Yn ein blog diweddaraf o Wobrau Cymuned Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan 2014, dyma Kevin Williams o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn disgrifio ei Feddalwedd Gwybodaeth Raffigol a’r pwysigrwydd o gydweithio.
Mae staff ein hisadran TGCh, mewn cydweithrediad â swyddogion cyfatebol Dinas a Sir Abertawe, wedi ennill gwobr o fri yn ddiweddar gan y Gymdeithas Gwybodaeth Ddaearyddol, ac mae hon yn wobr ar gyfer sector cyhoeddus y DU gyfan.
Pan benderfynodd yr isadran TGCh gyfnewid ei Feddalwedd Gwybodaeth Raffigol ddrudfawr am ddewis amgen cost-isel, swyddogaethau medrus ffynhonnell agored, roedd nod y tîm yn syml; cynyddu’r graddau yr oedd GIS ar gael i staff a’n dinasyddion am lai o gost. O ganlyniad i’r manteision yr oedd y prosiect hwn wedi’u sicrhau, roedd awdurdodau cyfagos yn dangos llawer iawn o ddiddordeb gan gynnwys Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Arweiniodd hyn at brosiect rhanbarthol a oedd â’r dasg o nodi meysydd lle byddai cydweithredu trawsffiniol yn fanteisiol o ran nodi a chyflawni arbedion effeithlonrwydd, cynyddu’r defnydd o GIS a gwelliannau i’r gwasanaeth. Ariannwyd y prosiect hwn yn rhannol gan y rhaglen ranbarthol bresennol ac roedd yn gweithredu ac yn cael ei lywodraethu gan Fwrdd Cydwasanaethau TGCh Canol a De-orllewin Cymru.
Daeth canfyddiadau cynnar i’r casgliad bod pob awdurdod lleol yn bwrw iddi â’r un tasgau ond mewn ffyrdd ychydig yn wahanol, ac nid yw GIS yn eithriad i’r rheol hon. Pan ffurfiodd y grŵp gyntaf, daeth yn amlwg bod gan bob awdurdod atebion GIS gwahanol ond roedd gan bawb yr un broblem. Sut oedd ehangu eu systemau heb fod yn gaeth i werthwr masnachol gyda chostau cynyddol?
Ar ôl cwblhau’r prosiect, mae’n amlwg nad yw’r manteision a wireddwyd wedi’u cyfyngu i’r arbedion ar ffioedd trwyddedu a’r broses o ddiddymu cytundebau cynnal a chadw. Serch hynny, mae’r arbedion a amcangyfrifwyd yn hanner miliwn o bunnau dros gyfnod o bum mlynedd ac felly maen nhw’n sylweddol, ond drwy fabwysiadu ateb FfynhonellAgored yn ein hawdurdodau, mae’r defnydd o GIS yn ddiderfyn erbyn hyn. Gall symud cyfyngiadau ariannol rymuso unrhyw un i gael mynediad at ddata mewn dull gofodol, gan sicrhau y gellir gwneud penderfyniadau gwybodus yn gynt gan yn y pen draw wella gwasanaethau cwsmeriaid.
Mae cydweithredu ar y prosiect hwn wedi helpu i greu cysylltiadau gwaith newydd ac wedi helpu i chwalu’r ffiniau mwn perthynas â chreu cydwasanaethau rhwng awdurdodau lleol. Y gwaith hwn oedd wedi gwneud argraff ar y pwyllgor gwobrwyo, a arweiniodd at gydnabod arloesedd a gweithio traws-sector. Mae Kevin Williams, a fu’n arwain y prosiect ar gyfer Castell-nedd Port Talbot wedi’i wahodd, erbyn hyn, i ymuno â phanel AGI Cymru, gan gynrychioli GIS FfynhonellAgored.