Tag Archives: caerdydd

Effaith Cyfathrebu MAWR y Gronfa Loteri Fawr

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn gyfrifol am rannu 40% o’r arian a godir ar gyfer achosion da gan y Loteri Genedlaethol. Yma, mae’r Swyddog Cyfathrebu, Rosie Dent yn trafod sut y cafodd un ymgyrch gyfathrebu effaith ystyrlon, fesuradwy.

Llun o Rosie Dent, a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer ei hunanlun Loteri

#LotterySelfie Rosie Dent

Yng Nghymru, rydym yn rhoi tua £100,000 y dydd i brosiectau sydd â’r nod o wella bywydau pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf. Y llynedd, gwnaethom lansio ein fframwaith strategol ar gyfer 2015-21 sy’n nodi beth y gall pobl ei ddisgwyl gennym fel ariannwr dros y chwe blynedd nesaf. Ein gweledigaeth yw y dylai pobl arwain y ffordd wrth wella eu bywydau a’u cymunedau.

Fel Tîm Cyfathrebu, rydym o’r farn mai un o’r ffyrdd gorau y gallwn gael pobl i arwain yw drwy roi’r ffocws arnynt hwy a rhoi’r adnoddau iddynt allu hyrwyddo’r gwaith gwych maent yn ei wneud, waeth pa mor fawr neu fach yw hynny. Y ffordd hon o feddwl a arweiniodd at lansio ein hymgyrch #LotterySelfie.

Mae dwy elfen i’r ymgyrch, un ohonynt yw annog prosiectau i rannu delweddau gyda ni drwy ddefnyddio’r hashnod #LotterySelfie. Y nod, wrth i ninnau rannu’r delweddau hyn, yw y gall prosiectau o bosib gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae’r elfen hon o’r ymgyrch wedi bod yn rhedeg ers mis Ionawr 2016 ac mae hyd at 600,000 o argraffiadau bob wythnos ar Twitter.

Ail elfen yr ymgyrch yw ‘Llythyr Syrpreis y Loteri’. Bob blwyddyn mae ein staff yn asesu miloedd o geisiadau ac yn anfon miloedd o lythyrau sy’n rhoi gwybod i ymgeisydd bod ei gais am grant wedi bod yn llwyddiannus. Gyda chynifer o lythyrau, mae’n hawdd anghofio sut y gall arian Loteri newid bywydau cymunedau yng Nghymru. Gwnaeth hyn i ni feddwl, beth am i fwy o staff ymweld â phrosiectau a gwneud i’r prosiectau deimlo’n arbennig drwy ddosbarthu rhai o’r llythyrau cynnig grant â llaw?

Y sefydliad a gafodd syrpreis gyntaf gyda Llythyr Syrpreis y Loteri oedd NuHi Cyf. yng Nghaerdydd sy’n cynnig ymwybyddiaeth, addysg a hyfforddiant ym maes camddefnyddio sylweddau i’r gymuned ehangach. Bydd yn defnyddio’r grant o £4,775 i greu ystafell TG a gwefan fel y gall pobl sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau gael gwybodaeth a chefnogaeth. Holly, gwirfoddolwraig, a orffennodd ei thriniaeth adsefydlu yr union ddiwrnod hwnnw, a gafodd y syrpreis. Gwnaethom gadw’r syrpreis yn syml. Yr oll oedd gennym oedd llechen, llythyr cynnig ac wrth gwrs siec enfawr (oherwydd pwy sydd ddim yn breuddwydio am gael siec enfawr?), gan ei gwneud yn ymgyrch hynod o rad, sy’n costio dim heblaw am amser staff.

 

Beth oedd y canlyniad i NuHi?

Pan ofynnwyd sut roedd hi’n teimlo ynglŷn â’r syrpreis, dywedodd y Sefydlydd Yaina: “Mae’r gwirfoddolwyr yn dal i fod yn wên o glust i glust”. Roedd Yaina yn teimlo bod morâl staff wedi cynyddu ers y syrpreis.

O fewn pythefnos i’r syrpreis, roedd y sylw ar gyfryngau cymdeithasol wedi arwain yn uniongyrchol at sefydliadau eraill yn cysylltu â nhw ynglŷn â gweithio mewn partneriaeth a gwahoddiad i fod yn siaradwr gwadd mewn digwyddiad entrepreneuraidd.

Gwnaeth y sylw hefyd arwain at roddion cyhoeddus ac, o ganlyniad, rhoddodd NuHi fotwm rhoddion ar ei wefan. Credwn fod hyn yn ganlyniad hynod gadarnhaol i NuHi gan y gallai rhoddion gynyddu cynaliadwyedd y sefydliad. Roedd hefyd wedi arwain at dri ymholiad newydd am gymorth gan bobl sy’n gwella o gamddefnyddio sylweddau.

Llun o bobl sy'n ymwneud â NuHi Cyf.

NuHi Cyf.

A fu effaith ar staff y Gronfa Loteri Fawr?

Dywedodd Liz Hertogs a fu’n asesu’r cais ac a ffilmiodd y syrpreis wrthym, “Dyma oedd fy ymweliad prosiect cyntaf, felly roedd yn wych cael cwrdd ag un o’n deiliaid grant, ac roeddem yn gallu rhoi ein pecyn cynnig iddo a thrafod beth sy’n digwydd nesaf ar yr un pryd. Roedd bod yno pan wnaeth ddysgu ei fod yn cael ei ariannu gennym yn brofiad arbennig iawn.”

Cawsom lawer o sylwadau cadarnhaol ynglŷn â’r fideo gan staff ac aelodau’r pwyllgorau. Nid ydym erioed wedi gweld staff wedi cyffroi cymaint am gynnyrch cyfathrebu o’r blaen! Roeddech yn gallu clywed staff yn sôn amdano o amgylch y swyddfa am ddyddiau, roedd wir yn teimlo fel ei fod wedi creu cyffro yn ein swyddfeydd, yng Nghaerdydd a’r Drenewydd. Roedd y cyffro hwnnw’n heintus, cawsom sylwadau gan dimau’r Gronfa Loteri Fawr yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Camelot a thîm Achosion Da y Loteri Genedlaethol.

Pa sylw a gafodd y fideo?

O fewn diwrnodau roedd 8,800 o bobl wedi gweld y fideo ar Facebook, gan ei wneud yn un o’r pethau mwyaf poblogaidd i ni ei bostio ar y llwyfan. Cafodd cynnwys cyfryngau cymdeithasol ei rannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Achosion Da y Loteri a We Are Cardiff, i enwi dim ond rhai.

Cafodd fideo a stori Holly, y wirfoddolwraig, eu cynnwys ar Wales Online, a chafodd yr erthygl ei rhannu ar gyfryngau cymdeithasol dros 340 o weithiau.

Myfyrio

Fel mae timau Cyfathrebu eraill yn ei ganfod mae’n siŵr, gall fod yn anodd casglu tystiolaeth am ganlyniadau eich gwaith, yn enwedig canlyniadau cadarn. Fodd bynnag, mae effaith yr ymgyrch hon wedi bod yn anhygoel ac wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Roedd llawer o’r canlyniadau, fel rhoddion cyhoeddus ac ymholiadau am gymorth gan y prosiect, yn annisgwyl ac maent yn dangos sut y gall cyfathrebu, gan gynnwys cyfryngau digidol, ychwanegu gwerth a chael effaith ystyrlon ar sefydliadau a chymunedau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Loteri Fawr Cymru, ewch i’n gwefan, dilynwch @LoteriFawrCymru ar Twitter neu hoffwch Cronfa Loteri Fawr Cymru ar Facebook.

YMCA Plas: Gweledigaeth well ar gyfer y Rhath

Sut all sefydliadau ddatblygu strategaeth ar gyfer ased cymunedol? Ymwelodd Dyfrig Williams ag YMCA Plas (cyn-Ganolfan Gymunedol Plasnewydd) yn y Rhath i ffeindio allan.

Ffotograff o YMCA Plas

YMCA Plas

Rydw i wedi bod yn ymweld â sefydliadau sydd wedi mynd drwy’r broses trosglwyddo asedau yn barod yn fy mlogbostau ddiweddar ar drosglwyddo asedau. Roedd fy ymweliad olaf bach yn wahanol, achos wnes i fynd i sefydliad sy’n datblygu eu cynllun busnes ar gyfer safle. Fe wnes i ymweld â’r YMCA, sydd wedi cymryd drosto hen adeilad Canolfan Gymunedol Plasnewydd ar sail prydles am 100 mlynedd o Gyngor Caerdydd. Maen nhw’n edrych i ailddatblygu’r safle, ac yn wreiddiol roedden nhw eisiau’r adeilad ar sail rhydd-ddaliad i wneud y mwyaf ohono.

Fel yn achos pob un o’r asedau yn y gyfres yma o flogbostau, byddai’r trosglwyddiad ddim wedi digwydd os na fyddai’r sefydliad wedi gweithio’n agos â’r cyngor. Mae’r trosglwyddiad yn dod gyda chytundeb am 25 mlynedd heb rent, a heb hynny byddai’r YMCA ddim wedi bod mewn sefyllfa i gymryd yr adeilad. Mae hyn wedi galluogi nhw i roi’r blociau adeiladu cywir mewn lle i sicrhau twf cynaliadwy.

Mae pris tir ac adeiladau yng Nghaerdydd wedi gwneud e’n anodd dod o hyd i safle addas, yn enwedig gyda’r cynnydd enfawr yn y nifer o fyfyrwyr yn yr ardal. Ond nawr mae’r cytundeb mewn lle, mae’n bosib i Adran Ieuenctid a Chymuned y YMCA i symud o gysgod y gwaith digartrefedd mae’r YMCA yn gwneud yn yr ardal.

Doedd y cyngor ddim eisiau cyfyngu ar sut gellir defnyddio’r safle, ond mae’r trosglwyddiad ar yr amod bod y safle yn cael ei ddefnyddio er budd y gymuned. Yr unig amod arall yw dim ond 33% o’r adeilad all yr YMCA rhentu allan. Trwy gydol y broses wnaeth yr YMCA dweud nad ydyn nhw’n gallu cymryd y staff cyflogedig trwy TUPE achos nad oedd ganddynt y gallu i wneud hynny.

Beth yw’r strategaeth ar gyfer YMCA Plas?

Gan fod y brydles ar gyfer yr adeilad mor hir, mae’n rhaid i YMCA Plas fod yn aml-ddefnydd. Bydd hwn yn galluogi iddynt newid yr adeilad os mae’r amgylchiadau’n newid. Mae llai o bobl wedi bod yn dod i’r adeilad gan ei fod wedi cael ei glustnodi i’w cau ers peth amser, felly ar hyn o bryd mae’r YMCA yn cynnal digwyddiadau i ail-ymgysylltu â’r gymuned, ac maen nhw’n edrych i ymgynghori ar ei ddyfodol.

Y nod yw i YMCA Plas fod yn ganolbwynt cymunedol ar gyfer grwpiau lleol a phobl yr ardal. Maent yn awyddus i ddatblygu cyfleuster chwaraeon gyda champfa, er mwyn cynhyrchu incwm, ac fe fydd hwn yn rhoi ffocws iechyd a lles i’r ganolfan.

Mae’r sefydliad hefyd yn datblygu strategaeth gofal plant a meithrinfa. Maen nhw wedi nodi, trwy weithio gyda Chymunedau yn Gyntaf, bod yna prinder o ofal plant fforddiadwy yn yr ardal. Does dim lot o bobl yn gwybod mai’r YMCA yw’r darparwr gofal plant mwyaf yn y DU, ac mae’r sefydliad yn edrych i wneud y fwyaf o’i gapasiti a gwybodaeth i gymryd y rhan hon o’r cynllun ymlaen. Maent hefyd yn edrych i rentu ystafelloedd lle mae’n bosib ac i rentu lle i fudiadau sydd â’r un dibenion â’u nodau a’u hamcanion.

Mae’r fynedfa i’r adeilad ar ochr y stryd, felly mae’r sefydliad hefyd yn bwriadu symud y fynedfa fel ei fod yn fwy amlwg i ymwelwyr. Bydd hyn yn dangos yn glir ei fod yn agored ac yn hygyrch i’r cyhoedd, yn hytrach na dibynnu ar bobl i fynd i lawr yr ochr stryd.

Gwersi a ddysgwyd

Roedd y YMCA yn canolbwyntio ar amserlenni’r cyngor trwy gydol y proses, a golygodd hyn nad oedd y ffocws bob amser ar eu gofynion eu hunain. Gan nad oedd y staff yn trosglwyddo drosodd i’r sefydliad, roedd ymsefydlu staff newydd wrth gymryd drosto gyfleuster newydd yn her fawr. Roedd hyn yn golygu na allent ddechrau gweithio yn y ffordd y byddent wedi hoffi, ac roedd cymaint o sylw ar y trosglwyddiad roedd e’n anodd canolbwyntio ar beth oedd yn mynd i ddigwydd wedyn. Fodd bynnag, y neges graidd yn y tymor byr oedd cynnal y busnes presennol. Er nad yw’n talu’r biliau, mae’n cyfrannu ato. A gan fod y mudiad wedi cynllunio’n effeithiol, maen nhw’n gallu amsugno colledion uniongyrchol tra mae’r cynllun busnes yn cael ei ddatblygu. Yr her nawr yw i’r sefydliad i barhau i redeg y busnes wrth ddatblygu’i gynllun.

Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Rydw i wedi bod yn byw yn y Rhath sawl flwyddyn nawr, ac mae’n lle bywiog i fyw. Rydw i wedi rhoi gwaed yn y ganolfan, ond rhaid imi gyfaddef fy mod i heb wneud y gorau o’r cyfleuster sydd wedi bod ar fy stepen drws.

Mae gan yr ardal lot o bobl amrywiol yn fyw yn ochr yn ochr, ond dydyn nhw ddim wastad yn integreiddio. Mae unrhyw beth sy’n dod a phobl at ei gilydd yn ddatblygiad positif, ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r YMCA yn gwneud eu gweledigaeth ar gyfer y ganolfan gymunedol yn realiti drwy gynnwys grwpiau cymunedol a phobl Rhath.

Trosglwyddo asedau i’r sector gwirfoddol

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da yn ceisio sicrhau nad yw’r digwyddiadau a gynhaliwyd gennym yn golygu mai dyna ddiwedd y daith i bwnc rydym yn gweithio arno. Rydym yn ceisio rhannu syniadau, adnoddau a safbwyntiau er mwyn dechrau trafodaethau ac annog pobl i ddod o hyd i gyfleoedd i wella’u gwaith.

Nid oedd rhaid inni aros yn hir cyn i’r arfer da cyntaf gael ei rannu ar Twitter yn ystod ein seminar Gwneud Defnydd Gwell o Asedau Cyhoeddus, wrth i Wasanaeth Cyngor a Chymorth Cymunedau’n Gyntaf gysylltu â ni i’n hysbysu am waith diddorol yng Nghaerdydd i helpu sefydliad cymunedol i ddod yn gyfrifol am reoli ased.

Roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy am hyn oherwydd roedd yn cyd-fynd yn dda â gweithdy Richard Davies a oedd yn ystyried y cymorth sydd ei angen ar sefydliadau gwirfoddol a chymunedol er mwyn sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus.

Siaradais â Gareth Kiddie, a oedd yn gweithio fel ymgynghorydd wrth drosglwyddo ased ym Mhentre-baen, a Michelle Powell o ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái) a gefnogodd y broses.
Yn y seminar siaradodd Richard am yr heriau niferus y mae sefydliadau cymunedol yn eu hwynebu, lle mae capasiti yn broblem allweddol. Mae sefydliadau cymunedol yn dibynnu ar wirfoddolwyr, felly nid yw’n syndod bod Gareth wedi dweud bod y broses Dendro Gystadleuol yn rhwystr i drosglwyddo ased, yn hytrach na galluogwr. Yn hytrach awgrymodd Gareth y dylid cefnogi sefydliadau yn gynnar yn y proses er mwyn sicrhau eu bod yn cael mynediad i’r wybodaeth a’r arbenigedd cywir a chyfle go iawn i lwyddo.

Amlygodd Gareth hefyd y broblem capasiti mewn cyd-destun arall, sef y ffaith bod TUPE hefyd yn fater i sefydliadau cymunedol. Nid yw sefydliadau gwirfoddol bach fel arfer mewn sefyllfa i gynnig yr un termau â’r sector cyhoeddus i’w staff. Eto, drwy weithio gyda’r sefydliad cymunedol ar gam cynnar, llwyddwyd i’w helpu i oresgyn y problemau sydd ynghlwm wrth hyn.

Richard Davies o GAVO

Richard Davies o GAVO

Yn ystod fy ngalwad ffôn gyda Michelle, soniodd am bwysigrwydd bod yn hyblyg yn ystod y broses. Roedd yr adeilad ar fin cau, ond o ganlyniad i ddatganiad o ddiddordeb i’r cyngor, rhoddwyd trwydded i’r sefydliad ddefnyddio’r lle. Rhoddodd y drwydded hon gyfle i ACE (Gweithredu yng Nghaerau a Threlái) weithio ochr yn ochr â’r sefydliad. Roedd hyn yn golygu ei bod yn bosibl i’r sefydliad ddatblygu cyfres o weithgareddau, a arweiniodd at roi cynllun busnes at ei gilydd a rhagweld costau’n well.

Soniodd Michelle hefyd am ba mor hanfodol oedd cyfathrebu parhaus rhwng y cyngor a’r sefydliad cymunedol er mwyn sicrhau bod y ddau sefydliad yn gwybod lle maent yn sefyll. Mae cyfathrebu wedi gwella ers i’r cyngor penodi swyddog sydd wedi’i neilltuo i roi cymorth, a dylai hyn symleiddio’r proses yn y dyfodol. Mae hefyd yn wych bod Llawlyfr Camu Fyny ar gyfer datblygu a rheoli gwasanaethau ac asedau wedi cael ei lunio. Credaf fod yr iaith a ddefnyddir yn y pecyn cymorth yn wych – mae’n hawdd ei deall ac mae’r pecyn yn hawdd ei ddefnyddio, ac mae hyn o gymorth mawr gan fod y broses ei hun yn gallu bod yn gymhleth.

Bydd sefydliadau’r sector cyhoeddus o dan bwysau ariannol am gryn amser, felly mae’n debygol y caiff rhagor o asedau eu trosglwyddo i sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn dysgu gwersi o ddulliau gweithredu ein gilydd er mwyn i ni sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r asedau hyn ar gyfer cymunedau ledled Cymru.

Dyfrig