Tag Archives: archwilio

Bod yn agored yn ddiofyn

Sut allai swyddfa archwilio agor ei systemau fel bod gwybodaeth yn agored yn ddiofyn? Siaradodd Dyfrig Williams â Tom Haslam am ddull gweithredu Swyddfa Archwiliwr Cyffredinol Seland Newydd.

Logo Swyddfa Archwiliwr Cyffredinol Seland Newydd

Rwy’n gweithio ar brototeip Data Agored fel rhan o brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ystod y gwaith yma fe ddywedodd cydweithwyr i mi y gallem wella ein ffordd o drin data. Ond nid trwy casglu data newydd o reidrwydd – dywedodd y rhan fwyaf o’m cydweithwyr mai’r mater pwysicaf iddyn nhw oedd meithrin ymwybyddiaeth well am y data sydd gan y swyddfa yn barod, a gallu cael gafael ar y data hynny mewn ffordd rhwydd.

Mae gan ein sefydliad ddau ymarfer arbenigol – archwilio ariannol ac archwilio perfformiad. Mae’r rhaniad hwn yn hwyluso arbenigedd, fel bod gennym gydweithwyr sy’n hynod wybodus yn eu meysydd arbenigedd. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu bod rhaid i ni weithio’n galed i chwalu seilos sefydliadol, sydd weithiau’n cael eu hatgyfnerthu gan y systemau sydd gennym ar waith.

Mae diogelu data yn nodwedd bwysig o’r ffordd rydym wedi gosod ein systemau gwybodaeth. Mae ffolderi rhwydwaith wedi’u diogelu. Dim ond timau a phersonél penodol sy’n gallu cael mynediad atynt, sy’n golygu bod y data sydd ynddynt yn gaeedig i bobl eraill yn ddiofyn. Mae ein system SharePoint hefyd wedi’i gosod mewn ffordd debyg ac nid yw’r swyddogaeth chwilio cystal ag y gallai fod. Mae hyn i gyd yn golygu eich bod yn annhebygol o ddod o hyd i ddata oni bai eich bod chi’n gwybod yn union ble mae fe.

Dysgu gan swyddfeydd archwilio eraill

Fe wnes i sôn am gydweithiwr o’r enw Tom Haslam yn fy mlogbost diwethaf ar waith Swyddfa Archwilio Queensland. Mae Tom wedi gweithio yn Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol yn Wellington, Seland Newydd. Nododd ei swyddfa nhw problemau tebyg i’r rhai sydd gennym o ran y ffordd roeddent yn trefnu ac yn dal eu data.

I fynd i’r afael â hyn, rhoddodd y Swyddfa system wybodaeth newydd ar waith sy’n seiliedig ar SharePoint, ac i ategu hyn gwnaethant sefydlu grwpiau peilot traws-swyddfa o’r enw ‘iShare’. Roedd y grwpiau hyn yn seiliedig ar bynciau swyddogaethol trawsbynciol (er enghraifft yr iShare Trafnidiaeth) gyda’r nod o helpu i chwalu seilos sefydliadol a hyrwyddo dull gweithredu un tîm ar gyfer y swyddfa gyfan.

Roedd mabwysiadu’r system wybodaeth newydd yn gyfle i’r Swyddfa drafod rhinweddau o systemau gwybodaeth sy’n agored neu’n gaeedig yn ddiofyn. Trafodwyd hyn ym mhob rhan o’r swyddfa mewn sawl cyfrwng.

Ar y cyfan, roedd y system wybodaeth flaenorol yn annog dull gweithredu lle’r oedd gwybodaeth yn ‘gaeedig nes ei bod yn agored’. Ond yr ymdeimlad cyffredinol oedd y gallai data caeedig rwystro’r Swyddfa rhag gwneud y gorau o’r wybodaeth a ddelir ganddi. Tueddiad naturiol pob archwilydd yw bod yn ofalus, felly o dan ddull gweithredu lle mae gwybodaeth yn ‘gaeedig oni bai ei bod yn agored’, gellid ystyried bod gwneud gwybodaeth yn ‘agored’ yn risg y byddai’n well ei hosgoi, hyd yn oed os nad oes cyfiawnhad dros wneud hyn. Yn ymarferol, mae gwneud gwybodaeth yn gaeedig yn golygu bod angen gosod hawliau mynediad a chaniatâd amrywiol. Gall hyn ynddo’i hun fod yn rhwystr rhag rhannu data.

Fe wnaeth Swyddfa’r Archwilydd Cyffredinol strwythuro ei system wybodaeth newydd fel bod gwybodaeth yn ‘agored oni bai ei bod yn gaeedig’, gyda metadata er mwyn helpu staff i ddod o hyd i’r hyn y maent yn chwilio amdano. Roedd y dull gweithredu hwn yn hwyluso rhannu data, gan annog staff i feddwl am sut y gallent ychwanegu gwerth drwy gydgysylltu gwybodaeth. Roedd gosodiad diofyn lle bo gwybodaeth yn ‘agored oni bai ei bod yn gaeedig’ yn gwneud i staff ystyried yn fwy gofalus y rhesymau dros gau mynediad, er enghraifft deunydd ag iddo oblygiadau o ran diogelwch gwladol neu wybodaeth bersonol adnabyddadwy.

Roedd y system Technoleg Gwybodaeth yn rhedeg yn fwy dibynadwy gan ei fod wedi’i ffurfweddu’n fwy taclus heb ganiatadau a chyfyngiadau diddiwedd. Fe wnaeth dibynadwyedd gwell y system SharePoint newydd arwain at arbedion amser a chynnydd yn hyder y staff a’u boddhad â Thechnoleg Gwybodaeth. Gwnaeth y cynlluniau peilot iShare annog aelodau’r grwpiau i chwilio am gyfleoedd i gydweithio a rhannu gwybodaeth.

Wrth i’r cynlluniau peilot hyn fynd yn eu blaen, ac wrth i’r swyddfa ehangach gael gwybod am eu llwyddiannau, gwnaethant annog agwedd fwy agored o fewn y timau – roedd pobl yn gallu gweld bod modd rhannu data a chydweithio heb i bopeth fynd o chwith.

Roedd Tom hefyd yn meddwl bod ymddiriedaeth yn ffactor. Mae ymdrin â gwybodaeth sensitif am gleientiaid yn rhan o waith bob dydd archwilydd. Felly, roedd gwneud data yn agored yn arwydd clir bod y Swyddfa yn amgylchedd ymddiriedaeth uchel.

Fodd bynnag, mae newid yn daith ac mae’r Swyddfa yn ategu hyn o’i phrofiad ei hun. Mae’n parhau i annog ac anelu at amgylchedd lle bo gwybodaeth yn agored nes ei bod yn gaeedig. Ond nid yw pethau wedi bod yn hollol ddidrafferth ers i’r system wybodaeth newydd gael ei chyflwyno. Mae rhai aelodau o staff wedi croesawu’r cyfle i rannu gwybodaeth yn agored. Mae rhai eraill wedi bod yn fwy petrusgar ynglŷn â rhannu mwy o wybodaeth, neu maent yn dal i weithredu yn yr un ffordd ag o’r blaen a heb newid i fod yn fwy agored. Mae wedi bod yn ofynnol i’r Swyddfa hyrwyddo ac atgyfnerthu’r dull gweithredu newydd o bryd i’w gilydd. Mae’n cydnabod na fydd newid o’r maint hwn yn digwydd dros nos na heb ymdrech barhaus. Ond mae’r diben – sef defnyddio gwybodaeth gyfunol i ddylanwadu ar welliant a gwella atebolrwydd – yn cyfiawnhau’r ymdrech.

Sut mae hyn yn cyd-fynd â gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da

Mae gwaith y Gyfnewidfa Arfer Da ar rannu data yn effeithiol yn dangos bod hyn yn dibynnu ar yr egwyddor o fabwysiadu camau cymesur wrth ddiogelu data.

Mewn blog blaenorol fe wnes i ceisio weld os oedd rhannu data yn rhwystr rhag gwella gwasanaethau cyhoeddus, ac ynddo fe wnes i grybwyll y Comisiynydd Gwybodaeth. Dywedodd ef fod pobl eisiau i’w data personol weithio iddyn nhw, a’u bod nhw’n disgwyl i sefydliadau rannu eu data personol lle bo angen er mwyn iddynt darparu’r gwasanaethau maen nhw eisiau. Dywedodd hefyd fod pobl yn disgwyl i gymdeithas ddefnyddio ei hadnoddau gwybodaeth i atal trosedd a thwyll a chadw dinasyddion yn ddiogel. Mae’n sicr yn werth gwylio Anne Jones, Comisiynydd Gwybodaeth Cynorthwyol Cymru, yn amlinellu sut y gellir rhannu data yn effeithiol.

Bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol sydd ar ddod yn tynhau’r trefniadau diogelu data i raddau, ond mae fe hefyd yn gyfle i ailystyried sut y gallwn rannu data yn effeithiol. Yn benodol, sut rydym yn sicrhau bod archwilwyr yn ddigon hyderus i wneud y gorau o waith casglu a rhannu data.

Rwyf wedi blogio’n flaenorol am ein digwyddiad ymddiriedaeth staff, lle y clywsom fod ymddiriedaeth yn hanfodol er mwyn i wasanaethau cyhoeddus allu cymryd risgiau sydd wedi’u rheoli’n dda, arloesi a darparu gwasanaethau cyhoeddus sydd wir yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Mae Tom yn arwain prosiect ar wahân o fewn Swyddfa Archwilio Cymru i edrych ar y ffordd rydym yn defnyddio ein systemau gwybodaeth gan gynnwys SharePoint. Un opsiwn rydym yn ei ystyried yw defnyddio SharePoint Online, a fyddai’n ei gwneud yn haws i ni ddatblygu maes y gallai cyrff allanol a phartneriaid gael mynediad ato – porth. Mae blogbost Leigh Dodds yn rhoi trosolwg da o’r hyn y gallai porth ei gynnwys.

Byddai porth yn ein galluogi i rannu data â chyrff a archwilir a phartneriaid yn fwy effeithiol. Rydym wedi profi’r cysyniad hwn gyda phorth prototeip sy’n seiliedig ar SharePoint ar gyfer rhai o’n cydweithwyr ym maes iechyd. Bydd yr hyn a ddysgir drwy hyn yn bwydo’n ôl i brosiect Tom.

A’r prif beth y mae gweithio ar brosiect Archwilio Arloesol wedi’i ddysgu i mi yw mai dulliau gweithredu cydgysylltiedig a chydweithredol yw’r ffordd orau o sicrhau ein bod yn ychwanegu gwerth gwirioneddol at y gwaith a wnawn.

Sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi data i archwilio’n fwy effeithiol

Beth allwn ni ddysgu o’r ffordd mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi ei data ar gyfer eu harchwiliadau? Cafodd Dyfrig Williams sgwrs ffôn yn hynod o gynnar yn y bore er mwyn darganfod mwy.

Fel rydw i wedi dweud o’r blaen yn fy mlogbost ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, rwy’n edrych i nodi ffyrdd o wneud defnydd gwell o ddata a thechnoleg i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n gweithio. Fe wnes i ddod ar draws yr erthygl hon ar sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn dadansoddi data i gael mewnwelediad gwell iddo. Trwy fy nghydweithiwr Tom Haslam trefnais sgwrs yn gynnar iawn yn y bore rhyngof i a fy nghydweithwyr (Steve Lisle a Nigel Blewitt) a Daniele Bird, yr Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol ar gyfer Archwilio Perfformiad yn Queensland, Ben Jiang, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Ddadansoddi Data Archwilio a David Toma, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaethau Archwilio Perfformiad.

Beth mae Swyddfa Archwilio Queensland yn gwneud?

Edrychodd y swyddfa ar gyfleoedd i ddefnyddio offer delweddu data mewn ffordd fwy soffistigedig yn ôl yn 2014 er mwyn cael dealltwriaeth well o’r cyrff maen nhw’n archwilio. Fe wnaethon nhw dreialu a phrofi Qlikview, sef meddalwedd sy’n gallu cael ei ddefnyddio trwy’r we neu ar ben desg. Fe wnaethon nhw sefydlu tîm dadansoddi data yn 2015, ble roedd pob un ohonynt yn gyn-archwilwyr. Fe wnaeth y tîm derbyn hyfforddiant i ddechrau, ond ers hynny mae eu datblygiad wedi dod o hunan-ddysgu. Y cynllun ar y dechrau oedd gweithio ar Archwilio Perfformiad. Fodd bynnag, symudodd y ffocws i Archwilio Ariannol gan fod yr un setiau o ddata yn cael ei ddefnyddio tro ar ôl tro, felly roedd yn haws i alluogi gwaith effeithlon ac effeithiol o’i gymharu â’r mathau gwahanol iawn o ddata sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau Archwilio Perfformiad.

Y pwysigrwydd o berthnasau

Fe wnaeth ein seminarau yn 2015 a 2016 ar gau cyfrifon yn gynt dangos i mi fod rhaid i’r archwilydd a’r corff sy’n cael ei archwilio i gydweithio’n agos i weithio’n effeithiol. Adeiladodd Swyddfa Archwilio Queensland prosesau a systemau awtomatig i gasglu data, ond roeddwn nhw’n dal i gael cwestiynau o gleientiaid am y diogelwch o beth roedden nhw’n gwneud a beth roedden nhw’n mynd i wneud  gyda’r data. Rhoddir tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml at ei gilydd yn fewnol fel y gallai arweinwyr y timau archwilio tawelu meddyliau’r sefydliadau ac adeiladu ymddiriedaeth. Fe wnaethon nhw hefyd cymryd y baich o newid i ffwrdd o’r cyrff drwy eu galluogi i anfon y data heb ei fformatio. Gwnaeth y Tîm Dadansoddi Data y gwaith o drawsnewid a glanhau’r data, ac maen nhw’n awr yn gallu cynnig mewnwelediad unigryw i’r data gan eu bod nhw’n casglu data o gyrff amrywiol. Maen nhw’n gallu ffurfio trosolwg o faterion yn gyflym, ac maen nhw hefyd yn gallu meincnodi perfformiad cleientiaid er mwyn dangos sut maen nhw’n cymharu â’u cyfoedion (cewch gip ar y sleid isod). Maen nhw hefyd yn gallu defnyddio’r meddalwedd i gynnal ymchwiliadau fel Dadansoddiad Benford, sy’n nodi’n glir pwy sydd yn bell o’r norm. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth nodi twyll.

Graff sy'n dangos llawer o ddotiau at ei gilydd ac un sydd glir ymhell i ffwrdd ar werth dyledion drwg

Sut mae Swyddfa Archwilio Queensland yn cael mewnwelediad i werth dyledion drwg

Archwilio Perfformiad

Mae’r Tîm Dadansoddi Data hefyd yn cefnogi staff Archwilio Perfformiad. Mae’r tîm yn defnyddio cloddio testun i archwilio pynciau amrywiol, er enghraifft i weld beth mae athrawon yn nodi fel eu nodau datblygu. Mae hyn wedi galluogi iddynt gynhyrchu Wordclouds a chrynodebau testun o’r 10 datganiad uchaf. Maen nhw hefyd yn defnyddio’r dechneg yma i ysgubo trwy Hansards.

Mae’r tîm hefyd yn edrych ar sut y gall hyn helpu staff i ddewis pynciau i archwilio iddynt. Maen nhw’n dadansoddi teimlad ar Twitter, sy’n bwydo i mewn i’r cynllunio strategol. Mae hyn yn eu helpu nhw i ddeall y materion sydd yn bwysig i’r byd ehangach a beth mae pobl yn dweud amdano’n nhw. Er bod y dechnoleg wedi cael ei hadeiladu ar gyfer Twitter, gallai hefyd gael ei ddefnyddio ar gyfer rhwydweithiau fel LinkedIn, a fyddai’n galluogi archwilwyr i gael gafael ar wahanol ddefnyddwyr a safbwyntiau. Maen nhw hefyd wedi adeiladu offer sy’n graddio pwysigrwydd y trydar. Mae hyn yn galluogi archwilwyr i ganolbwyntio adnoddau ar y negeseuon pwysig.

Creu amgylchedd gwaith cadarnhaol

Fe wnaeth Daniele, Ben a David gydnabyddi’r pwysigrwydd o arweinyddiaeth gref i greu amgylchedd ble mae gwaith y Tîm Dadansoddi Data yn ffynnu. Maen nhw wedi derbyn cefnogaeth o’r lefel uchaf o’r Archwilydd Cyffredinol blaenorol a’r Archwilydd Cyffredinol Dros Dro cyfredol. Mae hyn yn rhywbeth ni’n gweld o’n Harchwilydd Cyffredinol ein hunain yn natblygiad y prosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, a gobeithio y gall canfyddiadau ein gwaith ni ein helpu ni i ddarparu sylfaen i ddatblygu ein ffordd o weithio. Roedd e’n ddiddorol i glywed sut mae’r sefydliad yn edrych yn barhaus i ddatblygu eu gwaith ac adeiladu ar arferion presennol. Ar hyn o bryd maen nhw’n edrych i weld os all symud o Qlikview i Qlik Sense rhoi manteision pellach iddynt.

Mae gwaith y Tîm Dadansoddi Data wedi cyflawni arbedion effeithlonrwydd, yn bennaf trwy arbed amser y gellir ei ail-fuddsoddi mewn ei gwaith, ond maen nhw hefyd yn edrych i arbed mwy i wneud mwy. Mae’r amgylchedd ehangach yn newid yn gyflym ac mae cyllid cyhoeddus cyfyngedig yn rhoi her i bob gwasanaeth cyhoeddus. Mae Swyddfa Archwilio Queensland wedi wynebu’r her yma ac maen nhw’n gweithio mewn ffordd wahanol i ddarparu gwasanaeth gwell. Mae gwaith ei staff yn awr yn fwy ystyrlon a diddorol, ac mae archwilwyr yn datblygu sut maen nhw’n meddwl yn feirniadol. Fe fyddai’n defnyddio ein hegwyddorion Cyfnewidfa Arfer Da wrth i ni fyfyrio dros ein sgwrs â Swyddfa Archwilio Queensland, fel ein bod ni’n meddwl am sut rydyn ni’n gallu addasu’r dull gweithredu hwn fel ein bod ein gwaith ni, fel y gwasanaethau rydyn ni’n archwilio, yn cyflawni’r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru.

Datblygu personas ar gyfer gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr

Sut all personas helpu i sicrhau bod prosiectau yn canolbwyntio ar y defnyddiwr? Isod mae Dyfrig Williams yn adlewyrchu ar sut maen nhw wedi bod yn rhan o’i waith ar fynd i’r afael â data yn effeithiol.

Llun o bersonas staff Archwilio Perfformiad

Rydw i wedi bod yn gweithio ar arbrawf i gasglu data ar gyfer archwilwyr fel y gallwn weithio’n fwy effeithlon fel rhan o fy ngwaith ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad.

Rydw i wedi blogio o’r blaen ar fy niddordeb mewn darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol achos y ffocws di-baid ar angen y defnyddiwr. Dyw hwn ddim yn safbwynt sy’n newydd i mi – roedd e’n amlwg yn fy nghwaith yn fy swydd flaenorol ar gynnwys dinasyddion i sicrhau bod adnoddau’n cael eu targedu’n effeithiol.

Nawr rwy’n dechrau ar ran ymarferol fy gwaith ar ôl 4 mis o brosiect 6 mis. Ond yn fy hen rôl fe wnes i glywed tro ar ôl tro bod gwasanaethau’n cael eu darparu at hen ragdybiaethau pan nad yw staff yn cael yr amser i ymgysylltu â phobl mewn modd priodol. Doeddwn i ddim eisiau gwneud yr un camgymeriad yn fy ngwaith, felly datblygais personas ar gyfer y prif ddefnyddwyr o ddata mewn timau archwilio er mwyn sicrhau ein bod ni’n canolbwyntio ar adeiladu rhywbeth y byddai pobl yn wir ddefnyddio.

Mae personas yn gynrychioliadau o wahanol fathau o gwsmeriaid neu ddefnyddwyr. Maen nhw’n helpu ni i ateb y cwestiwn o “Pwy ydyn ni’n cynllunio ein gwaith ar gyfer?” Maen nhw’n helpu i alinio strategaeth a nodau i grwpiau o ddefnyddwyr penodol. Gan ein bod ni’n profi’r gwaith yma gyda’r Tîm Archwilio Perfformiad Iechyd, datblygais personas a oedd yn amrywio o Swyddogion Cefnogi Perfformiad i fyny i Reolwyr Archwilio, a hefyd aelod o’r Tîm Technegol Archwilio Ariannol ac Archwilydd Ariannol sy’n gweithio gyda’r byrddau iechyd.

Ble i ddechrau?

Roeddwn i’n edrych mlaen i ddechrau fy ngwaith ar y personas er mwyn gweld sut mae fy meddylfryd ymgysylltu yn ffitio gydag arferion digidol cyfredol. Fe wnaeth fy nghydweithiwr Louise Foster-Key, Swyddog Cyfathrebu Digidol Swyddfa Archwilio Cymru, rhoi ychydig o awgrymiadau i mi o’i waith ar fewnrwyd Swyddfa Archwilio Cymru, ac fe wnes i hefyd edrych ar arfer da ehangach. Mae yna blogbost da ar personas defnyddwyr ar Flog Digidol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ond yn y diwedd fe wnes i benderfynu defnyddio Canllaw Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) ar Storiau Defnyddwyr fel seilwaith i’m gwaith. Ceisiais ddefnyddio Trello, ond gan fy mod i’n gwneud y gwaith yma ar ben fy hun (a dim ond prosiect bach ydyw) doedd e ddim mor ddefnyddiol ag on i’n ddisgwyl. Felly defnyddiais Xtensio, gwefan sy’n cynnig gwasnaeth a wnaeth Louise awgrymu i mi.

Penderfynais aros gyda fformat GDS ar gyfer strwythur y gwaith, a chafodd y personas ei roi at ei gilydd trwy gyfweliadau a negeseuon e-bost gyda staff mewn rolau allweddol:

  1. Fel rhywun sy’n… (Pwy yw’r defnyddiwr? Ychydig o eiriau am y person sy’n ceisio mynd i’r afael a’r data)
  2. Rydw i angen / Rydw i eisiau / Rwy’n disgwyl … (Beth mae’r defnyddiwr eisiau gwneud?)
  3. Fel bod … (Pam mae’r defnyddiwr eisiau gwneud hyn?)
  4. Mae’r gwaith wedi gorffen pan… (dyma feini prawf y GDS, sef rhestr o ganlyniadau sy’n cael ei ddefnyddio fel rhestr wirio i gadarnhau bod y gwasanaeth wedi gwneud ei waith ac mae’n cwrdd ag anghenion y defnyddiwr)

Ydy’r ymarfer wedi bod yn ddefnyddiol?

Mae gen i ddealltwriaeth gwell o waith archwilwyr ar ôl siarad gyda staff sydd yn y rolau a gafodd eu mapio. Bydd hyn yn ddefnyddiol i mi ymhell tu hwnt i brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad, yn enwedig wrth i mi edrych ar sut y gall y Gyfnewidfa Arfer Da gweithio’n fwy effeithiol gyda thimau archwilio, yn enwedig y Tîm Archwilio Iechyd, a wirfoddolodd i weithio gyda ni ar y darn o waith yma.

Prif ddefnydd y personas fydd i wirio pwrpas ein gwaith ac i sicrhau bod ein arbrawf yn cyfateb i’r hyn mae ein harchwilwyr yn dymuno ac yn disgwyl. Nawr maen nhw wedi ein helpu ni i redeg drwy arbrofion damcaniaethol, byddwn yn defnyddio’r personas i stopio ni rhag crwydro’n bell o’r weledigaeth yma.

Bydd eu meddyliau hefyd yn hynod o ddefnyddiol ar gyfer fy rhan i o’r adroddiad terfynol. Gan mai ni yw awduron yr adroddiad, mae’r holl bŵer yn ein dwylo ni – ni sy’n rhoi’r argymhellion ar gyfer blaenoriaethau’r dyfodol. Bydd y gwaith yma’n sicrhau bod fy argymhellion i wedi’u seilio ar waith dydd i ddydd ein staff.

Mae’r personas terfynol bellach ar-lein ac maen nhw wedi cael eu rhannu’n ddwy ran achos cyfyngiadau’r fersiwn rhad ac am ddim o Xtensio. Mae’r set gyntaf o personas yn seiliedig ar rolau Archwilio Perfformiad, ac mae’r ail set yn cynnwys personas sy’n seiliedig ar rolau’r Tîm Technegol ac Archwilio Ariannol.

Mae’r personas yn rhoi lefel o ddisgwyliad i ni ar gyfer ein gwaith. Os yw’r gwaith yn fethiant, maen nhw’n rhoi meini prawf i ni archwilio ein cynnyrch a ddarpariaeth yn erbyn. Ar ochr arall y geiniog, os mae’r gwaith yn llwyddiant fel ni’n gobeithio, mae gennym gyfle i weld os all personas rhoi ffocws glir i ni mewn agweddau arall o’n gwaith wrth i ni ceisio sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn wir yn rhoi gwerth am arian cyhoeddus.

Mynd i’r afael â data ar gyfer archwilio sydd ar flaen y gad

Sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn sicrhau ein bod ni’n archwilio mewn modd sy’n addas ar gyfer y dyfodol? Mae Dyfrig Williams wedi blogio ar ei waith gyda phrosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad.

Rydw i wedi bod yn gweithio ar brosiect Archwilio Sydd ar Flaen y Gad dros y misoedd diwethaf, sy’n edrych ar sut y gall Swyddfa Archwilio Cymru herio ein defnydd presennol o ddata a thechnoleg a‘r rhagdybiaethau rydyn ni’n cymryd yn ganiataol. Rydym yn meddwl yn radical am sut y gallem ddefnyddio technoleg newydd i drawsnewid y ffordd ni’n gweithio.

Mae fe wedi bod yn ddarn o waith gwych ble rydym yn rhoi meddylfryd radical ar waith. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan fy nghydweithiwr Steve Lisle, sy’n adrodd yn uniongyrchol i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae hyn wedi golygu ein bod ni wedi symud i ffwrdd o hierarchaeth i mewn i strwythur sy’n lot fwy gwastad. Rydyn ni hefyd wedi bod yn canolbwyntio ar ganlyniadau – rydym wedi bod yn profi a phrototeipio wrth i ni fynd ymlaen fel ein bod ni’n rheoli risgiau yn effeithiol ac yn dysgu o fethiant.

Rydw i wedi bod yn gweithio ar sut mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cael data i roi gwybodaeth ddyfnach a mewnwelediad gwell i ni.

Aeddfedrwydd data

data_maturityRoedd yn ddefnyddiol meddwl am Aeddfedrwydd Data wrth wneud y gwaith yma. Aeddfedrwydd Data yw’r siwrne tuag at wella a chynyddu ein defnydd o ddata. Mae Data Orchard yn defnyddio’r model yma (ac rydw i wedi’i ddwyn o Ben Proctor) o gamau yn natblygiad sefydliad:

  1. Casglu data mewn ffordd ad-hoc yn rhai meysydd
  2. Tynnu data at ei gilydd yn ganolog
  3. Dechrau i ddefnyddio data sydd yn edrych yn ôl
  4. Defnyddio data mewn amser real i reoli’r mudiad a symud adnoddau yn gyflym
  5. Modelu’r dyfodol cyn gwneud penderfyniadau er mwyn ein galluogi ni i wneud penderfyniadau gwell
  6. Modelu’r dyfodol y mae’r sefydliad eisiau ac edrych yn ôl i ddeall yr hyn sydd rhaid digwydd er mwyn cyflawni’r dyfodol hynny

Mae hyn yn sicr yn siwrne i ni fel sefydliad, ond mae’r model wedi helpu i lywio fy ffordd i o feddwl. Mae fe wedi helpu mi i feddwl am sut rydyn ni’n cyrraedd pwynt 6, lle rydyn ni’n modelu’r dyfodol mae’r sefydliad yn gweithio tuag ato, a sicrhau bod y pethau rwy’n gweithio arno yn ein rhoi ni ar y llwybr cywir ymhell ar ôl i’r prosiect yma gorffen.

Fy mhrototeipiau

Rydw i wedi bod yn gweithio ar ddau brawf gwahanol o fewn y maes yma. Mae’r cyntaf ar Ddata Agored, sydd wedi bod yn fwy heriol na’r disgwyl achos bod Swyddfa Archwilio Cymru yn ddefnyddiwr eilaidd o ddata. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n defnyddio data a gesglir gan eraill, felly nid oes gennym yr hawl i rannu’r data bob tro. Serch hyn, rydw i wedi llwyddo i ddod o hyd i ddata defnyddiol, felly fy ngham nesaf i yw rhoi’r data yma mas yn y byd mawr ac edrych ar yr heriau o amgylch sut y gallwn ni sicrhau bod y data mor ddefnyddiol â phosib.

Rydw i wedi bod yn rhoi egwyddorion y Gyfnewidfa Arfer Da ar waith drwy ymweld â sefydliadau eraill i ddysgu am beth maen nhw wedi gwneud eisoes, achos does dim pwynt dechrau o’r dechrau. Rydw i hefyd wedi bod yn meddwl am sut rydyn ni’n addasu yn hytrach na mabwysiadu eu gwaith ar gyfer anghenion ein mudiad, achos wedi’r cyfan, nid yw ‘dull un maint i bawb’ byth yn gweithio.

Rydw i wedi blogio o’r blaen am pam mae angen i’r sector cyhoeddus i ddechrau meddwl amdano Ddata Agored, ac fe wnaethon ni cynnal Google Hangout i edrych ar pam mae’n bwnc pwysig. Mae Hendrik Grothius wedi ysgrifennu blogbost gwych ar sut y gall sefydliadau ddechrau i gyhoeddi Data Agored, ac mae’n fan cychwyn gwych i mi wrth i mi fynd i’r afael â’r heriau.

Mae fy ail ddarn o waith i wedi bod yn edrych ar sut rydyn ni’n galluogi ein staff i wneud defnydd gwell o ddata, a thrwy hynny leihau’r baich archwilio. Rwy’n edrych ar sut y gallwn ddwyn ynghyd ddata o gyrff cyhoeddus mewn ffordd sy’n ei gwneud yn hawdd i’w cyrchu, mewn ffordd sy’n agored i bawb, sy’n rhoi syniad gwell i ni ar berfformiad y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac sydd gyda chymaryddion rhyngwladol. Rydw i wedi bod yn siarad â’n staff er mwyn i mi ddeall pa fath o ddull byddai’n ddefnyddiol iddynt. Rydw i wedi datblygu personas er mwyn llywio ein gwaith yn y maes hwn, ac fe fyddant yn siapio’r cam nesaf o’r gwaith a sicrhau bod fy rhan i o’r adroddiad terfynol yn canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr.

Iteriad

Byddaf yn ysgrifennu blogbostau yn y dyfodol agos i rannu fy ymagweddau, beth rydw i wedi dysgu a beth y gallwn wneud yn wahanol y tro nesaf. Rydym yn iteru i weld beth rydym yn dysgu o bob datblygiad a sut y gallwn adeiladu arno wrth symud ymlaen. Os nad ydynt yn gweithio, byddwn yn edrych i ddysgu o fethiant a gweld sut all y sefydliad cymryd ymagwedd wahanol yn y dyfodol.

Yn holl seminarau’r Gyfnewidfa Arfer Da rydym yn clywed na all gwasanaethau cyhoeddus parhau i weithio yn yr un modd mewn cyfnod anodd. Mae fe wedi bod yn wych i weithio ar brosiect ymarferol yn Swyddfa Archwilio Cymru sy’n mynd i’r afael â’r heriau hynny.

Pwy oedd yn gwybod bod Cau Cyfrifon Llywodraeth Leol yn Gynt o fudd i ddarparu gwasanaethau rheng flaen?

Sut all cau cyfrifon llywodraeth leol yn gyflymach helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus? Isod mae Ena Lloyd yn edrych ar beth allwn ni ddysgu oddi o Awdurdodau Lleol yn Lloegr.

Cau cyfrifon llywodraeth leol yn gyntAr hyn o bryd, mae Cyfrifon Llywodraeth Leol yn gorfod cael eu cymeradwyo erbyn 30 Medi yng Nghymru. Hoffai’r Trysorlys yn Whitehall alluogi i Gyfrifon y Llywodraeth Gyfan fod ar gael erbyn y dyddiad hwnnw, felly mae’n debygol iawn y bydd y dyddiad cymeradwyo’n cael ei symud ymlaen i 30 Gorffennaf ymhen ychydig flynyddoedd.

Rydw i wedi bod yn sgwrsio gyda nifer o Awdurdodau Lleol ledled Lloegr sydd wedi symud y dyddiad Cau Cyfrifon Llywodraeth Leol yn Gynt ymlaen, i glywed eu barn am eu dulliau gweithredu. Mae tair thema fel pe baent yn dod i’r amlwg yn y trafodaethau:

Technoleg

Y realiti yw bod technoleg wedi esblygu ac, erbyn hyn, mae’n rhesymol disgwyl i bob proses ariannol bron fod yn awtomatig. Felly, ar ei waethaf, gellir edrych ar ‘gau’n gynt’ fel cyfle i adolygu’r systemau ariannol presennol. Cefnogi timau ariannol i weithio’n fwy effeithlon, nid yn galetach. Hefyd mae’n gyfle gwych i oedi ac adlewyrchu, i feddwl am gynnwys cadernid yn y broses hefyd.

Ateb Dros Dro

Roedd thema glir yn perthyn i’r meddyliau agoriadol; does dim cuddio rhag y ffaith bod newid yn anodd. Yn enwedig pan mae cydweithwyr ariannol wedi arfer â’r un prosesau ac wedi gweithio gyda’r un amserlenni ers nifer o flynyddoedd. Mae’n ddealladwy. Rydw i’n gallu clywed y ddadl, os yw’r system yn gweithio’n iawn …

Mae’r syniad o newid yn waeth na’r realiti. Efallai bod y sylw hwn yn swnio braidd yn ddidaro. Cyfeiriodd nifer ohonynt at y ffaith bod llawer o’u cydweithwyr ariannol yn treulio mwy na hanner eu blwyddyn waith ar ‘gau cyfrifon i lawr’. Roedd hyn yn gwneud i gydweithwyr deimlo eu bod yn gweithio yn y gorffennol, ac mewn rhyw fath o swigen hefyd.

Y fantais o ‘gau’n gynt’ i staff ariannol yw eu bod yn treulio llawer llai o amser yn canolbwyntio ar y gorffennol, a chan fy mod i’n gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru, fe ddyweda’ i’r frawddeg nesaf yma gyda gwên ar fy wyneb – mae’r archwiliad allanol drosodd yn llawer cynt. Mae’r berthynas gyda’r archwilydd allanol wedi newid gan ei fod yn chwarae mwy o ran drwy gydol y flwyddyn, gan rannu ei farn a’r newidiadau posib. Mabwysiadu dull o weithredu heb unrhyw syndod ar y diwedd.

Gweld y Manteision

Mae’n bur debyg mai’r fantais fwyaf o ‘gau’n gynt’ yw’r gwasanaeth gwell y mae cydweithwyr ariannol yn ei ddarparu i wasanaethau rheng flaen yn awr. Maent yn gallu rhoi llawer mwy o amser i bennu a monitro cyllidebau. Yn bwysicach na hynny, drwy gael gwybod yn llawer cynharach pa wybodaeth mae Rheolwyr Gwasanaethau ei hangen i reoli eu gwasanaeth, mae hyn yn sicr o fudd mawr i wasanaethau cyhoeddus.

Ac onid dyna beth sy’n bwysig yn y pen draw?

Gall cwestiynau syml wneud gwahaniaeth

Sut all aelodau bwrdd helpu i wella amseroedd aros? Dyma Verity Winn o’r tîm Archwilio Perfformiad Iechyd yn edrych yn ôl dros ein seminar ‘Gofyn y cwestiynau cywir’.

Adroddiad Amseroedd Aros y GIGMae trefnu digwyddiad i roi cyhoeddusrwydd i restr wirio yn swnio fel rhywbeth a fyddai’n ddiléit pur i archwilydd… Ond sut rydych yn mynd ati i’w wneud yn ddiddorol i Aelodau Annibynnol byrddau iechyd sydd â dyddiaduron llawn a mwy na digon o faterion pwysig ar eu plât? Yr ateb yw gwneud y peth yn berthnasol a chanolbwyntio ar bethau ymarferol y gallant eu gwneud i wneud gwahaniaeth i gleifion. A hefyd greu gofod diogel lle y gallant deimlo’n gyfforddus yn rhannu ac yn trafod y materion gyda phobl sydd yn yr un sefyllfa.

Roedd llawer yn dibynnu ar ein digwyddiad ‘Gofyn y cwestiynau cywir’ ar 21ain Mai. Fe dreuliais y rhan fwyaf o’r flwyddyn ddiwethaf yn pori drwy wybodaeth hyd at fy nglustiau am y GIG yng Nghymru fel un o’r tîm a fu’n gweithio ar ein hadroddiad ar Amseroedd Aros y GIG. Roedd ein canfyddiadau yn achos pryder – roedd amseroedd aros yn mynd yn hwy, mae rhai cleifion yn cael niwed a gellid gwneud rhagor i ymdrin â’r broblem. Gwnaethom lawer o waith er mwyn deall pam bod amseroedd aros yn gwaethygu gan gynnwys y pwysau ar y GIG o ran arian, staff, gwelyau ac adnoddau eraill. Ystyriwyd hefyd yr hyn y gellid ei wneud yn wahanol a nodwyd rhai cyfleoedd arwyddocaol i fyrddau iechyd wneud gwell defnydd o’r adnoddau sydd ganddynt.

Roedd yr holl waith hwn wedi esgor ar bedwar adroddiad – ond roedd rhyw deimlad gennym na fyddai pawb yn cael amser i ddarllen drwy’r cyfan! Roeddem am gyfleu ein neges yn y ffordd symlaf bosibl i’r bobl a all ei defnyddio i wneud gwahaniaeth. Mae Aelodau Annibynnol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o graffu ar berfformiad byrddau iechyd a’u dwyn i gyfrif. Roeddem am greu adnodd i’w helpu i ofyn y cwestiynau cywir er mwyn herio eu byrddau iechyd – nid dim ond gofyn a yw amseroedd aros yn mynd yn hwy, ond deall beth maent yn ei wneud i’w byrhau. Ein rhestr wirio yw’r adnodd hwn. Mae’n nodi cyfres o gwestiynau i ddeall sut mae’r bwrdd iechyd yn perfformio o ran amseroedd aros a pha mor gadarn yw eu cynlluniau i’w gwella.

Bu’r digwyddiad yn brofiad newydd i mi. A ninnau’n gweithio yn y tîm astudiaethau cenedlaethol canolog, rydym yn tueddu i symud ymlaen i bwnc newydd ar ôl i’n hadroddiadau gael eu cyhoeddi. Mae hynny’n golygu nad ydym yn gweld effaith leol ein gwaith yn aml, nac yn cyfarfod â’r bobl a all ddefnyddio gwaith ein hadroddiadau i sicrhau newid. Ond drwy’r digwyddiad hwn daethom wyneb yn wyneb â’r Aelodau Annibynnol a chefais fy atgoffa mai’r ffordd symlaf o gyfleu neges weithiau yw drwy siarad â phobl.

Dechreuodd y digwyddiad gyda’r holl sylw ar Dave Thomas, Cyfarwyddwr Tîm Iechyd Archwilio Perfformiad yn Swyddfa Archwilio Cymru a Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru. Atebodd y ddau gwestiynau am rai o’r heriau a’r cyfleoedd a wynebir gan y GIG yng Nghymru a’r hyn sydd angen ei wneud i wella amseroedd aros i gleifion. Gallwch wylio’r drafodaeth lawn isod. Am weddill y diwrnod cafodd gweithdai ymarferol eu cynnal yn seiliedig ar y pynciau ar ein rhestr wirio.

Roedd yn braf gweld pobl yn rhannu profiadau a chyngor mewn ffordd mor agored a chefnogol. Ac mor gadarnhaol oedd gweld ymrwymiad yr Aelodau Annibynnol i roi’r claf yn gyntaf a pheidio osgoi gofyn cwestiynau anodd er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd. Roedd yn ddiddorol iawn i mi glywed awgrymiadau am gwestiynau i’w gofyn i fyrddau iechyd er mwyn deall yr hyn y maent ei wneud i wella amseroedd aros. Ar ddiwedd y digwyddiad, dywedodd un person wrthym mai’r peth allweddol roedd wedi’i ddysgu oedd y dylid gofyn cwestiynau ‘yn yr iaith symlaf bosibl, gan obeithio mynd at wraidd y mater’ – i mi, roedd wedi taro’r hoelen ar ei phen.

Roeddwn i’n falch iawn bod y mwyafrif llethol o’r adborth a gawsom ar y digwyddiad yn gadarnhaol. Ond wedi dweud hynny, mae rhywbeth i’w ddysgu bob amser o ran sut y gallem wneud pethau ychydig yn well y tro nesaf. Rydym yn cynnal digwyddiad arall ar ‘Gofyn y cwestiynau cywir’ yng Ngwesty’r Metrole yn Landrindod ar 13 Gorffennaf. Os hoffech le, ebostiwch good.practice@audit.wales. Edrychaf ymlaen at gwrdd â mwy ohonoch yno.

O Archwilio Ariannol i Gyfnewid Arfer Da

Mae Michelle Davies wedi bod yn gweithio gyda ni yn y Gyfnewidfa Arfer Da. Rydyn ni wedi dysgu lot oddi wrthi hi ei am ei gwaith ac i’r gwrthwyneb. Yn y blog yma, mae Michelle yn dweud wrthym am ei phrofiadau o weithio gyda ni.

Michelle DaviesYn ddiweddar rwyf wedi cwblhau prosiect Arfer Da lle gwnes i helpu i gyflwyno’r Webinar Wynebu Heriau Ariannol (a gallwch wylio hwn yn llawn ar Vimeo). I’r rhai ohonoch nad ydych yn fy adnabod i, fel arfer rwy’n gweithio yng Nghlwstwr Archwilio Ariannol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio ar y pethau cyffrous – Cyfrifon Llywodraeth Leol ac Iechyd!

Felly, pam oeddwn i’n awyddus i gymryd rhan

Roeddwn yn chwilfrydig ac yn anwybodus ynghylch yr hyn oedd yn digwydd gyda Thîm y Gyfnewidfa Arfer Da, beth maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw yn ei wneud, pa gylchoedd y maent yn symud ynddynt, beth yw eu nodau yn ein sefydliad? Ar ôl gweithio ym maes Archwilio Ariannol yn y Gorllewin am dros 10 mlynedd, roeddwn yn ysu am newid. Roedd mynd allan mwy, a hyd yn oed gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd yn newydd.

Dysgais lawer o sgiliau newydd, o wahanol ddulliau i ymchwilio i bynciau nad oedd gen i ond ychydig wybodaeth amdanyn nhw neu ddim o gwbl. Ac o ran y cyfryngau cymdeithasol, wel byddai’n saff dweud fy mod ychydig yn rhydlyd; roedd angen i mi symud gyda’r oes ac roedd yr addewid o gael fy nysgu sut i ‘drydar’ yn apelio. Onid ydych chi jyst wrth eich bodd pan fydd pobl yn dweud “mae’n hawdd?”

I weithio’n wahanol weithiau mae’n rhaid i chi weithio gyda phobl wahanol. Er ei fod ychydig yn frawychus ar y dechrau, byddwch yn dysgu’n fuan am bersonoliaethau a disgwyliadau. Gallwch ddysgu cymaint oddi wrth bobl eraill, mae rhyw fath o hyder mewnol yn dechrau tyfu wrth i chi drafod syniadau gyda chydweithwyr a rhannu eu profiadau a’u cyffro.

Yr hyn a ddysgais i

Ymchwilio
Yn gyntaf roedd rhaid i mi ymchwilio i’r pwnc, drwy syrffio’r we, darllen drwy’r adroddiadau cyfredol perthnasol, unrhyw gynadleddau, seminarau, nodi siaradwyr posibl a chynhyrchu dogfen gwmpasu i’w chyflwyno gyda fy nghanfyddiadau a nodi’r themâu allweddol i’w trafod.

Briffio
Gyda fy neunydd ymchwil, eisteddais a thrafodais fy nghanfyddiadau gydag Ena ac Anthony Barrett i gytuno ar deitl mwy siarp ac i ddynodi siaradwyr a oedd yn gallu trafod arfer da cyfredol, perthnasol a nodwyd o fewn y sector cyhoeddus. Dysgais pa mor bwysig yw ystyried a yw’r teitl yn dweud yr hyn y mae’n ei wneud ar y tun?

Cynhaliais fy sesiwn briffio gyntaf gyda Guy Clifton o Grant Thornton dros y ffôn. Esboniais strwythur, fformat ac amseroedd y webinar gan gymryd oddi arno faterion cadw tŷ ychwanegol i’r tîm GPX eu cadarnhau.

Cyfryngau Cymdeithasol, h.y. amserlenni trydar a thrydar byw
Cefais wers mewn trydar a gofynnwyd i mi drydar yn fyw mewn ychydig o seminarau, gan helpu’r tîm GPX pan oeddent yn brin o staff neu mewn digwyddiad mwy lle roedd nifer o weithdai yn cael eu cynnal yr un pryd. Ond doedd gwers mewn trydar, fe wnes i ddarganfod, ddim bob amser yn mynd i sicrhau fod pethau’n mynd yn esmwyth ar y diwrnod!

Hyder i wneud y gwaith
Ymmmm, beth ddylwn i ei wneud nawr, beth ddylwn i ei wneud nesaf, ydw i’n gwneud hyn yn iawn, fy holl bryderon a rhan o’r gromlin ddysgu. Byddai Ena yn gwenu arnaf ac yn dweud, be’ wyt ti’n feddwl, dyweda wrtha i be’ wyt ti’n deimlo, be’ fyddai dy ddewis greddfol? Nawr ewch a gwnewch e’!

Ymddygiadau
Mae’r tîm GPX yn defnyddio ffordd wahanol o weithio, mae angen iddynt fod yn gallu amrywiaeth fawr o bethau o fewn y tîm. Byddwch yn dysgu gweithio tuag yn ôl. Mae’r tîm yn gwybod yr hyn y maen nhw am ei gyflawni, felly sut maen nhw yn cyrraedd yno, mae eu ffocws ar effaith.

Y da, y drwg a’r hyll

Fe wna’ i’r hyll yn gyntaf – wrth helpu ar seminar allanol yn benodol i drydar yn fyw, fe gysylltais â’r WiFi, iawn. Eisteddais ym mlaen y gynulleidfa yn gwrando ar Huw Vaughan Thomas yn cyflwyno ei araith agoriadol – rydw i wedi fy nghysylltu, ond hei – dim gwe! Beth bynnag roeddwn i yn ei drio doedd o jyst ddim yn gweithio! Ar ddiwedd yr araith agoriadol llwyddais i dynnu sylw Dyfrig, ac yn wyrthiol fe gysylltodd fy mheiriant, yn lwcus iawn! I ddal i fyny fe ddechreuais gopïo a gludo o amserlen trydar – ond wnâi e ddim gweithio! Cymerodd tua 15 o ymdrechion gyda’r tymheredd yn codi cyn i mi sylweddoli fod yna ormod o nodau! Iawn – doedd yna ddim stopio arna’ i nawr … ond byddai pob llun a gymerwn o’r siaradwyr i’w lanlwytho gyda’u negeseuon allweddol yn ymddangos wyneb i waered! Dim lluniau felly!

Y drwg – wel mewn gwirionedd does gen i ddim unrhyw brofiadau gwael, hyd yn hyn maent i gyd wedi bod yn dda neu’n hyll, ac mae hyd yn oed y profiad hyll yn ddoniol nawr. Rydych yn dysgu o’ch profiadau ac rydw i wedi gwneud hynny, ac fe aeth y trydar byw yn y webinar yr wythnos ddiwethaf yn iawn – diolch byth!

Y da – Rydw i wedi mwynhau fy mhrofiadau yn fawr iawn, rwyf wedi dysgu set newydd o sgiliau ac ennill hyder mewnol ac angerdd nad oedd yno o’r blaen. Rwyf wedi bod yn ffodus i gyfarfod llawer o bobl o bob lliw a llun, gydag amrywiaeth o sgiliau a phersonoliaethau, rhai ohonynt yn drawiadol, rhai yn gwneud i chi deimlo’n ostyngedig, rhai yn ysbrydoledig, a rhai yn awyddus ac yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.

Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth unrhyw un arall sydd am gymryd rhan

Ewch ati! – Wnewch chi ddim difaru ac os oes gennych unrhyw bryderon galla’ i’ch helpu i’w goresgyn. Mae rhannu gwybodaeth fel hyn yn bwysig i ddyfodol ein sefydliad a’n gwasanaethau cyhoeddus.