Tag Archives: cydgynhyrchu

National Theatre Wales: Byw’r breuddwyd …. a’u gwerthoedd

Mae gweithwyr gwasanaeth cyhoeddus ym mhob sector yn awyddus i wella’u cymunedau. Ond beth allwn ni ei ddysgu o sut mae National Theatre Wales yn ychwanegu gwerth at y gymuned gelfyddydol? Ymwelodd Dyfrig Williams â Devinda De Silva i ffeindio allan.

Ers i mi ddechrau gweithio yn y sector gwirfoddol, mae fe wedi bod yn amlwg i mi does dim prinder o bobl sydd â gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus. Pan wnes i hwyluso rhwydweithiau traws-sector Cyfranogaeth Cymru, roedd yn gwbl glir nad yw’r gwerthoedd yma yn cael eu cyfyngu i’r sector gwirfoddol, a chafodd y safbwynt yma ei atgyfnerthu pan wnes i fynd i GovCampCymru, anghynhadledd lle mae pobl yn cynnal sesiynau trafod ar sut all technoleg, meddylfryd newydd a gwasanaethau cyhoeddus wella cymdeithas.

Fe wnes i gyfarfod Kevin Davies o Gynulliad Cymru yn GovCampCymru, ac mae fe bellach wedi rhannu arferion craffu da gyda ni. Dywedodd e i mi sut mae National Theatre Wales (a ddatblygodd y Prosiect Democratiaeth Mawr) yn ymgorffori eu gwerthoedd yn eu llywodraethu a disgrifiadau swydd eu staff.

Roedd ymweld â swyddfeydd y theatr yn ddigon i berswadio mi bod ymagwedd y sefydliad tuag at y gymuned yn ychydig yn wahanol. Yn hytrach na theatr fawr, mae ganddynt swyddfa fach yn Arcêd y Castell – reit yng nghanol y ddinas.

Llywodraethu ac allgymorth

Nid yw llywodraethu yn bwnc sexy iawn, ond mae’r theatr wedi llwyddo i wneud y pwnc yn eithaf cyffrous trwy eu gwaith gyda’u Panel TEAM. Mae’r panel yn 10 o bobl o wahanol gymunedau sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol i’r Theatr ac sy’n lleisio’u barn ar sut mae’r sefydliad yn cael ei redeg ar bob lefel.

Mae’r model yn chwe blwydd oed nawr. Yn y flwyddyn gyntaf fe wnaethon nhw gwaith allgymorth dwys a 13 sioe mewn 13 lleoliad gwahanol. Yn dilyn hynny roedd pobl yn yr ardaloedd yma yn cymryd rhan mewn sioeau. A thrwy edrych ar theatr yn yr ystyr ehangaf, fe wnaethant lwyddo i gael pobl na fyddai’n mynd i weld sioe fel arfer i gymryd rhan. Er enghraifft dyw’r theatr ddim yn ddiddordeb mawr i gymuned Somali Caerdydd, ond drwy noddi tîm pêl-droed bach, maen nhw wedi gallu rhedeg gweithdai bach gyda phobl ac i gael eu hadborth ar gynyrchiadau.

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae’r panel yn llunio cyfeiriad strategol y sefydliad. Mae dau aelod y Panel TEAM yn mynd i bob cyfarfod bwrdd ac mae un yn eistedd yn barhaol ar y bwrdd, sy’n golygu bod penderfyniadau strategol y sefydliad yn cynnwys pobl o’r gymuned. Mae’r panel hefyd yn bwydo mewn i Gynllun Strategol y sefydliad.

Fel sefydliad bach, mae aelodau’r Panel TEAM yn rhoi hwb mawr i allu’r sefydliad. Er mai dim ond 18 o bobl sy’n cael eu cyflogi, mae’r sefydliad yn ymddiried yn y 10 aelod panel i fynd i ddigwyddiadau ar ei ran a’i gynrychioli. Mae hyn wedi helpu aelodau o’r panel i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd eu hunain, ac mae rhai wedi cael swyddi gyda sefydliadau celfyddydol eraill, wedi dechrau cwrs coleg neu ddechrau eu cwmnïau eu hunain. Mae’n rhwydwaith hunan-gefnogol, lle mae aelodau’r panel yn cefnogi ei gilydd yn eu prosiectau.

Recriwtio staff

Mae’r Panel TEAM hefyd yn ymwneud â recriwtio staff, gan fod aelodau o’r panel yn eistedd ar bob panel cyfweliad ar gyfer staff newydd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod diwylliant a gwerthodd y mudiad yn un sy’n ffocysu ar y gymuned. Mae ymagwedd National Theatre Wales yn debyg i beth mae Richard Branson wedi dweud am recriwtio am werthoedd yn hytrach na sgiliau.

Rwyf eisoes wedi sôn sut y mae gwaith allgymorth y theatr yn rhan o’i lywodraethu, ond mae allgymorth ac ymgysylltu hefyd yn rhan graidd o swydd pob aelod o staff. Mae disgwyl i’r holl staff, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Celfyddydol a’r timau Cyfathrebu a Chyllid yn y swyddfa, i weithio gyda’r gymuned. Er enghraifft, maen nhw’n cynnal cymorthfeydd gyda grwpiau cymunedol a gweithwyr llawrydd yn eu harbenigedd. Maent yn cynnig cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn, ac mae partneriaid y sefydliad hefyd yn cael eu hannog i ffocysu eu gwaith ar y gymuned pan fyddant yn gweithio gyda National Theatre Wales.

Gweithio agored, a derbyn adborth mewn modd agored

Ac os nad ydych yn meddwl bod hyn i gyd yn ddigon i ddangos natur agored National Theatre Wales, maen nhw hefyd yn annog pobl i roi eu hadborth drwy gyfryngau cymdeithasol yn yr ymarfer olaf cyn y digwyddiad. Mae’r gynulleidfa yn cael ei gwahodd yn arbennig o’r gymuned leol cyn i sioeau fel Candylion mynd yn gyhoeddus, ac mae’r adborth yn rhoi syniadau i’r theatr am sut i wella’r sioe a sut i greu cyffro o’i gwmpas.

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dechrau gweithio yn yr agored. Mae’r Bromford Lab yn ei ddefnyddio fel cyfle i glywed syniadau, lleihau dyblygu a rhannu dysgu o fethiant. Mae Dangosfwrdd Leeds Data Mill hefyd yn dangos gwybodaeth am eu gwaith mewn amser real. Byddem ni wrth ein bodd i glywed o unrhyw wasanaethau cyhoeddus Cymreig sy’n gweithio’n agored, ac fel National Theatre Wales, yn byw eich gwerthoedd.

Canolfan Gelf y Miwni: Trosglwyddiad ased a gafodd ei sbarduno gan y gymuned

Fe wnaeth y penderfyniad i gau Canolfan Gelf y Miwni ym Mhontypridd achosi protest mawr, a wnaeth hyn yn ei dro sbarduno’r gymuned i gymryd dros yr adeilad. Aeth Dyfrig Williams i’r ganolfan i ffeindio allan sut mae’r ganolfan wedi datblygu ers i’r ased cael ei drosglwyddo.

Ysgrifennodd Chris Bolton blogbost sbel yn ôl am sut all cythruddo eich dinasyddion arwain at weithredu cymunedol. Mae’n darn pryfoclyd am sut all cau ased cymunedol arwain at ymateb cryf o’r cyhoedd, a sut gall gwasanaethau cyhoeddus adeiladu ar gryfder yr ymateb yma.

Clywais am sut mae hynny wedi digwydd yng Nghanolfan Gelf y Miwni, lle wnaeth ymgyrch ar lawr gwlad i achub a datblygu’r ganolfan deillio o’r penderfyniad i gau’r adeilad gan y cyngor.

Cefndir

Llun o Ganolfan Celfyddydau'r Miwni

Canolfan Celfyddydau’r Miwni

Roedd protestiadau anferth pan wnaeth gwasanaethau diwylliannol y cyngor penderfynu roi’r gorau i Ganolfan y Miwni. Aeth 150 o bobl i ddigwyddiad ymgynghori ar ddyfodol yr adeilad mewn cwpl o oriau. Roedd nifer o grwpiau yn awyddus i wneud yn siŵr bod y ganolfan yn aros ar agor, a mynegodd nifer o gwmnïau ddiddordeb mewn prynu’r adeilad ar gyfer eu busnes. Daeth Artis Cymuned, Cyngor Tref Pontypridd, Cylch Cymreig ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo gyda’i gilydd fel Gweithgor y Miwni a wnaethant ffurfio Ganolfan Gelf y Miwni Cyf. yn gyflym. Maent yn adeiladu ar eu cryfderau i ddatblygu’r cais, sy’n hynod o debyg i’r dull Datblygu Cymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau ar wefan Nurture Development a wnaeth Chris cyfeirio ato yn ei flog.

Does dim lle gwell i ddechrau o ran adeiladu ar gryfderau’r gymuned na’r bwrdd ei hun. Roedd cymryd rheolaeth o adeilad fel y Miwni yn gyfrifoldeb enfawr, ond roedd aelodau’r bwrdd mewn sefyllfa dda i wneud hynny ac i roi prosesau llywodraethu cadarn mewn lle. Mae Jon Huish yn gyn-gynghorydd ac mae ganddo ddealltwriaeth grêt o brosesau’r cyngor a’r sector cyhoeddus. Mae Alun Taylor o Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn arbenigo mewn llywodraethu. Mae Rob Hughes, Cadeirydd y Cylch Cymreig, yn rhedeg gŵyl yn Ynysybwl, ac mae Gethin Williams, Prif Weithredwr y Cyngor Tref hefyd yn Gyfreithiwr. Mae gan Wendy York, Prif Weithredwr Artis Cymuned, a oedd yn gyfrifol am lawer o’r gwaith sylfaenol, lot o brofiad o’r celfyddydau a rhwydweithiau cryf yn y sector gwirfoddol.

Wynebodd y cyngor beirniadaeth o’r gymuned dros ei benderfyniad, ac roedd y trosglwyddiad o asedau blaenorol wedi bod ar raddfa lot llai. Roeddent yn glir bod nhw eisiau helpu’r broses a wnaethant greu cronfa grant i alluogi hyn. Fe wnaethon nhw gymryd risg wrth ddewis i drosglwyddo’r ased i’r gymuned, pan fyddai datblygiad sector preifat wedi cael manteision masnachol clir. Mae hyn yn enghraifft o wneud penderfyniadau sy’n canolbwyntio ar yr hirdymor, a bydd rhaid i wasanaethau cyhoeddus datblygu’r math yma o feddylfryd wrth iddynt gyflawni ei gwaith o dan Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol.

Y gymuned

Achos bod ganddynt fwrdd cryf, byddai’n hawdd gwneud beth mae llawer o sefydliadau eraill wedi ei wneud dros y blynyddoedd a defnyddio eu gweledigaethau eu hunain fel cynllun am y Miwni. Ond mae achos busnes y Ganolfan yn seiliedig ar weledigaeth y 150 o bobl a daeth i’r digwyddiad ymgynghori. Mae ei gwreiddiau yn y gymuned, ac mae’r Miwni yn edrych i fod y canolbwynt ar gyfer adfywio’r ardal ehangach a lle’r celfyddydau o fewn hynny.

Ffoto o Gaffi Think Food Life yn y Miwni

Caffi Think Food Life yn y Miwni

Mae caffi’r Miwni yn fenter gymdeithasol o’r enw Think Food Life, sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles pobl drwy cynnig bwyd maethlon. Y caffi yw’r un cyntaf ym Mhontypridd sy’n gwerthu bwyd ar gyfer anghenion deietegol penodol, ac mae’n anelu i gael 80% o’i bwyd o ffynonellau lleol. Roedd diddordeb gan Mind Merthyr a’r Cymoedd i sefydlu rhandir i dyfu llysiau ar gyfer y Miwni, a chafodd y syniad ei gryfhau wrth i grŵp Prosiect Cyn-filwyr y Miwni. Fe wnaethon nhw cynnig gweithio ar dir yn y Miwni, ac mae yna gefnogaeth posibl o’r gymdeithas rhandiroedd. Mae’r Miwni wedi derbyn cyllid o Grant Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog achos roedd y ganolfan recriwtio arfer bod drws nesaf. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i gyn-filwyr i gymryd rhan yng ngwaith y Miwni trwy wirfoddoli neu trwy weithio’n uniongyrchol yn y celfyddydau.

Bydd prosiect Addas am Oes hefyd yn edrych i gysylltu gwaith iechyd a ffitrwydd i waith y caffi, sy’n dangos sut mae’r Miwni yn edrych i fynd y tu hwnt i’r celfyddydau ac i fod yn ganolbwynt i’r gymuned gyfan. Mae’r Miwni hefyd yn edrych ar ddod â sefydliadau at ei gilydd ar lefel strategol i alluogi pobl i wneud mwy drostynt eu hunain trwy weithio gyda YMCA Pontypridd a datblygiad y Courthouse, a fydd yn cefnogi’r proses dechreuol a thwf mentrau cymdeithasol.

Angerdd

Mae hyn i gyd yn dangos beth sy’n bosib pan mae prosiectau yn seiliedig ar angerdd a thalent y gymuned. Mae’r adeilad ei hun yn wirioneddol drawiadol, yn union fel egni ac ymdrech y bwrdd a’r gymuned wrth iddynt ffocysu ar wneud y prosiect yn llwyddiant. Os ydych chi eisiau trosglwyddo ased i’r gymuned, mae’n werth gofyn sut allwch chi weithio gyda’r gymuned i adeiladu ar eu cryfderau?

Banc Doethineb

Beth yw’r Banc Doethineb a sut all wefan helpu pobl Torfaen i ddatblygu perthynas well gyda’u gilydd a gwasanaethau cyhoeddus? Isod mae Matt Basham o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn dweud mwy wrthym.

Banc Doethineb Torfaen

Mae pobl yn gwybod pethau defnyddiol.

Mae hynny’n wir ac yn syml.

Mae gan bawb lyfrgell o gynghorion, awgrymiadau a gwybodaeth – beth am i ni eu galw’n “Ddoethineb” – maent yn eu cludo o gwmpas y lle gyda hwy, yn eu pen. Wrth i ni ddechrau edrych ar ein cymunedau lleol yn eu cyfanrwydd, ac wedyn lluosogi’r adnoddau gwybodaeth yma gyda’r holl bobl sy’n byw yno, rydyn ni’n delio â rhywbeth arwyddocaol a gwerthfawr iawn. Fel rhywun sy’n gweithio i awdurdod lleol, fe ddylwn i fod â llyfrgell enfawr o ddoethineb ar flaenau ’mysedd, sy’n bodoli yn y trigolion, y cymunedau a’r busnesau lleol. Pe bawn i’n gallu datgloi’r adnoddau yma, byddwn yn gallu cael gwybodaeth a chyngor a allai sicrhau manteision enfawr i gymdeithas. Fe allwn i gynnig cefnogaeth i bobl fregus, cyngor i’r anghenus, deallusrwydd i fusnesau lleol, a help i’r rhai sydd ei angen fwyaf, o ffynhonnell maent yn ymddiried ynddi ac yn ei pharchu.

Er hynny, mae cymdeithas yn newid. Mae bywyd modern yn rhy brysur a does gennym ni ddim amser bob tro i sgwrsio gyda’r bobl o’n cwmpas ni. Dydyn ni ddim yn cyfarfod ein cymdogion mor rheolaidd ag yr oeddem yn arfer ei wneud. Dydyn ni ddim yn taro ar ffrindiau yn y neuadd bentref, yn y ganolfan gymunedol neu yn y dafarn leol hyd yn oed. Yn rhy aml, dydyn ni ddim yn gwybod beth yw enw ein cymdogion ni hyd yn oed.

Mewn oes gyda chymaint o gysylltu, byddai rhywun yn disgwyl ei bod yn haws rhannu gwybodaeth ddefnyddiol a lleol ar-lein o leiaf. Ond nid yw hynny’n wir yn ôl pob tebyg. Mae nifer o rwystrau arwyddocaol yn atal gwybodaeth rhag symud yn ôl ac ymlaen rhwng trigolion, sefydliadau a busnesau:

  • Mae maint enfawr a natur fyd-eang y rhyngrwyd yn ei gwneud yn fwy anodd cael hyd i wybodaeth berthnasol sy’n adleisio ein profiad ni ein hunain. Rydym yn cael ein mygu gan ormod o wybodaeth.
  • Mae cyfranwyr posib yn ofni cyfrannu rhag cael eu cyhuddo o seibr fwlio neu drolio. Faint o fideos defnyddiol, llawn gwybodaeth, ydych chi wedi’u gweld ar YouTube sydd wedi cael eu cyfarch gan watwar, sarhad a sen?
  • Mae’r brandiau cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’u sefydlu’n wamal, yn bell oddi wrth bobl ac mae ganddynt obsesiwn â selebs

Rhannu Gwybodaeth ar y Banc DoethinebY sefyllfa hon sydd wedi arwain at sefydlu’r Banc Doethineb. Y nod yw sefydlu amgylchedd lleol i greu adnoddau gan y gymuned ar gyfer y gymuned.

Mae strategaeth ddiogelwch fanwl yn gosod y pŵer adrodd yn ôl yn nwylo’r defnyddiwr. Mae unrhyw gynnwys y ceir cwyn amdano, gan gynnwys ymateb fforwm unigol, yn cael ei wahardd dros dro ar unwaith, i aros cymedroli. Mae hyn yn golygu bod modd cael gwared ar seibr fwlis a thrôls yn lleol. Does dim rhaid aros am ymateb polisi gan weithrediaeth y we ymhell i ffwrdd yn Nyffryn Silicon. Mae posib gweithredu’n lleol ar unwaith.

Mae brand newydd ar y we, a chynllun arloesol i’r safle, yn annog cyfranogiad cymunedol. Nod y Banc Doethineb yw cael ei gydnabod fel cyrchfan ar gyfer gwybodaeth o safon.

Gydag amser, rydym eisiau i’r safle weithio fel banc, gyda phobl yn gosod gwybodaeth sydd ganddynt i’w rhannu ynddo, ac yn tynnu gwybodaeth allan pan maent angen cyngor. Mae’r adnoddau gwybodaeth hyn nid yn unig yn ddefnyddiol, ond yn eithriadol werthfawr hefyd. Maent yn helpu i gadw pobl yn hapus, yn iach ac yn ddiogel. Maent yn helpu pobl i ddod o hyd i waith, ac ymdopi â straen neu sefyllfaoedd anodd. Maent yn helpu busnesau lleol i fasnachu a ffynnu. Felly sut mae creu a chynnal cysylltiadau cymdeithasol defnyddiol yn y byd modern? Rydyn ni wedi gweld potensial y rhyngrwyd ar gyfer cysylltu a dod â phobl at ei gilydd ond, hyd yma, does neb wedi datblygu rhywbeth sy’n gweithio mewn cyd-destun lleol, i ddarparu gwybodaeth o safon.

A dyma pam y mae arnom ni angen y Banc Doethineb, i greu amgylchedd ar-lein lleol ble gall pobl rannu eu gwybodaeth. Er mwyn i drigolion a busnesau lleol weithio gyda’r Banc Doethineb a chyfrannu ato, mae’n rhaid i ni greu amgylchedd sy’n addas i’w hanghenion.

Rydyn ni wedi gweithio’n galed i wneud y safle mor ddiogel â phosib, gan ddatblygu strategaeth ddiogelwch fanwl iawn.

Rydyn ni wedi sicrhau bod y Banc Doethineb yn gweithio’n effeithlon, ac wedi datblygu safle clir a hawdd ei ddefnyddio.

Yn fwy na dim, mae’r safle’n groesawus ac rydym wedi sicrhau bod cymunedau’n gallu gosod ffilmiau a thudalennau gwe ynddo, er mwyn rhannu eu gwybodaeth. Rydym yn credu bod gan ein trigolion a’n busnesau wybodaeth bwysig i’w rhannu ac rydym yn rhoi adnoddau iddyn nhw i gyflawni hyn.

Yn ogystal â gosod ffilmiau a thudalennau ar y wefan, mae’r Banc Doethineb yn creu rhwydweithiau ar-lein newydd hefyd, yn seiliedig ar ddiddordebau cyffredin yn hytrach na chyfeillgarwch ymlaen llaw. Rydym yn rhoi adnoddau cyfathrebu amrywiol i’r defnyddwyr fel eu bod yn gallu rhyngweithio, cymryd rhan a chefnogi ei gilydd.

Yn y pen draw, bydd ansawdd a phŵer y Banc Doethineb yn dibynnu ar sut mae ein cymunedau’n cymryd rhan a faint maent yn dewis cyfrannu.

Fel sefydliad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn credu’n gryf y bydd ein trigolion yn ymateb yn gadarnhaol ac yn creu adnodd arbennig ac unigryw er lles pawb.

Ewch i www.wisdombank.org.uk i edrych ar botensial y dull newydd hwn o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Cydweithredu a Gweithio ar Draws Ffiniau: Canolfan Gofal Iechyd a Lles Bae Colwyn

Pan wnaethon ni clywed am Ganolfan Gofal Iechyd a Lles Bae Colwyn yng Ngwobrau Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan, roedden ni’n gwybod yn syth ein bod ni eisiau rhannu beth maen nhw wedi gwneud. Bydd John Hardy yn cynnal gweithdy ar eu gwaith yn ein seminar Tai a Chwaraeon: Gwella lles a darparu gwell gwerth am arian cyhoeddus ar 3 Mawrth yng Nghaerdydd a 26 Mawrth yn Llanrwst, a gallwch glywed mwy am eu gwaith isod.

Colwyn Bay Health Care and Wellbeing Precinct / Canolfan Gofal Iechyd a Lles Bae ColwynMae’r prosiect, a oedd yn bartneriaeth yn wreiddiol, rhwng Gwasanaethau Therapi a thrwy’r rheiny Ymddiriedolaeth GIG Siroedd Conwy a Dinbych, Age Concern a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a bellach rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi denu cymorth eang gan nifer o asiantaethau yn y maes iechyd a lles cymdeithasol ac fe’i hystyrir yn fenter arloesol sy’n defnyddio gweithgarwch corfforol i atal a rheoli cyflyrau cronig gan felly leihau’r baich ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol statudol.

Mae’r term ‘Canolfan Iechyd’ yn cyfeirio at y broses o ddatblygu man lle gall gweithwyr proffesiynol yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydweithio â gweithwyr cymdeithasol yn y maes hamdden i ddatblygu atebion arloesol sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn gwella iechyd dinasyddion Conwy drwy weithgarwch corfforol; boed er mwyn atal afiechyd, ymarfer drwy bresgripsiwn, rheoli clefydau cronig neu adsefydlu ar ôl afiechyd acíwt neu gronig. Mae’r cydweithredu hwn yn cefnogi amrywiaeth eang o ddinasyddion i symud yn ddi-dor o therapi a gefnogir yn feddygol i weithgarwch corfforol yn y gymuned. Fel rhan o esblygiad parhaus y cydsyniad hwn, a chan adeiladu ar waith blaenorol, mae Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg a Gwasanaeth Datblygu’r Gymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cydweithio mewn partneriaeth ar hyn o bryd i ddatblygu rhaglen o weithgareddau, gwybodaeth, cyngor a chymorth lles cymunedol er mwyn galluogi dinasyddion i atal afiechyd a hybu hunanofal a pherchnogaeth unigol o ymyriadau cymorth yn seiliedig ar y sgwrs am yr hyn sy’n bwysig. Wrth symud ymlaen, bydd y dull hwn hefyd yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad â’r trydydd sector a’r sector gofal annibynnol.

Pa effaith y mae wedi’i chael?

Mae grwpiau ac unigolion sydd wedi elwa, a’r rhai a fydd yn gweld mwy o fanteision o ran iechyd o ganlyniad i’r rhaglen Canolfan Iechyd yn cynnwys y rhai sy’n byw â chyflyrau hirdymor a’r rhai sy’n dilyn rhaglen adsefydlu cardiaidd. Mae rhaglenni’r Ganolfan Iechyd yn helpu i fynd i’r afael ag iselder ac unigrwydd ac yn helpu i roi hwb i hyder y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglenni hefyd a chefnogi pobl i barhau’n egnïol a byw yn eu cartrefi eu hunain. Yn y tymor hir, rydym yn gobeithio y bydd y dull hunanofal hwn yn lleihau’r baich hefyd mewn perthynas â’r gofal heb ei drefnu sy’n ofynnol gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Dyma ddwy enghraifft o raglenni sydd wedi’u datblygu ac sy’n cael eu cyflwyno yn y Ganolfan Iechyd:

Thearpi Dŵr/Moddolrwydd Dŵr Cynnes

Mae’r astudiaeth beilot ar gyfer Therapi Dŵr/Moddolrwydd Dŵr Cynnes a gynhaliwyd ar y cyd gan staff hamdden, Gwasanaethau Therapi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gosod y safon ar gyfer y ffordd y dylid cynllunio’r prosiectau hyn a’u rhoi ar waith yn y dyfodol.

Yn dilyn yr astudiaeth, datblygwyd llwybr yn benodol ar gyfer cleientiaid â phoen cronig yn y cyhyrau / cymalau ac mae’n rhoi llawer mwy o fynediad i gleientiaid drwy ddefnyddio cyfleusterau nofio’r awdurdod lleol.

Dementia Cynnar

Mae gan y prosiect dementia cynnar gysylltiad agos â’r Unedau ar gyfer yr Henoed Eiddil eu Meddwl ym Mryn Hesketh a Bodnant. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi datblygu dosbarth ymarfer corff yn benodol ar gyfer cleientiaid sydd wedi cael diagnosis o Ddementia Cynnar.

Mae’r fenter Canolfan Iechyd yn seiliedig ar ymrwymiad i gryfhau gofal sy’n seiliedig ar y gymuned a pherthynas mwy cyfartal rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol. Mae’n gymorth hefyd i newid y berthynas rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a’r cyhoedd, wedi’i nodweddu â phrosesau o wneud penderfyniadau ar y cyd ar gyfer gofal a chymorth gyda dinasyddion er mwyn hyrwyddo ymyriadau priodol yn ogystal â sicrhau gwell canlyniadau iechyd a lles. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd ag egwyddorion cyd-gynhyrchu.