#accessallareas i Heddlu Gwent

Mae monitro ein cyfrif Twitter @GoodPracticeWAO yn weithgaredd dyddiol i bob aelod o’r tîm, gyda’r nod o rannu cynnwys diddorol mor eang â phosib.

Ar 31 Hydref 2013, fy nhro i oedd hi. Yn gynnar yn y prynhawn, daeth cwpl o negeseuon trydar gan Heddlu Gwent i’m sylw, gyda’r hashnod anarferol #whougonnacall. Fe ddechreuais ddilyn yr hashnod gyda diddordeb brwd. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach fe ges i sgwrs ffôn ag Emma Chapron, Rheolwr Cyfathrebu Marchnata Heddlu Gwent, i ddysgu mwy am eu cyfres o ymgyrchoedd Twitter sy’n hyrwyddo eu gwasanaethau cefnogi.

Dyma beth oedd gan Emma i’w ddweud am yr ymgyrch.

GwentPolice RGB Crest

 Pwy ydym ni?

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl sy’n dilyn cyfrifon Twitter a Facebook Heddlu Gwent wedi cynyddu. Ym mis Ionawr 2014, roedd gennym 39,800 o ddilynwyr ar Facebook a 19,900 o ddilynwyr ar Twitter. Mae’r rhan fwyaf o’n gohebiaeth yn canolbwyntio ar ddiweddariadau gan y 23 o dimau plismona ardal yng Ngwent, yn ogystal ag apeliadau am wybodaeth a newyddion am ddigwyddiadau. Mewn gwirionedd, dim ond braslun o’r hyn y mae Heddlu Gwent yn gorfod ymdrin ag ef a geir gennym – nid yw ein gwasanaethau cymorth yn cael llawer o sylw, a gall ymddangos fel mai dim ond problemau parcio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n mynd â’n sylw!

Rydym yn ymwybodol hefyd bod ein tudalen Facebook yn cyrraedd cynulleidfa ehangach fyth ac, yn aml, mae ein rhyngweithio â’r gynulleidfa hon yn fwy cyson a manwl o gymharu â’n rhyngweithio â’n cynulleidfa ar Twitter.

Felly, aethom ati i geisio cyflawni’r amcanion canlynol:

  1. Cynyddu nifer y bobl sy’n dilyn cyfrif Twitter Heddlu Gwent.
  2. Gwella dealltwriaeth o sut mae adrannau llai gweledol yr heddlu’n gweithredu a’r hyn y maent yn ei wneud.
  3. Ymgysylltu mwy â’n dilynwyr yn y cyfryngau cymdeithasu.

Sut aethom ni ati?

Cawsom y syniad o gynnal nifer o ddiwrnodau targed ar Twitter o’r enw #accessallareas gyda’r nod o ganolbwyntio ar feysydd plismona nad ydym yn sôn amdanynt yn rheolaidd. Ar y diwrnodau hyn, dim ond negeseuon am ddigwyddiadau pwysig oedd yn cael eu hanfon i Twitter a Facebook.

Roeddem ni bob amser yn dechrau gyda gohebiaeth fewnol – gan sicrhau mai ein swyddogion a’n staff oedd y cyntaf i wybod am y diwrnodau hyn.

Yna, roeddem yn hyrwyddo’r digwyddiadau ymlaen llaw i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, asiantaethau partner a’r cyfryngau. Byddai llawer o’n partneriaid yn ail-drydar ein negeseuon er mwyn ein helpu i hyrwyddo’r diwrnodau i gynulleidfaoedd ehangach fyth.

Roedd prif ffocws y diweddariadau ar ein cyfrif Twitter, ond rhoddwyd hefyd grynodebau o’r gweithgarwch ar Facebook gydol y digwyddiadau.

#behindbars

BEHINDBARS_Edited

Canolbwyntiodd ein digwyddiad cyntaf ym mis Mai 2013 ar ein dwy Ddalfa yng ngorsafoedd heddlu Ystrad Mynach a Chanol Casnewydd. Penderfynwyd dechrau gyda’r Ddalfa gan na fydd y rhan fwyaf o’r cyhoedd byth yn gweld y tu mewn i gell, diolch byth, heblaw ar y teledu. Felly, aethom ati i ganolbwyntio ar yr hyn y byddem ni am ei wybod – sut mae cell yn edrych, pa fwyd mae carcharorion yn ei gael, am ba hyd y gallwn ni gadw rhywun yn y ddalfa, a yw pawb yn cael prawf cyffuriau ac ati. Lleolwyd un swyddog cyfathrebu ym mhob dalfa rhwng 7am a 7pm – buont yn trydar manylion cryno am bawb a gadwyd yn y ddalfa yn ystod y cyfnod hwnnw, ynghyd â negeseuon a luniwyd ymlaen llaw ynglŷn â sut mae’r unedau’n gweithio, gan ddefnyddio’r hashnod #behindbars.

#trafficcops

TRAFFICCOPS_lowercase

Ar gyfer ein hail ddigwyddiad ym mis Mehefin 2013, aethom ni allan gyda’n tîm plismona’r ffyrdd. Unwaith eto, roedd gennym restr o negeseuon a luniwyd ymlaen llaw ynglŷn â’r pethau roeddem ni’n ei gredu y byddai gan y cyhoedd ddiddordeb ynddynt. Yna, aethom allan gyda char patrol rhwng 8am a 5pm – gan drydar yn fyw am unrhyw ddigwyddiadau yr ymatebwyd iddynt. Yn anffodus, bu’n ddiwrnod tawel, felly doedd ein negeseuon ddim mor ddiddorol ag yr oeddem ni wedi ei obeithio.

#whougonnacall

facebookcover_851x315_fcr

Yn nigwyddiad olaf y flwyddyn, aethom ati i ddilyn Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu (lle rydym yn derbyn galwadau 101 a 999) ar Galan Gaeaf – un o nosweithiau prysuraf y flwyddyn i’r ganolfan. Unwaith eto, roeddem wedi paratoi amryw o negeseuon ynglŷn â sut mae’r ganolfan yn gweithio a nifer y galwadau y mae’n ymateb iddynt. Gan ein bod yn gwybod y byddai’n noson brysur, penderfynwyd ei rhannu’n ddwy ran. Rhwng 3pm a 6pm, postiwyd negeseuon a oedd wedi eu llunio ymlaen llaw – aethom ati i gynnwys teitlau ffilmiau arswyd yn ein negeseuon er mwyn eu cadw’n amserol! Yna, rhwng 6pm a hanner nos, postiwyd negeseuon ynglŷn â phob galwad a oedd yn ymwneud â Chalan Gaeaf, o wyau a thân gwyllt yn cael eu taflu i bartïon tŷ a oedd wedi mynd dros ben llestri.

Beth wnaethom ni ei gyflawni?

Yn ystod ein digwyddiad Twitter diwethaf, #whougonnacall ar Galan Gaeaf, derbyniwyd dros 1,600 o ddilynwyr newydd o fewn yr wythnos a chafodd ein negeseuon eu haildrydar gan bron i 2,000 o bobl a’u nodi fel hoff negeseuon gan 900 o bobl. Hwn oedd y digwyddiad mwyaf llwyddiannus o’r tri o bell ffordd – roeddem ni wedi dysgu gwersi o’r diwrnodau blaenorol ac wedi gofalu ein bod ni’n canolbwyntio mwy ar y cyhoedd. Rydym ni wedi llwyddo i gadw’r rhan fwyaf o’r dilynwyr hyn.

Cawsom lefelau uchel o ryngweithio ar y noson, gyda llawer o bobl yn cysylltu â ni i ddweud eu bod nhw’n methu â chredu rhai o’r galwadau rydym ni’n gorfod ymdrin â nhw. A dyna oedd ein nod – dangos i’r cyhoedd bethau na fyddent yn eu gweld fel arfer.

Cafodd y digwyddiad lawer o sylw yn y cyfryngau, gan gynnwys ar BBC Radio Wales, www.walesonline.com, Western Mail, Gwent Gazette, Rhymney Valley Express a phapurau newydd lleol eraill.

Pa wersi wnaethon ni eu dysgu?

Cafwyd sawl gwers werthfawr.

–          Mae ein dilynwyr yn y cyfryngau cymdeithasu wrthi’n bennaf gyda’r nos. Er na allwn ni staffio hyn yn rheolaidd, mae’n gallu bod yn ddefnyddiol newid ein patrymau gwaith ar gyfer y digwyddiadau hyn i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â chynulleidfa mor eang â phosibl.

–          Mae hiwmor yn bwysig! Er nad yw hiwmor bob amser yn briodol gyda rhai o’r pynciau rydym ni’n sôn amdanynt, roedd sylw tafod mewn boch neu hashnod ffraeth yn annog pobl i rannu ein negeseuon, o’u defnyddio’n ddoeth.

–          Pwysigrwydd ceisio ymateb i bob sylw/cwestiwn os yn bosibl. Roedd ein tudalen Twitter yn brysur tu hwnt yn ystod y digwyddiad #whougonnacall, ond roedd hi’n ymddangos bod y bobl hynny y llwyddon ni i ymateb iddynt wir yn gwerthfawrogi’r ymdrech.

–          Pwysigrwydd dim ond postio negeseuon am bethau y credwch y bydd gan y cyhoedd ddiddordeb ynddynt. Nid ymarfer ticio bocs mohono.

–          Pwysigrwydd cynllunio pethau’n ofalus a gofalu fod gennych chi ddigon o staff i fonitro ac ymateb i’r negeseuon.

–          Rhoi cymaint o gyhoeddusrwydd â phosibl i’r digwyddiad ymlaen llaw a gofyn i’ch partneriaid ledaenu’r negeseuon.

–          Cydgysylltu eich digwyddiadau gyda chyfnodau gweithredol prysur, yn enwedig os ydych chi’n trydar yn fyw am yr hyn mae’ch sefydliad yn ei wneud. Dywedodd Tîm Plismona’r Ffyrdd eu bod nhw’n methu â chredu pa mor dawel oedd pethau ar y diwrnod y dewison ni eu dilyn nhw! Fodd bynnag, roeddem ni’n gwybod bod Calan Gaeaf bob amser yn ddiwrnod prysur i Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu, felly roeddem ni’n siŵr o lwyddo.

Leave a Reply / Gadael ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s