Tag Archives: arloesi

Mae’r ysgrifen ar y ddesg!

Mae desgiau bwrdd gwyn Gartrefi Melin wedi hyrwyddo newid ymddygiad cadarnhaol, arbed arian ac adnoddau, a hefyd gwella’i arfer Diogelu Data! Isod mae Ena Lloyd yn blogio ar y stori y tu ôl i’w desgiau.

Galwais heibio’n ddiweddar i weld Trisha Hoddinot yn Cartrefi Melin ar ôl i Mari Arthur o Cynnal Cymru sôn am y gwaith da maent yn ei wneud ar eu Cynllun Ceir. Nid jyst arbed arian a sicrhau canlyniadau cynaliadwyedd da, roedd yna hefyd arwyddion cynnar o newidiadau cadarnhaol mewn ymddygiad.

Pan gyrhaeddais ei swyddfa, sylwais fod pob un o ddesgiau’r Tîm Cynaliadwy yn wyn, ac wrth eu hastudio ymhellach, roedd llawer o negeseuon ysgrifenedig drostynt hefyd! Felly roedd yn rhaid i mi ofyn beth oedd y tu ôl i’r desgiau yma. Clywais mai desgiau bwrdd gwyn oeddynt. Byddaf yn rhannu gwybodaeth am eu cynllun ceir mewn blog diweddarach! Dyma stori Trisha am y desgiau bwrdd gwyn.

Ffoto o fwrdd desg gwyn Cartrefi Melin sydd gan ysgrifen arno

Bwrdd desg gwyn Cartrefi Melin

Ni yw’r Tîm Cynaliadwyedd a ffurfiwyd ym mis Chwefror 2016 i nodi’r hyn roedd Cartrefi Melin yn ei wneud o ran Cynaliadwyedd – i gael y gorau allan o bopeth rydym yn ei wneud. Roeddem eisiau arwain drwy esiampl a dangos bod pethau’n bosibl drwy ddangos, fel tîm, y gallem fod yn gwbl ddi-bapur. Doedd dim esgus gennym, roeddem yn dîm newydd sbon. Rydym yn dîm arloesol ond realistig. Doedden ni ddim yn disgwyl i dimau fynd yn ddi-bapur dros nos. Mae gennym ni lai o gyfyngiadau na thimau eraill o ran archwilio allanol a chadw cofnodion. Ond, petai pob tîm yn mabwysiadu rhywfaint o’r hyn rydym yn ei wneud, byddai wir yn gwneud gwahaniaeth.

Beth rydym wedi’i wneud yn wahanol

Dyma sut rydym yn annog eraill:

  1. Rydym yn enwi’r tri thîm sydd wedi cwtogi fwyaf ar eu hargraffu ar ein sgriniau teledu mewnol bob mis.
  2. Yn y dyfodol, bydd unrhyw ddesgiau newydd a gaiff eu prynu ar gyfer Cartrefi Melin yn ddesgiau bwrdd gwyn.
  3. Rydym yn gwneud i bobl feddwl. Mae gliniaduron a llechi ymhob ystafell gyfarfod fel y gall pobl fewngofnodi i wneud nodiadau, rhannu agendâu cyfarfodydd ar y sgrin a gweld dogfennau, yn hytrach na defnyddio peniau ysgrifennu a phapur.
Ffotograff o Staff Cartrefi Melin yn defnyddio'i byrddau gwyn

Staff Cartrefi Melin yn defnyddio’i byrddau gwyn

Penderfynom ddefnyddio byrddau gwyn maint A4 yn hytrach na nodiadau post-it a phapur nodiadau ar gyfer negesuon, a thryw ddamwain dyma ni’n sylweddoli bod ein desgiau yn ddesgiau bwrdd gwyn. Y gellir eu defnyddio ar gyfer rhestr ‘i’w wneud’, nodiadau pan fyddwch ar y ffôn ac ati. Nid oedd pawb yn rhannu ein cyffro i ddechrau, ond o fewn 2 i 3 diwrnod, roedd ein cydweithwyr llai brwdfrydig yn dechrau cael eu hargyhoeddi bod hyn yn syniad da ac yn gofyn am fyrddau gwyn er mwyn ymuno â’n chwyldro! Mae ein tîm cyswllt cwsmeriaid hefyd yn defnyddio byrddau gwyn, sydd nid yn unig yn arbed papur, ond hefyd mae’n helpu ni i ddiogelu data, oherwydd gellir ysgrifennu nodiadau yn ystod yr alwad, ac yna ei sychu’n lân yn syth wedyn.

Y ffordd y gwnaethon ni hyn

I ni, yr unig ffordd o wneud hyn oedd heb eithriadau, dim esgusodion, dim argraffu a dim padiau ysgrifennu. Pan fyddwn yn cwrdd ag eraill ac yn cael papurau, rydym yn ei sganio ac yn ei chadw ar system ein tîm a’i ddinistrio. Un her y gwnaethom ei goresgyn oedd sefyllfa lle byddai un o fy nghydweithwyr yn diweddaru gwybodaeth gan ein contractwyr ar gronfa ddata ac yn argraffu un ddogfen tra’n diweddaru un ar sgrin. Er mwyn datrys hyn, gwnaethom gysylltu ail fonitor.

Ffotograff o aelod o staff Cartrefi Melin yn defnyddio dau fonitor cyfrifiadur i arbed papur

Aelod o staff Cartrefi Melin yn defnyddio dau fonitor cyfrifiadur i arbed papur

Beth fu’r manteision

Yn ogystal â manteision amgylcheddol a’r arbedion ariannol ar gostau papur ac argraffu, mae yna manteision ehangach. Nid oes angen styffylwyr, peniau ysgrifennu, sisyrnau ac ati mwyach, ac mae ein desgiau yn llawer taclusach. Mantais arall yw’r cyfle i atgoffa pobl ein bod yn ddi-bapur pan fyddant yn gofyn am gael benthyg pen ysgrifennu.

Beth yw’r dysgu yr hoffech ei rannu ag eraill?

Pe bawn ni am roi cyngor i eraill ynglŷn â mynd yn ‘ddi-bapur’, y cyngor hwnnw fyddai peidiwch â rhoi disgwyliadau enfawr ar ysgwyddau bob aelod o staff. Bydd troi’r ymarfer yn rheol orfodol yn gelyniaethu pobl yn syth. Gosodwch yr her ac arweiniwch drwy esiampl.
Manteisiwch ar bob cyfle i atgyfnerthu’r hyn rydych am ei gyflawni. Pan fydd aelod o’n tîm yn mynychu cyfarfod mewnol, yn ddiau fe fydd aelod o staff yno sy’n ymddiheuro am fod ganddo bapur a phen ysgrifennu ac yn teimlo’n euog. Does dim rhaid i ni grybwyll dim byd, ond rydym bob amser yn croesawu’r cyfle i atgoffa pobl mai ni yw tîm di-bapur cyntaf Cartrefi Melin.

Mae angen i chi fod yn ymwybodol o gyfarfodydd allanol. Rwyf bob amser yn teimlo bod yn rhaid i mi egluro i eraill pam fy mod yn defnyddio ffôn neu lechen i gymryd nodiadau, rhag ofn iddynt feddwl fy mod yn ddigywilydd ac yn tecstio ffrindiau neu’n darllen y cyfryngau cymdeithasol.

Os ydych o ddifrif ynglŷn â newid, gallwch ei gyflawni. Pob lwc!

Yr hyn a ddysgais o gymryd rhan ym mhodlediad #NatterOn

Mae’r ffordd ni’n dysgu a chymryd gwybodaeth i mewn yn datblygu drwy’r amser. Yn y blogbost isod mae Dyfrig Williams yn myfyrio ar beth y dysgodd trwy gymryd rhan ym mhodlediad NatterOn.

Copi o logo Podlediad NatterOn

Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf rydw i wedi bod yn gwrando ar bodlediadau i ehangu fy ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd yn y byd ac i gael dealltwriaeth well o sut allai wella fy ngwaith. Mae’r app Podcast Addict wedi bod yn ffordd dda o reoli podlediadau ddiddorol gan ei fod yn dod â sawl podlediad at ei gilydd i mewn i un ffrwd.

Dyma rai Podlediadau rydw i wedi ffeindio’n ddefnyddiol:

Fe fyddwn i’n ychwanegu podlediad NatterOn i’r rhestr hefyd. Mae’n bodlediad ddigidol a marchnata sy’n cael ei rhoi at ei gilydd gan Helen Reynolds a Ben Proctor. Mae gan y ddau ohonynt feddylfryd hynod o flaengar. Mae Helen yn deall yn well na neb sut fydd cyfryngau cymdeithasol yn newid cyfathrebu. Ac rydw i wedi dysgu cymaint am ddata o Ben. Mae ei blogbost ar Aeddfedrwydd Data mewn llywodraeth leol yn arbennig, ac mae’r erthygl wedi bod yn sail i fy meddylfryd wrth i mi fynd i’r afael a data gyda Gweithgor Data a Thechnoleg Swyddfa Archwilio Cymru.

Felly pan wnaethon nhw ofyn i mi gymryd rhan yn y podlediad, dywedais ‘ie’ yn syth achos byddai’n rhoi’r cyfle i mi wneud y fwyaf o’u harbenigedd ar wella gwasanaethau cyhoeddus am awr.

Felly beth ddysgais i?

Fi’n siwr na fydd hyn yn syndod i unrhyw un, fe ddysgais i lot. Rhannodd Helen blogbost diddorol iawn ar Rhagfarn Anymwybodol, sy’n dod a nifer o wahanol fathau o ragfarn at ei gilydd i mewn i bedwar prif broblem:

  • Rydym yn hidlo gwybodaeth yn weithredol er mwyn osgoi gormodedd o wybodaeth.
  • Mae diffyg ystyr yn ein ddrysu, felly ni’n llenwi’r bylchau i mewn.
  • Rhaid i ni weithredu’n gyflym, felly ni’n neidio i gasgliadau.
  • Rydym yn gweithio mewn amgylcheddau cymhleth felly rydym yn canolbwyntio ar y darnau pwysig. Mae ein penderfyniadau yn llywio ein modelau meddyliol o’r byd.

Felly beth mae hyn yn golygu i wasanaethau cyhoeddus? I mi, mae’n ymwneud ag ymwybyddiaeth. Os ydym yn cymryd yr amser i fyfyrio’n weithredol ar y problemau yma, gallwn fod yn fwy ymwybodol o’n rhagfarn wrth i ni ryngweithio â phobl a darparu gwasanaethau. Rydym wedi nodi hwn fel mater pwysig yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly cynhaliom ddigwyddiad mewnol i fynd i’r afael a hyn. Mae’r Storify yn cynnwys lot o adnoddau defnyddiol, gan gynnwys Prawf Cysylltiadau Ymhlyg Harvard.

Cawsom sgwrs dda iawn ar ymddiriedaeth a beth mae hyn yn ei olygu o ran Cysylltiadau Cyhoeddus a gwasanaethau yn gyffredinol ar ôl i Ben rhannu blogbost ar y rhyfel ar wirionedd. Edrychodd Helen ar y swyddi sydd ar frig Baromedr Ymddiriedaeth Edelman, sy’n dangos bod ymddiriedaeth pobl yn y llywodraeth yn dibynnu ar ba mor fodlon maen nhw â’u byd. Mae gan hyn oblygiadau mawr i sut rydym yn rhyngweithio â phobl o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd gwahanol.

Mae ein prosiect wedi gwneud gwaith ar bwysigrwydd ymddiriedaeth staff yng ngwasanaethau cyhoeddus. Mae’n ddiddorol i gymryd rhai o’r gwersi o’r gwaith yma a’i rhoi mewn cyd-destun ehangach o weithio a chymunedau:

  • Gallu – ydyn ni’n dangos ein bod ni’n gallu gwneud ein gwaith?
  • Haelioni – oes gennym gymhellion diniwed a phryder am eraill sydd tu hwnt i ein anghenion ein hunain?
  • Gonestrwydd – ydyn ni’n weithredu i’n egwyddorion? Ydych chi’n weithredu mewn modd deg ac onest?
  • Rhagweladwy – ydy pobl yn gwybod beth rydyn ni’n debyg o wneud?

Ac ar ôl i mi rannu blogbost ar Ddull Digidol GCHQ, dysgais hefyd bod y ddywediad am brogaod mewn dŵr berwedig yn celwydd a hanner!

Beth arall wnes i rannu?

Mae’r Gyfnewidfa Arfer Da hefyd yn meddwl am sut allwn ni helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu eu hymagweddau at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Felly rhannais blogbost Chris Bolton ar Gemau Efelychu a Gwneud Penderfyniadau Cynaliadwy gan ei fod wedi ysgogi mi i feddwl yn wahanol am sut rydyn ni’n helpu gwasanaethau i wella.

Rydw i hefyd wedi bod yn meddwl am rôl dysgu a datblygu yn y gweithle. Rydw i wedi bod yn gweithio i wasanaethau cyhoeddus am ddeng mlynedd neu fwy, a dim ond tri o’r cyrsiau hyfforddi sydd wedi cael effaith go iawn ar fy ngwaith. Felly ydy e’n bosib i ddolenni ein dysgu a datblygiad gyda gwelliant gwasanaethau cyhoeddus? Mae Carl Haggerty wedi ysgrifennu blogbost arbennig ar hyn.

Rhannu gwybodaeth mewn modd addas

Mae yna sleid rydym yn defnyddio yn ein digwyddiadau i ddangos y ffyrdd gwahanol rydym yn rhannu gwybodaeth – drwy ein blog, cyfryngau cymdeithasol, Treialon Coffi ar Hap, e-bost a dros y ffôn. Rydym yn cydnabod nad yw pawb eisiau derbyn gwybodaeth yn yr un modd, ac nid yw pawb yn prosesu’r wybodaeth yma yn yr un ffordd. Un o egwyddorion allweddol ein gwaith yw does yna ddim dull ‘un maint i bawb’ ar gyfer gwasanaethau gwell. Mae podlediadau yn un o sawl ffordd ddefnyddiol y gallwch dderbyn a rhannu gwybodaeth, felly mae’n werth gwrando ar y podlediad yma a phodlediadau eraill i weld os allan nhw eich helpu chi i wella’ch gwaith a beth chi’n gwneud.

Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol: cynhadledd am newid diwylliant

Beth oedd y negeseuon allweddol o’n digwyddiadau diweddar ar ddigidol? Isod mae Kelly Doonan o Gyngor Sir Dyfnaint yn adlewyrchu ar y prif bwyntiau dysgu mae hi’n cymryd i ffwrdd.

Llun o swigen siarad sy'n cysylltu pobl â chymylau, lluniau a dogfennau

Ar 13 Medi mynychais ddigwyddiad a drefnwyd gan Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru o’r enw Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol. Er i mi gyfeirio ato fel cynhadledd at ddibenion cyseinedd teitl yn Saesneg, seminar ydoedd mewn gwirionedd gyda gweithdai rhyngweithiol – gyda bwyd arbennig o flasus – a gafodd ei gynnal yn Stadiwm SWALEC yng nghanol Caerdydd.

Dyma fy marn am y digwyddiad a’r chwe neges allweddol a arhosodd yn y cof, sydd, fel mae’r teitl yn ei awgrymu, â dim i’w wneud â llwyfannau digidol mewn gwirionedd…

1. Mae digidol yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl… rhaid i ni gael dealltwriaeth glir o’r hyn mae’n ei olygu i ni

Dechreuodd y digwyddiad gydag anerchiad gan yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas. Yn ei anerchiad nododd; yn gwbl gywir: “Mae digidol yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl.”

Mae hyn yn wir ac rwy’n credu bod hyn yn broblem enfawr. Pan mae’n dweud bod angen dealltwriaeth glir arnom o’r hyn y mae’n ei olygu i ‘ni’ credaf fod angen un diffiniad clir arnom y mae pawb yn ei ddeall. Dyma’r unig ffordd y gallwn gael sgyrsiau cyson a gwneud penderfyniadau cyson.

Mae Cyngor Fwrdeistref Metropolitanaidd Rotherham newydd ryddhau ei strategaeth ddigidol newydd (fel PDF) sy’n egluro bod ‘llwyfannau digidol’ yn arwain taith Rotherham i fod yn awdurdod modern. Mae’n cysylltu â strategaethau llwyfannau digidol iechyd lleol, ond ymddangos nad yw’n cysylltu â newid diwylliant ehangach na strategaeth ailgynllunio gwasanaeth. A yw digidol yn golygu’r un peth i CBF Rotherham ag y mae i SAC neu i Gyngor Sir Dyfnaint? A allwn gydweithio’n effeithiol os nad oes gennym ddiffiniad cytûn?

2. Nid ystyr llwyfannau digidol yw gwneud yr un gwaith, ond yn ddigidol

Aiff Huw Vaughan Thomas ymlaen i egluro: “Nid ystyr digidol yw gwneud yr un gwaith, ond yn ddigidol.”

Sydd yn dechrau ein symud tuag at ddiffiniad o ddigidol, ac yn awgrymu ein bod yn dechrau trafod newid diwylliant a thrawsnewid gwasanaeth, ac nid creu strategaeth ddigidol newydd.

3. Mae camgymeriadau’n anochel; rhaid i ni beidio â chilio rhag hynny

Hefyd o anerchiad Huw Vaughan Thomas. Dyma un diddorol. Petai synnwyr cyffredin yn rhywbeth go iawn mae’r datganiad hwn yn teimlo fel y byddai’n enghraifft glasurol. Wrth gwrs bod pobl yn gwneud camgymeriadau; mae’n un o’r nodweddion sy’n ein diffinio a sut rydym yn gwybod nad peiriannau ydym does bosibl? Ac eto, mae’n teimlo’n rhyfeddol o radical cael archwilydd yn sefyll i fyny ac yn dweud hyn. Mae hefyd yn teimlo’n hynod gadarnhaol a (gobeithio) yn rhyddhaol.

Rhaid i ni symud i ffwrdd oddi wrth ddiwylliant sy’n tybio y gellir ‘polisïa’ pob camgymeriadau rhag eu bod yn digwydd petawn ni ond yn llunio polisïau digon caled. Yn hytrach, rhaid i ni annog myfyrio, dysgu a chyfrifoldeb unigol. Yn ôl i newid diwylliant eto.

Ar ôl anerchiad yr Archwilydd Cyffredinol mae yna sesiwn holi ac ateb gyflym gyda’r panel. Caiff y cwestiynau cyntaf eu paratoi gan y trefnwyr, ond daw’r gweddill o blith y gynulleidfa – mae’n ddull o weithredu gwych i gael pobl i gymryd rhan ac mae’n gweithio’n dda iawn.

4. Ni allwn ‘weithredu’n ddigidol’ nes ein bod yn deall beth sydd ei angen ar ddinasyddion mewn gwirionedd

Mae fy null diseremoni o gymryd nodiadau’n golygu nad wyf wir yn gwybod pa aelod o’r panel ddwedodd hyn, ond roedd yn un ohonynt yn sicr.

Caf e-bost bob yn ail diwrnod gan gwmni datblygu meddalwedd yn dweud wrthyf sut mae eu porth cwsmer yn mynd i chwyldroi systemau swyddfa gefn ac arbed arian. Mae ganddynt hyd yn oed fideo geirda cwsmer crand sy’n cynnwys rheolwr TG awdurdod lleol yn egluro sut mae’r trawsnewid digidol hwn wedi arbed cymaint o arian iddo ac wedi tacluso ei holl systemau swyddfa gefn, a does neb byth yn crybwyll anghenion defnyddwyr.

Ni allwn roi adnoddau digidol ar waith nes ein bod yn gwybod bod eu hangen arnom a’u bod yn datrys y broblem gywir – a gallwn ond gwneud hyn os ydym yn siarad â’n dinasyddion? Yn ddiau gallwn ond gwneud hynny os ydym yn cyfleu ein diben yn glir a’n bod yn deall pam ein bod yn gwneud unrhyw beth o gwbl? Beth sydd ei angen arnom yw newid diwylliant a dull gweithredu gwahanol ar gyfer deall ein dinasyddion.

5. Nid problemau technoleg yw’r rhain… galluogydd yw llwyfan digidol. Ni fydd prynu llwyth o iPads yn newid eich diwylliant.

Dyfyniad hynod glir gan yr Athro Tom Crick yn ei weithdy Gweithlu digidol gymwys, digiol alluog. I mi mae’r sesiwn hon yn codi rhai cwestiynau gwirioneddol ddiddorol am alluoedd digidol.

  • A oes yna safon ddigidol sylfaenol y mae angen i’n gweithlu ei chyrraedd?
  • Os oes, oni ddylai fod yn rhan o’n disgrifiadau swydd?
  • A oes gennym hierarchaeth o allu digidol yn ein gweithlu gydag ‘elît’ digidol sydd â llawer o sgiliau ac sy’n gweithio mewn ffyrdd tra gwahanol i’r gweddill sydd y tu ôl iddynt?
  • Sut ydym yn gwneud yn siŵr bod staff yn dysgu sgiliau digidol newydd yn hytrach na dysgu sut i ddefnyddio darnau o feddalwedd patent ar wahân?
  • A oes gennym uwch arweinwyr sy’n gwybod digon am lwyfannau digidol i wneud y math yma o benderfyniadau?
  • A oes angen haciwr cymwynasgar ar bob sefydliad ar y prif fwrdd, sy’n meddu ar rym go iawn?

Sy’n golygu mae’n debyg bod angen i ni edrych ar newid ein diwylliant o ran hyfforddiant staff a recriwtio.

Hefyd yn y gweithdy hwn rwy’n rhannu stori am ddarn o waith a wnaethom o dan y pennawd ‘gofynnwch am faddeuant, nid caniatâd’ sy’n gwneud i geg cyfranogwr arall agor mewn sioc yn llythrennol.

6. A allwch adeiladu timau prosiect amlddisgyblaeth, hyblyg a all weithio’n rhyngweithiol?

Ar gyfer y sesiwn olaf mynychais y gweithdy Dysgu o Rwydwaith Arloeswyr Digidol a gafodd ei gynnal gan Jess Hoare ac Amy Richardson o Y Lab sy’n cynnwys malws melys a sbageti.

Mae Y Lab yn labordy arloesed ar gyfer y sector cyhoeddus a grëwyd gan Nesta ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd. Mae ganddynt rai adnoddau ymarferol, gwych – y mae’r rhan fwyaf ohonynt ar gael ar wefan Nesta.

Mae’r gweithdy yn cynnwys sesiwn ateb cwestiynau cyflym gyda rhai cwestiynau pryfoclyd fel ‘[Yn eich sefydliad] Beth yw rôl ganfyddedig TG?’ ac ‘A allwch adeiladu timau proseict amlddisgyblaeth, hyblyg a all weithio’n rhyngweithiol?’. Yna rydym yn nodi problem ddigidol a defnyddio adnoddau Nesta, a chymorth a mewnbwn gan Jess ac Amy, i ddatrys y mater.

Yn weddol gyflym rydym yn dechrau trafod cyfleu’r broblem, nodi defnyddwyr, deall anghenion a chasglu tystiolaeth. Rydym yn treulio gweddill y sesiwn yn edrych, yn ei hanfod, ar ail-ddylunio’r gwasanaeth a’r prosesau.

Y broblem gyda thrawsnewid digidol

Gwnaeth pob sgwrs a gefais yn y digwyddiad hwn a ddechreuodd gyda thrawsnewid digidol orffen gydag edrych ar newid diwylliant a thrawsnewid systemau.

Credaf fod angen i ni gael diffiniad cytûn o ystyr digidol a daeth yn amlwg yn ystod y digwyddiad hwn fod llawer o bobl – ond yn sicr nid pawb – yn deall mai galluogydd yw llwyfannau digidol ac nid y diben ynddo’i hun. Baswn i’n dweud nad oes angen strategaethau digidol arnom (sori Rotherham) ond yn hytrach mae angen strategaethau trawsnewid systemau sy’n cynnwys galluogwyr digidol arnom. Mae angen i ni ddechrau gyda diben a dechrau gyda defnyddwyr a deall beth yw ein diben a beth sydd eu hangen arnynt.

Credaf fod cyfle go iawn yma. I ddechrau sgyrsiau am drawsnewid digidol a, drwy ddigwyddiadau fel hyn, dangos sut mae’n rhaid i’r sgwrs symud i fod yn un am drawsnewid systemau.

Mae Cyfnewidfa Arfer Da SAC yn cynllunio rhagor o ddigwyddiadau yn y gyfres hon a byddai’n wych eu gweld yn herio cyfranogwyr i feddwl am y ffordd rydym yn defnyddio llwyfannau digidol fel catalydd ar gyfer newid sefydliadol gwirioneddol – ac nid dim ond prynu llwyth o iPads.

Methu â dysgu o fethiant

Sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud defnydd gwell o wybodaeth sy’n dod o fethiant? Isod mae Dyfrig Williams yn blogio ar ddysgu o fethiant.

Wythnos diwethaf fe wnes i fynd i’r gweithdy ar Ddysgu o Fethiant yng Nghaerdydd. Cyn i mi fynd ymhellach, mae rhaid i fi wneud e’n glir fy mod i’n cysidro fy ngwaith fy hunain isod, nid gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da.

Mae’n deg i ddweud bod y digwyddiad yn agoriad llygad, achos wnaeth e roi’r cyfle i ni gyd edrych ar agweddau o’n gwaith sydd ddim yn cael eu trafod yn draddodiadol. Ond pam ddim?

Yn ei phapur ar ‘Strategaethau ar gyfer dysgu o fethiant,’ mae Amy C. Edmondson yn rhannu’r Sbectrwm Methiant, sy’n dangos mai’n anaml iawn mae methiant yn dod o weithredoedd gan unigolyn. Felly pam ydyn ni’n dal i feddwl bod diwylliant gwaith effeithiol a chynhyrchiol yn un sy’n anwybyddu methiant ar bob cyfrif?

“Order, order!”

Yn yr ymarfer grŵp roedd pob bwrdd yn cynllunio amgylchedd sy’n galluogi arloesi, ac roedd pob un yn amgylchedd lle’r oedd methiant yn cael ei dderbyn. Mae hyn yn gwneud synnwyr, achos dydyn ni ddim yn hybu arloesi drwy glampio lawr ar achosion o fethiant, ni’n clampio lawr ar syniadau am ffyrdd newydd o weithio.

Fe wnes i gael y dasg o adrodd nôl ar beth roedd ein bwrdd ni’n meddwl, ac roedd sylwadau ni i gyd o amgylch y pwynt bod amgylchedd sy’n galluogi arloesi yn un sy’n gymhleth ac yn llawn llanast. Beth roeddwn i’n ceisio cyfleu oedd bod hyn yn ymagwedd draddodiadol, a dyma sut rydw i wedi bod yn dueddol o ystyried arloesi. Mae arloesi wedi bod yn isgynnyrch o fy ngwaith i, yn hytrach na’r canlyniad neu’r ffocws. Dyw e ddim wedi bod yn rhywbeth sy’n cael ei nodi yn fy ngwerthusiadau swydd, a dyw e ddim yn mesur llwyddiant yn fy ngwaith i.

Mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach achos mae’r amgylchedd ni’n gweithio ynddo yn gymhleth hefyd. Does yna ddim un ymateb sy’n gweithio i bawb sy’n derbyn a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Efallai na fydd rhywbeth sy’n gweithio mewn un gymuned yn gweithio mewn un arall.

Wedi dweud hyn i gyd, mae yna rhai dulliau arloesi sy’n llawer mwy trylwyr. Roedd e’n ddiddorol i edrych ar waith y Bromford Lab, sy’n gweithio i strwythur i brofi syniadau arloesi. Un o’u hegwyddorion sylfaenol yw ‘i fethu’n gyflym,’ sy’n golygu bod nhw’n cael gafael ar lot o wybodaeth o’u profion.

Mae’r dull yma yn sicrhau bod e’n lot haws i fesur llwyddiant sy’n dod o arloesedd. Rwy’n siŵr bod yna lot o arloesi yn cymryd lle yn Bromford tu hwnt i’r labordy hefyd, ond mae mynd â syniadau a materion i mewn iddo yn rhoi’r cyfle i werthuso nhw mewn ffordd ffurfiol. Mae’n fwyaf amlwg yn ei defnydd o Trello, lle mae gwerthuso yn rhan hollbwysig o’r broses profi.

Gwneud lle i werthuso

Y prif bwynt dysgu i mi’n bersonol oedd i gwneud yr amser i werthuso effaith. Rydw i wedi tueddu i drin gwerthuso fel rhywbeth sy’n cael ei wneud pan rwy’n cael y cyfle, yn hytrach na’i wneud yn rhan o fy ngwaith. Ac os dydych chi ddim yn cymryd y cyfle i edrych ar pam mae rhywbeth wedi methu, yna does yna ddim lot o gyfle i ddysgu ohono.

Felly rwy’n mynd i ddechrau’r broses o werthuso’n fwy trwyadl. Mae’r dyddiadau yn fy nyddiadur – byddai’n cymryd amser allan o fy ngwaith i werthuso. Fe wnâi gadael fy nesg i, fel fy mod i’n gallu dianc o’r gwrthdyniadau arferol fel e-bost a’r peil mawr o bapurau, er mwyn mynd i’r meddylfryd iawn ar gyfer y gwaith. Dymunwch lwc i fi!

Google Atmosphere: meddwl yn greadigol ac arloesi dewr

Google Atmosphere

Cymerodd Dyfrig Williams ran yn Google Atmosphere, gweminar oedd yn archwilio diwylliannau o arloesedd. Yn y blogbost yma, mae’n edrych yn ôl dros y pwyntiau dysgu allweddol.

Mae papur Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 yn amlinellu’n glir ein bod ni mewn cyfnod heriol i wasanaethau cyhoeddus, gan fod yna lot llai o adnoddau i ddarparu gwasanaethau mewn cyfnod o alw cynyddol. Os dydyn ni ddim yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau yn yr un ffordd, sut gallwn ni dechrau newid y ffordd ni’n gweithio? Dyma beth oeddwn i’n pendroni amdano wrth i mi wylio Google Atmosphere, a wnaeth rhannu gwersi o fudiadau yn y sector preifat.

O ble mae syniadau arloesol yn dod?

Yn y sesiwn hon edrychodd Tim Brown o IDEO ar pam mae rhaid i ni feddwl am ein hopsiynau mewn ffordd gwbl wahanol os ydyn ni’n edrych amdano atebion gwahanol. Fe wnaeth Tim edrych ar sut rydyn ni’n edrych ar ein problemau, achos os ydyn ni’n fframio cwestiynau mewn ffordd benodol iawn, does dim lot o gyfle i ddod o hyd i atebion gwahanol. Enghraifft Tim oedd y cwestiwn “Sut rydyn ni’n gwneud y gadair hon yn fwy cyfforddus?” Os ydyn ni’n gofyn “Sut y gallwn ni eistedd mewn ffyrdd gwahanol?” yn lle, mae gennym lot mwy o gyfle i feddwl a gweithio’n wahanol.

Mae hyn yn cyd-fynd gyda meddylfryd 10x Google, lle maen nhw’n edrych ar sut i fynd i’r afael â materion trwy weithio mewn ffordd deg waith yn well yn hytrach na 10% yn well. Yr unig ffordd i wella yn y modd yma yw i feddwl mewn ffordd cwbl wahanol.

Meithrin arloesedd tîm: Golwg tu mewn i reolau gwaith Google

Roedd gwrando ar Laszlo Bock o Google yn galonogol, achos fe wnaeth e drafod rhai o agweddau ein gweminar Syniadau Staff. Pwysleisiodd Laszlo’r pwysigrwydd o ymgysylltu â staff. Mae’n hawdd i reolwyr i lynu ato beth maen nhw’n gwybod, am eu bod nhw wedi cael eu swyddi trwy wneud penderfyniadau da. Ond fel nododd Laszlo, mae gan staff siwd gymaint o wybodaeth, mae’n rhaid gwneud y fwyaf ohono.

Mae’n ddiddorol bod penderfyniadau Google ddim yn seiliedig ar reddfau, ond yn hytrach ar ddata. Cafodd ei Brosiect Ocsigen ei gynllunio i ffeindio’r nodweddion o reolwyr llwyddiannus yn Google. Treuliodd tîm y prosiect flwyddyn yn archwilio data o arfarniadau, arolygon gweithwyr, gwobrau a ffynonellau eraill. Fe wnaeth hyn arwain at fwy na 10,000 o arsylwadau o ymddygiad rheolwyr.

Cyflawni arloesedd mewn busnes: Sut wnaeth Airbnb trawsnewid diwydiant

Rydym wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith ar reoli risg yn ddiweddar (gan gynnwys gweminar ar y pwnc), felly roedd pwyntiau Jonathan Mildenhall o Airbnb ar risg yn amserol iawn. Fe wnaeth Jonathan annog ni i gymryd risgiau ac i ddathlu methiant a llwyddiant. Pob mis maen nhw’n dathlu methiannau gwych er mwyn hwyluso’r diwylliant yma, gan ei fod yn canolbwyntio ar syniadau sydd wedi methu. Dywedodd Jonathan “Po fwyaf mae cwmni yn dathlu methiant, y mwyaf hyderus maen nhw wrth gymryd risgiau. Po fwyaf hyderus mae’r cwmni wrth gymryd risgiau, y mwyaf llwyddiannus mae’r risgiau hynny.”

Os ydych chi’n cysidro rhoi hwn ar waith yn y sector cyhoeddus, mae Chris Bolton wedi ysgrifennu sawl blogbost ar ein hagwedd tuag at fethiant, gan gynnwys y grynodeb yma ar garu a dysgu o fethiant.

Cymryd risgiau a reolir yn dda yn y sector cyhoeddus

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi annog gwasanaethau cyhoeddus i gymryd risgiau sydd wedi eu rheoli’n effeithiol, a gallwch ei weld yn gwneud hynny yn y fideo uchod. Fel mae’n dweud, os mae’r risgiau yna wedi eu rheoli’n dda, byddwn yn edrych i rannu’r gwersi a ddysgwyd yn hytrach na bwrw bai.

Gall ariannu torfol helpu i ail-lunio gwasanaethau?

Ail-lunio gwasanaethau gyda'r CyhoeddFel rhywun sydd ddim yn gwybod ystyr y gair ‘gwyliau’, mae Chris Bolton, Rheolwr y Gyfnewidfa Arfer Da, yn dysgu am waith y Comisiwn Gwarantau yn Nova Scotia.

Mae’r comisiwn wedi bod yn gwneud bach o waith ar ariannu torfol yn ddiweddar, gan fod nhw’n edrych i gynnig eithriadau fel bod busnesau bach a chanolig yn gallu codi arian mewn ffordd newydd. Mae fe hefyd yn golygu bod gan fuddsoddwyr ffordd arall o fuddsoddi ynddynt. Maen nhw wedi bod yn cynnal sesiynau gwybodaeth i’r cyhoedd er mwyn ffeindio allan barn pobl.

Crowdfunding / Ariannu Torfol

Ariannu torfol yw lle mae prosiect yn cael ei ariannu trwy gyfraniadau o nifer fawr o bobl, fel arfer dros y rhyngrwyd. Fel ffan mawr o gerddoriaeth, rydw i ‘di cymryd rhan mewn ychydig o ymarferion ariannu torfol, lle mae cerddorion yn edrych i gynhyrchu gwaith byddai ddim yn gweld golau dydd fel arall. Dim ond un enghraifft yw hynny – mae ‘na gymaint o brosiectau rhyfedd a rhyfeddol, o lyfr coginio da’r thema o facwn i gerflun pwmpiadwy tri metr uchel o ben Lionel Richie.

Ydy e’n bosib i wasanaethau cyhoeddus gymryd rhan mewn ariannu torfol? Mae ariannu torfol wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae yna sawl platfform gwahanol, o IndieGoGo i Kickstarter. Yn y dyfodol agos fe fydd Heliwm yn cael ei lansio hefyd, sydd yn ffocysu ar brosiectau creadigol a digidol yn y Gymraeg. Mae’n ddiddorol gweld bod yna hyd yn oed platfform ar gyfer prosiectau dinesig, sef Spacehive. Mae fe eisoes ‘di cael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch cyllid yng Nghanolfan Gymunedol Glyncoch, lle bydd canolfan gymunedol newydd yn cael ei hadeiladu i gwrdd ag anghenion y gymuned.

Mae Nesta wedi gofyn rhai cwestiynau allweddol yn y blogbost yma – oes ‘na pherygl bydd arian torfol yn cymryd lle arian cyhoeddus? Ydyn e’n bosib i ariannu torfol gweithio ar gyfer gwasanaethau a chynnyrch? Mae’r rhain yn gwestiynau pwysig iawn i’w gofyn. Ond maent hefyd yn edrych ar bwyntiau cadarnhaol, a hoffwn ychwanegu un arall – gallai hwn newid y berthynas rhwng darparwyr a phobl sy’n derbyn gwasanaethau?

Yn y Gyfnewidfa Arfer Da rydym yn cydnabod bod rhaid i wasanaethau cyhoeddus newid y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu a gan bwy. Rydyn ni eisoes wedi gweld hynny yn ein seminar dysgu a rennir ar Ail-lunio Gwasanaethau yng Nghaerdydd, lle wnaethon ni arddangos gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu darparu gan ymddiriedolaethau, y sector gwirfoddol a chynghorau cymuned. Yn yr un seminar dywedodd Tony Bovaird wrthym fod chwe miliwn o bobl yn gweithio i wasanaethau cyhoeddus, a bod yna chwe deg miliwn o ddinasyddion yn y Deyrnas Unedig. Serch hyn, mae cydbwysedd y grym yn dal i ffafrio’r lleiafrif. Gallai ariannu torfol helpu i newid y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweld pobl, fel bod nhw ddim yn cael eu gweld fel derbynwyr diolchgar, ond yn hytrach fel pobl sydd â rhan allweddol i chwarae mewn gwasanaethau cyhoeddus?

Felly os oes angen i chi ail-lunio gwasanaeth a da chi eisiau cael syniadau am ddulliau gwahanol, byddwn yn cynnal seminar arall yn Llanrwst ar 18 Medi. Ar hyn o bryd mae gennym naw lle ar ôl. O’n cyflwyniadau diweddar i rwydwaith Gweithio Gyda Nid I, ni’n gwybod bod ‘na lot o bobl yn yr ardal sy’n teimlo’n gryf bod angen rhoi cyd-gynhyrchu ar waith. Ni’n edrych ‘mlaen i ddysgu mwy am sut mae’r berthynas rhwng y rhai sy’n cyflwyno ac yn derbyn gwasanaethau yn cael ei newid yng Ngogledd Cymru.

Dyfrig

Diwrnod Hacio’r GIG: Coffi, Apps a Gweledigaeth

Y grwp yn gweithio'n galed / The group hard at work

Mae ail ddydd Diwrnod Hacio’r GIG wedi dechrau, ac rydw i jyst wedi bod yn sgwrsio â Peter Davies, sy’n Ymgynghorydd mewn Diabetes yn Sandwell a Gorllewin Birmingham dros gwpl o gwpanau mawr o goffi. Teithiodd Peter i Gaerdydd er mwyn bod yn rhan o’r digwyddiad.

Roedd e’n ddiddorol clywed Peter yn siarad am sut gall digwyddiadau fel yr un ‘ma ychwanegu gwerth i’r GIG drwy gynnwys pobl yn gynnar yn y broses ddylunio.

“Os da chi ddim yn cynnwys pobl yn gynnar yn y broses glinigol, anghofiwch e, dyw e ddim yn mynd i weithio. Mae profiad o bob cwr o’r byd yn dweud os da chi ddim yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn defnyddio’u sgiliau, yna fe wnewch chi wastraffu amser ac ymdrech”.

Mae ‘na apps gwych ar gyfer gofal iechyd yn cael eu datblygu, fel yr app Futisu sy’n defnyddio camera i ganfod newidiadau mewn lliw’r wyneb er mwyn monitro cyfradd curiad y galon. Mae grŵp Peter yn ceisio datblygu un arall er mwyn helpu i wella gofal iechyd.

Luke Anderson da enghraifft o'r cardiau / Luke Anderson with an example of teh cards

Fe wnaeth Luke Anderson, Offthalmolegydd yn Ysbyty’r Heath, esbonio i mi sut maen nhw’n defnyddio cardiau i ganfod symudiad y llygaid gan blant sydd o dan 2 oed a phobl sydd ddim yn gallu lleisio. Gall hyn fod yn oddrychol gan fod e’n dibynnu ar ble da chi’n meddwl mai’r claf yn edrych. Mae’r grŵp yn edrych i greu offer sgrinio ar iPad i fesur golwg. Fe fydd e’n fflachio delweddau hwyl i ddenu’r llygaid, a bydd yr app yn gweld lle mae’r llygaid yn edrych. Os dyw llygaid y claf ddim yn edrych i ble dylai nhw fod, yna efallai mai ‘na problemau. Bydd y lluniau i gyd mewn llwyd niwtral, achos byddai gwahanol lefelau o liw yn sgiwio’r canlyniadau oherwydd byddan nhw’n denu’r llygaid yn wahanol. Bydd yr app yn rhoi lefel gywir o graffter gweledol ac yn helpu i osgoi llawdriniaeth ddiangen.

Mae’r grŵp yn defnyddio cod ffynhonnell agored o OpenCV sy’n galluogi camera’r iPad i bennu ble mae’ch wyneb, ac wedyn maen nhw’n addasu fe ar gyfer eu hanghenion. Nawr byddant yn rhannu’r newidiadau maen nhw wedi gwneud i’r cod fel gallai’r gymuned ffynhonnell agored defnyddio fe.

Dyw’r grŵp ddim yn edrych i weithio ar ben ei hun ‘da’r app ‘ma – maen nhw’n gobeithio cysylltu ‘da Open Eyes, sef cofnod gleifion electronig sy’n cael ei redeg o Moorfield er mwyn rhannu fe ymhellach.

Mae Peter yn gallu gweld sut gellir defnyddio hwn trwy ei brofiad uniongyrchol – mae’n dod ar draws cleifion sydd â phroblemau thyroid, sy’n achosi problemau gyda llygaid. Bydd e’n ddiddorol i weld sut bydd yr app yn cael ei ddatblygu ymhellach a’i symud ymlaen.

Dyfrig