Mae Dr Kate Hamilton wedi ysgrifennu blog am y broses werthuso a ddefnyddir o fewn Coed Actif Cymru…
Fel pob prosiect da, rydym yn cymryd y gwaith o werthuso Coed Actif Cymru o ddifrif – nid dim ond oherwydd yr hoffem fod yn ddiwyd ynghylch monitro’r prosiect, ond hefyd oherwydd mai un o’n blaenoriaethau yw cryfhau’r sail dystiolaeth bod coetiroedd yn dda i iechyd a lles.
Ein Prif Her
Un o’r prif heriau wrth wneud hyn yw mesur iechyd a lles mewn ffyrdd sy’n gredadwy, yn gadarn ac yn ystyrlon. Fel y crybwyllwyd [ym mlog 1], mae gennym gyfranogwyr amrywiol iawn sydd ag anghenion, galluoedd a chyflyrau iechyd gwahanol, sy’n mynychu gwahanol fathau o weithgareddau mewn nifer o leoliadau gwahanol, ac yn cyfranogi pan fyddant yn dewis gwneud hynny. Mewn gwirionedd mae hyn yn gwbl groes i’r sefyllfa ddelfrydol ar gyfer ymchwil systemataidd. Ond dyma realiti nifer o ymyriadau bywyd go iawn – a chan fod dysgu o ymyriadau bywyd go iawn yn cynrychioli rhywfaint o fwlch yn y sail dystiolaeth, rydym yn gweithio arno ac yn ceisio dysgu ohono.
Rydym wedi defnyddio nifer o ddulliau gwerthuso gwahanol, gan geisio taro cydbwysedd pragmatig rhwng ein huchelgeisiau ein hunain, disgwyliadau rhanddeiliaid gwahanol, a beth y gellir ei weithredu mewn gwirionedd wrth gyflawni’r prosiect.
Rydym wedi arbrofi gyda chynnwys mesurau iechyd wedi’u dilysu yn ein holiaduron*. Gwnaethpwyd hyn yn dilyn cyngor gan randdeiliaid allweddol yn ystod cam peilot Coed Actif Cymru: awgrymwyd, er bod ein cyflawniadau yn dda iawn, os oeddem am i’r gwaith hwn fod yn argyhoeddiadol – yn enwedig i’n cydweithwyr yn y sector iechyd – roedd angen i ni ddefnyddio mesurau iechyd cydnabyddedig go iawn i asesu ein heffaith. Felly, ar ôl ychydig o ymchwil a phrofion gofalus, dewiswyd detholiad o gwestiynau sy’n cynnwys adnoddau sefydledig megis fersiwn fer o Raddfa Lles Meddyliol Warwick Caeredin (SWEMWBS).
Y gobaith oedd, y byddai hyn yn ffordd syml o wneud ein data gwerthuso yn fwy cadarn. I fod yn onest, rydym yn dal i fod wrthi’n dadansoddi ein canfyddiadau o SWEMWBS, felly ni allaf ddweud p’un a yw wedi gweithio neu beidio – hynny yw, a fydd yn dangos ein bod yn gwella lles cyfranogwyr yn unol â’r mesur hwn. Rydym yn ffodus iawn i gael partneriaethau ymchwil addawol, a thrwy un ohonynt, mae gennym ddau fyfyriwr Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio ar hyn ar gyfer eu prosiect blwyddyn olaf ar hyn o bryd.

Coed Actif Cymru
Yr hyn rydym wedi ei ddysgu hyd yma
Serch hynny, yn y cyfamser, gallaf rannu rhai pethau rydym wedi eu dysgu o’r profiad.
- Yn gyntaf, mae casglu data o holiaduron yn systematig ym mhob rhan o’r prosiect wedi bod yn her – ac nid yw cynnwys mesurau wedi’u dilysu yn gwneud dim i newid hyn. Yr hyn rwy’n credu sydd fwyaf diddorol yw’r gwrthdaro rhwng diwylliannau, rhwng ethos y prosiect – dyngarol, cynhwysol, cymdeithasol, cyfannol, anfeddygol, agored – a’r gweithdrefnau sy’n rhan o gwblhau holiaduron. Mae adborth gan gyfranogwyr ac arweinwyr yn dweud wrthym fod holiaduron yn ymyriadau digroeso i ddynameg ddynol sesiynau Coed Actif, sy’n golygu bod pawb dan sylw yn awyddus i’w cwblhau cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn amlwg yn effeithio’n andwyol ar ansawdd a dibynadwyedd y data y maent yn eu cynhyrchu.
- Yn ail, nid yw defnyddio adnoddau wedi’u dilysu yn golygu bod ymatebion i holiaduron yn ddilys. Ar lefel syml, mae angen hyder rhesymol arnoch fod cyfranogwyr wedi deall y cwestiynau a’u pwrpas er mwyn i’w hymatebion fod yn berthnasol – rhywbeth nad yw’n wir bob amser pan rydych yn gofyn cwestiynau i nifer o bobl ar yr un pryd, mewn cyd-destun antherapiwtig, a lle mae cyfranogwyr weithiau yn camddeall eu pwrpas fel math o ymarfer ‘boddhad cwsmeriaid’. Heb yr amser na’r adnoddau dynol i egluro’r cwestiynau a’u pwrpas bob tro i bob unigolyn, gwyddom fod rwtsh weithiau yn llithro i’n data am y rhesymau hyn.
Yn realistig, ni allwn fodloni’r meini prawf a’r protocolau llym a ddefnyddiwyd i ddilysu’r cwestiynau. Nid yw hyn yn golygu bod ein canfyddiadau yn ddi-werth – gallwn eu dehongli mewn ffyrdd eraill – ond mae’n golygu nad ydynt yn fwy cadarn na chanfyddiadau sy’n seiliedig ar unrhyw gwestiynau eraill.
- Yn drydydd – ac yn bwysicach oll – mae SWEMWBS (a mesurau meintiol, safonedig eraill) yn dweud ychydig iawn wrthym am sut a pham mae pethau’n newid i gyfranogwyr ac, yn benodol, pam mae’n bwysig iddynt. Nid beirniadaeth o’r adnoddau eu hunain yw hyn – nid ydynt wedi’u dylunio i nodi’r pethau hyn: mewn gwirionedd maent wedi’u dylunio’n benodol i ddiystyru’r pethau hyn er mwyn gallu asesu ymyriadau ar sail eu heffaith ar les heb gynnwys yr holl effeithiau dyrys hyn. Ond mae’n gwneud i ni gwestiynu eu gwerth i brosiect fel ein prosiect ni.
Mae lles yn gyflwr cymhleth a goddrychol, ac rydym ni yn un o’r dylanwadau niferus ar ein cyfranogwyr. Felly, ni all unrhyw amrywiadau mawr yn eu ‘sgoriau’ gael eu priodoli i Goed Actif Cymru yn y lle cyntaf. Rydym hefyd yn gwybod o’u hymatebion i gwestiynau naratif bod cyfranogwyr yn cael buddiannau sylweddol na chânt eu nodi gan y mesurau safonedig – er enghraifft, y gallu i gynnal lefel o iechyd er gwaethaf salwch dirywiol, neu ymdopi â chyflyrau episodig yn well. Efallai na fydd y rhain yn ymddangos fel ‘gwelliant’ net ond maent yn bwysig iawn i’r bobl dan sylw.
Yn ogystal â hyn, gwyddom fod y buddiannau y mae cyfranogwyr yn eu profi yn rhai aml-ddimensiwn ac yn aml yn annisgwyl. Er enghraifft, un o ganfyddiadau amlycaf ein gwaith monitro hyd yn hyn yw pwysigrwydd manteision cymdeithasol i’n cyfranogwyr – cwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau, datblygu sgiliau cymdeithasol, a dysgu pethau newydd – hyd yn oed pan nid y rhain oedd eu prif resymau dros ymuno. Mae’r rhain yn fwy na ‘phethau ysgafn’ sy’n deillio o welliant ‘go iawn’ a ‘chaled’ mewn iechyd – mae bod yn gysylltiedig yn gymdeithasol a dysgu yn bwysig iawn ynddynt eu hunain fel cyfranwyr at iechyd da, rhagfynegwyr marwolaeth, ac fel strategaethau ar gyfer lles gydol oes.

Coed Actif Cymru
Felly, er budd beth a phwy rydym yn gwerthuso?
Mae hyn i gyd i weld yn weddol amlwg – rydym i gyd yn gwybod bod lles yn fwy na rhif. Ond, mae’n peri i mi feddwl pam, os yw hyn mor amlwg, bod prosiectau fel ein prosiect ni yn dal i deimlo pwysau i ddefnyddio’r dulliau hyn.
Pam y cânt eu hystyried i fod yn fwy argyhoeddiadol na mesurau eraill, a pham rydym yn cael clod am eu defnyddio hyd yn oed pan rydym yn dangos nad ydynt yn gweithio? Ymddengys i mi nad tystiolaeth sydd wrth wraidd hyn, ond pwyslais: mae yna fath o werth symbolaidd a gwleidyddol yn gysylltiedig â defnyddio’r adnoddau derbyniedig, hyd yn oed pan na allwn eu defnyddio’n iawn.
Yn bragmatig, efallai y byddai’n well i ni dderbyn hyn – ond fy mhryder i yw bod ceisio defnyddio’r dulliau ‘cywir’ yn gwastraffu adnoddau (amser, ymdrech, arian, sylw) a allai, o bosibl, gael eu defnyddio’n well – i ysgogi llawer mwy o gyfraniad gan lawer mwy o randdeiliaid, drwy ddefnyddio dulliau sy’n rhoi llais i gyfranogwyr ddweud beth sy’n bwysig iddynt, gyda llawer llai o bryder yn gyffredinol a llawer mwy o gyfraniad i effaith y prosiect hwn a ddysgir ohono. Os nad unig nod gwerthuso yw cynyddu effaith a dysgu sut i wneud pethau’n well, ni chredaf y gellir ei ystyried yn ddefnydd da o adnoddau unrhywun.
Felly, beth mae hyn yn ei olygu i ni fel prosiect? Ar hyn o bryd, gallwn barhau i weithio gyda nifer o ddulliau gwahanol, gan ein galluogi i gyflawni ystod eang o ddisgwyliadau yn rhannol o leiaf. Ond yn gynyddol, hoffem helpu i esblygu ffyrdd newydd o werthuso lles, ffyrdd sy’n drylwyr wrth ddilysu beth sy’n bwysig i’r bobl dan sylw yn hytrach na dim ond yr hyn sy’n cyd-fynd â’n mesurau presennol. Mae’n teimlo fel bod yr hinsawdd bresennol yn barod am y fath newid – a thrwy ymgysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da ac eraill, rydym yn falch o ganfod cynghreiriaid ar y daith hon.