Monthly Archives: January 2014

The Future of Public Notice Advertising in Wales: Part I

Our Auditor General (Huw Vaughan Thomas) has encouraged us to develop closer links with other Audit Bodies and Improvement Agencies across the UK.  As a result, we are holding a seminar on March 13th in how Scottish Public Services have saved monies on Public/Statutory Notices.

You can find further information on the Making a Virtue of the Virtual Shared Learning Seminar page on our website.

Alastair Blair

Alastair Blair, from The Potent Mix is speaking at the seminar considers in his blog the how important newspaper advertising actually is in conveying statutory notice information to the public.

Y dyfodol o Hysbysiadau Cyhoeddus yng Nghymru: Rhan 1

Mae’n Archwilydd Cyffredinol (Huw Vaughan Thomas) wedi ein hannog ni i ddatblygu dolenni a pherthnasau bellach gyda Chyrff Archwilio ac Asiantaethau Gwelliant ledled y Deyrnas Unedig. Fel canlyniad, rydym yn cynnal seminar ar Fawrth 13eg ar sut mae Gwasanaethau Cyhoeddus Albanaidd wedi arbed arian ar Hysbysiadau Cyhoeddus/Statudol.

Gallwch chi ffeindio gwybodaeth bellach ar dudalen Rhoi Rhinwedd i’r Rhithwir ar ein wefan.

Alastair Blair

Mae Alastair Blair o Potent Mix yn siarad yn ein seminar ac yn ei flog, mae’n cysidro pa mor bwysig yw hysbysiadau papur newydd er mwyn cyfleu gwybodaeth ar ffurf rhybudd statudol i’r cyhoedd.

Cardiff NHS Hackday #nhshd Live! Here’s a taster. | What’s the PONT

Blogbost gan Tanwen Grover, Swyddog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru gyda blas o beth wnaeth cymryd lle yn Niwrnod Hacio’r GIG yng Nghaerdydd

Tanwen Grover, Officer at the Good Practice Exchange at the Wales Audit Office gives a flavour of what’s taking place at the NHS Hack Day in Cardiff.

Cardiff NHS Hackday #nhshd Live! Here’s a taster. | What’s the PONT.

Better Learning from Quality Improvement Audits. NHS Hackday Cardiff #nhshd | What’s the PONT

Blog da gan Chris Bolton, Rheolwr Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru ar Ddysgu Gwell o Archwiliadau Gwella Ansawdd yn Niwrnod Hacio’r GIG yng Nghaerdydd.

Chris Bolton, Manager of the Good Practice Exchange at the Wales Audit Office blogs Better Learning from Quality Improvement Audits at the NHS Hackday in Cardiff.

Better Learning from Quality Improvement Audits. NHS Hackday Cardiff #nhshd | What’s the PONT.

NHS Hackday Cardiff #nhshd. Medical Student Work Based Placement Assessment Records

Blog da gan Chris Bolton, Rheolwr Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru ar Gofnodion Asesu Lleoliad ar gyfer Gwaith i Fyfyriwr Meddygol. 

Chris Bolton, Manager of the Good Practice Exchange at the Wales Audit Office blogs on Medical Student Work Based Placement Assessment Records.

NHS Hackday Cardiff #nhshd. Medical Student Work Based Placement Assessment Records.

Diwrnod Hacio’r GIG: Cleifion wrth wraidd datblygiad gwasanaethau

Y grwp ar eu cyfrifiaduron / The group on their computers

Mae Rakesh Patel yn byw bywyd prysur – mae hanner ei fywyd gwaith yn cael ei wario fel darlithydd mewn addysg feddygol, a’r hanner arall fel meddyg arennol. Daeth e ‘ma trwy ei ddiddordeb e mewn addysgu a dysgu gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion. Pan siaradais i ‘da fe, dywedodd e “I mi, os dyw beth ni’n wneud ddim yn helpu perfformiad proffesiynol yn y GIG, neu os nad yw’n gwella’r gwybodaeth sydd gan gleifion amdano’u hunain a’u clefyd, dyw e ddim yn werth gwneud e”.

Mae Rakesh a’i grŵp wedi bod yn gweithio gyda phobl sydd â diddordeb mewn metrigau, ond maen nhw eisiau mynd tu hwnt i rifau. Dim ond atebion i’r cwestiynau da chi’n gofyn da chi’n cael o arolygon boddhad syml, felly maen nhw’n awyddus i archwilio profiad y claf yn ei gyfanrwydd, ac i dargedu ymyriadau i wella’r metrigau hynny.

Mae’r grŵp yma’n awyddus i greu safle sy’n gadael i gleifion fewngofnodi a rhannu eu profiadau. Beth sy’n allweddol yw taw’r cleifion sydd mewn rheolaeth, a nhw sy’n nodi’r digwyddiadau sy’n effeithio arnynt, er enghraifft eu llawdriniaeth gyntaf. Maen nhw’n awyddus i gadw’r safle mor syml â phosib, fel bod e’n hygyrch a bod pobl yn gallu llwytho fideos o’u ffonau clyfar. Yna bydd y safle yn cynnal llinellau amser o brofiadau pobl, ac yn dogfennu eu teithiau unigol.

Hard at work / Gweithio'n galed

Dywedodd Rakesh bod “addysg gleifion wedi cael ei leihau i ddarn o bapur gyda ffeithiau a ffigurau sydd yn aml yn ddiystyr i gleifion. Beth am ddefnyddio profiad y claf a’u gwybodaeth am eu clefyd i addysgu eraill?”

Dyma’r cwestiynau mae Rakesh yn gofyn er mwyn gwneud hynny :

Event – beth sydd wedi digwydd ?
Symptoms – pa symptomau sydd gennych?
Share –beth da chi eisiau rhannu ag eraill?
Emotion – sut mae fe’n gwneud i chi teimlo?
Nuances – beth yw’r ystyr personol i chi?
Communicate – beth ydych chi eisiau cyfleu i bobl eraill?
Experience – beth oedd e fel i chi a’ch teulu?

Gall pobl uniaethu â phrofiadau pobl eraill, ac mae’r grŵp yn gobeithio gall y safle creu a rhannu ystyr a dealltwriaeth bwerus. Mae’r safle ‘ma’n anelu i helpu pobl eraill i wneud synnwyr o ddigwyddiadau yn eu bywydau eu hunain trwy brofiadau pobl eraill.

Fel pawb rydw i wedi siarad ‘da yn y digwyddiad ‘ma, dydyn nhw ddim eisiau i’w brosiect i fodoli ar ei phen ei hun. Mae’r grŵp yn edrych i weithio ‘da grwpiau eiriolaeth gleifion a NHS Choices.

Mae wedi bod yn wych gweld cleifion mor weithgar yn Niwrnod Hacio’r GIG, fel cyfranogwyr ac fel beirniaid. Felly mae fe dim ond yn iawn fod prosiect sy’n canolbwyntio ar brofiad y claf ‘da siawns i gipio’r wobr fawr.

Dyfrig