy’n cael eu hwynebu gan hefyd barhau i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf. Mae’r cryfderau arloesol a’r gallu i addasu i amgylchiadau sy’n newid yn sicrhau dyfodol y Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ac yn ei lywio.

O’r cychwyn cyntaf, mae’r Pwyllgor Materion Cenedlaethol wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod gan bawb y wybodaeth ddiweddaraf am ffrydiau gwaith y Pwyllgor, gydag adroddiadau cynnydd, gwybodaeth reolaidd a briffiau drwy dudalen ar y we a thrwy sianeli cyfathrebu da, gan gynnwys defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Mae arweinyddiaeth gadarnhaol y Pwyllgor Materion Cenedlaethol wedi arwain at dimau brwdfrydig yn gweithio’n galetach nag erioed i gyflawni nodau pob maes cydweithredol, a meithrin cysylltiadau gwaith cryfach rhwng y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru gan ymateb yn uniongyrchol i’r gofynion a’r heriau economaidd cyfredol.

Craffu Celtaidd – rhannu gwersi ar draws Môr Iwerddon

Craffu

Yn gyntaf, diolch i Swyddfa Archwilio Cymru am y gwahoddiad i’r seminar ‘Goleuni ar Graffu’ a’r cyfle i weld â’m llygaid fy hun y dysgu a rennir sy’n digwydd ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cychwynnais o Ddulyn gyda thri nod

  1. Dysgu mwy am y Craffu ‘ma mae pawb yng Nghymru’n canu ei glodydd!
  2. Gweld sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn mynd ati i weinyddu a chynnal seminarau dysgu a rennir.
  3. Edrych ar y posibilrwydd y gallai swyddfeydd archwilio Cymru ac Iwerddon gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Cyn y seminar, rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n amheus a fyddai’r trafodaethau am y swyddogaeth graffu mewn llywodraeth leol yn berthnasol i mi (nid yw awdurdodau lleol Iwerddon yn rhan o gylch gwaith ein swyddfa ac maen nhw’n cael eu harchwilio gan Wasanaeth Archwilio Llywodraeth Leol ar wahân). Fodd bynnag, sylweddolais yn un o’r gweithdai fod craffu yn ei ystyr ehangach yn rhan o unrhyw drefn lywodraethu effeithiol.

Irish Audit Office

Efallai mod i’n anghywir (nid dyma’r tro cyntaf), ond rwy’n credu mai agwedd hollbwysig ar graffu llwyddiannus yw gofyn y cwestiynau iawn i’r bobl iawn ar yr adeg iawn (a’u gofyn drosodd a throsodd nes i chi gael atebion boddhaol!). Mae’r egwyddor honno’r un mor berthnasol i’r rhai sy’n llywodraethu ysgol yn Cork neu ysbyty yn Galway, ag y mae i lywodraeth leol yng Nghymru.

O ran fy ail nod, roeddwn i’n arbennig o awyddus i weld a allai’r pum partner a oedd yn hwyluso’r seminar weithio gyda’i gilydd i gyflwyno rhaglen gydlynol. Gyda chymaint o bartïon yn cyfrannu, roedd perygl o gael negeseuon cymysg neu agenda orlawn. Yn hynny o beth, rwy’n credu bod y fformat gweithdai wedi gweithio’n dda iawn, gan roi’r cyfle i edrych ar sawl thema wahanol a rhoi’r cyfle i’r sawl a oedd yno ddewis y rhai mwyaf perthnasol i’w gwaith.

Hoffwn ddweud hefyd mai uchafbwynt y diwrnod i mi oedd cyflwyniad Peter Watkin Jones ar yr ymchwiliad cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Canol Swydd Stafford. Er y gallai’r pwnc fod wedi bwrw cysgod dros y digwyddiad, llwyddodd y siaradwr i daflu goleuni ar y methiannau a welwyd a chynnig gobaith am ddyfodol gwell. Er y gwyddom i gyd pa mor bwysig yw dysgu o’n camgymeriadau a’n profiadau ni’n hunain, gall dysgu o fethiannau mewn awdurdodaethau eraill fod llawn mor werthfawr (ac yn llai poenus o lawer).

I brofi bod swyddfeydd archwilio yn gwrando ar eu cyngor nhw’u hunain, cefais gyfarfod gydag aelodau’r tîm cyfnewid arfer da drannoeth y seminar i drafod cyfleoedd i’n swyddfeydd gydweithio a rhannu dysgu yn y dyfodol.

Felly, a minnau wedi cyflawni’r tri nod (coron driphlyg, fel petai), dyma fi’n troi am adre.

I gloi, rhaid i mi ddweud fy mod wedi cael fy siomi ar yr ochr orau gan nifer y cyfraniadau Cymraeg yn y seminar a sut y cawsant eu hwyluso (heb ffws na ffwdan) gan y trefnwyr. Credaf ei bod hi’n deg dweud bod yr iaith Wyddeleg yn wynebu llawer o anawsterau tebyg, felly hwyrach bod hwn yn faes arall addas ar gyfer rhannu dysgu.

Slán agus beannacht libh go léir.

Shane Carton

Oifig ân Ard Reachtaire Cuntas agus Ciste/ Office of the Comptroller and Auditor General (Swyddfa Archwilio Genedlaethol Iwerddon)

Cydweithio

Craffu

Welsh Government / Llywodraeth CymruAi’r gynhadledd Goleuni ar Graffu yw’r tro cyntaf i Graffu fod yn ganolbwynt y sylw? Mae’n sicr yn awgrymu bod tro ar fyd. Byddai rhai’n dweud bod dyheadau Deddf Llywodraeth Leol 2000, ar ôl yr holl waith caled i ddatblygu craffu, yn barod i gamu i’r prif lwyfan; yn barod i arwain gwelliannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus ar ran y dinesydd.

Rhaid cydnabod bod sawl enghraifft eisoes o gydweithio sy’n herio ein syniadau am graffu; Consortia Addysg Rhanbarthol, prosiectau a ariennir gan Gronfeydd Cydweithio Rhanbarthol, a datblygiad parhaus Byrddau Gwasanaethau Lleol a Chynllunio Integredig Sengl. Ond mae’r llwyfan yn ddigon mawr i ychwanegu’n helaeth at y cast, ac adeiladu’r arferion sydd eisoes ar waith a’u datblygu. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i Graffu fod yn fwy ymatebol, mae’n rhaid sicrhau bod herio priodol yn digwydd a bod atebolrwydd effeithiol ar waith. Dyma gyd-destun newydd y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mae craffu mewn sefyllfa dda i gyflawni’r dyheadau hyn.

Y Gronfa Datblygu Gwaith Craffu sy’n arwain y cast. Mae’r gronfa’n annog ceisiadau sy’n barod i arloesi wrth ystyried effaith craffu ar fodelau newydd o ddarparu, ac sy’n ceisio dod o hyd i’r ffordd orau o sicrhau bod craffu’n parhau’n rhan allweddol o ddyletswyddau trosolwg gwasanaethau cyhoeddus.

Wrth gwrs, mae’r cyfan wedi cymryd cryn amser i’w ddatblygu. Cawsom Beecham a Simpson ar hyd y daith a dynnodd sylw at fanteision posib cydweithio wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Hyd yma, gwelwyd yn glir bod angen sicrhau fframweithiau atebolrwydd priodol i sicrhau bod y rhai sydd ynghlwm wrth gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dwyn i gyfrif mewn modd effeithiol a thryloyw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwyslais cynyddol ar y potensial i gydweithio er mwyn creu senario lle mae partneriaid gwasanaethau cyhoeddus yn darparu gwasanaethau cyhoeddus cost-effeithiol o ansawdd uchel, a hynny gyda llai o adnoddau. Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth yn gyson wedi bod yn pwysleisio na ddylid ymateb i bwysau ariannol dim ond drwy wneud pethau’n wahanol, ond y dylid gwneud pethau gwahanol.

A ninnau ar drothwy’r Gynhadledd, mae’n meddyliau ni’n troi at gyhoeddiad arfaethedig yr adroddiad ar y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae craffu’n elfen hanfodol a chanolog o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus ar ei newydd wedd; a pha bynnag fodelau a gaiff eu mabwysiadau, rhaid i graffu effeithiol fod yn ganolbwynt i’r cyfan o safbwynt atebolrwydd. Bydd y rhai sy’n gyfrifol yn cyflawni eu swyddogaethau gwneud penderfyniadau yn dipyn gwell os cânt eu herio’n briodol.

Mae Llywodraeth Cymru am weld craffu’n digwydd wrth fynd ati i ddatblygu trefniadau cydweithio newydd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ac nid – fel sydd wedi bod yn digwydd yn rhy aml o lawer yn y gorffennol – ar ôl i’r penderfyniadau gael eu gwneud pan mae’n dipyn anoddach argyhoeddi pobl o bwysigrwydd sicrhau atebolrwydd effeithiol.

Wrth gwrs, mae Mesur Llywodraeth Leol 2011 yn ganolog i hyn – dyma’r sylfaen ar gyfer swyddogaeth graffu sy’n ymateb i, ac yn cefnogi modelau o gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n newid. Mae rheoliadau craffu a dyletswyddau trosolwg ar y cyd, sy’n caniatáu i Awdurdodau Lleol sefydlu Cydbwyllgorau i graffu ar wasanaethau a gyd-gomisiynir ac a gyd-ddarperir, yn eu lle.

Mae’n bwysig cofio bod cyfle o hyd i ddylanwadu ar y naratif gan fod yr ymgynghoriad ar Bersonau Penodol yn dal i fynd rhagddo a bydd yn dod i ben ar 21 Tachwedd. Croesewir adborth ar sut y gall hyn sicrhau trefniadau effeithiol er mwyn craffu ar wasanaethau a ddarerir gan bartneriaethau gwasanaethau cyhoeddus.

 Un pwynt bach i gloi. Gall pawb sy’n ymwneud â hyn elwa ar gymorth y Ganolfan Craffu Cyhoeddus, sy’n cael ei hariannu i ddarparu cymorth pwrpasol ym maes craffu yng Nghymru. Mae’n cynorthwyo i ddatblygu swyddogaeth graffu sy’n gallu ymateb yn effeithiol i batrymau newidiol darparu gwasanaethau cyhoeddus, gan sicrhau craffu da ar yr un pryd – herio lleol i sicrhau bod dinasyddion yn derbyn gwasanaethau o’r lefel ac o’r safon y mae ganddynt yr hawl i’w disgwyl.

Richard Shearer – Llwyodraeth Cymru

Defnyddio Technoleg Gwybodaeth i alluogi gwell gwasanaethau cyhoeddus

Defnydd effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth

Ein seminar dysgu a rennir ar Ddefnydd Effeithiol o Dechnoleg Gwybodaeth oedd yr un cyntaf i mi wedi trefnu ers ymuno â’r Gyfnewidfa Arfer Dda yn Swyddfa Archwilio Cymru. Dysgais i siwd gymaint o ran sicrhau digwyddiadau effeithiol yn y dyfodol, ond hefyd ar y pwnc ei hun.

Pan siaradon ni i Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y seminarau, roedd e’n glir iawn am rôl Technoleg Gwybodaeth mewn galluogi ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau.

Fe wnaeth yr effaith uniongyrchol roedd Technoleg Gwybodaeth yn cael ar y ddarpariaeth o wasanaethau taro fi yn y seminar. Roeddwn i’n ddigon ffodus i hwyluso gweithdy Andrew Durant yng Ngogledd Cymru, a wnaeth edrych ar y gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth ar y cyd rhwng Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Roedd e’n ddiddorol clywed sut mae staff rheng flaen gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn gallu cydlynu eu gwaith yn well gan fod nhw’n gallu cyrchu calendrau gwaith ei gilydd.

Nid dyma’r unig sesiwn a wnaeth edrych ar sut gall Technoleg Gwybodaeth hwyluso well gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnes i fynd i weithdy Wendy Xerri o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar Dechnoleg Gwybodaeth Ecogyfeillgar hefyd, ble ffocysiwyd ar anghenion myfyrwyr. Roedd myfyrwyr yn ffurfio ciwiau diddiwedd i argraffu eu traethodau yn aml, ond trwy ganolbwyntio ar brofiad y myfyrwyr, fe gafodd y system cyflwyno traethodau ei symud ar-lein. Fe wnaeth hyn symleiddio’r system er budd myfyrwyr a lleihau’r faint o bapur a gafodd ei ddefnyddio i brintio.

Gan fod yna amrywiaeth eang o gyrff gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, nid yw’n syndod bod y dulliau ac offer Technoleg Gwybodaeth yn amrywio o fudiad i fudiad. Mae’n amlwg does yna ddim ateb ‘un maint i bawb’ ar gyfer Technoleg Gwybodaeth, ond roedd yn galonogol clywed sut roedd y staff gwasanaethau cyhoeddus yn ein seminar yn edrych i wella effeithiolrwydd eu systemau.

Dyfrig