Tag Archives: arweinyddiaeth

Mentrwch i fod yn agored i wella gwasanaethau cyhoeddus

Sut all arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ymgorffori meddylfryd digidol o fewn eu sefydliadau i ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus? Isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar yr hyn y dysgodd o weithdy’r Cynghorydd Barry Parsons a Carl Haggerty yn ein Seminar Digidol.

Roedd ein seminar yn edrych ar ddulliau digidol, ond yn realiti dim ond rhan bach o’r seminar oedd am dechnoleg. Yn lle hynny, roedd seminarau’r Gogledd a’r De yn canolbwyntio ar y camau y gallai sefydliadau eu cymryd i ddatblygu meddylfryd Digidol a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Councilllor Barry Parsons speaking during a panel discussion / Y Cynghorydd Barry Parsons yn siarad yn ystod trafodaeth panelFe wnes i gynnig sesiwn yn GovCamp Cymru ar sut all y “gwneuthurwyr newid” sy’n mynd i ddigwyddiadau fel anghynhadleddau newid yr arfer a’r ymddygiad o fewn eu mudiadau er mwyn ymgorffori’r dysgu ohono. Un o’r cwestiynau a ofynnais yn ystod y sesiwn oedd ar rôl arweinwyr wrth ymgorffori newid, gan eu bod nhw mewn sefyllfa i arwain trwy esiampl a dangos yr ymddygiad y dylai’r sefydliad arddangos.

Gyda hyn mewn golwg, roedd yn wych i ddysgu mwy am rai o’r pethau sy’n digwydd yng Nghyngor Sir Dyfnaint, lle mae’r Cyng. Barry Parsons (sy’n Aelod Cabinet am Berfformiad ac Ymgysylltu) wedi datblygu perthynas hyfforddi gyda Carl Haggerty er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o’r rôl y gallant ei chwarae wrth fewnosod meddylfryd Digidol o fewn y cyngor.

Newid ein perthynas â’r cyhoedd

Clywsom yr un neges o bob aelod o’r panel yn ystod y sesiwn lawn am sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus ddechrau gydag anghenion defnyddwyr. Rhaid i wasanaethau cyhoeddus ailfeddwl sut maen nhw’n gweithio, ac roedd cwestiynau cynrychiolwyr yn dangos eu bod nhw’n meddwl am sut gallan nhw ddechrau ail-fframio’r berthynas rhwng ein sefydliadau a’u cymunedau.

Cyflwynodd y Cyng. Barry Parsons pwyntiau grêt ar sut y mae’n gwneud hynny yn y gweithdy ar Gynnwys Aelodau Etholedig mewn ymagwedd ddigidol. Siaradodd am ei rôl fel Aelod Cabinet (ac mae hyn hefyd yn rhan o rôl arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill), lle mae’n gweithio i ddatblygu ymddiriedaeth am weithredu a chydweithio systemig, o fewn a thu allan i’r sefydliad.

Mentro i fod yn agored i niwed

Siaradodd y Cyng. Parsons am y pwysigrwydd o fod yn agored er mwyn datblygu’r ymddiriedaeth honno, ac fe rannodd y fideo gwych yma gan Peter Sharp yn TEDx Perth.

Mae’r Cyng. Parsons yn rhannu ei gwendidau ei hun yn y Cyngor. Er mai Carl Haggerty yw’r arbenigwr digidol o ddydd i ddydd, rhaid i’r Cyng. Parsons gwneud penderfyniadau mawr, gwybodus ar y pwnc. Drwy fod yn i fod yn agored i niwed mae’n dysgu mwy am Ddigidol, ac mae’n adeiladu parch cilyddol gyda Carl. Maen nhw’n rhannu credoau cyffredin a’r bwriad o ddod â swyddogion ag aelodau ynghyd i yrru’r agenda yn ei blaen.

Pan wnaethon ni cynllunio’r seminar, datblygodd Y Lab personas gyda ni am bobl a ddylai fynychu’r digwyddiad. Roedd hyn yn newid yn ein hymagwedd, gan ein bod ni fel arfer yn targedu swyddi penodol. Roedd hyn oherwydd ein bod ni’n cydnabod bod hierarchaeth sefydliadol yn gwahanu’r wybodaeth o fewn sefydliadau o’r awdurdod wrth wneud penderfyniadau. Drwy fod yn agored i niwed, mae’r Cyng. Parsons yn gallu dod a’r wybodaeth a’r awdurdod at ei gilydd i wneud penderfyniadau gwybodus fel y gall y cyngor fod mewn sefyllfa well i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol. Mae’n wych clywed bod aelod etholedig yn cymryd ymagwedd o’r fath i ddatblygu eu gwybodaeth. Os yw eich sefydliad yn galluogi aelodau etholedig, aelodau anweithredol neu ymddiriedolwyr i wneud rhywbeth tebyg, byddem wrth ein bodd i glywed gennych.

GovCamp Cymru: A allwn ni newid ymddygiad ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus gwell?

Fe wnaeth Dyfrig Williams cynnig sesiwn yn GovCamp Cymru ar sut all damcaniaeth newid ymddygiad helpu i ymgorffori syniadau a gynhyrchwyd yn anghynadleddau mewn sefydliadau. Isod mae’n amlinellu beth ddysgodd o’r sesiwn.

Roedd GovCamp Cymru eleni yn ddigwyddiad gwych. Cynigiais i sesiwn ar newid ymddygiad pobl tu fewn i mudiad er gwella gwasanaethau cyhoeddus. Fe wnes i ychydig o waith ymlaen llaw ar beth roeddwn i’n ystyried yn faterion allweddol a sut allwn eu datrys, ond roedd y sesiwn yn canolbwyntio ar y syniadau a phrofiadau’r bobl a oedd yn bresennol. Felly rhaid i mi ddweud diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth ac i bawb a gyfrannodd cyn, yn ystod ac ar ôl y brif drafodaeth. Mae’r Storify yn rhoi trosolwg da o’r hyn a ddywedwyd yn ystod y dydd.

Felly o ran fy sesiwn i, dyma’r pethau allweddol a ddysgais:

Mae arweinyddiaeth yn bwysig

Efallai bod hyn yn ddatganiad gwbl amlwg, ac mewn rhai synhwyrau y mae hynny’n wir. Buom yn siarad am sut y mae ymddygiad staff yn debygol i ddilyn ymddygiad arweinwyr o fewn ein sefydliadau. Serch hynny, roedd yn galonogol i gael trafodaeth am beth yw arweinydd – nid jyst y bobl sydd ar frig trwy hierarchaeth, gallwn fod yn sôn am arweinyddiaeth trwy feddylfryd, neu efallai staff sy’n penderfynu arwain newid neu i feithrin y rôl mewn pobl eraill. Mae’n rhy hawdd i ildio cyfrifoldeb am hyn i bobl eraill achos nad oes gennym rôl benodol, felly roedd yn wych i glywed mynychwyr siarad am sut y gallan nhw fynd i’r afael â’r cyfrifoldeb. Ond hefyd trafodom sut y mae rhai sefydliadau yn gweld ‘mavericks’ fel gelynion, felly mae’n bwysig i feddwl am sut yr ydych chi’n cael eich gweld o fewn eich sefydliad.

Mae ymddygiad da arweinwyr yn dechrau gyda phethau syml iawn fel dweud “Diolch” fel bod staff yn teimlo bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi. Siaradodd Spice Caerdydd am gael agendâu agored ar gyfer cyfarfodydd, ac fe wnaethom hefyd siarad am y pwysigrwydd o gymryd risgiau. Mae lot o’r sector cyhoeddus yn amharod i gymryd risgiau, ond wnaethom edrych bach yn fanylach ar hyn er mwyn meddwl am pam mae hynny’n wir. Codwyd pwynt arbennig, sef “bod gan y bobl sy’n cynllunio newid llai i golli na’r bobl sy’n ei weithredu”, ac fe wnaeth hyn canu cloch i mi. Felly os ydym am i bobl gweithio mewn modd gwahanol, rhaid i ni sicrhau bod nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi os mae pethau’n mynd o le. Siaradom am ddulliau o leihau risg, yn enwedig sut all prototeipio arddangos ffyrdd newydd o weithio os mae rhywun yn meddwl bod dull newydd yn amhosib.

Mae deddfwriaeth yn gleddyf a tharian

Rwy’n caru’r dyfyniad yma, a ddaeth o drafodaeth ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Siaradom am sut allai’r ddeddf cael ei ddefnyddio fel tarian i ddiogelu staff sy’n ceisio sicrhau newid drwy ddarparu sail resymegol glir amdano, neu gleddyf i sbarduno’r newid ac i ymladd ar gyfer newid ystyrlon o fewn ein sefydliadau. Roedd pawb yn cytuno y dylid alinio dulliau o gyflawni newid, a hefyd does yna ddim dull “un maint i bawb”. Mae deddfwriaeth yn bendant yn chwarae rôl wrth newid ymddygiad, ond mae hyn hefyd yn wir amdano ddiwylliant, arweinyddiaeth, gwleidyddiaeth a’r cyhoedd rydym yn gweithio gydag ac ar eu cyfer. Mae angen dulliau a thactegau amrywiol fel ein bod ni’n defnyddio’r offer mwyaf priodol ar gyfer unrhyw sefyllfa.

160924-GCCY-187

Llun gan Nigel Bishop o GovCamp Cymru

Rydym yn dysgu trwy siarad, meddwl a gwneud

Roedd y sesiwn yn ffocysu ar newid sefydliadol, ond serch hyn doedd neb o adran Adnoddau Dynol yn cymryd rhan yn ein trafodaeth ni. Beth bynnag, y consensws oedd bod dysgu sefydliadol yn bwnc rhy bwysig i’w adael i un tîm canolog a bod rhaid i ni gyd gymryd cyfrifoldeb fel unigolion, yn enwedig gan fod cynifer o adnoddau ar-lein ar gael.

Cytunodd pawb mai un o’r ffyrdd y gall anghynhadleddau ychwanegu gwerth yw trwy dyfu rhwydweithiau a rhannu beth mae pobl eraill wedi dysgu. Ond rhaid i ni ystyried pa mor gynhwysol ydyn ni – ydyn ni’n dod â phobl eraill o fewn ein sefydliadau gyda ni ar y daith newid? Fel y soniais yn y drafodaeth, mae Carl Haggerty wedi ysgrifennu blogbost wych lle mae’n myfyrio ar sut mae e’n dysgu a sut y mae’n helpu pobl eraill. Ffordd arall o ymgorffori newid o fewn sefydliad yw cael rhywun sydd eisoes wedi gwneud y gwaith hynny i ddod i mewn i siarad am y peth ac i ddangos y gwahaniaeth. Gall y cysylltiadau o anghynhadleddau ein helpu ni i ledaenu arferion da a ffyrdd newydd o weithio.

Roedd yna hefyd drafodaeth ynghylch rolau ‘hyrwyddwr’ o fewn y sefydliad, lle mae’r baich o ledaenu’r newid yn cael ei gymryd i ffwrdd o unigolyn a’i rhannu’n ehangach. Rhoddwyd enghraifft o amgylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, lle mae’r cyfrifoldeb wedi cael ei rannu o amgylch aelodau staff i ymgorffori’r newid diwylliannol o fewn eu timau er mwyn cwrdd â gofynion y ddeddf.

A fydd GovCamp Cymru yn helpu i newid ymddygiad?

Mae’r pwyntiau a godwyd yn fy sesiwn wedi gwneud i mi feddwl eto am sut mae newid yn digwydd o fewn sefydliadau. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar brosiect ble rydym yn edrych ar sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn defnyddio data a thechnoleg, y tybiaethau rydym yn cymryd yn ganiataol, a sut allwn ni cynnig atebion radical i unrhyw anawsterau wrth i ni newid ein prosesau archwilio a busnes. Os ydym yn edrych i drawsnewid ein gwaith yn y modd hwn, rhaid i ni ddod â’n cydweithwyr gyda ni ar y daith. Mae’r adborth o’r sesiwn hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth i mi ddechrau’r gwaith newydd yma, ac fe fyddwn i wrth fy modd i glywed o unrhyw un arall sydd wedi rhoi beth wnaethon nhw ddysgu o’r sesiwn ar waith o fewn eu sefydliadau fel ein bod ni’n gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell.