Heneiddio’n Dda yng Nghymru

Yn gynharach y mis hwn, aeth Bethan Smith i’r digwyddiad Heneiddio’n Dda yng Nghymru a gynhaliwyd ym Mangor o dan ofal Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn y blog hwn, mae Bethan yn rhannu ei hargraffiadau o’r diwrnod…

Mae’r Tîm Cyfnewid Arfer Da wedi cydweithio â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar sawl achlysur erbyn hyn, felly roeddem yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r digwyddiad Heneiddio’n Dda yng Nghymru.

I roi ychydig o wybodaeth gefndir i chi, rhaglen genedlaethol o dan ofal Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Mae’n dod ag unigolion, cymunedau a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ynghyd i lunio ac i hybu ffyrdd arloesol ac ymarferol o wneud Cymru’n lle da i bawb dyfu’n hŷn ynddo.

Mae’r rhaglen yn seiliedig ar bum egwyddor:

  • Gwneud Cymru’n genedl o gymunedau sydd o blaid pobl hŷn
  • Gwneud Cymru’n genedl o gymunedau sy’n cefnogi dementia
  • Lleihau nifer y cwympiadau
  • Lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd dieisiau
  • Cynyddu’r cyfleoedd i ddysgu ac i weithio

Pan gyrhaeddais i Fangor, roeddwn i’n gwybod ar unwaith y byddai’n fore buddiol. Roedd yr ystafell yn llawn bwrlwm, ac roedd hi’n amlwg bod pawb yn yr ystafell yn frwd dros wella bywydau pobl hŷn Cymru. Roedd agenda’r bore’n tynnu sylw at yr amrywiaeth o sefydliadau sy’n chwarae rôl bwysig i gyflawni’r nod hwn. Gan fod disgwyl i nifer y bobl hŷn yng Nghymru gynyddu, roedd hi’n wych gweld bod cynifer o sefydliadau’n cydnabod pwysigrwydd cefnogi’r gymuned benodol hon.

Roeddwn i’n falch iawn o glywed y cyflwyniad cyntaf gan David Worrall o’r Groes Goch Brydeinig a oedd yn canolbwyntio ar waith partneriaeth yng Nghymru. Mae gwaith partneriaeth yn hollbwysig er mwyn i’r gwasanaethau cyhoeddus gyflawni prif flaenoriaethau’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Ar adeg pan fo cyllidebau’n lleihau o hyd, nid yw’r holl atebion yn nwylo un gwasanaeth, ac mae angen i ni i gyd gyd-dynnu a meddwl mewn ffordd wahanol ac arloesol wrth fynd ati i ddarparu gwasanaethau. Fel y dywedodd siaradwr yn un o’n digwyddiadau, ‘efallai nad oes gennym gyfoeth o arian yng Nghymru, ond mae gennym gyfoeth o adnoddau’. Mae pobl hŷn yn adnodd enfawr yng Nghymru, ac fe ddylem ddefnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth pan fyddwn ni’n ailgynllunio gwasanaethau. Mae eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth yn amhrisiadwy.

Cyfeiriodd David at y fenter Camau Cadarn fel esiampl wych o waith partneriaeth. Mae’r Groes Goch Brydeinig a’r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn dod ynghyd i lansio rhaglen dair blynedd newydd i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl hŷn y mae angen cymorth arnyn nhw i adennill eu hannibyniaeth. Gallwch ddarllen mwy am y prosiect ar wefan y Groes Goch Brydeinig.

cwvwcmyw8aa0jkb

Bu Pete Harrisons o Artisans Collective CIC yn trafod esiampl arall o waith partneriaeth sy’n digwydd yn y Gogledd. Mae Artisans Collective CIC yn darparu cyfleuster cymunedol unigryw ym Mhrestatyn, lle gall crefftwyr ac artistiaid arddangos a gwerthu eu cynnyrch celf a chrefft ar silffoedd yr Hen Lyfrgell. Yn ychwanegol at hynny, mae Pete a’r tîm wedi bod yn chwarae mwy a mwy o ran ym maes iechyd a lles cymunedol ym Mhrestatyn. Maent yn chwarae rôl allweddol yn y gymuned drwy weithio mewn partneriaeth ag amryw o sefydliadau i helpu i gyfeirio trigolion at wasanaethau perthnasol. Maent hefyd yn ymwneud ag amryw o fentrau i helpu i atal arwahanrwydd cymdeithasol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref. Maent bellach yn gweithio ochr yn ochr â Prestatyn Iach (model arloesol ar gyfer gofal iechyd sylfaenol) i ymchwilio i bresgripsiynu cymdeithasol, a’r ffordd y gall eu gwaith yn y gymuned ategu’r gwaith hwnnw. Ar ôl clywed cyflwyniad Pete, fe es i i ymweld â’r tîm ym Mhrestatyn ac mae’r dylanwad cadarnhaol y mae’n ei gael ar y gymuned yn amlwg iawn. Mae’r cyfleuster bach hwn yn darparu man diogel lle gall pobl a allai fod yn agored i niwed ddod ynghyd i gymdeithasu ac i ddysgu sgiliau newydd. Mae Pete wedi cytuno i siarad yn ein seminar ‘Gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer gwell iechyd a lles’ a gynhelir ar 7 Rhagfyr yng Nghaerdydd, ochr yn ochr ag Alexis o dîm Prestatyn Iach.

O sôn am ddysgu sgiliau newydd, fe gawson ni gyflwyniad hefyd gan Hilary Jones o Brifysgol y Drydedd Oes. Sefydliad rhyngwladol ar gyfer pobl sydd wedi ymddeol neu ymddeol yn rhannol yw Prifysgol y Drydedd Oes, ac mae’n darparu gweithgareddau addysgol, gweithgareddau creadigol a gweithgareddau hamdden. Mae pob un o Brifysgolion y Drydedd Oes yn cynnwys amryw o grwpiau diddordebau lle gall yr aelodau ddysgu oddi wrth ei gilydd mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol. Roedd gan Hilary neges glir: does dim rhaid i chi roi’r gorau i ddysgu oherwydd eich bod wedi rhoi’r gorau i weithio! Mae cyfleoedd ar gael i bawb. Yn ogystal â’r cyfleoedd dysgu, mae rhaglen Prifysgol y Drydedd Oes hefyd yn gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd ac i gymdeithasu. Mae’n esiampl wych o brosiect sy’n helpu i gyflawni nifer o brif flaenoriaethau’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru.

Mae’r tair esiampl hyn yn unig yn dangos y gwaith da sy’n cael ei wneud gan sefydliadau i helpu i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu pobl hŷn Cymru. Rhannwyd nifer o esiamplau eraill hefyd yn ystod y digwyddiad, a byddaf yn rhoi sylw iddyn nhw yn fy mlog nesaf.

cwvyoyewgaaflyy

Felly, dyma rai o’r prif bwyntiau sydd wedi aros yn y cof ar ôl y digwyddiad:

  • Mae’n hollbwysig ein bod yn mynd ati i weithio mewn partneriaeth i gyflawni prif flaenoriaethau’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru i sicrhau nad oes gormod o alw ar ein gwasanaethau ac, yn anad dim, i helpu pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol ac i fyw bywyd o ansawdd da.
  • Mae gan bobl hŷn gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ac mae angen i ni fanteisio arno pan fyddwn ni’n cynllunio gwasanaethau – maen nhw’n arbenigwyr, felly dewch i ni weithio gyda nhw! Dylai hyn fod yn wir am bob dinesydd, ni waeth beth fo’i oedran.
  • Mae grŵp gwych o bobl frwdfrydig ac ymroddedig yn rhan o’r rhwydwaith Heneiddio’n Dda yng Nghymru, ac maent yn cymryd camau breision i wneud Cymru’n lle gwell i dyfu’n hŷn ynddo. Yr her sy’n ein hwynebu ni nawr yw mynd ati i efelychu’r camau hyn ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus (nid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig). Mae hwn yn rhywbeth y gall y tîm Arfer Da ei ystyried pan fyddwn ni’n cynllunio ein rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Byddaf yn mynd i’r ail ddigwyddiad Heneiddio’n Dda a gynhelir yng Nghaerdydd ar 15 Rhagfyr, felly cadwch lygad am fy mlogiau nesaf!

Leave a Reply / Gadael ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s