Tag Archives: comisiynydd pobl hŷn cymru

Heneiddio’n Dda yng Nghymru

Yn gynharach y mis hwn, aeth Bethan Smith i’r digwyddiad Heneiddio’n Dda yng Nghymru a gynhaliwyd ym Mangor o dan ofal Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn y blog hwn, mae Bethan yn rhannu ei hargraffiadau o’r diwrnod…

Mae’r Tîm Cyfnewid Arfer Da wedi cydweithio â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar sawl achlysur erbyn hyn, felly roeddem yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r digwyddiad Heneiddio’n Dda yng Nghymru.

I roi ychydig o wybodaeth gefndir i chi, rhaglen genedlaethol o dan ofal Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Mae’n dod ag unigolion, cymunedau a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ynghyd i lunio ac i hybu ffyrdd arloesol ac ymarferol o wneud Cymru’n lle da i bawb dyfu’n hŷn ynddo.

Mae’r rhaglen yn seiliedig ar bum egwyddor:

  • Gwneud Cymru’n genedl o gymunedau sydd o blaid pobl hŷn
  • Gwneud Cymru’n genedl o gymunedau sy’n cefnogi dementia
  • Lleihau nifer y cwympiadau
  • Lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd dieisiau
  • Cynyddu’r cyfleoedd i ddysgu ac i weithio

Pan gyrhaeddais i Fangor, roeddwn i’n gwybod ar unwaith y byddai’n fore buddiol. Roedd yr ystafell yn llawn bwrlwm, ac roedd hi’n amlwg bod pawb yn yr ystafell yn frwd dros wella bywydau pobl hŷn Cymru. Roedd agenda’r bore’n tynnu sylw at yr amrywiaeth o sefydliadau sy’n chwarae rôl bwysig i gyflawni’r nod hwn. Gan fod disgwyl i nifer y bobl hŷn yng Nghymru gynyddu, roedd hi’n wych gweld bod cynifer o sefydliadau’n cydnabod pwysigrwydd cefnogi’r gymuned benodol hon.

Roeddwn i’n falch iawn o glywed y cyflwyniad cyntaf gan David Worrall o’r Groes Goch Brydeinig a oedd yn canolbwyntio ar waith partneriaeth yng Nghymru. Mae gwaith partneriaeth yn hollbwysig er mwyn i’r gwasanaethau cyhoeddus gyflawni prif flaenoriaethau’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Ar adeg pan fo cyllidebau’n lleihau o hyd, nid yw’r holl atebion yn nwylo un gwasanaeth, ac mae angen i ni i gyd gyd-dynnu a meddwl mewn ffordd wahanol ac arloesol wrth fynd ati i ddarparu gwasanaethau. Fel y dywedodd siaradwr yn un o’n digwyddiadau, ‘efallai nad oes gennym gyfoeth o arian yng Nghymru, ond mae gennym gyfoeth o adnoddau’. Mae pobl hŷn yn adnodd enfawr yng Nghymru, ac fe ddylem ddefnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth pan fyddwn ni’n ailgynllunio gwasanaethau. Mae eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth yn amhrisiadwy.

Cyfeiriodd David at y fenter Camau Cadarn fel esiampl wych o waith partneriaeth. Mae’r Groes Goch Brydeinig a’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn dod ynghyd i lansio rhaglen dair blynedd newydd i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl hŷn y mae angen cymorth arnyn nhw i adennill eu hannibyniaeth. Gallwch ddarllen mwy am y prosiect ar wefan y Groes Goch Brydeinig.

cwvwcmyw8aa0jkb

Bu Pete Harrisons o Artisans Collective CIC yn trafod esiampl arall o waith partneriaeth sy’n digwydd yn y Gogledd. Mae Artisans Collective CIC yn darparu cyfleuster cymunedol unigryw ym Mhrestatyn, lle gall crefftwyr ac artistiaid arddangos a gwerthu eu cynnyrch celf a chrefft ar silffoedd yr Hen Lyfrgell. Yn ychwanegol at hynny, mae Pete a’r tîm wedi bod yn chwarae mwy a mwy o ran ym maes iechyd a lles cymunedol ym Mhrestatyn. Maent yn chwarae rôl allweddol yn y gymuned drwy weithio mewn partneriaeth ag amryw o sefydliadau i helpu i gyfeirio trigolion at wasanaethau perthnasol. Maent hefyd yn ymwneud ag amryw o fentrau i helpu i atal arwahanrwydd cymdeithasol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref. Maent bellach yn gweithio ochr yn ochr â Prestatyn Iach (model arloesol ar gyfer gofal iechyd sylfaenol) i ymchwilio i bresgripsiynu cymdeithasol, a’r ffordd y gall eu gwaith yn y gymuned ategu’r gwaith hwnnw. Ar ôl clywed cyflwyniad Pete, fe es i i ymweld â’r tîm ym Mhrestatyn ac mae’r dylanwad cadarnhaol y mae’n ei gael ar y gymuned yn amlwg iawn. Mae’r cyfleuster bach hwn yn darparu man diogel lle gall pobl a allai fod yn agored i niwed ddod ynghyd i gymdeithasu ac i ddysgu sgiliau newydd. Mae Pete wedi cytuno i siarad yn ein seminar ‘Gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer gwell iechyd a lles’ a gynhelir ar 7 Rhagfyr yng Nghaerdydd, ochr yn ochr ag Alexis o dîm Prestatyn Iach.

O sôn am ddysgu sgiliau newydd, fe gawson ni gyflwyniad hefyd gan Hilary Jones o Brifysgol y Drydedd Oes. Sefydliad rhyngwladol ar gyfer pobl sydd wedi ymddeol neu ymddeol yn rhannol yw Prifysgol y Drydedd Oes, ac mae’n darparu gweithgareddau addysgol, gweithgareddau creadigol a gweithgareddau hamdden. Mae pob un o Brifysgolion y Drydedd Oes yn cynnwys amryw o grwpiau diddordebau lle gall yr aelodau ddysgu oddi wrth ei gilydd mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol. Roedd gan Hilary neges glir: does dim rhaid i chi roi’r gorau i ddysgu oherwydd eich bod wedi rhoi’r gorau i weithio! Mae cyfleoedd ar gael i bawb. Yn ogystal â’r cyfleoedd dysgu, mae rhaglen Prifysgol y Drydedd Oes hefyd yn gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd ac i gymdeithasu. Mae’n esiampl wych o brosiect sy’n helpu i gyflawni nifer o brif flaenoriaethau’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru.

Mae’r tair esiampl hyn yn unig yn dangos y gwaith da sy’n cael ei wneud gan sefydliadau i helpu i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu pobl hŷn Cymru. Rhannwyd nifer o esiamplau eraill hefyd yn ystod y digwyddiad, a byddaf yn rhoi sylw iddyn nhw yn fy mlog nesaf.

cwvyoyewgaaflyy

Felly, dyma rai o’r prif bwyntiau sydd wedi aros yn y cof ar ôl y digwyddiad:

  • Mae’n hollbwysig ein bod yn mynd ati i weithio mewn partneriaeth i gyflawni prif flaenoriaethau’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru i sicrhau nad oes gormod o alw ar ein gwasanaethau ac, yn anad dim, i helpu pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol ac i fyw bywyd o ansawdd da.
  • Mae gan bobl hŷn gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ac mae angen i ni fanteisio arno pan fyddwn ni’n cynllunio gwasanaethau – maen nhw’n arbenigwyr, felly dewch i ni weithio gyda nhw! Dylai hyn fod yn wir am bob dinesydd, ni waeth beth fo’i oedran.
  • Mae grŵp gwych o bobl frwdfrydig ac ymroddedig yn rhan o’r rhwydwaith Heneiddio’n Dda yng Nghymru, ac maent yn cymryd camau breision i wneud Cymru’n lle gwell i dyfu’n hŷn ynddo. Yr her sy’n ein hwynebu ni nawr yw mynd ati i efelychu’r camau hyn ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus (nid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig). Mae hwn yn rhywbeth y gall y tîm Arfer Da ei ystyried pan fyddwn ni’n cynllunio ein rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Byddaf yn mynd i’r ail ddigwyddiad Heneiddio’n Dda a gynhelir yng Nghaerdydd ar 15 Rhagfyr, felly cadwch lygad am fy mlogiau nesaf!

Datganiad o annibyniaeth

Rydym wedi cynnal seminarau dysgu a rennir gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ddiweddar ar annibyniaeth barhaus pobl hŷn. Isod mae Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn amlinellu beth mae hi’n meddwl ynglŷn ag annibyniaeth.

Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn CymruRoedd yn bleser cael mynychu’r Seminarau Dysgu ar y Cyd yng Nghaerdydd ac yn Llanrwst ym mis Gorffennaf 2015. Dyma ddwy seminar ragorol a drefnwyd gan dîm y Gyfnewidfa Arfer Da. Roedd yn bleser gweld cymaint o ddarparwyr gwasanaeth o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, yn ogystal â’r bobl hŷn eu hunain, yn bresennol. Dangosodd y presenoldeb gwych, yr amrywiaeth eang o faterion a drafodwyd a’r syniadau a’r arferion da a gafodd eu cyfnewid bod hwn yn fater o bwys i lawer o bobl a bod cynnal annibyniaeth pobl hŷn yn bwysig i ddarparwyr, cymunedau ac unigolion fel ei gilydd.

Roedd fy ffocws i ar y camsyniadau a’r amryfusedd sy’n bodoli mewn perthynas â phobl hŷn wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus:

  • Mae anghenion a buddiannau pobl hŷn wedi’u cyfyngu i iechyd a gofal cymdeithasol: Mae pob maes polisi a phortffolio’n berthnasol i bobl hŷn ac mae sicrhau bod gwasanaethau tai, trafnidiaeth, addysg a hamdden, er enghraifft, yn cydweithio er mwyn helpu i gynnal annibyniaeth pobl hŷn yn flaenoriaeth allweddol i mi. Mae’n rhywbeth rwyf yn gweithio arno gyda llywodraethau ar bob lefel. Hefyd, dylid cynllunio gwasanaethau gyda phobl hŷn yn hytrach nag ar eu cyfer. Mae gan bobl hŷn gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ac fel defnyddwyr gwasanaeth rheolaidd, maent yn ‘arbenigwyr trwy brofiad’ ar sut ddylid darparu gwasanaethau.
  • Mae pobl hŷn angen strategaethau, cynlluniau a pholisïau ar raddfa fawr: Yn fy nhrafodaethau gyda phobl hŷn ledled Cymru, dydw i byth yn clywed am strategaethau a chynlluniau. Yr hyn mae pobl hŷn ei angen er mwyn helpu i gynnal eu hannibyniaeth yw’r pethau bychain sy’n gwneud byd o wahaniaeth yn aml. Mae addasiadau i gartrefi pobl a buddsoddiadau cost-effeithiol arloesol mewn gwasanaethau cymunedol ‘allweddol’, fel toiledau, llyfrgelloedd a bysus cyhoeddus, yn gwbl hanfodol yn y cyswllt hwn. Nid yw pobl hŷn yn gofyn am lawer a gall y buddsoddiadau bychain hyn wneud byd o wahaniaeth o ran cadw pobl hŷn yn egnïol ac yn rhan o’u cymunedau.
  • Pobl hŷn yw’r unig rai sy’n derbyn ac yn elwa o wasanaethau cyhoeddus: Mae pobl hŷn yn werth mwy nag £1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Byddai gwasanaethau cyhoeddus Cymru’n dod i stop heb gyfraniad enfawr pobl hŷn, drwy wirfoddoli a gofal di-dâl, er enghraifft. Mae pobl hŷn yn asedau amhrisiadwy a dylem fod yn buddsoddi ynddynt er mwyn cynyddu eu cyfraniad at yr economi ac at gymunedau ledled Cymru. Cyfeirir yn aml at bobl hŷn ac at effaith poblogaeth sy’n heneiddio mewn ffordd negyddol ac israddol. Mae’n rhaid i’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector gydweithio a newid eu man cychwyn: nid yw dibyniaeth a breguster yn rhan anochel o heneiddio a gydag ychydig o help, gall pobl hŷn gyfrannu llawer mwy. Mae poblogaeth sy’n heneiddio’n cynnig llawer iawn o gyfleoedd os allwn ni newid yr iaith a gweithredu ar sail asedau.

Yn ystod y seminarau, roedd yn hyfryd clywed nid yn unig am y cynlluniau cyffrous ac arloesol sydd ar droed ledled Cymru i gefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth – o lyfrgelloedd dros dro ym Mro Morgannwg i glybiau garddio yn Wrecsam, integreiddio gwasanaethau yng nghefn gwlad Ceredigion a dosbarthiadau cynhwysiant digidol mewn llefydd eraill – ond hefyd clywed gan y bobl hŷn eu hunain am eu barn a’u profiadau, a’r gwahaniaeth y gall y gwasanaethau hyn ei wneud i’w bywydau. Fel arfer, roedd yn gwbl ysbrydoledig.

Roeddwn yn falch hefyd o glywed bod y Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru wedi ysbrydoli pobl hŷn hefyd. Mae gan y pum thema blaenoriaeth yn y Rhaglen ran allweddol i’w chwarae i gyd mewn cefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth. Gyda mwy na 450 yn aelodau o’r rhwydwaith erbyn hyn ac yn gweithio ar amcanion Heneiddio’n Dda mewn cymunedau ledled Cymru, mae’r Rhaglen yn ennill momentwm.

Yn dilyn y seminarau, ac adroddiad dilynol Swyddfa Archwilio Cymru, rwyf yn awyddus i gynnal y momentwm a byddaf yn parhau â’r cydweithredu rhagorol ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a thîm y Gyfnewidfa Arfer Da, er mwyn sicrhau bod pwysigrwydd cynnal annibyniaeth pobl hŷn yn cael ei gydnabod gan bawb ac o fudd i bawb.

Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gydweithio tuag at yr un canlyniadau. Mae dull ataliol ac integreiddio gwasanaethau’n hanfodol er mwyn galluogi pobl hŷn i godi allan a byw bywydau llawn ystyr, pwrpas a gwerth. Bydd y dull hwn o weithredu’n gwella gwytnwch unigolion a chymunedau fel ei gilydd, gan leihau’r ddibyniaeth ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn sicrhau bod Cymru’n lle da i dyfu’n hŷn ynddo – nid dim ond i rai, ond i bawb.