Gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg

LogoMae Tîm y Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal seminar dysgu a rennir sy’n canolbwyntio ar fynediad i wasanaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg. Pam rydym yn cynnal y digwyddiad hwn? Mae Rachel Harries, Swyddfa Archwilio Cymru, yn rhannu ein syniadaeth ar y pwnc hwn…

Os na all rhywun siarad Cymraeg na Saesneg a bod angen cyfieithydd arno i ddefnyddio eich gwasanaethau, a fyddech chi’n gwybod beth i’w wneud?

Dywed cyfrifiad 2011 wrthym fod mwy nag 80 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad yng Nghymru. Bryd hynny roedd tua 20,000 o bobl yn byw yng Nghymru nad Cymraeg na Saesneg oedd eu prif iaith, y dywedodd cyfran ohonynt na allent siarad y naill iaith na’r llall yn rhugl. Mae pobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu prif iaith yn fwyaf tebygol o fyw yn ardaloedd cynghorau Caerdydd, Abertawe, Casnewydd neu Wrecsam, yn rhannol am mai dyma ardaloedd gwasgaru Asiantaeth Ffiniau’r DU ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Ond mae pob rhan o Gymru yn gartref i rai pobl na allant gyfathrebu’n hawdd yn Gymraeg na Saesneg; er enghraifft, pobl sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu prif iaith ac mae pob cyngor wedi ymrwymo i dderbyn ffoaduriaid o dan raglen adsefydlu’r Llywodraeth.

Mae nifer yr unigolion a’r teuluoedd yr effeithir arnynt yn gymharol fach, ond mae’n fwy tebygol y bydd angen iddynt ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus o gymharu â’r boblogaeth ehangach, naill ai oherwydd cyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes a all fod yn gysylltiedig â nam ar eu synhwyrau, neu oherwydd profiadau trawmatig a gawsant cyn cyrraedd Cymru. Yn waeth fyth, gall anawsterau o ran sicrhau eu bod yn cael eu deall olygu na all pobl gael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt (ac y mae ganddynt hawl i’w cael) a gallant droi’n argyfwng cyn iddynt ddod i sylw’r bobl a all eu helpu.

Ar sail ein hymchwil gychwynnol i’r pwnc hwn gwyddom mai’n gymharol anaml y bydd rhai gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu hyn, felly mae’n dra thebygol nad yw rhai sefydliadau wedi paratoi i ymateb yn briodol. Ond gwyddom hefyd fod llawer o waith da eisoes yn cael ei wneud mewn meysydd a sefydliadau penodol. Mae ein seminar ‘Gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg’ yn gyfle i rannu gwaith da a galluogi pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus i ystyried camau ymarferol, realistig y gall eu sefydliadau eu cymryd er mwyn rhoi trefniadau addas ar waith.

Bydd gweithdai’r seminar yn ymdrin â thri phwnc – cynhwysiant digidol, tai ac iechyd. Gwyddem na fyddem yn gallu ymdrin â phob problem y gallai’r grŵp amrywiol hwn o bobl ei hwynebu, felly roedd yn rhaid i ni feddwl am yr hyn a fyddai’n berthnasol i’r nifer fwyaf o bobl. Roedd tai yn lle amlwg i ddechrau gan fod to uwch eich pen yn angen mor sylfaenol; heb y sylfaen hon, ni fydd gwasanaethau eraill yn gallu cael llawer o effaith.

Roedd iechyd yn faes pwysig arall gan fod pobl na allant siarad Cymraeg na Saesneg yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar ofal iechyd – er ei bod yn fwy tebygol y bydd ei angen arnynt o gymharu ag eraill. O ganlyniad, gall eu gofal iechyd waethygu cyn iddynt gael triniaeth, sy’n waeth iddyn nhw ac a allai fod yn llawer drutach i’r GIG.

Yn olaf, dewiswyd cynhwysiant digidol gan fod llawer o gyfleoedd i sefydliadau ddefnyddio technoleg newydd i gyfathrebu â phobl nad ydynt yn siarad – nac yn darllen – Cymraeg na Saesneg yn rhugl. Mae’r defnydd eang o ffonau clyfar a datblygiadau o ran meddalwedd y bwriedir iddynt wella hygyrchedd yn golygu bod atebion syml a chosteffeithiol bellach ar gael na fyddent wedi bodoli ychydig flynyddoedd yn ôl.

Gan fod y grŵp o bobl rydym yn siarad amdanynt mor amrywiol, dylai’r seminar ei hun fod yn ddefnyddiol i ystod eang o bobl, ond yn benodol roeddem o’r farn y byddai’n ddefnyddiol i staff yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n perthyn i’r categorïau canlynol:

  • deiliaid portffolios cydraddoldebau
  • swyddogion cydraddoldebau
  • arweinwyr polisi
  • rheolwyr hygyrchedd gwefan
  • staff sy’n gyfrifol am ddatblygu neu ddarparu gwasanaethau i ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr i’r DU
  • staff sy’n gyfrifol am ddatblygu neu ddarparu gwasanaethau i bobl â nam ar eu synhwyrau

Os ydych yn credu eich bod chi’n ateb un o’r disgrifiadau uchod, gallwch gofrestru ar gyfer y seminar am ddim a dysgu am rai camau ymarferol a chosteffeithiol y gallwch eu cymryd er mwyn sicrhau nad yw’r bobl sydd eu hangen yn cael eu hatal rhag defnyddio’r gwasanaethau a ddarperir gennych.

6 thoughts on “Gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg

  1. Russell Todd

    Blogpost diddorol iawn.

    Mewn un o’r podlediad (podcasts) yr ydym wedi cynhyrchu gyda weithwyr o’r rhaglen Cymuendau yn Gyntaf, wnaeth rhywun o Abertawe sôn am bobl o Bangladesh sy’n siarad tafodiaith heb ffurf ysgrifenedig. Mae sawl o’r dynion o’r gymuned hon yn gweithio trwy gydol y nos hefyd, felly mae’n anodd iawn i ymgysylltu â nhw wyned-i-wyneb; a does dim pwynt i adael taflenni iddynt chwaith.

    Yn yr un podlediad sonodd rhwyun yng Nglan-yr-afon, Caerdydd, am sut benderfynodd ei fudiad i gael gwared o ddesg dderbynfa achos allent nhw ddim gwarantu y gallai’r person ar y ddesg siarad yr iaith/ieithoedd sy gan pobl sy’n dod mewn. Rhwystr oedd y ddesg yn y sefyllfa hon.

    Yng Nghymuendau yn Gyntaf rydym ni wedi clywed sawl waith am enghreifftiau o bobl sydd wedi dysgu Saesneg i lefel sylfaenol i sgwrsio’n gyffredinol; ond pan mae nwh’n derbyn cyngor am hawliau gwaith/tai, neu fudd-daliau, gallent nhw stryglo

    Like

    Reply
      1. Russell Todd

        Maen nhw tu ôl y mewngofnodiad a chyfrinair i Hafan Dysgu WCVA. Rydw i’n meddwl am drosgwlyddo nhw i Soundcloud. Dydy’r HD ddim wedi gweithio i’r cynnwys yna. Hapus i wneud rhywbeth am iaith i chi. Efallai cyd-weithio arno fe gyda phobl o’r clystyrau mewn ardaloedd aml-ethnig?

        Like

        Reply
  2. Pingback: Gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg | Swyddfa Archwilio Cymru

Leave a Reply / Gadael ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s